Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Mike Usher, Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ARAC LlC a Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol ac Arolygiaethau (CS&I) ARAC
  • Nigel Reader, Cadeirydd – Aelod Annibynnol, Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar (HSCEY) ARAC
  • Gareth Pritchard, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg (ECWL) ARAC
  • Mel Doel, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol, Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET) ARAC
  • Mutale Merrill, Cyfarwyddwr Anweithredol LlG (sylwedydd)

Swyddogion

  • Andrew Goodall, Ysgrifennydd Parhaol
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol,  Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (LGHCCRA)
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET)
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
  • David Richards, Cyfarwyddwr Uniondeb a Moeseg
  • Alex Slade, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol
  • Dom Houlihan, Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd
  • Kim Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethu a Grantiau
  • Helen Morris, Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
  • Clare James, Archwilio Cymru
  • Matthew Mortlock, Archwilio Cymru

Hefyd yn bresennol

  • Uwch-reolwr Llywodraethu Corfforaethol
  • Pennaeth Cyfrifyddu Ariannol a Thechnegol
  • Pennaeth Polisi AD
  • Ysgrifenyddiaeth ARAC

1. Datganiadau o fuddiant

1.1 Gwnaeth yr Aelodau Annibynnol ddatganiadau priodol o ran swyddi anweithredol a oedd ganddynt mewn sefydliadau eraill a oedd naill ai'n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru neu lle y cyfeiriwyd at y sector ehangach o fewn papurau.

Penderfynwyd nad oedd y datganiadau hyn yn atal cyfranogiad llawn yn y cyfarfod.

2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024

2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod blaenorol, gan nodi’r cynnydd da a wnaed wrth roi'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith.

3. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu

3.1 Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:

  • Disgwyliadau a blaenoriaethau’r Prif Weinidog newydd a'i ffocws ar gael set glir o ganlyniadau cyflawni ar gyfer gweddill Tymor y Senedd. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu'r trefniadau cymorth Cabinet gofynnol. Er mwyn atgyfnerthu'r ffocws ar gyflawni, Julie James AS yw'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni.
  • Mae'r Prif Weinidog wedi amlinellu pedwar maes ffocws ar gyfer y tymor sy'n weddill er bod ymrwymiadau presennol y Rhaglen Lywodraethu a chyfrifoldebau statudol nad ydynt wedi eu cyflawni hyd yma.
  • Y cynnydd a wnaed wrth gyflawni ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a chyhoeddi adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023/2024 sy'n cynnwys datganiadau sefyllfa manwl.
  • Y gwaith parhaus o ddiffinio Datganiad Parodrwydd i Dderbyn Risg Llywodraeth Cymru
  • Yr heriau a'r pwysau ariannol a wynebir yn ystod y flwyddyn, yn ogystal ag wrth gynllunio'r gyllideb yn y dyfodol.

4. Craffu ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2023-2024

4.1 Parhaodd y Pwyllgor â'i waith o graffu ar Gyfrifon Cyfunol drafft Llywodraeth Cymru, drwy ystyried Rhan 3 - y Datganiadau Ariannol. Roedd Rhannau 1 a 2 (yr Adroddiad Perfformiad a'r Adroddiad Atebolrwydd) wedi cael eu trafod yn y cyfarfod blaenorol.

4.2 Mae Archwilio Cymru wrthi'n cynnal ei adolygiad o'r Cyfrifon Cyfunol, a chadarnhaodd fod y gwaith hwn yn mynd rhagddo'n dda. Bu cydweithio agos a rhagweithiol rhwng y timau archwilio a chyllid er mwyn cyflawni’n unol ag amserlen, ac i addasu gwaith ar draws y ddau dîm i sicrhau bod y gwaith yn cyflawni cymaint â phosibl. Mae yna hyder y bydd yn cadw at y dyddiad targed ar gyfer ardystio, sef 29 Tachwedd.

4.3 Nododd y Pwyllgor rai meysydd a fyddai'n elwa o gael fwy o eglurhad, a chymeradwyodd y bwriad i wneud datgelu ymrwymiadau ariannol yn fwy ystyrlon i'r darllenydd.

4.4 Nododd y Pwyllgor fod y cyfrifon yn parhau i fynd yn gynyddol gymhleth. Bellach mae tri phrosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol byw, yn ogystal â'r modelau ffyrdd a rheilffyrdd presennol a'r model prisio benthyciadau myfyrwyr. Mae'r ffin cyfrifyddu cyfunol hefyd yn ehangu wrth i gyrff newydd gael eu creu.

5. Materion Llywodraethu a Risg

Cofrestr Risgiau Corfforaethol

5.1 Heriodd aelodau y risgiau hynny lle y gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y sgôr risg gweddilliol. Ym mhob achos heblaw un, sicrhawyd y Pwyllgor gan y cyfiawnhad dros y gostyngiad a ddarparwyd gan swyddogion. Cytunodd swyddogion i ailedrych ar eu hasesiad o'r sgôr risg gweddilliol ar gyfer y risg sy'n weddill. 

5.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor y modd y mae'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn cael ei defnyddio i reoli risg yn rhagweithiol.  Roedd hefyd yn croesawu'r golwg ar y 'Grŵp 10 Risg Uchaf', i ychwanegu manylion a chyd-destun ychwanegol at y trafodaethau rheoli risg, a gwella'r ystyriaeth o'u potensial o ran cael eu huwchgyfeirio i'r gofrestr gorfforaethol. 

5.3 Hefyd cymeradwyodd y Pwyllgor y gwaith o wahanu 'risgiau' a 'phroblemau' mewn modd mwy effeithiol, ac o gyflwyno dogfen sganio gorwelion mewn perthynas â risgiau, er i’r Pwyllgor nodi bod y rhain yn eu camau cynnar a bod angen eu datblygu ymhellach.

5.4 Trafododd y Pwyllgor y risgiau sy'n gysylltiedig â chadernid TG a Diwygio'r Senedd, gan gytuno i'w hychwanegu at ei gynllun gwaith i'w ystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

Argymhellion Archwilio heb eu Gweithredu

5.5 Nododd y Pwyllgor y cynnydd da a wnaed o ran gweithredu camau y cytunwyd arnynt, ond gofynnodd am i'r llwybr tystiolaethol gael ei wella drwy gynnwys, mewn papurau yn y dyfodol, grynodeb o argymhellion a gaewyd rhwng cyfarfodydd.

Adroddiadau Chwarterol Grŵp ARAC

5.6 Fe wnaeth y Pwyllgor ystyried a nodi'r adroddiadau chwarterol gan y grwpiau ARAC a oedd wedi cynnal eu cyfarfod yn yr Hydref. Nid oedd yn bosibl trefnu'r cyfarfod ar gyfer ECWL ARAC cyn i ARAC LlC gyfarfod.

Gwrthdaro buddiannau

5.7 Trafododd y Pwyllgor y dull gweithredu ar gyfer rheoli gwrthdaro buddiannau o fewn Llywodraeth Cymru, a defnyddio system gorfforaethol i'w recordio a'u rheoli.

5.8 Datblygwyd y system gorfforaethol, ac amlinellodd swyddogion senarios o ran ei defnyddio a chostau cysylltiedig trwyddedau meddalwedd.

5.9 Er nad yw argymell dull gweithredu penodol yn rhan o'i rôl, nododd y Pwyllgor y dylai'r camau gweithredu a ddewisir roi ystyriaeth ofalus i'r risgiau sy'n ymwneud â rheoli gwrthdaro buddiannau a gwerth am arian, gan sicrhau bod set o feini prawf gwbl glir ar waith ar gyfer hysbysu staff pryd y mae'n rhaid gwneud datganiadau. Roedd y Pwyllgor hefyd yn disgwyl gweld ffocws gwell ar gategorïau penodol o staff, megis rheolwyr caffael / contractau a rheolwyr grantiau. Gofynnodd am gael diweddariad maes o law.

6. Diweddariad archwilio mewnol

6.1 Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith archwilio mewnol a'r negeseuon allweddol sydd wedi eu cynnwys mewn adroddiadau diweddar. Sicrhawyd y Pwyllgor bod y gwaith archwilio mewnol ar y trywydd iawn i ddarparu corff digonol o waith i gefnogi barn sicrwydd flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol ar gyfer 2024-2025.

7. Diweddariad archwilio allanol

7.1 Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am waith Archwilio Cymru a thynnwyd gyda sylw at adroddiadau o ddiddordeb i'r Pwyllgor sydd naill ai wedi eu cyhoeddi neu a fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan, gan gynnwys:

  • Tai Fforddiadwy (wedi'i gyhoeddi), gyda negeseuon allweddol ynghylch argaeledd cyllid i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed o 20,000 o gartrefi, a'r dewisiadau sydd i'w gwneud er mwyn cyflawni yn erbyn polisi yn y ffordd orau a chyd-fynd â blaenoriaethau Gweinidogol.
  • Mae adroddiad cryno yn cael ei baratoi ar gyllid llywodraeth leol, ar ôl cwblhau adroddiadau lleol ym mhob awdurdod lleol.

7.2 Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cynnal sesiwn i ystyried penodiadau cyhoeddus yn ddiweddar a bydd yn adrodd yn ôl maes o law.

Ysgrifenyddiaeth ARAC