Fframwaith integreiddio ar gyfer nyrsys a addysgir yn rhyngwladol (WHC/2024/021)
Canllawiau hanfodol i helpu nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol i integreiddio i GIG Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Gweithredu.
Categori:
Y gweithlu.
Teitl:
Croeso i Gymru / welcome to Wales: fframwaith canllawiau polisi.
Dyddiad dod i ben / dyddiad yr adolygiad:
Amherthnasol.
I'w weithredu gan:
- Brif weithredwyr, byrddau / ymddiriedolaethau / awdurdodau iechyd arbennig.
- Prif swyddogion gweithredu, byrddau iechyd / ymddiriedolaethau / awdurdodau iechyd
arbennig. - Cyfarwyddwyr cyllid, byrddau iechyd / ymddiriedolaethau / awdurdodau iechyd arbennig
- Cyfarwyddwyr y gweithlu, byrddau iechyd / ymddiriedolaethau / awdurdodau iechyd arbennig
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio, byrddau iechyd / ymddiriedolaethau / awdurdodau iechyd
arbennig - Cyfarwyddwyr meddygol - byrddau iechyd / ymddiriedolaethau / awdurdodau iechyd
arbennig.
Anfonwr:
Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru.
Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Gill Knight gillian.knight@gov.wales
Dogfennau amgaeedig:
Cylchlythyr iechyd Cymru: darparu gwybodaeth safonol ar gyfer nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol
Mae'r cylchlythyr iechyd Cymru hwn yn disgrifio'r safon ar gyfer sicrhau cysondeb yn y dull gweithredu a ddefnyddir i ddarparu gwybodaeth hanfodol i gefnogi nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol sy'n dewis byw a gweithio yng Nghymru. Mae'r nyrsys hyn yn rhan annatod o'r gweithlu ehangach, gan gyfrannu at y gwaith o ddarparu gofal iechyd diogel o ansawdd uchel. Felly, mae'n hanfodol bod sefydliadau'r GIG ledled Cymru yn darparu gwybodaeth berthnasol a chyson i sicrhau y gallant drosglwyddo'n esmwyth ac ymgartrefu yn eu hamgylcheddau proffesiynol a chymdeithasol.
Cafodd ein fframwaith canllawiau polisi, croeso i Gymru / welcome to Wales, ei ddatblygu ar y cyd i hyrwyddo dull gweithredu unffurf a theg ar gyfer darparu gwybodaeth. Mae'r fframwaith yn amlinellu themâu trosfwaol sy'n diffinio'r wybodaeth ofynnol y mae'n rhaid ei rhoi i nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol. Mae'r themâu hyn yn cynnwys:
- gwybodaeth am gefndir cyffredinol y bwrdd iechyd/ymddiriedolaeth, gweithio yng Nghymru, a'r ardal leol
- cefnogaeth fugeiliol a chymdeithasol
- ymsefydlu sefydliadol
- paratoi OSCE (arholiad clinigol gwrthrychol strwythuredig)
- cyd-destun polisi ehangach
Mae'r wybodaeth a nodir o dan y themâu hyn yn cynrychioli'r safon ofynnol, ac felly dylai fod ar gael yn rhwydd. Fodd bynnag, anogir sefydliadau'r GIG i gynnwys manylion perthnasol ychwanegol. Hefyd, rhaid i bob sefydliad ddarparu gwybodaeth benodol sy'n ymwneud â pholisïau, strategaethau a chanllawiau Cymru gyfan.
Er mwyn hwyluso'r broses o ddarparu'r wybodaeth hon mewn modd cyson, mae'r ap bugeiliol (recriwtio rhyngwladol GIG Cymru/NHS Wales international recruitment) wedi cael ei ariannu'n ganolog am dair blynedd. Mae'r ap hwn yn galluogi nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol i gael mynediad at wybodaeth hanfodol, sef gwybodaeth y gall y sefydliad perthnasol ei rheoli a'i diweddaru'n hawdd.
Mae'r ap wedi ei gynllunio i gyd-fynd â'r gofynion a amlinellir yn y fframwaith, gan sicrhau bod gwybodaeth gyson a hygyrch ar gael mewn un lleoliad. Mae'n caniatáu i sefydliadau ddiweddaru gwybodaeth yn hawdd, gan sicrhau bod y canllawiau a roddir i nyrsys a addysgwyd yn rhyngwladol yn parhau mor gyfredol â phosibl. Mae'r ap hefyd yn cynnig yr hyblygrwydd i gynnwys gwybodaeth ychwanegol sy'n benodol i fwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth, ac mae'n cynnwys system rybuddio ar gyfer sicrhau bod y nyrsys yn cael diweddariadau brys a hefyd ddiweddariadau nad ydynt yn rhai brys.
Mae'r adnodd deinamig hwn o fudd i'r nyrsys hyn ac i sefydliadau'r GIG drwy ei fod yn gwella cyfathrebu. Fodd bynnag, mae'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau'r GIG sicrhau eu bod yn monitro ac yn diweddaru'r wybodaeth sydd ar gael drwy'r ap, yn unol â chanllawiau'r fframwaith. Felly, disgwylir i sefydliadau sicrhau bod y cynnwys yn gwbl gyfredol, a bod y nyrsys hyn yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n ddigonol yn eu gwaith a'u bywydau cymdeithasol. Hefyd, mae'r ap yn darparu llwyfan i'r nyrsys gyfathrebu'n uniongyrchol â'u cyflogwyr, eu rheolwyr llinell, a'u cymheiriaid, gan feithrin cysylltiadau cryfach a galluogi cymorth mwy effeithiol.
Yn gywir,
Sue Tranka
Y Prif Swyddog Nyrsio