Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o gyhoeddi bod yr adroddiad cynnydd blynyddol statudol ar Drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2023-24 wedi’i gyhoeddi, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. 

Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud tuag at ei nod o roi terfyn ar drais ar sail rhywedd yng Nghymru. Mae’n cwmpasu’r gwaith a gwblhawyd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, gan gyfeirio at y chwe amcan a nodir yn Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026. 

Mae cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol yn cyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, ac rwy’n falch o ymuno â’r gymuned fyd-eang i gydnabod yr angen i ddileu pob agwedd ar drais yn erbyn menywod ac i anrhydeddu gwytnwch goroeswyr ym mhobman.

Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi parhau â’n dull Glasbrint i gyflawni’r Strategaeth. Mae Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, yr wyf yn ei gyd-gadeirio ochr yn ochr â’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Emma Wools, ar ran Plismona yng Nghymru, yn sicrhau bod asiantaethau datganoledig, asiantaethau nad ydynt wedi’u datganoli, sefydliadau anllywodraethol, gwasanaethau arbenigol a goroeswyr yn gweithio gyda’i gilydd tuag at ddyfodol lle gall pawb fyw heb ofn a niwed. 

Yn hydref 2023, gwnaethom adrodd am ein cynnydd cynnar ar gamau gweithredu lefel uchel y Glasbrint. Eleni, rwyf wedi cyfuno’r adroddiad ar ein strategaeth a’r glasbrint i ddangos arwyddocâd y dull Glasbrint. 

Hoffwn dynnu sylw at rai enghreifftiau o’n cynnydd dros y flwyddyn ddiwethaf:

  • Mae ein hymgyrch ‘Iawn’, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn enghraifft lwyddiannus o sut y gall dynion a bechgyn ledled Cymru gymryd rhan yn y drafodaeth i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’r ymgyrch yn defnyddio modelau rôl gwrywaidd adnabyddus, cadarnhaol a dylanwadol i dynnu sylw at ymddygiad cadarnhaol ac i drafod ymddygiadau problemus i gam-drin fel bomio â chariad, dibwyllo, ac ymddygiad o reoli a gorfodi. Hyd yma, mae dros 380,000 o ddynion a bechgyn - sydd dros 95% - yn yr oedran targed ledled Cymru wedi gweld ymgyrch Iawn.
  • Rydym wedi ariannu cynllun peilot ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol, Arwain y Newid. Mae’r cynllun peilot tair blynedd hwn yn cael ei gynnal ledled Cymru gan Kindling Transformative Interventions a Plan International UK ac mae wedi’i gyflwyno i dros 250 o gyfranogwyr. Byddwn yn gwerthuso’r cynllun peilot pan fydd yn dod i ben. 
  • Mae ein Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr, dan arweiniad ein Cynghorwyr Cenedlaethol, Yasmin Khan a Johanna Robinson, wedi’i sefydlu’n llawn ac mae’n cynnwys grŵp amrywiol o oroeswyr sy’n cwmpasu’r sbectrwm cyfan o gamdriniaeth a thrais. Mae’r panel hwn yn galluogi’r rhai sydd â phrofiadau byw i lywio cyfeiriad polisi a chraffu ar y Strategaeth Genedlaethol, y glasbrint, a chynnydd y ffrydiau gwaith.
  • Lansiodd ein ffrwd waith Dull System Gyfan Gynaliadwy arolwg amlasiantaeth Cymru gyfan a seminarau dilynol, gan gasglu gwybodaeth am gryfderau a heriau mewn sawl maes gan gynnwys datblygu asesiadau o anghenion, trefniadau partneriaeth, cyflawni’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a phrosesau comisiynu. 
  • Cwblhaodd y ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle adolygiad llenyddiaeth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan ystyried maint a difrifoldeb y broblem, yr effaith ar oroeswyr a’r rhyngblethiad â nodweddion gwarchodedig. Yn ogystal, lansiodd y ffrwd waith gyfres o gynadleddau ar gyfer arweinwyr y sector cyhoeddus a phartneriaid allweddol ledled Cymru i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle. 
  • Dadansoddwyd canfyddiadau’r Arolwg Mapio Ymyriadau Cyflawni a rhannwyd yr adroddiad terfynol â rhanddeiliaid. Mae’r ffrwd waith bellach yn datblygu cyfeirlyfr ymyriadau gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd drwy’r arolwg. Bydd y cyfeirlyfr yn cynnwys gwybodaeth i weithwyr proffesiynol am ymyriadau cyflawni sydd ar gael yn eu rhanbarth a ledled Cymru.
  • Comisiynodd y ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc adroddiad gyda Cymorth i Ferched Cymru, “I’m a survivor too: how can you help me?” a wnaeth argymhellion ar gyfer y Glasbrint a rhanddeiliaid ehangach. Mae ymarfer mapio cyflym hefyd wedi’i gynnal ac mae’n amlinellu’r mecanweithiau a’r fforymau llais plant sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys y llwybr atgyfeirio. Mae’r ffrwd waith hefyd wedi cytuno ar broses adrodd ar gyfer y Cynllun Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion. 

Heddiw, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod, ac yn ystod yr 16 diwrnod o ymgyrchu sy’n dilyn, byddaf yn adnewyddu fy addewid i ddileu pob agwedd ar gam-drin a gwneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. 

Ni fydd Cymru yn anwybyddu camdriniaeth.