Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd £8.8m yn cael ei ddarparu i gynyddu ymgysylltiad a phresenoldeb mewn ysgolion, gan gynnwys £1.5m i ddarparu mwy o gapasiti ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd i gefnogi dysgwyr gyda'u presenoldeb.
Mae codi safonau mewn ysgolion yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth ac mae gwella presenoldeb yn rhan allweddol o hyn. Er bod presenoldeb mewn ysgolion wedi cynyddu 0.5% eleni, bydd y cyllid a gyhoeddwyd heddiw yn helpu i hybu cyfraddau presenoldeb ymhellach trwy gefnogi recriwtio Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ychwanegol ledled Cymru. Mae'r swyddogion hyn yn allweddol i gynyddu'r ymgysylltu â dysgwyr a'u teuluoedd a gwneud yr ysgol yn amgylchedd mwy cadarnhaol.
Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn cael eu cyflogi gan ysgolion i helpu i feithrin perthynas gadarnhaol o ymddiriedaeth rhwng eu hysgolion a'u teuluoedd drwy bontio'r bwlch rhwng bywyd ysgol a bywyd cartref. Drwy gynnig cymorth ac arweiniad, maent yn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn ymgysylltu â'r ysgol. Maent yn gweithio i wella presenoldeb drwy ddeall y ffactorau ehangach a allai fod yn atal y plentyn rhag bod eisiau mynychu'r ysgol ac yn gweithio gyda theuluoedd i fynd i'r afael â'r rhain.
Maent yn chwarae rhan bwysig mewn ysgolion bro, gan helpu i wneud i deuluoedd deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu clywed a'u gwerthfawrogi. Dangoswyd bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £6.5m eleni i gefnogi tua 200 o swyddi ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd* a byddwn yn adeiladu ar hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae gwella presenoldeb yn un o fy mlaenoriaethau pennaf. Rwy'n hapus i weld bod presenoldeb wedi gwella, ond mae angen gwneud mwy o waith i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n achosi absenoldeb. Dyna pam rwyf mor falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol i recriwtio a hyfforddi mwy o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddaf yn ychwanegu at y cymorth gwerthfawr hwn ymhellach yn y flwyddyn ariannol nesaf i sicrhau y gallwn gynyddu a chadw'r rolau hyn. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn hanfodol i hwyluso perthynas rhwng teuluoedd ac ysgolion a thrwy hynny helpu i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol absenoldeb. Mae eu gwaith eisoes wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at weld y gwelliant hwn yn parhau i'n dysgwyr.