Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Fel y gwyddoch, rhyddheais ddatganiad ar 6 Rhagfyr 2016 yn cyhoeddi y byddai Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw Adar, a hynny mewn ymateb i adroddiadau am achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) H5N8 ar draws Ewrop, Gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol. Gwnaed hynny er mwyn bod yn rhagofalus a lleihau'r risg y byddai dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu heintio gan adar gwyllt.
Rydym wedi bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi bod yn paratoi ac yn diweddaru asesiadau risg er mwyn pwyso a mesur y risg o ran achosion o'r clefyd. Wrth gynnal yr asesiad risg milfeddygol diweddaraf, ystyriwyd y risg y byddai Ffliw Adar Pathogenig Iawn (H5N8) yn cyrraedd ffermydd dofednod, yn bennaf drwy gysylltiad ag adar dŵr gwyllt sy’n byw yma, ond hefyd drwy ffyrdd posibl eraill.
Daeth i'r casgliad bod y risg y gallai adar dŵr gwyllt sy’n byw yma fod wedi'u heintio â H5N8 yn parhau’n Isel i Ganolig a bod y risg y byddai ffermydd dofednod yn dod i gysylltiad â'r clefyd yn Isel, ond yn uwch ac y bydd yn dibynnu ar y mesurau bioddiogelwch ar bob fferm. Mae'r lefel risg, felly, yr un peth ag ym mis Tachwedd 2016, pan welwyd achosion o'r clefyd hwnt ac yma ar draws Ewrop a phan gafwyd adroddiadau am achosion yn cael eu canfod mewn adar gwyllt o bryd i'r gilydd.
Rwyf, felly, yn falch o gael cyhoeddi na fydd Parth Atal Ffliw Adar yn cael ei ailgyflwyno ar ôl i gyfnod y Parth presennol ddod i ben ar 30 Ebrill.
Rwyf yn siŵr y bydd croeso mawr i'r newydd hwn ond mae'n bwysig cofio bod ffliw adar yn parhau'n fygythiad cyson a real iawn i'n dofednod a'n adar caeth eraill. Hoffwn bwysleisio bod angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth domestig barhau i fod yn wyliadwrus a chadw llygad am arwyddion o'r clefyd a chysylltu â'u milfeddygon eu hunain os bydd ganddynt unrhyw bryderon. Os bydd unrhyw un yn amau bod adar yn dioddef o'r clefyd, dylai gysylltu â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith,
Mae'n hanfodol bod pawb sy'n cadw adar yn parhau i arfer mesurau bioddiogelwch effeithiol, a dylent ystyried cadw at yr arferion bioddiogelwch llymach a sefydlwyd o dan y Parth Atal Ffliw Adar sydd ar fin dod i ben. Mae'r arferion hynny'n cynnwys ystyried a diweddaru'r ffurflenni hunanasesu, glanhau a diheintio (gan ddefnyddio diheintyddion cymeradwy) dillad, cyfarpar a cherbydau, a rhoi camau effeithiol ar waith i reoli plâu fel y bo cyn lleied o gyfleoedd â phosibl i'ch adar chi ac adar gwyllt / bywyd gwyllt ddod i gysylltiad â'i gilydd.
Os yw dofednod neu adar caeth eraill yn cael mynd allan i'r awyr agored ar ôl bod dan do am amser hir, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn trafod yr effeithiau posibl ar eu hiechyd gyda'ch milfeddyg preifat eich hun.
Hoffwn hefyd achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r rheini sy'n cadw 50 neu fwy o ddofednod fod yn rhaid iddynt gofrestru eu heidiau ar y Gofrestr Ddofednod a byddwn yn annog pawb sy'n cadw dofednod, gan gynnwys y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i'r Gofrestr Ddofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw adar, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.
Gall pob un ohonom chwarae rhan a helpu'r rheini sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill drwy barchu â chydymffurfio â'u mesurau bioddiogelwch a thrwy gysylltu â llinell gymorth Prydain ar 03459 335577 i roi gwybod am unrhyw adar gwyllt marw. Dylem wneud hynny’n benodol yn achos unrhyw hwyaid gwyllt, gwyddau gwyllt, elyrch, gwylanod neu adar ysglyfaethus neu pan fo mwy na phum aderyn o unrhyw rywogaeth yn cael eu canfod yn farw yn yr un lle.
Byddaf yn parhau i fonitro'r sefyllfa hon yn agos a byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth os bydd y gwaharddiad dros dro ar grynhoi rhai rhywogaethau yng Nghymru yn cael ei ddiddymu. Mae crynhoi adar yn cynyddu'r risg oherwydd bod posibilrwydd y bydd pobl yn dod ag adar o bob cwr o Brydain, a thu hwnt, at ei gilydd. Felly, mae fy swyddogion yn cydweithio'n agos â'u cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban wrth ystyried y mater hwn a byddant yn adrodd yn ôl wrthyf cyn diwedd mis Mai.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.