Diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru: Rhagfyr 2024
Diweddariad Rhagfyr 2024 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ynghylch ein datblygiadau diweddaraf, ymgynghoriadau a chynlluniau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddiweddariadau chwarterol, ar gyfer defnyddwyr ystadegau yng Nghymru, ar ein datblygiadau, ein hymgyngoriadau a'n cynlluniau diweddaraf.
Gellir gweld rhestr lawn o'n cyhoeddiadau mwyaf diweddar ar ein calendr i ddod.
Llesiant Cymru
Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru ar 26 Medi 2024. Mae'r adroddiad yn rhoi diweddariad ar lesiant yng Nghymru er mwyn ein helpu i asesu a ydym yn gwneud cynnydd yn erbyn y saith nod llesiant cenedlaethol a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r adroddiad yn ystyried cynnydd yn erbyn y 50 o ddangosyddion cenedlaethol, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae’r adroddiad yn ddull allweddol o sicrhau atebolrwydd, i fod yn dryloyw ynghylch y cynnydd mae Cymru yn ei wneud tuag at ei nodau llesiant.
Yn yr un modd â 2023, mae adroddiad hawdd ei ddeall wedi cael ei gyhoeddi yn ogystal â’r prif adroddiad er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar wybodaeth ystadegol am Gymru.
Wrth inni nesáu at 10 mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym wedi ystyried sut y gallwn barhau i ddarparu gwybodaeth newydd a ffyrdd gwell o roi gwybod am y cynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyflawni'r nodau llesiant. Gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr, eleni rydym yn arbrofi gyda ffordd newydd o ddangos cynnydd, gan ganolbwyntio ar y 17 o gerrig milltir genedlaethol. Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a maint y newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y saith nod llesiant. Rydym wedi edrych ar y data ar gyfer pob carreg filltir ers 2015, pan ddaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i rym, ac wedi asesu a yw’r duedd wedi bod yn gwella ai peidio ers y dyddiad hwnnw.
Gallwch ddarllen mwy am y dull gweithredu a fabwysiadwyd gennym yn y bennod o'r adroddiad Llesiant Cymru sy'n ymdrin â'r cerrig milltir cenedlaethol.
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.ProsiectauBlaenoriaethUchel@llyw.cymru
Yr economi a'r farchnad lafur
Yr Economi
Rôl Grŵp Defnyddwyr Ystadegau Economaidd Cymru yw ymgysylltu â dadansoddwyr Llywodraeth Cymru a rhoi cyngor iddynt ar flaenoriaethau strategol a'r cynllun gwaith ar gyfer ystadegau economaidd yng Nghymru. Mae'r grŵp yn rhan o gynllun ymgysylltu â defnyddwyr Llywodraeth Cymru ar gyfer ystadegau economaidd ac yn cynnig safbwynt allanol ar ystadegau a gyhoeddir o dan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hefyd yn fforwm i rannu gwybodaeth. Cyfarfu'r grŵp ym mis Hydref – roedd yr eitemau yn cynnwys cyflwyniad gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar ei hadolygiad systemig o ystadegau economaidd a diweddariadau ar drawsnewid yr arolwg o'r llafurlu, yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth a'r gwaith o ddatblygu tablau mewnbwn-allbwn. Mae eitemau agenda a chyflwyniadau blaenorol, ynghyd â chylch gorchwyl y grŵp, ar gael ar-lein.
Rydym yn awyddus i ymestyn aelodaeth y grŵp hwn i gynulleidfa ehangach. Os hoffech ymuno â'r grŵp hwn, sy'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn (naill ai'n hybrid neu ar-lein), cysylltwch â DigwyddiadauGGD@llyw.cymru.
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi ein dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ebrill i Fehefin 2024 sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad.
Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad demograffeg busnes ar gyfer data 2023. Rydym yn awyddus i gael adborth defnyddwyr ar y cyhoeddiad hwn. Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.economi@llyw.cymru
Y Farchnad lafur
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi nodi bod yr heriau sy'n gysylltiedig â chynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd y data. O ganlyniad, caiff ystadegau'r llafurlu sy'n deillio o'r Arolwg o'r Llafurlu eu labelu'n ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyd nes y cynhelir adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell y dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r data hyn.
Rydym yn parhau i gyhoeddi ein datganiad misol yn cynnig trosolwg o'r farchnad lafur, sy'n dod ag amrywiaeth o wahanol ffynonellau mewn perthynas â'r farchnad lafur ynghyd. Rydym yn argymell y dylai data'r Arolwg o'r Llafurlu gael eu defnyddio ochr yn ochr â'r tueddiadau yn y mesurau eraill hyn o'r farchnad lafur er mwyn cael darlun cliriach o'r effaith y mae digwyddiadau gwahanol yn ei chael ar y farchnad lafur yng Nghymru.
Mae'r SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu (TLFS) a'r nod yw mai'r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Mae'r SYG yn parhau i brofi rhai gwelliannau dylunio pellach ar gyfer y TLFS ac mae wedi nodi y bydd yn adrodd ar gynnydd yn ystod Gwanwyn 2025.
Yn ogystal â'r trosolwg misol o'r farchnad lafur, gwnaethom gyhoeddi'r diweddariad blynyddol ar Incwm aelwydydd crynswth i'w wario rhanbarthol ar gyfer 2022 ym mis Medi sy'n rhoi gwybodaeth am faint o arian sydd gan unigolion mewn aelwydydd i'w wario neu i'w gynilo.
Roedd mis Hydref yn fis prysur gyda nifer o gyhoeddiadau mewn meysydd gwahanol. Gwnaethom gyhoeddi ein data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mehefin 2024 sy'n cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU yn ogystal ag ardaloedd lleol. Cafodd ystadegau blynyddol o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mehefin 2024 eu cyhoeddi hefyd.
Roedd y ddau allbwn hyn yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Cafodd y data diweddaraf o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion eu cyhoeddi hefyd ym mis Hydref, a oedd yn rhoi gwybodaeth am enillion cyfartalog fesul awr, wythnos a blwyddyn ar gyfer 2024.
Ar ddechrau mis Tachwedd, gwnaethom ddiweddaru ein datganiad Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth ar gyfer 2023, gan gyflwyno amcangyfrifon o gyflogeion a chyflogaeth. Mae amcangyfrifon o gyflogaeth Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar lefel y DU. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon cyflogaeth dros dro Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth 2023 yn cwmpasu Prydain Fawr yn unig gan nad yw amcangyfrifon ar gyfer 2023 ar gael eto ar gyfer Gogledd Iwerddon. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn bwriadu diweddaru datganiad ystadegol 2023 gydag amcangyfrifon y DU erbyn dechrau 2025.
Os hoffech gysylltu, e-bostiwch ystadegau.yfarchnadlafur@llyw.cymru
Addysg
Mae llawer o ystadegau ar addysg ôl-16 bellach wedi'u trosglwyddo i Medr. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ystadegau addysg bellach, chweched dosbarth ysgolion, prentisiaethau neu ddysgu oedolion, cysylltwch ag ystadegau.addysgol16@llyw.cymru, a chaiff eich ymholiad ei drosglwyddo i'r tîm yn Medr.
Ysgolion
Data ar bresenoldeb mewn ysgolion
Gwnaethom barhau i gyhoeddi data wythnosol ar bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir drwy gydol tymor yr hydref a chafwyd y cyhoeddiad cyntaf ar 19 Medi. Roedd y datganiad yn rhoi gwybodaeth wythnosol hyd at hanner tymor mis Hydref ac yna wybodaeth bob pythefnos hyd at y Nadolig. Mae'r datganiad yn cynnwys rhagor o fanylion am dueddiadau hirdymor ym maes addysg cyn ac ar ôl pandemig y Coronafeirws (COVID-19).
Gwnaethom hefyd gyhoeddi data o'r data presenoldeb blynyddol statudol a gesglir oddi wrth ysgolion uwchradd. Cyhoeddwyd y datganiad Absenoldeb o ysgolion uwchradd: Medi 2023 i Awst 2024 ar 1 Hydref.
Caiff data o'r data presenoldeb blynyddol statudol a gesglir ar gyfer ysgolion cynradd eu cyhoeddi ar 12 Rhagfyr.
Datganiadau ystadegol eraill
Cyhoeddwyd y datganiadau ystadegol canlynol hefyd yn yr Hydref:
Disgyblion sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol: Medi 2023 i Awst 2024 ar 12 Medi
Cyflawniad academaidd disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3: Medi 2023 i Awst 2024 ar 29 Awst. Yn sgil cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru, dyma'r olaf mewn cyfres o allbynnau sy'n rhoi canlyniadau Asesiadau Athrawon yr hen Gwricwlwm Cenedlaethol.
Canlyniadau dros dro arholiadau rhwng mis Medi 2023 a mis Awst 2024 ar 3 Hydref – disgwylir i ganlyniadau terfynol arholiadau cael eu cyhoeddi ar 5 Rhagfyr.
Gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion: Medi 2022 i Awst 2023 ar 31 Hydref
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni yn ystadegau.ysgolion@llyw.cymru.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth ar ddata'r gweithlu ysgolion, gallwch gysylltu â ni yn educationworkforcedata@llyw.cymru.
Addysg uwch a chyllid myfyrwyr
Rydym wedi parhau i gyhoeddi ein hystadegau misol ar Geisiadau am gymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch a Lwfansau Cynhaliaeth Addysg (LCA) a ddyfarnwyd yng Nghymru.
Er mwyn rhoi adborth neu ar gyfer unrhyw wybodaeth bellach, anfonwch neges e-bost i addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru.
Tai
Ers y diweddariad diwethaf, mae'r allbynnau ystadegol canlynol wedi cael eu cyhoeddi:
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Awst 2024 (cyhoeddwyd 31 Hydref)
Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill i Fehefin 2024 (cyhoeddwyd 15 Hydref)
Ystadegau ar aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai a gweithgareddau awdurdodau tai lleol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (deddfwriaeth y DU): Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (cyhoeddwyd 5 Medi)
Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.
Ym mis Medi, gwnaethom gyhoeddi diweddariad chwarterol i'n hystadegau ar Adeiladu tai newydd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024.
Yn y chwarter hwn, gwnaethom hefyd gyhoeddi erthygl ar Ail gartrefi treth gyngor trethadwy yng Ngwynedd a Dwyfor, er mwyn darparu gwybodaeth sylfaenol am gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor. Tynnodd yr erthygl hon sylw at newidiadau yn nifer yr ail gartrefi a oedd yn atebol i dalu'r dreth gyngor rhwng 13 Ebrill 2023 a 13 Ebrill 2024 yn ogystal â symudiadau rhwng dosbarthiadau'r dreth gyngor yn ystod y cyfnod (e.e. o ail gartref i brif breswylfa).
Cysylltwch â ni drwy flwch post ystadegau.tai@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw ymholiadau neu geisiadau.
Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Ystadegau ysbytai
Y chwarter hwn, gwnaethom ddiweddaru ein diweddariad misol arferol i'n Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG a'r chwarter hwn rydym wedi cyhoeddi dau allbwn ystadegol newydd gan gynnwys archwiliad dwfn o Berfformiad y GIG ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol Cymru a Gofal trawsffiniol y GIG rhwng Cymru a Lloegr mewn cydweithrediad ag NHS England.
At hynny, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyhoeddi data wedi'u diweddaru ar Dderbyniadau i'r ysbyty.
Gweithlu a gwariant y GIG
Y chwarter hwn cafwyd diweddariad i'n cyfres o ystadegau chwarterol ar weithlu'r GIG, gan gynnwys: y Gweithlu practis cyffredinol, Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG, Absenoldeb oherwydd salwch y GIG ac Ystadegau swyddi gwag y GIG.
Gofal sylfaenol a chymdeithasol
Yn ystod y chwarter hwn cyhoeddwyd data ar wasanaethau deintyddol y GIG sy'n cynnwys gwybodaeth a gwaith dadansoddi newydd yn sgil gwelliant yn y data a gyflwynwyd.
Cafodd ystadegau blynyddol ar Wasanaethau fferyllol cymunedol eu diweddaru hefyd, gyda data ar fferyllfeydd, presgripsiynau a roddwyd a gwasanaethau fferyllol a gynigiwyd.
Iechyd y boblogaeth
Y chwarter hwn, gwnaethom hefyd gyhoeddi diweddariad ar ystadegau blynyddol Dechrau'n Deg gan gynnwys am y tro cyntaf wybodaeth am y ffordd y mae'r rhaglen wedi ehangu.
Darparwyd diweddariadau chwarterol hefyd ar gyfer Ystadegau bwydo ar y fron a Rhaglen Plant Iach Cymru.
Ystadegau eraill ym maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
Yn y chwarter hwn hefyd cafwyd diweddariadau rheolaidd i amrywiaeth o ystadegau eraill, gan gynnwys: Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, Mesurau gofal llygaid a Gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.
Mae nifer o allbynnau eraill ar gael gan sefydliadau partner, gan gynnwys diweddariadau i'r canlynol: Mynychder canser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Camddefnyddio sylweddau gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a gwasanaethau Gofal rheoleiddiedig a lleoedd a reoleiddir gan Arolygiaeth Gofal Cymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae ein holl ddatganiadau ystadegol ar gael ar y wefan Ystadegau ac ymchwil ac mae data sylfaenol manylach ar gael yn ardal iechyd a gofal cymdeithasol StatsCymru.
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Cysylltwch â ni yn arolygon@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw gwestiynau.
Gamblo
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi'r bwletin ar gamblo, sy'n cynnwys gwaith dadansoddi ar gyfrannu'r bobl sy'n gamblo yng Nghymru ac sy'n ystyried rhai o'r nodweddion sy'n gysylltiedig â gamblo, yn seiliedig ar ymatebion i Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23.
Trafnidiaeth
Caiff y bwletin ar drafnidiaeth ei gyhoeddi ar 11 Rhagfyr. Bydd y bwletin yn ystyried sut mae pobl yng Nghymru yn defnyddio gwahanol ddulliau teithio a pha mor fodlon ydynt ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn seiliedig ar Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23.
Cyfiawnder cymdeithasol
Tlodi a chostau byw
Ym mis Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith monitro y Strategaeth Tlodi Plant ac adolygiad arbenigol annibynnol. Mae'r fframwaith hwn yn nodi sut y caiff data eu defnyddio i olrhain cynnydd y Strategaeth Tlodi Plant. Cynhaliwyd adolygiad o'r fframwaith gan arbenigwr academaidd annibynnol, sef yr Athro Rod Hick.
Ar 14 Tachwedd 2024, gwnaethom gyhoeddi'r pedwerydd datganiad mewn cyfres chwarterol o ystadegau'r Gronfa Cymorth Dewisol, a oedd yn cynnwys dadansoddiadau manylach yn ôl oedran ac awdurdod lleol. Byddwn yn parhau i gyhoeddi diweddariadau i'r dangosfwrdd rhyngweithiol yn cyflwyno amcangyfrifon tlodi tanwydd a data cysylltiedig ar gyfer Cymru. Cyfeirir at y rhain a ffynonellau eraill o ddata ar yr argyfwng costau byw mewn blog Digidol a Data a gyhoeddwyd gennym ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod data ar lefel Cymru ar fetrigau costau byw allweddol ar gael lle bo hynny'n bosibl.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar ddangosyddion arfaethedig ar gyfer MALlC 2025, ochr yn ochr â chyfres o gwestiynau ar SmartSurvey yn ceisio barn defnyddwyr. Mae'r arolwg bellach ar agor i ymatebion a bydd yn cau ar 16 Rhagfyr 2024.
Os hoffech gael eich hysbysu pan gaiff gwybodaeth ddiweddaraf MALlC ei chyhoeddi, e-bostiwch ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru i danysgrifio.
Yr ymateb i'r argyfwng yn Wcráin
Rydym yn parhau i weithio gyda'r SYG, y Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, a'r llywodraethau datganoledig eraill i gynhyrchu ystadegau sy'n ymwneud â'r argyfwng yn Wcráin.
Ar 28 Tachwedd 2024, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddata demograffig wedi'u diweddaru ar gynllun Noddi Wcráin a'r cynllun Teuluoedd o Wcráin. Mae'r rhain yn cynnwys dadansoddiad o'r unigolion hynny o Wcráin sydd wedi gwneud cais am fisa neu wedi derbyn fisa, neu sydd wedi cyrraedd y DU â noddwyr yng Nghymru, wedi'u haenu yn ôl oedran a rhyw, hyd at 30 Medi 2024.
Ar 28 Tachwedd 2024, cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ddata cyflogaeth ar gyfer gwladolion Wcráin sy'n byw yn y DU rhwng mis Mawrth 2022 a Medi 2024. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiadau ar gyfer gwladolion Wcráin sy'n byw yng Nghymru, yn ôl rhyw.
Ni fydd y cynllun Teuluoedd o Wcráin, cynllun Noddi Wcráin (Cartrefi i Wcráin) na data fisâu o dan Gynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin (Y Swyddfa Cartref) yn cael eu diweddaru mwyach ar ôl 28 Tachwedd 2024. Bydd y ffigurau ar y dudalen hon yn aros ac ond fyddant yn cael eu diweddaru mwyach. Yn lle hynny, bydd y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi ei data ar Wcráin bob chwarter drwy'r cyhoeddiadau canlynol:
- Safe and Legal (Humanitarian) routes to the UK (Y Swyddfa Cartref)
- Immigration system statistics data tables (Y Swyddfa Cartref)
O 28 Tachwedd 2024 ymlaen, bydd y cyhoeddiad Ukraine Sponsorship Scheme: Visa data by country, upper and lower tier local authorit (Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Lywodraeth Lleol a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau) yn cael ei ddiweddaru bob chwarter.
Diogelwch cymunedol
Rydym wedi cyhoeddi'r cyhoeddiadau canlynol sy'n ymwneud ag ystadegau tân:
Ystadegau gweithredol awdurdodau tân ac achub: Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (31 Hydref)
Ystadegau achosion tân ac achub (28 Tachwedd)
Perfformiad awdurdodau tân ac achub (28 Tachwedd)
Rydym hefyd wedi cyhoeddi'r dyddiadau cyhoeddi canlynol:
Tanau glaswelltir – 19 Rhagfyr
Tanau llosgi bwriadol – 19 Rhagfyr
Rydym yn awyddus i gael adborth gan y rhai sy'n defnyddio ein hystadegau tân. Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw rai o'n hallbynnau ystadegol, cysylltwch â ni yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Trosedd a chyfiawnder
Nid oes unrhyw gyhoeddiadau newydd sy'n ymwneud â throsedd a chyfiawnder y chwarter hwn. Anfonwch unrhyw adborth neu geisiadau i ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Cydraddoldeb
Ar 17 Hydref, gwnaethom gyhoeddi ystadegau cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer Gorffennaf 2024.
Anfonwch e-bost at YrUnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru os bydd gennych unrhyw adborth.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am y ffordd rydych yn defnyddio adran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth gwefan StatsCymru, neu'r hyn yr hoffech ei gael o ddata Cyfrifiad 2021, yn ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru.
Masnach
Arolwg Masnach Cymru
Cafodd y dadansoddiad o ddata 2022 ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf 2024 ac mae ar gael yma: Arolwg Masnach Cymru: 2022.
Ni chaiff data eu casglu yn 2024 oherwydd pwysau cyllidebol, ond bydd hyn hefyd yn galluogi'r tîm dadansoddi i gynnal dadansoddiad manylach o ddata a gasglwyd yn flaenorol ac ailystyried yr achos busnes dros barhau â'r Arolwg Masnach yn y dyfodol.
Masnach Nwyddau Rhyngwladol Cymru
Cyhoeddwyd prif ganlyniadau Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEF ar gyfer masnach nwyddau rhyngwladol Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2024 ar 12 Medi 2024. Cyhoeddwyd Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: 2023 ar 17 Ebrill 2024, ac roedd yn cynnwys dadansoddiad pellach o ddata 2023. Ni chaiff tablau allforio cysylltiedig StatsCymru eu diweddaru mwyach gan fod data 2023 wedi'u cwblhau, yn sgil diweddaru'r dangosfwrdd rhyngweithiol yn ddiweddar.
Ochr yn ochr â'r ystadegau uchod, caiff y dangosfwrdd masnach rhyngweithiol ei ddiweddaru yn unol â data'r chwarter diweddaraf. Cwblhawyd gwaith i ddiweddaru'r dangosfwrdd er mwyn cynnwys y gallu i ymdrin â data mawr, ac a gyflwynodd welliannau o ran hygyrchedd, ym mis Medi 2024.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ystadegau.masnach@llyw.cymru.
Trafnidiaeth
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi amcangyfrifon dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd wedi'u cofnodi gan yr heddlu: Ebrill i Fehefin 2024 a diweddaru ein dangosfwrdd rhyngweithiol, gan gynnwys dadansoddiadau fel difrifoldeb anafiadau, y math o ddefnyddiwr ffordd a lleoliad gwrthdrawiadau ar fap. Disgwylir i'r amcangyfrifon dros dro ar gyfer gwrthdrawiadau ffyrdd a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2024 gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr.
Ym mis Hydref, gwnaethom hefyd gyhoeddi Cludo nwyddau ar ffyrdd: 2023 sy'n dangos data ar fewnforion ac allforion i Gymru ac o Gymru a gafodd eu cludo ar ffyrdd drwy ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm cofrestredig yn y DU. Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad cludiant môr 2023ac, ym mis Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad troseddau moduro 2023.
I roi adborth ac i wneud sylwadau, e-bostiwch ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru
Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn paratoi i lansio'r Arolwg Teithio Cenedlaethol newydd i Gymru ar ddechrau 2025. Mae dadansoddiad o ganlyniadau'r peilot ar-lein cyntaf a gynhaliwyd ym mis Mai a mis Mehefin 2024 wedi llywio'r gwaith o ddylunio'r arolwg a'i fethodoleg. Mae manylion y datblygiadau hyn wedi'u cyhoeddi yn yr adran ymchwil a datblygu ar wefan Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru (Trafnidiaeth Cymru).
Cynhaliwyd ail beilot a oedd yn cynnwys 900 o aelwydydd yn ystod mis Medi a mis Hydref 2024, a chafwyd 372 o ymatebion. Profodd y peilot hwn y ffordd y mae'r arolwg yn gweithio ac yn cael ei roi ar waith gan ddefnyddio pob modd cwblhau (ar-lein, ffôn ac wyneb yn wyneb). Mae Trafnidiaeth Cymru bellach yn dadansoddi'r data sy'n dod o'r ail beilot hwn a bydd yn cyflwyno gwelliannau i brosesau a systemau arolygu cyn lansio'r prif arolwg.
Mae rhagor o wybodaeth am nodau ac amcanion y ddwy astudiaeth beilot ar gael yn Ymchwil a datblygu (Trafnidiaeth Cymru).
Yn ystod mis Medi a mis Hydref 2024, cysylltodd Trafnidiaeth Cymru â rhanddeiliaid Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru er mwyn clywed eu barn a'u dymuniadau mewn perthynas â chyhoeddiadau data posibl o Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru. Mae adroddiad sy'n dadansoddi rhanddeiliaid wedi'i gyhoeddi ar wefan Trafnidiaeth Cymru ac mae ar gael yn Ymgysylltu â rhanddeiliaid (Trafnidiaeth Cymru).
Gellir anfon unrhyw sylwadau, cwestiynau neu adborth pellach at y tîm yn arolwgteithio@trc.cymru
Y Gymraeg
Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Cyhoeddwyd data ar y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2024 ar 9 Hydref. Gwnaethom hefyd ddiweddaru ein tablau StatsCymru (Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: y Gymraeg) er mwyn cynnwys y data diweddaraf.
Roedd yr amcangyfrifon hyn yn cael eu dosbarthu'n ystadegau swyddogol achrededig yn flaenorol. Bu lleihad ym maint y samplau a ddefnyddiwyd yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn a'r ffaith nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y dylid atal yr achrediad hwn dros dro ac y dylai'r amcangyfrifon gael eu hailddynodi'n ystadegau swyddogol (Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).
Arolwg defnydd iaith
Bwriadwn gyhoeddi gweddill y tablau data ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn fuan. Bydd y taenlenni hyn yn cynnwys dadansoddiadau pellach i ategu'r crynodebau pwnc presennol. Ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi, bydd y tablau ar gael i'w lawrlwytho o dan y pennawd thematig perthnasol ar dudalen we'r Arolwg Defnydd Iaith. Mae tablau data ar y Defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle a'r Defnydd o'r Gymraeg gyda darparwyr gwasanaethau eisoes ar gael.
Ceisiadau ystadegol ad-hoc
Cyhoeddwyd data ar amlder siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a grŵp oedran, blwyddyn sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2024 o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth mewn ymateb i gais ystadegol ad-hoc ar 30 Medi.
Data ar y Gymraeg y tu allan i Gymru
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddata cynhwysfawr ar siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru a allai roi darlun cywir o siaradwyr Cymraeg yn Lloegr neu weddill y DU. Fel rhan o’n rhaglen waith ar y cyd â’r SYG, byddwn yn dogfennu gofynion defnyddwyr ar gyfer data am y Gymraeg y tu allan i Gymru.
Os ydych yn defnyddio ystadegau ar y Gymraeg a bod gennych unrhyw sylwadau ar ddata ar y Gymraeg ar gyfer y boblogaeth sy'n byw y tu allan i Gymru, neu ar y gofynion o ran y data hynny, cysylltwch.
Os oes gennych unrhyw adborth neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch: dataiaithgymraeg@llyw.cymru.
Amaethyddiaeth a'r amgylchedd
Datgarboneiddio a'r newid yn yr hinsawdd
Cafodd y ffigurau blynyddol diweddaraf ar gasglu ac ailgylchu gwastraff awdurdodau lleol ar 31 Hydref. Mae'n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024. Cânt eu defnyddio i fonitro cynnydd awdurdodau lleol yng Nghymru tuag at gyflawni eu targedau ailgylchu.
E-bostiwch ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Cyllid llywodraeth leol
Gwariant alldro refeniw a chyfalaf
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi manylion Refeniw a gwariant cyfalaf alldro awdurdodau lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 a data refeniw a chyfalaf cysylltiedig ar StatsCymru.
Cronfeydd wrth gefn ysgolion
Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi manylion am gronfeydd wrth gefn cyffredinol ysgolion ar 31 Mawrth 2024 yn ôl awdurdod lleol a manylion llawn yn ôl ysgol unigol ar StatsCymru.
Poblogaeth a demograffeg
Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu, e-bostiwch ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru.