Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (ETS y DU) sy’n cynnwys Gweinidogion o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, wedi cyhoeddi dau ymgynghoriad ar ehangu ETS y DU. Yn ogystal, mae Ymateb yr Awdurdod wedi cael ei gyhoeddi sy’n cadarnhau newidiadau arfaethedig o ran trin dyraniadau am ddim i weithredwyr sy’n dod â gweithgareddau i ben yn barhaol ar eu safleoedd. 

Ym mis Gorffennaf 2023 cadarnhaodd yr Awdurdod ei fwriad i gynnwys y sector morol domestig yn y cynllun o 2026. Bydd hyn yn dechrau gyda throthwy llong o 5000GT, er bod ymrwymiad i ailasesu'r trothwy hwn erbyn 2026. Mae'r ymgynghoriad yn rhoi rhagor o fanylion ar sut y bydd yr ehangiad hwn yn cael ei weithredu, gan roi eglurder i sbarduno buddsoddiad mewn datgarboneiddio.

Daw'r ymgynghoriad ar ddulliau cludiant heblaw piblinellau (NPT) (h.y. morgludiant, cludiant ar ffyrdd neu reilffyrdd ar gyfer symud carbon wedi'i ddal i storfa ddaearegol) yn dilyn cyhoeddiad yr Awdurdod, hefyd fis Gorffennaf diwethaf, ei fod yn bwriadu cydnabod dulliau NPT o gludo CO2.  Mae’n rhoi rhagor o fanylion ac yn gofyn am farn ar y fframwaith rheoleiddiol sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu. Bydd hyn yn galluogi gweithredwyr sy'n cludo CO2 i'w storio drwy ddulliau cludiant heblaw piblinellau i ddidynnu'r allyriadau hyn. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i ddiwydiant yng Nghymru heb opsiynau storio addas, fel Clwstwr Diwydiannol De Cymru. 

Bydd yr Awdurdod, ynghyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, yn ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt i gasglu barn i gefnogi penderfyniadau terfynol ar sut y bydd ETS y DU yn cael ei ehangu. Bydd y diwygiadau hyn i ETS y DU yn gofyn am ddiwygiadau i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, felly bydd y Senedd, ynghyd â Seneddau eraill y DU yn cael cyfle i graffu ar gynlluniau unwaith y byddant wedi'u cwblhau. 

Mae ymateb cychwynnol yr Awdurdod yn dilyn cynigion i wneud dau newid technegol i reolau dyraniadau am ddim yn yr ymgynghoriad ar yr Adolygiad o Ddyraniadau Am Ddim a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023.  Mae un yn ymwneud â thrin terfyniadau parhaol ac mae'r llall yn egluro'r diffiniad o derfyniad parhaol. Mae dyraniadau am ddim yn lwfansau a ddarperir am ddim i ddiwydiannau sydd â chystadleuwyr byd-eang o wledydd sydd â pholisïau hinsawdd llai uchelgeisiol. 

O dan y rheolau cyfredol, pan fydd gweithgarwch yn dod i ben yn barhaol, mae gweithredwyr yn cadw dyraniadau am ddim yr oedd ganddynt hawl iddynt yn ystod y flwyddyn olaf y buont yn gweithredu ynddi. Fodd bynnag, gan fod y dyraniadau blwyddyn olaf yn seiliedig ar lefelau gweithgarwch cyfartalog gallai gweithredwyr gael mwy o lwfansau yn eu blwyddyn olaf na'r hyn sy'n ofynnol i liniaru ar ddadleoli carbon. Bydd y rheolau newydd yn newid hyn fel y byddai lefel y lwfansau a roddir yn y flwyddyn olaf o weithredu yn seiliedig ar lefelau gweithgarwch gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn olaf honno. Bydd eithriad i'r rheol newydd ar waith ar gyfer pan fydd gweithgarwch yn dod i ben at ddibenion datgarboneiddio e.e. gosod technoleg newydd. Felly, bydd cyfranogwyr sy'n cau ar gyfer datgarboneiddio yn gallu cadw'r hawl lawn, yn amodol ar ddarparu digon o dystiolaeth. Mae hyn yn cyd-fynd â chynnal cymhelliant y cynllun i ddatgarboneiddio. 

Bydd y newidiadau hyn i'r rheolau yn gofyn am newidiadau i'r ddeddfwriaeth, a fydd yn cael eu gwneud yng Ngorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2025. Ar hyn o bryd bwriedir ei osod yn y Senedd ym mis Rhagfyr 2024, gyda'r dyddiad dod i rym ym mis Chwefror 2025. 

Mae ETS y DU yn parhau i fod yn ysgogiad polisi pwysig iawn yng Nghymru, gan ddarparu arwydd hanfodol o fuddsoddi yn y datgarboneiddio sydd ei angen i gyflawni ein nodau Sero Net. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr ymgyngoriadau yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd ati i ehangu'r cynllun, gan gynyddu'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd wedi'u cynnwys o dan ei gap allyriadau yn y pen draw. Bydd gwneud y newidiadau i reolau dyraniadau am ddim hefyd yn gwella tegwch a thargedu dyraniadau am ddim yn y cynllun, gan sicrhau y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyfranogwyr sydd ei angen fwyaf.

Rwy'n disgwyl ysgrifennu eto ynglŷn â chanlyniad yr ymgyngoriadau a'r cynigion polisi pellach yn ystod y misoedd nesaf. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i roi gwybod iddynt am yr ymgyngoriadau hyn ac Ymateb yr Awdurdod.