Neidio i'r prif gynnwy

Croeso i Gymru / welcome to Wales

Fframwaith canllaw ar yr wybodaeth hanfodol i helpu nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol i integreiddio yn GIG Cymru.

Cefndir

Y GIG yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, ac ers amser maith mae wedi elwa ar gyfraniad nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol, sy'n chwarae rhan hanfodol yn y ddarpariaeth gofal iechyd ar hyd a lled y wlad. Er gwaethaf ymdrechion i ddenu, cyflogi a hyfforddi mwy o nyrsys yn lleol, nid yw nifer y graddedigion prifysgol a addysgir yn y wlad hon wedi gallu cadw i fyny â'r galw cynyddol. Mae'r pwysau cynyddol ar wasanaethau'r GIG, a waethygir gan effeithiau parhaus y pandemig Covid, wedi dwysáu'r prinder gweithlu ymhellach, gan wneud recriwtio rhyngwladol yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r bylchau hyn.

Mae llawer o waith yn parhau i gael ei wneud i ddenu, cyflogi, buddsoddi, a hyfforddi mwy o nyrsys i weithio yn ein GIG. Mae recriwtio rhyngwladol yn un rhan o strategaeth gweithlu gynhwysfawr, ac ni fwriedir iddo fod yn ateb hirdymor ynddo'i hun.

Fframwaith

Mae'r rhaglen recriwtio rhyngwladol foesegol, unwaith i Gymru, yn cefnogi ein GIG drwy ddarparu dull gweithredu cyson ar gyfer gweithredu model recriwtio moesegol a chynaliadwy. Er mai’r byrddau iechyd unigol sy’n gyfrifol am gynllunio'u gweithlu eu hunain, drwy gyflwyno'r fframwaith hwn a lansio'r ap pwrpasol, byddwn yn sefydlu dull gweithredu cyson ar gyfer darparu cymorth a llesiant trwy'r wybodaeth a roddir i'r nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol sy'n ymuno â gweithlu GIG Cymru.

Mae'r fframwaith canllaw hwn yn sefydlu dull gweithredu clir ar gyfer ymdrin â sut y bydd pob sefydliad GIG, sy'n cyflogi'r nyrsys hyn, yn darparu gwybodaeth drwy ap pwrpasol. Ariennir yr ap yn ganolog ar gyfer 1,500 o drwyddedau dros gyfnod o dair blynedd, ac ar ôl hynny bydd y tîm recriwtio rhyngwladol canolog yn adolygu ac yn gwerthuso'r angen am drwyddedu parhaus. Mae'r fframwaith yn amlinellu adrannau hanfodol y mae'n rhaid eu cynnwys mewn deunyddiau cymorth lleol i sicrhau bod dull gweithredu cyson a theg ar waith ar gyfer ymdrin â gwybodaeth sy'n helpu nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol i integreiddio'n broffesiynol ac addasu'n bersonol i fywyd yng Nghymru.

Nid yw'r enghreifftiau craidd yn y fframwaith yn rhai cynhwysfawr, gan ganiatáu hyblygrwydd i sefydliadau adeiladu arnynt a'u haddasu lle bo angen. O ystyried natur esblygol bywyd a gofal iechyd, rhaid i'r wybodaeth a ddarperir barhau'n ddeinamig a chael ei diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu newidiadau mewn systemau cymorth a pholisïau allweddol.

Bydd y nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol sydd wedi sicrhau contract gyda GIG Cymru yn cael mynediad i drwydded ap, gan eu galluogi i dderbyn gwybodaeth cyn iddynt gyrraedd.

Y fframwaith a'r ap

Yn hytrach na chreu pecyn cymorth annibynnol i Gymru, mae'r ap bugeiliol yn cefnogi'r fframwaith canllaw drwy alluogi sefydliadau i addasu ac ychwanegu gwybodaeth atodol wedi'i theilwra i'w cyd-destun lleol, gyda phecyn cymorth hygyrch a hyblyg. Bydd yr ap yn cynnig mynediad hawdd i ystod gynhwysfawr o wybodaeth sy'n gysylltiedig â gwaith ac sy'n canolbwyntio ar y gymuned, gan helpu nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol i integreiddio'n esmwyth i'w rolau proffesiynol a'r gymuned leol.

Yn ogystal â'r meysydd allweddol a amlinellir yn y fframwaith, mae'n ofynnol i bob sefydliad GIG ddarparu gwybodaeth benodol am bolisïau cenedlaethol allweddol Cymru. Bydd rhaglenni ymsefydlu sefydliadol yn helpu'r nyrsys hyn i ddeall a chadw at arferion, polisïau a safonau proffesiynol Cymru, gan gydnabod y gwahanol safbwyntiau polisi ac arferion ledled y byd er enghraifft atal a rheoli heintiau, a threfniadau diogelu ac adrodd.

Mae strwythur llywodraethu'r ap wedi ei gynllunio i sicrhau bod y cyfrifoldeb am reoli cynnwys a diweddariadau yn glir. Bydd hafan yr ap yn cael ei rheoli'n ganolog gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Bydd pob sefydliad sy'n recriwtio nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol yn gyfrifol am reoli a diweddaru eu priod dudalennau, a gellir mynd at y tudalennau hyn o'r hafan. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r ap, ni fydd yn gyfrifol am y gwaith parhaus o reoli gwybodaeth. Y sefydliadau unigol sy'n gyfrifol am gynnal a diweddaru'r cynnwys.

GIG Cymru

Meysydd polisi craidd

Mae'r fframwaith yn tynnu sylw at bolisïau allweddol a fydd yn cael sylw amlwg ar "dudalen lanio" yr ap ar gyfer GIG Cymru. Er nad yw'r rhestr isod yn gynhwysfawr, mae'n rhoi enghreifftiau o'r mathau o wybodaeth a fydd yn hygyrch i nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol, er mwyn sicrhau eu bod yn meddu ar yr wybodaeth briodol ac yn cael eu cefnogi wrth iddynt ddechrau ar eu gyrfaoedd yng Nghymru:

  • polisi a chanllawiau cenedlaethol Cymru
  • safonau ac arferion proffesiynol
  • protocolau diogelu
  • fframweithiau adrodd a llywodraethu
  • gwybodaeth am fewnfudo a gwybodaeth gyfreithiol
  • gwybodaeth am y llysgenhadaeth leol neu'r conswl

Fel y nodwyd, nid yw'r wybodaeth sydd ei hangen yn gynhwysfawr, ond mae'n darparu enghreifftiau o bolisïau a fydd yn ymddangos ar "dudalen lanio" yr ap. Polisïau megis:

Adrannau'n seiliedig ar themâu allweddol i'w cynnwys yn yr ap: nodwch eto nad yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr

Gwybodaeth gefndir gyffredinol am y bwrdd iechyd, gweithio yng Nghymru, a'r ardal gyfagos

I'w cynnwys:-

  • trosolwg o Gymru (diwylliant, daearyddiaeth, y Gymraeg)
  • cyflwyniad i system GIG Cymru
  • trosolwg cyffredinol o reolau / rheoleiddio / ymddygiadau sy'n dderbyniol yn ddiwylliannol ar gyfer byw a gweithio yng Nghymru er enghraifft rheolau cod priffyrdd, o safbwynt cyfreithiol a throseddol cyffredinol
  • map o ardal y bwrdd iechyd lleol/yr ymddiriedolaeth, gan gynnwys lleoliadau allweddol
  • canllawiau proffesiynol
  • daearyddiaeth gyffredinol – poblogaeth, gwasanaethau a ddarperir hy gwasanaethau sylfaenol, acíwt, trydyddol ac ati
  • nifer yr ysbytai a'r mathau / gwasanaethau a ddarperir / y boblogaeth a wasanaethir
  • niferoedd staffio ar draws y bwrdd iechyd, sef staff nyrsio a chyffredinol
  • timau/unigolion allweddol sy'n gweithio ar draws y bwrdd iechyd a manylion cyswllt gan gynnwys:-
    • addysg
    • adnoddau dynol
    • rheolwr llinell
    • mentor/goruchwyliwr
    • fforwm / tîm nyrsys rhyngwladol

Cymorth cymdeithasol bugeiliol

I'w cynnwys:

  • cyswllt cyn cyrraedd
  • casglu a chefnogi wrth gyrraedd y maes awyr
  • cysylltiadau brys (yr heddlu, tân, ambiwlans)
  • llinellau cymorth a gwasanaethau'r GIG
  • hanfodion byw: llety:
    • cymorth a ddarperir ac am ba gyfnod
    • manylion gwerthwyr tai – i'w rhentu ac i'w prynu (ar ôl cymorth cychwynnol)
    • gwybodaeth gyffredinol arall er enghraifft treth gyngor; ardrethi dŵr; cofrestru ar gyfer cyfleustodau; trwydded teledu ac ati
  • gwasanaethau cymorth / darpariaeth gofal iechyd:
    • asesiad iechyd galwedigaethol, gan gynnwys gofynion brechu
    • cofrestru gyda meddyg teulu
    • cofrestru gyda deintydd
    • optometrydd
    • fferyllfeydd
  • trafnidiaeth gyhoeddus:
    • darparu cymorth sefydliadol
    • gwasanaethau bws
    • gwasanaethau trên
    • tacsis
  • gwasanaethau ariannol a bancio:
    • gwasanaethau bancio yn yr ardal
    • dogfennaeth ofynnol i agor cyfrif
  • siopa a manwerthu:
    • bwydydd (archfarchnadoedd / siopau lleol)
    • dillad
    • nwyddau i'r cartref
  • hamdden:
    • llyfrgelloedd
    • clybiau ffitrwydd
    • canolfannau hamdden
    • hybiau cymunedol
  • ffydd / crefydd / anghenion a rhwydweithiau ysbrydol
    • gwasanaethau caplaniaeth
    • eglwysi / mosgiau / synagogau / temlau / canolfannau Bwdhaidd / canolfannau Hindŵaidd ac ati
    • rhwydweithiau – cymdeithasau sefydliadol penodol ac allanol er enghraifft mwyafrif byd-eang, BINA (Cymdeithas Nyrsys Indiaidd Prydeinig), y Gymdeithas Nyrsys Ffilipino ac ati
  • gwybodaeth am ddiwylliant/sesiynau gan gynnwys y sefyllfa ddiogelu yng Nghymru
  • addysg a chefnogaeth i deuluoedd
  • ysgolion a chyfleusterau gofal plant
    • ysgolion
    • meithrinfeydd a gofal plant
  • lleoedd i fwyta
    • bwytai, caffis, siopau coffi

Ymsefydlu sefydliadol

I'w cynnwys:

  • rhaglen ymsefydlu/cyfeiriadedd:
    • pob rhaglen ymsefydlu ar gyfer staff
    • cynllun datblygu ar waith o fewn 6 mis i'r dyddiad dechrau
    • cod gwisg Cymru gyfan / gwisgoedd nyrsio cenedlaethol yn GIG Cymru
    • cyflog a phensiynau
    • polisi codi llais yn ddiogel
    • adnoddau a chysylltiadau cyffredinol er enghraifft y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, 111, polisïau iechyd Llywodraeth Cymru, RCN (Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru), llywodraeth leol

Paratoi ar gyfer OSCE (archwiliad clinigol strwythuredig a welwyd)

I'w cynnwys:

  • manylion rhaglen baratoi OSCE er enghraifft:
    • hyd y rhaglen
    • y sawl a fydd yn cefnogi gwaith cyflenwi'r bwrdd iechyd, gan gynnwys manylion cyswllt
    • cynnwys y rhaglen, gan gynnwys hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb; dylid ystyried cynnwys gwybodaeth benodol am GIG Cymru ee byrfoddau a therminoleg
    • cymorth ôl-gofrestru a'r hyn sydd i'w ddisgwyl
    • dylid darparu manylion am ganolfannau a gweithdrefnau prawf y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth