Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf roi gwybod i Aelodau fy mod wedi mynychu cyfarfod diweddaraf Grŵp Rhyngweinidogol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 16 Medi 2024.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan Jim Fairlie ASA, y Gweinidog Amaeth a Chysylltedd. Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan Mairi Gougeon ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir ac Ynysoedd, Andrew Muir ACD, y Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a Daniel Zeichner AS, y Gweinidog Diogelwch Bwyd a Materion Gwledig.

Bu'r Grŵp yn trafod Cyllideb y DU a'r dyraniadau cyllido. Ailadroddais bwysigrwydd cefnogi ein sector amaeth i gynhyrchu bwyd cynaliadwy yn ogystal â'n huchelgeisiau hinsawdd a natur. Mewn perthynas â'r newidiadau a wnaed i Dreth Etifeddiaeth a Rhyddhad Eiddo Amaethyddol, fe wnes i annog Llywodraeth y DU i ymgysylltu'n uniongyrchol ag undebau ffermio Cymru a chymryd i ystyriaeth eu data a'u pryderon. 

Wrth ychwanegu eitem ar TB, cytunwyd ar y rhaglen waith ar y cyd ar gyfer cydweithredu gwell ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Datblygwyd y rhaglen hon ar y cyd gan y pedair gwlad. 

Trafododd y Grŵp bwysigrwydd tryloywder a chydweithio ar unrhyw drafodaethau yn y DU gyda'r UE ynghylch cytundeb Iechydol/Ffytoiechydol posibl (SPS).  Gwnes y pwynt bod angen eglurder arnom ar weithredu Model Gweithredu Targed y Ffin (BTOM) a Fframwaith Windsor yng ngoleuni'r cytundeb SPS arfaethedig. Roeddwn hefyd yn falch o weld y cyfarfod sydd ar ddod gyda'r Farwnes Hayman i drafod nifer o faterion sy'n weddill ar reoli ffiniau.

Yna buom yn trafod prinder llafur yn y sectorau amgylchedd, bwyd a materion gwledig, Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser, plaladdwyr neonicotinoid, gwerthu mawn garddwriaethol a chynnydd ar geisiadau am ddynodiadau daearyddol y DU.

Caiff hysbysiad am y cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs.