Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid refeniw ychwanegol o £1m yn 2024-25 i gefnogi gwytnwch sefydliadol a diogelu swyddi yn sector y celfyddydau, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Ynghyd â dyraniad refeniw Llywodraeth Cymru o £1.5m a gyhoeddwyd eisoes ar 5 Medi a buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru o £1m o arian y Loteri Genedlaethol, bydd cyfanswm y Gronfa Cadernid o £3.6m yn cael ei gyflwyno i sefydliadau'r sector celfyddydau ledled Cymru.
Mae'r cyllid hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn y celfyddydau a bydd yn rhoi cefnogaeth hanfodol i sefydliadau'r celfyddydau wella gwytnwch ymhlith heriau parhaus.
Mae’r cyllid hwn yn tystio i ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sector y celfyddydau yng Nghymru a hefyd i economi ehangach Cymru. Cyhoeddodd Cyngor Celfyddydau Cymru Adroddiad ar Effaith Economaidd yn ddiweddar a nododd fod pob £1 a gaiff ei buddsoddi yng ngwaith Cyngor Celfyddydau Cymru yn creu gwerth £2.51 o fudd economaidd.
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi heddiw sut y bydd cyfanswm y gronfa yn cael ei dyrannu i gefnogi'r sector celfyddydau. Rwy'n falch y bydd 58 o sefydliadau celfyddydol ledled Cymru yn derbyn cefnogaeth, gan gynnwys cefnogaeth i Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr Mwldan, Wrexham Sounds, a Sefydliad y Glowyr y Coed-duon.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y buddion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y mae'r sector celfyddydau yn eu cynnig i Gymru a'r pwysau y mae'r sector wedi bod yn ei wynebu. Edrychaf ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol yn sgîl y cyllid hwn.