Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2023-24

O dan Adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru, gofynnir i Weinidogion Cymru fabwysiadu Strategaeth Iaith Gymraeg ac, yn dilyn pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad ar sut y cafodd y strategaeth ei rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw. 

Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a nifer o’n partneriaid yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24 wrth weithredu strategaeth Cymraeg 2050. Mae’r adroddiad yn adolygu’r camau a gymerwyd mewn ymateb i Raglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-2026, yn ogystal â’n Rhaglen Lywodraethu.

Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ein hymdrechion yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24 i gyflawni’r ddau brif darged:

  • Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i 1 miliwn erbyn 2050.
  • Cynyddu canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn ddyddiol ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o’r Gymraeg o 10% (yn 2013-15) i o leiaf 20% erbyn 2050.

Caiff yr adroddiad ei strwythuro o amgylch tair thema strategaeth Cymraeg 2050:

  1. Cynyddu’r niferoedd sy’n gallu siarad Cymraeg.
  2. Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
  3. Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun.

O ystyried natur gynhwysfawr yr adroddiad hwn, fy mwriad y flwyddyn nesaf fydd cyhoeddi dogfen â mwy o ffocws, gan dynnu sylw at y newidiadau sydd wedi digwydd dros y deuddeg mis ers adroddiad 2023-24. 

Mae’n bwysig bod y flwyddyn adrodd hon, fel bob amser, yn cael ei hystyried fel rhan o lwybr hirdymor ym maes polisi iaith Gymraeg. Rydym felly wedi cynnig sesiwn friffio dechnegol i Aelodau’r Senedd a oedd yn dymuno bod yn rhan o drafodaeth ehangach am y data a’r tueddiadau yn y maes. Gyda’n gilydd, gallwn osod sylfaen gadarn i’r Gymraeg ar gyfer y dyfodol ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio ân partneriaid yng Nghymru a thu hwnt gyda’r gwaith pwysig hwn.