Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch profion system gyfan a gynhaliwyd gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) yn dilyn argymhellion gan Banel Arbenigwyr Llywodraeth y DU a sefydlwyd yn sgil trychineb Tŵr Grenfell. Cyfeiriodd fy natganiad ysgrifenedig ar 28 Gorffennaf at ganlyniad y prawf cyntaf.
Cynhaliwyd ail brawf graddfa fawr y penwythnos diwethaf. Roedd yn ymwneud â:
Defnydd Alwminiwm Cyfansawdd (ACM), categori 3, ag insiwleiddiad gwlân mwynol.
Methodd y system wal hon y prawf. Ystyr hyn yw na wnaeth y deunydd atal tân yn ddigonol rhag lledu ar hyd y wal yn unol â'r safon sy'n ofynnol yn y canllawiau cyfredol ar Reoliadau Adeiladu.
Mae'r ACM â system insiwleiddio gwlân mwynol yn debyg i'r cyfuniad ar y tri adeilad y mae Cartrefi Dinas Casnewydd (NCH) yn berchen arnynt. Rhain oedd yr unig samplau (sy'n berthnasol i'r profion hyn) y cadarnhawyd iddynt gael eu hanfon o adeiladau yng Nghymru.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda NCH, sydd wedi bod mewn cysylltiad clos â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (SWFRS) er mwyn sicrhau bod pob mesur a argymhellwyd i ddiogelu tenantiaid yn cael ei roi ar waith. Mae NCH wedi mynd ati i gynllunio ar gyfer cysylltu â'i denantiaid, rhoi gwybodaeth iddynt a thawelu eu meddyliau ers i'r drychineb ddigwydd ac mae eisoes wedi rhoi nifer o gamau gweithredu ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys darparu wardeniaid tân yn yr eiddo ddydd a nos, rhoi gwybodaeth i denantiaid wyneb yn wyneb a chynnal cymorthfeydd rheolaidd ar y cyd â SWFRS i ymdrin â chwestiynau a phryderon a godwyd gan y tenantiaid. Bydd angen i NCH ystyried yn ofalus nawr a rhoi mesurau ychwanegol a nodwyd gan y Panel Arbenigwyr, a'i ymchwiliadau pellach ei hun, ar waith.
Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i'r drefn brofi fynd rhagddi.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.