Trawsgydymffurfio: creu lleiniau clustogi (GAEC 1) (2025)
Crynodeb o'r rheolau ar ddefnyddio lleiniau clustogi i ddiogelu dŵr wyneb rhag llygredd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcan y gofyniad hwn yw diogelu dŵr wyneb rhag cael ei lygru gan gynhyrchion diogelu planhigion a charthion pathogenig drwy greu lleiniau clustogi. Gall y rhain gael effaith ddifrifol ar iechyd ac amrywiaeth dyfroedd croyw a morol, gan gynnwys y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ynddyn nhw. Mae gofyn cynnal y safon hon ar bob tir amaethyddol yng Nghymru.
Diffiniad
- mae dŵr wyneb yn cynnwys dyfroedd arfordirol, aberoedd, camlesi, llynnoedd, pyllau dŵr a chyrsiau dŵr fel afonydd, nentydd a ffosydd sydd â dŵr ynddynt sy’n llifo’n rhydd. Mae’n cynnwys hefyd ffosydd sy’n sych am gyfnod a ffosydd cudd
Prif ofynion
- ni ddylech ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb
- peidiwch â rhoi porthiant atodol o fewn 10 metr i ddŵr wyneb
Archwiliadau maes
- gofalu nad oes plaladdwyr wedi’u gwasgaru ar leiniau clustogi
- cadarnhau lleoliad unrhyw ddŵr wyneb a thyllau turio, pistyll a ffynhonnau ar eich tir eich hun a thir cyfagos cyn mynd ati i wasgaru unrhyw gynhyrchion diogelu planhigion neu wneud unrhyw borthi atodol
- sicrhewch bod y safleoedd porthi atodol ddim o fewn 10 metr i’r dŵr wyneb
Arferion da
- gofalwch fod lleiniau clustogi’n ddigon llydan i rwystro llif o’r tir a llygredd (gallai hynny olygu bod angen i’r llain glustogi fod yn lletach na’r gofyn)
- paratowch, diweddarwch a chadwch fap o’r daliad sy’n dangos lleoliad y dŵr wyneb a’r lleiniau clustogi fel y gallwch, os bydd angen, ei roi i gontractwyr neu edrych arno cyn mynd ati i wasgaru plaladdwr neu roi porthiant atodol
Gwybodaeth pellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
- Llywodraeth Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2025) o fewn y pecyn hwn.