Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £157 miliwn o gyllid newydd i helpu i gyflawni blaenoriaethau'r Prif Weinidog eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cyllid ychwanegol yn cynnwys £21 miliwn i brynu offer diagnostig i'r GIG i helpu i leihau amseroedd aros. Daw hynny ar ben pecyn gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf i gwtogi'r arosiadau hiraf.

Bydd £20 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw mewn ysgolion a cholegau drwy raglen adeiladu ysgolion a cholegau Llywodraeth Cymru, Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sy'n ychwanegol at £30 miliwn a ddarparwyd eisoes eleni.

Bydd £1 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a fydd yn cefnogi 60 o sefydliadau. Mae hyn yn ychwanegol at £1.5 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer y sector gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi.

Bydd cyllid arall yn cefnogi trafnidiaeth, tai a llywodraeth leol i greu swyddi gwyrdd a thwf. Bydd rhagor o fanylion am gyllid yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos hon.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Ar ôl siarad â phobl ledled Cymru, fe wnes i amlinellu fy mhedair blaenoriaeth, sy'n cynnwys cwtogi'r amseroedd aros hiraf a chyflymu mynediad at driniaeth y GIG. Bydd y cyllid ar gyfer offer diagnostig yn rhoi'r gallu i'r GIG wneud yn union hynny, gan helpu pobl i gael diagnosis a thriniaeth yn gyflymach.

“Rydyn ni'n cyflawni beth mae pobl ei eisiau - yn ariannu ein GIG ac yn cwtogi’r amseroedd aros hiraf, yn creu swyddi ac yn gweithio i wella safonau addysg.

“Rwy'n benderfynol ein bod am fynd ymhellach a gweithio'n gyflymach, a bydd yr arian ychwanegol hwn yn ein helpu i wneud yn union hynny yn y meysydd blaenoriaeth hyn.”

Wrth siarad am yr arian ychwanegol ar gyfer sefydliadau celfyddydol a diwylliannol, dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

“Rwy'n falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol eleni i ddiogelu swyddi a sefydliadau yn ein sector celfyddydol.

“Mae gennym sector celfyddydau cryf iawn yng Nghymru, sy'n datblygu ac yn cefnogi talent Gymreig o'r radd flaenaf. Bydd y buddsoddiad hwn, ar gyfer 60 o sefydliadau celfyddydol gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Syrcas Cimera yng Nghaernarfon a Sefydliad y Glowyr yn y Coed Duon, yn rhoi cefnogaeth hanfodol i'n sefydliadau diwylliannol.”

Mae'r pecyn cyllid newydd gwerth £157 miliwn - cyfuniad o gyllid refeniw a chyfalaf - ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2024-2025). Bydd y Gyllideb Ddrafft sy'n nodi cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2025-2026), yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth 10 Rhagfyr.