Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Cynhaliwyd Cyfarfod Llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, dan gadeiryddiaeth Prif Weinidog y DU, yng Nghaerdydd ddydd Llun 30 Ionawr. Dyma’r tro cyntaf i gyfarfod llawn o’r fath gael ei gynnal y tu allan i Lundain, ac roeddwn yn falch o gael croesawu cydweithwyr o weinyddiaethau’r Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon i Gymru.
Y prif fater dan sylw, wrth gwrs, oedd ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Cyflwynwyd ein Papur Gwyn “Diogelu Dyfodol Cymru”, a gynhyrchwyd ar y cyd gyda Phlaid Cymru ac a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, fel dogfen ffurfiol i’w thrafod. Pwysleisiais fod y prif faterion i Gymru yn ymwneud â’r gallu i gymryd rhan yn llawn ac yn ddirwystr yn y Farchnad Sengl ynghyd â pholisi synhwyrol a hyblyg ar fudo i ddiwallu anghenion recriwtio Cymru yn y dyfodol.
Hefyd bu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ystyried opsiynau masnach ryngwladol sy’n codi i’r Deyrnas Unedig wrth ymadael â’r UE. Eglurais ymrwymiad Cymru at fasnach rydd ryngwladol heb rwystrau, a’n bod yn benderfynol o weithio gyda busnesau i hyrwyddo masnach a buddsoddi lle bynnag yn y byd y bydd cyfle’n codi. Nodais fod Llywodraeth Cymru’n gweithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a’i hasiantaethau ar draws y byd ac y bydd yn parhau i wneud hynny wrth i gyfleoedd masnach newydd ddod i’r golwg.