Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn 2022-23, roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cwestiynau ar drafnidiaeth. Cafodd cwestiynau eu cynnwys ar y defnydd o gar, boddhad â gwasanaethau bysiau a threnau a phellter teithio i’r gwaith. Mae’r arolwg yn holi pobl 16 oed neu drosodd.

Canfyddiadau allweddol

  • Roedd gan 88% o bobl fynediad at gar. Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau o ran oedran, ethnigrwydd, math o aelwyd, iechyd, deiliadaeth, amddifadedd, gweithgarwch economaidd ac ardal.
  • Roedd 12% o bobl yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos. Roedd tua dwy ran o dair o’r bobl a oedd yn defnyddio bws yn fodlon ar wasanaethau bysiau. Ar y cyfan, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn defnyddio bysiau, ychydig dros hanner y bobl oedd yn fodlon ar wasanaethau bysiau.
  • Roedd 4% o bobl yn defnyddio trên o leiaf unwaith yr wythnos. Ar y cyfan, roedd 55% o bobl yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar wasanaethau trenau.
  • Y ffordd fwyaf cyffredin o fynd i’r gwaith oedd car neu fan, a ddefnyddid gan 75% o’r bobl a oedd mewn gwaith. Roedd 14% yn cerdded i’r gwaith ac roedd 4% o bobl yn beicio i’r gwaith. 
  • Ar y cyfan, roedd 51% o’r bobl a oedd yn gweithio yn teithio rhwng 3 a 15 milltir i’r gwaith, ac roedd 26% yn rhagor yn teithio mwy na 15 milltir.

Defnydd o gar

Roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn gofyn a oedd car neu fan ar gael fel arfer at ddefnydd unrhyw aelod o’r aelwyd. Gallai hyn gynnwys car a rennir â rhywun arall neu gar a ddarperir gan gyflogwr ond sydd hefyd ar gael at ddefnydd preifat. Roedd gan 88% o bobl gar ar gael i’w ddefnyddio. Gan reoli ar gyfer ffactorau eraill (a esbonnir yn ein Hadroddiad atchweliad technegol), roedd pob un o’r nodweddion canlynol yn gysylltiedig â’r defnydd o gar. 

Pobl rhwng 45 a 64 oed oedd fwyaf tebygol o fod â char ar gael, gan fod gan 93% o’r grŵp oedran hwnnw fynediad at gar. Roedd gan 87% o bobl rhwng 16 a 44 oed ac 85% o bobl 65 oed neu drosodd gar ar gael.

Roedd gwahaniaeth yn ôl ethnigrwydd hefyd, gan fod gan 89% o bobl o gefndir Gwyn (Cymreig, Seisnig, Albanaidd neu Wyddelig o Ogledd Iwerddon) gar ar gael, o gymharu â 72% o bobl o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Roedd mynediad at gar yn amrywio yn ôl math o aelwyd hefyd, fel y’i gwelir yn Ffigur 1.

Ffigur 1:Canran y bobl â’r defnydd o gar, yn ôl math o aelwyd

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart far hon yn dangos bod pobl ar aelwydydd oedolyn sengl yn llai tebygol o fod â mynediad at gar, a bod gan 67% o bensiynwyr sengl, 69% o oedolion sengl â phlant a 71% o oedolion sengl heb blant fynediad at gar. Roedd cyfraddau mynediad at gar ymhlith yr holl fathau eraill o aelwyd, heblaw “Arall”, uwchlaw 90% o leiaf. 

Roedd pobl a ddywedodd fod eu hiechyd cyffredinol yn well (pobl mewn iechyd da neu dda iawn) yn fwy tebygol o fod â char ar gael. Roedd gan 91% o bobl mewn iechyd cyffredinol da gar ar gael, tra oedd gan 75% o bobl mewn iechyd cyffredinol gwael (pobl mewn iechyd gwael neu wael iawn) gar ar gael.

Roedd gan 95% o berchen-feddianwyr fynediad at gar, o gymharu â 76% o bobl mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat a 64% mewn tai cymdeithasol. 

Roedd gan 91% o bobl nad oeddent mewn amddifadedd materol gar ar gael, o gymharu â 72% o bobl mewn amddifadedd materol. 

O ran pobl mewn gwaith, roedd gan 94% fynediad at gar, o gymharu ag 82% o bobl economaidd anweithgar a 61% o bobl ddi-waith.

Ffigur 2:Canran y bobl â mynediad at gar, yn ôl rhanbarth

Image

Disgrifiad o Ffigur 2. Mae’r siart far hon yn dangos y gwahaniaethau rhwng rhanbarthau Cymru o ran canran y rhai â mynediad at gar, lle mae gan 93% yn y Canolbarth ac 86% yn y De-ddwyrain fynediad at gar. 

Fel y gellid disgwyl, roedd gwahaniaeth hefyd rhwng ardaloedd trefol a gwledig, gan fod gan 94% o bobl mewn ardaloedd gwledig fynediad at gar o gymharu ag 85% mewn ardaloedd trefol.

Roedd yr Arolwg Cenedlaethol hefyd yn gofyn i bobl a oeddent yn rhoi o’u hamser am ddim (hynny yw, ‘gwirfoddoli’) i unrhyw glybiau neu sefydliadau. Roedd pobl a oedd yn gwirfoddoli yn fwy tebygol o fod â mynediad at gerbyd. Roedd gan 93% o wirfoddolwyr fynediad at gar neu fan, o gymharu ag 87% o bobl nad ydynt yn wirfoddolwyr.

Boddhad â bysiau a’r defnydd ohonynt

Wrth ystyried cyfraddau boddhad â bysiau a’r defnydd ohonynt, dylid nodi y gall pobl sy’n byw yng Nghymru deithio am ddim ar fws pan fyddant dros 60 oed. 

Roedd 12% o bobl yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos. Fel y gellid disgwyl, mae gwahaniaeth rhwng pobl â mynediad at gar a phobl heb fynediad at gar. Roedd 39% o’r rhai heb fynediad at gar yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â 9% o’r rhai â mynediad at gar. 

Ceir gwahaniaethau rhwng y defnydd o fysiau yn ôl ethnigrwydd hefyd, gyda 23% o bobl o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â 12% o bobl o gefndir Gwyn.

Ar ben hynny, roedd 24% o bobl ddi-waith ac 17% o bobl economaidd anweithgar yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu ag 8% o bobl mewn gwaith. Mae cysylltiad rhwng y defnydd o fysiau a deiliadaeth hefyd, gyda 26% o bobl mewn tai cymdeithasol yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu ag 16% o bobl mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat, a 9% o berchen-feddianwyr. 

Mae cysylltiad rhwng y defnydd o fysiau a statws priodasol hefyd, gydag 8% o bobl a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos. Mae hyn yn is na’r grwpiau eraill, lle roedd rhwng 16% a 18% yn defnyddio bws mor aml â hyn.

Ceir gwahaniaeth hefyd rhwng ardaloedd trefol a gwledig o ran y defnydd o fysiau, gan fod 9% o bobl mewn ardaloedd gwledig yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos o gymharu ag 14% mewn ardaloedd trefol.

Ceir gwahaniaethau yn ôl rhanbarth ac oedran o ran y defnydd o fysiau hefyd ond, ar ôl rheoli ar gyfer ffactorau eraill, mae’r cydberthnasoedd yn diflannu, sy’n awgrymu mai ffactorau heblaw oedran person a’r rhanbarth lle mae’n byw sy’n esbonio’r gwahaniaethau. Roedd 9% o bobl rhwng 45 a 64 oed yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos o gymharu ag 14% o bobl 65 oed neu drosodd ac 13% o bobl rhwng 16 a 44 oed. Hefyd, roedd 13% o bobl a oedd yn byw yn y Gogledd-orllewin ac 14% a oedd yn byw yn y De-ddwyrain yn defnyddio bws o leiaf unwaith yr wythnos o gymharu â 7% yn y Canolbarth.

Wrth ystyried cyfraddau boddhad â bysiau, gofynnwyd i’r holl bobl a oeddent yn fodlon ar wasanaethau bysiau, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn defnyddio bysiau. 

Roedd tua dwy ran o dair o’r bobl a oedd yn defnyddio bws o leiaf rywfaint o’r amser yn fodlon ar wasanaethau bysiau. Roedd 65% o’r bobl a oedd yn defnyddio’r bws o leiaf unwaith yr wythnos naill ai’n fodlon iawn neu’n weddol fodlon. Roedd pobl a oedd yn defnyddio bws o leiaf unwaith y flwyddyn ond llai nag unwaith yr wythnos yn fodlon mewn 69% o achosion. Roedd pobl nad oeddent yn defnyddio bysiau o gwbl yn llai tebygol o fod yn fodlon arnynt, gyda 38% ohonynt yn fodlon.

Ar y cyfan, gan gynnwys y rhai nad oeddent yn defnyddio bysiau, roedd 52% o bobl (16+ oed) yn fodlon ar wasanaethau bysiau ac roedd 23% yn anfodlon.

Roedd 60% o bobl 65 oed neu drosodd yn fodlon ar wasanaethau bysiau, tra oedd gan bobl rhwng 16 a 44 oed a phobl rhwng 45 a 64 oed gyfraddau boddhad o tua 50%.

Roedd pobl mewn iechyd da (y rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn dda neu’n dda iawn) yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar wasanaethau bysiau, gyda 54% ohonynt yn fodlon. Ar y llaw arall, roedd 43% o bobl mewn iechyd gwael (y rhai a ddywedodd fod eu hiechyd yn wael neu’n wael iawn) yn fodlon.

Roedd pobl a oedd yn economaidd anweithgar hefyd yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar wasanaethau bysiau na phobl ddi-waith, gyda chyfradd o 57% o gymharu â 48%.

Ffigur 3: Canran y bobl a oedd yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar wasanaethau bysiau, yn ôl rhanbarth

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart far hon yn dangos y gwahaniaethau o ran boddhad â gwasanaethau bysiau yn dibynnu ar ble roedd pobl yn byw. Pobl yn y Gogledd-ddwyrain oedd â’r gyfradd boddhad uchaf (58% yn fodlon) ac yn y De-orllewin (47%) a’r Canolbarth (42%) roedd y cyfraddau isaf. 

Roedd canran y bobl a oedd yn fodlon ar wasanaethau bysiau yn uwch ymhlith pobl mewn ardaloedd trefol na phobl mewn ardaloedd gwledig, gyda 56% yn fodlon o gymharu â 44%. Mae’n bosibl mai’r rheswm dros hyn yw bod mwy o wasanaethau bysiau ar waith mewn ardaloedd trefol nag ardaloedd gwledig.

Ffigur 4: Canran y bobl a oedd yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar wasanaethau bysiau, yn ôl math o aelwyd

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart far hon yn dangos bod aelwydydd pensiynwyr yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar wasanaethau bysiau, gan fod 58% o gyplau sy’n bensiynwyr a 62% o aelwydydd sengl yn fodlon. Hefyd, roedd aelwydydd â thri oedolyn neu fwy yn fwy tebygol o fod yn fodlon ar wasanaethau bysiau nag aelwydydd â llai na thri oedolyn.

Boddhad â threnau a’r defnydd ohonynt

Roedd 4% o bobl yn defnyddio trên o leiaf unwaith yr wythnos.

Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran, gan fod 6% o bobl rhwng 16 a 44 oed yn defnyddio gwasanaethau trenau o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â 3% o bobl rhwng 45 a 64 oed ac 1% o bobl 65 oed neu drosodd.

Hefyd, roedd 3% o berchen-feddianwyr yn defnyddio gwasanaethau trenau o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â 6% o bobl mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat a 5% o bobl mewn tai cymdeithasol.

Oherwydd y niferoedd bach, mae’n anodd ymgymryd â gwaith dadansoddi pellach sy’n ynysu effeithiau penodol ffactorau penodol (megis oedran, ethnigrwydd ac ati) gan reoli ar gyfer ffactorau eraill hefyd ar yr un pryd.

Ar y cyfan, roedd 55% o bobl yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar wasanaethau trenau ac roedd 18% yn anfodlon.

Ffigur 5: Canran y bobl a oedd yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar wasanaethau trenau, yn ôl rhanbarth

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart far hon yn dangos y gwahaniaethau rhwng rhanbarthau o ran cyfraddau boddhad â gwasanaethau trenau. Ymhlith pobl a oedd yn byw yn y De-ddwyrain (59%) a’r Gogledd-ddwyrain (57%) roedd y cyfraddau boddhad uchaf, ac yn y Canolbarth (36%) roedd y gyfradd isaf. 

Roedd canran y bobl a oedd yn fodlon ar wasanaethau trenau yn uwch mewn ardaloedd trefol (59%) nag ardaloedd gwledig (48%). Mae’n bosibl mai’r rheswm dros hyn yw bod mwy o wasanaethau trenau mewn ardaloedd trefol nag ardaloedd gwledig. O’r bobl sydd â gwasanaethau trenau, roedd 61% o’r rhai mewn ardaloedd trefol yn fodlon o gymharu â 57% mewn ardaloedd gwledig. Yn debyg i’r rhanbarthau, o’r bobl sydd â gwasanaethau trenau, mae’r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau boddhad uchaf (y De-ddwyrain a’r Gogledd-ddwyrain) ac isaf (y Canolbarth) yn llai os edrychir ar y bobl a ddywedodd fod gwasanaethau trenau yn eu hardaloedd yn unig, sef 62% o gymharu â 51%. 

Gan ystyried yr holl bobl unwaith eto (p’un a oes ganddynt wasanaethau trenau ai peidio), roedd y cyfraddau boddhad yn debyg ar gyfer pobl mewn gwaith a phobl ddi-waith neu economaidd anweithgar, ond ceir gwahaniaeth yn y cyfraddau anfodlonrwydd, h.y. y rhai a oedd yn anfodlon iawn neu’n weddol anfodlon. O’r bobl mewn gwaith, roedd 20% yn anfodlon o gymharu ag 14% o bobl economaidd anweithgar.

Roedd pobl mewn iechyd gwael neu wael iawn yn llai tebygol o fod yn fodlon ar wasanaethau trenau (46%) na phobl mewn iechyd da neu dda iawn (57%).

Ffigur 6: Canran y bobl a oedd yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar wasanaethau trenau, yn ôl math o aelwyd

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart far hon yn dangos bod pobl ar aelwydydd pensiynwyr yn llai tebygol o fod yn fodlon ar wasanaethau trenau, gyda chyfraddau boddhad o tua 50%. Ar y cyfan, roedd aelwydydd â thri oedolyn neu fwy yn fwy tebygol o fod yn fodlon, gyda chyfraddau boddhad o tua 58% neu 59%.

Dull teithio i’r gwaith

Roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn gofyn i bobl am y dulliau arferol o deithio i’r gwaith a oedd yn cael eu defnyddio o leiaf rywfaint o’r amser. Y dull mwyaf cyffredin o deithio i’r gwaith oedd car neu fan, a ddefnyddid gan 75% o’r bobl a oedd mewn gwaith. Roedd 14% o’r bobl a oedd yn gweithio yn cerdded i’r gwaith. 

Roedd 4% o bobl yn beicio i’r gwaith, ond roedd y niferoedd yn rhy fach i’w harchwilio yn yr un ffordd â dulliau eraill (h.y. adnabod ffactorau allweddol gan reoli ar gyfer ffactorau eraill). 

O’r holl wahanol ddulliau, dim ond ar gyfer pobl a oedd naill ai’n teithio i’r gwaith mewn car neu’n cerdded roedd modd gwneud gwaith dadansoddi pellach (roedd grwpiau a oedd yn defnyddio’r dulliau teithio eraill yn rhy fach i’w dadansoddi ymhellach). 

Roedd cysylltiad rhwng teithio mewn car ac oedran, ethnigrwydd, crefydd, statws priodasol a deiliadaeth, gan reoli ar gyfer ffactorau eraill. Roedd cysylltiad rhwng cerdded i’r gwaith ac oedran, ethnigrwydd, crefydd, deiliadaeth a defnyddio’r Gymraeg mewn bywyd beunyddiol, a hynny unwaith eto gan reoli ar gyfer ffactorau eraill. Caiff y canfyddiadau hyn eu harchwilio’n fanylach yng ngweddill yr adran hon.

Roedd 83% o bobl rhwng 45 a 64 oed yn teithio i’r gwaith mewn car o gymharu â 71% o bobl rhwng 16 a 44 oed. Roedd 78% o bobl o ethnigrwydd Gwyn yn teithio i’r gwaith mewn car, o gymharu â 49% o bobl o darddiad Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Ffigur 7: Canran y bobl a oedd yn teithio i’r gwaith mewn car, yn ôl deiliadaeth

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae’r siart far hon yn dangos canran y bobl a oedd yn teithio i’r gwaith, yn ôl deiliadaeth. Roedd 82% o berchen-feddianwyr yn teithio i’r gwaith mewn car o gymharu â 61% o bobl mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat a 57% mewn tai cymdeithasol.

Roedd pobl sengl yn llai tebygol o deithio i’r gwaith mewn car, gyda 67% ohonynt yn gwneud hynny. Ar y llaw arall, roedd 83% o bobl a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn teithio i’r gwaith mewn car.

Ceir gwahaniaethau yn ôl rhanbarth o ran teithio i’r gwaith mewn car. Ar ôl rheoli ar gyfer ffactorau eraill, mae’r gydberthynas yn diflannu, sy’n awgrymu mai ffactorau heblaw ym mha ranbarth y mae rhywun yn byw sy’n esbonio’r gwahaniaethau.

Ffigur 8: Canran y bobl a oedd yn teithio i’r gwaith mewn car, yn ôl rhanbarth

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r ffigur hwn yn dangos mai’r De-ddwyrain oedd â’r gyfran isaf o bobl a oedd yn teithio i’r gwaith mewn car, sef 72%, ac mai yn y Gogledd-ddwyrain roedd y gyfran uchaf, sef 81%.

O ran y rhai a oedd yn cerdded i’r gwaith, roedd gwahaniaeth yn ôl oedran. Roedd 15% o bobl rhwng 16 a 44 oed yn cerdded i’r gwaith, o gymharu â 10% o bobl rhwng 45 a 64 oed. Roedd gwahaniaeth amlwg yn ôl ethnigrwydd hefyd, gan fod gan 12% o bobl o gefndir Gwyn yn cerdded i’r gwaith, o gymharu â 26% o’r rhai o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol.

Yn yr un modd â theithio mewn car, roedd cysylltiad rhwng deiliadaeth a cherdded i’r gwaith hefyd (gweler Ffigur 9).

Ffigur 9: Canran y bobl a oedd yn cerdded i’r gwaith, yn ôl deiliadaeth

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r ffigur hwn yn dangos bod 9% o berchen-feddianwyr yn cerdded i’r gwaith o gymharu â 21% o bobl mewn tai cymdeithasol a 24% o bobl mewn cartrefi wedi’u rhentu’n breifat.

Roedd pobl a ddwedodd eu bod yn defnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd beunyddiol yn llai tebygol o gerdded i’r gwaith, gan mai 7% o’r bobl hyn a oedd yn cerdded i’r gwaith o gymharu ag 14% o’r bobl a ddywedodd nad oeddent yn defnyddio’r Gymraeg. Mae’n bosibl iawn bod hyn yn gysylltiedig â’r ardaloedd lle y caiff y Gymraeg ei siarad yn rheolaidd, ond nid oedd cysylltiad i’w weld rhwng hyn a natur wledig a rhanbarth. Fodd bynnag, roedd 15% o bobl mewn ardaloedd trefol yn cerdded i’r gwaith, o gymharu â 9% mewn ardaloedd gwledig. Yn ôl rhanbarth, roedd 10% o bobl yn cerdded i’r gwaith yn y Gogledd-orllewin, sef y ganran isaf, o gymharu ag 16% yn y Gogledd-ddwyrain, sef y ganran uchaf.

Pellter teithio

Ar y cyfan, roedd 51% o’r bobl a oedd yn gweithio (heb gynnwys pobl a oedd yn gweithio gartref) yn teithio rhwng 3 a 15 milltir i’r gwaith, ac roedd 26% yn rhagor yn teithio mwy na 15 milltir.

Y ffactorau a oedd yn dangos gwahaniaethau sylweddol oedd rhyw, statws priodasol, iechyd, deiliadaeth, rhanbarth a ph’un ai mewn lleoliad trefol neu wledig roedd rhywun yn byw. Ni welwyd bod cysylltiad rhwng boddhad â bywyd a phellter teithio, ar ôl rheoli ar gyfer ffactorau eraill. Roedd gwahaniaeth yn ôl rhyw, gyda 32% o ddynion yn teithio mwy na 15 milltir o gymharu â 22% o fenywod. 

Hefyd, roedd perchen-feddianwyr yn teithio ymhellach i’r gwaith, gydag 81% ohonynt yn teithio mwy na 3 milltir. Roedd hyn o gymharu â 70% ar gyfer rhentwyr preifat a 64% ar gyfer pobl mewn tai cymdeithasol.

Hefyd, nid oedd yn syndod, fwy na thebyg, fod pobl mewn ardaloedd gwledig yn teithio ymhellach, gyda 32% yn teithio mwy na 15 milltir, o gymharu â 24% mewn ardaloedd trefol.

Ffigur 10: Canran y bobl a oedd yn teithio pellteroedd hir i’r gwaith yn ôl rhanbarth

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart far hon yn dangos canran y bobl a oedd yn teithio ymhell i’r gwaith yn ôl rhanbarth. Pobl yn y Gogledd-ddwyrain (58%) a’r Gogledd-orllewin (54%) oedd fwyaf tebygol o deithio rhwng 3 a 15 milltir i’r gwaith, a phobl yn y Canolbarth oedd y rhai lleiaf tebygol (40%). Fodd bynnag, pobl yn y Canolbarth oedd fwyaf tebygol o deithio’r pellteroedd hiraf, sef mwy na 15 milltir (32%) a phobl yn y Gogledd-ddwyrain oedd y rhai lleiaf tebygol (21%).

Er nad oeddent yn sylweddol, roedd rhai gwahaniaethau gwerth eu nodi hefyd. 

Roedd pobl o darddiad ethnig Gwyn yn debygol o deithio ymhellach i’r gwaith, gyda 77% yn teithio mwy na 3 milltir, a 70% o bobl o darddiad Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol oedd yn teithio’r pellter hwnnw.

Roedd pobl a oedd mewn amddifadedd materol yn llai tebygol o deithio mwy na 15 milltir, gyda 21% ohonynt yn teithio mwy na 15 milltir o gymharu â 27% o’r bobl nad oeddent mewn amddifadedd materol.

Cyd-destun polisi

Mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru ym maes trafnidiaeth a seilwaith digidol wedi’u dylunio i newid y ffordd y mae pobl yn teithio, gan hyrwyddo dulliau teithio mwy ecogyfeillgar mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur. 

Newid dulliau teithio a lleihau carbon yw’r nodau a’r targedau craidd yn Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Nod y Strategaeth, a lansiwyd ym mis Mawrth 2021, yw llywio’r system drafnidiaeth yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Y bwriad yw bod Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn blaenoriaethu pobl a lleihau’r effeithiau ar yr hinsawdd wrth wneud penderfyniadau polisi ynglŷn â’r system drafnidiaeth.

Gwybodaeth am ansawdd

Arolwg hapsampl parhaus ar raddfa fawr o bobl ledled Cymru oedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23. Cafodd cyfeiriadau pobl eu dewis ar hap, a chafodd gwahoddiadau eu hanfon drwy’r post, yn gofyn i bobl roi rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Roedd modd rhoi’r rhif ffôn drwy borth ar-lein, dros y ffôn drwy linell ymholiadau, neu’n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Pe na bai rhif ffôn yn cael ei roi, gallai’r cyfwelydd alw yn y cyfeiriad a gofyn am rif ffôn.Ar ôl i rif ffôn gael ei roi, byddai’r cyfwelydd yn defnyddio dull dethol ar hap i ddewis un oedolyn yn y cyfeiriad i gymryd rhan yn yr arolwg. Cafodd adran gyntaf yr arolwg ei chwblhau drwy gyfweliad dros y ffôn; cafodd yr ail adran ei chwblhau ar-lein (pe bai’r ymatebydd yn anfodlon neu’n methu ei chwblhau ar-lein, byddai modd gofyn y cwestiynau hyn dros y ffôn hefyd).

Mae siartiau a thablau manwl o’r canlyniadau i’w gweld yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu data a methodoleg, gweler ein Hadroddiad ansawdd a’n Hadroddiad technegol.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU)

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Mehefin 2020. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ian Shipley
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 39/2024

Image