Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Ar 19 Tachwedd, buom yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Dynion a'r gwerth cadarnhaol y mae dynion yn ei gynnig i'r byd, eu teuluoedd a'u cymunedau, gan dynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol a chodi ymwybyddiaeth o les dynion. Y thema ar gyfer 2024 yw "Modelau Rôl Gwrywaidd Cadarnhaol". Mae Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth fyd-eang am lawer o faterion sy'n wynebu dynion.
Lles dynion
Yn anffodus, mae dynion yn parhau i gynrychioli'r grŵp mwyaf tebygol o gyflawni hunanladdiad. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei atal, ac nid yw byth yn anochel. Mae achosion o hunanladdiad dair gwaith yn uwch ymhlith dynion na menywod. Rydym yn deall bod nifer o ffactorau a all arwain at y digwyddiadau trasig hyn ac, fel rhan o ddatblygiad ein Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed newydd, rydym yn mabwysiadu dull trawslywodraethol ac amlasiantaethol i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud i gynnig cefnogaeth i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed.
Mae'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol ddrafft a'r ymgynghoriad ar y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio bellach wedi'i gwblhau a bydd yn llywio'r strategaeth derfynol a'r cynllun cyflawni a gyhoeddir yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Yn 2022, fe wnaethom gyflwyno Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig yng Nghymru er mwyn rhoi gwybodaeth i helpu partneriaid i dargedu gweithgarwch atal, sicrhau bod cymorth ar gael, ac i ymateb pan fo angen. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar 11 Ionawr 2024.
Mae Men's Sheds Cymru yn un o'r sefydliadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi sy'n gyfrifol am hyrwyddo cysylltiad, sgwrsio a chreu gan wella lles a lleihau unigrwydd ac unigedd cymdeithasol. Mae llawer o bobl eisoes yn gallu cael gafael ar yr adnoddau gwych niferus sydd ar gael yn ein cymunedau neu'n gallu troi at eu ffrindiau a'u teulu i gael help a chyngor. Fodd bynnag, gall hyn fod yn anodd i rai, ac felly defnyddir presgripsiynu cymdeithasol, a elwir weithiau'n atgyfeiriad cymunedol, fel ffordd o gysylltu unigolion â gweithgareddau anghlinigol yn eu cymuned i helpu i wella eu hiechyd a'u lles. Lansiwyd y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2023.
Mae'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn nodi cyd-ddealltwriaeth o bresgripsynu cymdeithasol ac yn darparu canllawiau i gomisiynwyr a darparwyr gwasanaethau.
Rydym wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu Hapus, y Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddwl, ymgyrch genedlaethol sy'n ceisio annog pobl i flaenoriaethu eu lles meddyliol a'u cymell i weithredu trwy ymgysylltu ag ymddygiadau, gweithgareddau ac asedau sy'n hybu lles yn eu cymuned. Mae Hapus yn annog pobl i fyfyrio ar yr hyn sy'n eu helpu i deimlo'n dda a'i nod yw ysbrydoli'r boblogaeth i roi cynnig ar weithgareddau eraill sy'n seiliedig ar dystiolaeth y gwyddys eu bod yn hyrwyddo lles meddyliol.
Rydym yn parhau i gefnogi Cynllun Dyn gan Cymru Ddiogelach sy'n amddiffyn ac yn cefnogi pob dyn, gan gynnwys dynion hoyw, heterorywiol, deurywiol a thrawsrywiol sydd wedi profi cam-drin domestig yng Nghymru. Mae Cynllun Dyn yn gweithio i wella diogelwch a chynyddu llesiant drwy ddull cydweithredol gyda phartneriaid ledled Cymru ac rydym yn croesawu Bil Hawliau Cyflogaeth Llywodraeth y DU a'i gefnogaeth ar gyfer hawliau sy'n ystyriol o deuluoedd, gan gynnwys newidiadau i absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhieni ac absenoldeb oherwydd profedigaeth. Gallai'r newidiadau hyn olygu bod llawer mwy o weithwyr yn elwa ar newidiadau gan gynnwys tadau a phartneriaid na fyddent wedi bod yn gymwys ar gyfer absenoldeb tadolaeth o'r blaen.
Modelau rôl cadarnhaol
Mae Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-2026 Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal fel rhan o ddull system gyfan gadarn lle mae dynion yn cael modelu rôl cadarnhaol, cyngor dibynadwy, ac yn bwysicach, gweithio mewn partneriaeth ar bob lefel i atal trais rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae Achrediad y Rhuban Gwyn yn fenter fyd-eang i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod. Mae'n galw ar fechgyn a dynion i weithredu i wneud gwahaniaeth. Llwyddodd Llywodraeth Cymru i adnewyddu ei hachrediad ym mis Mawrth 2023 i ddangos ymrwymiad ac arweinyddiaeth glir yn y maes hwn. Llywodraeth Cymru yw'r unig weinyddiaeth o Lywodraeth y DU o hyd i gael achrediad y Rhuban Gwyn. Rydym am i'n cymunedau herio ymddygiadau amhriodol a chynnig cefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys grymuso dynion i ymgysylltu â dynion a bechgyn eraill i dynnu sylw at ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, cydweithwyr a chymunedau i hyrwyddo diwylliant o gydraddoldeb a pharch. Rydym yn gwahodd pob dyn ledled Cymru i fod yn Llysgennad Rhuban Gwyn.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd modelau rôl cadarnhaol ym mywydau pobl ifanc ac ym mis Gorffennaf 2023 lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch Sound. Amcanion cyffredinol yr ymgyrch oedd:
- Cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith dynion o ymddygiadau cynnar sy'n peri pryder o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Cynyddu cyfranogiad dynion mewn sgyrsiau ynghylch cydberthnasau iach i herio ymddygiadau ac agweddau niweidiol tuag at fenywod.
- Cynyddu dealltwriaeth dynion o'r lefelau niwed sy'n gysylltiedig â phob math o drais yn erbyn menywod.
Un darn allweddol o ddealltwriaeth ymddygiadol ar gyfer Sound oedd bod dynion yn gwrando ar ddynion ac felly, o gysylltu hyn â'r tueddiadau presennol o ran ymgysylltu â dylanwadwyr, penderfynwyd ei bod yn hanfodol defnyddio modelau rôl gwrywaidd proffil uchel yn yr ymgyrch.
Gan bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu dal sylw cynulleidfa fawr, mae modelau rôl gwrywaidd cadarnhaol yn chwarae rhan enfawr wrth godi ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol a gwrthsefyll agweddau ac ymddygiadau eithafol a niweidiol.
Cafwyd ymateb cadarnhaol iawn wrthddefnyddio dylanwadwyr fel modelau rôl cadarnhaol o dimau chwaraeon Cymru, cerddorion o Gymru, a phersonoliaethau sydd ar y ffrydiau adloniant poblogaidd fel teledu realiti.
- Daeth Ben Davies, Joe Morrell a David Brooks o Gymdeithas Bêl-droed Cymru at ei gilydd ar gyfer sgwrs yn yr ystafell newid am wrywdod cadarnhaol, a'r hyn y gall dynion ei wneud i helpu menywod i deimlo'n ddiogel yn gyhoeddus, a chafodd y cynnwys hwn ei weld yn ystod Gemau Rhagbrofol Cymru yn yr Ewros ac ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn.
- Trafododd Ellis Jenkins, Theo Cabango a Teddy Williams o Rygbi Caerdydd gydberthnasau iach, modelau rôl gwrywaidd a sut i gael cyngor adeiladol gan ffrindiau a chyfoedion.
- Cafodd Sound sgwrs gyda'r band Chroma o Gymru cyn iddynt fynd ar daith gyda'r Foo Fighters. Trafodwyd eu profiadau o ymddygiad misogonistaidd yn y diwydiant cerddoriaeth. Bu tipyn o sylw yn y wasg am hyn.
- Ymwelodd Connagh Howard o Love Island â'i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg i sgwrsio â myfyrwyr am gyderthnasau yn gyffredinol.
- Hefyd, trafododd Andrew Jenkins o'r rhaglen The Traitors ar y BBC a'i fab Morgan effaith trawma rhwng cenedlaethau ar ddatblygu cydberthnasau iach.
Fodd bynnag, mae wedi bod yn bwysig sicrhau bod y dylanwadwyr sy'n cael eu defnyddio nid yn unig yn unigolion enwog/proffil uchel ond hefyd yn ddylanwadwyr yn y gymuned sydd eisoes â swyddi o ymddiriedaeth a gwerth yn eu perthynas â dynion ifanc.
Mae'r defnydd o fodelau rôl sy'n cysylltu â'r gymuned, lle mae person sydd eisoes yn y gymuned yn llysgenhadon, wedi bod yn un o elfennau mwyaf llwyddiannus yr ymgyrch hyd yma. Mae wedi sbarduno newid y gellir ei weld yn yr unigolion y maent wedi gweithio â nhw.
Mae Zhivago (Vago) Greaux yn Rheolwr Prosiect yn Lloyds Banking Group. Mae hefyd yn hyfforddwr bocsio yng Nghlwb Bocsio Amatur St Joseph, lle daeth i gysylltiad â Sound am y tro cyntaf. O ganlyniad i'w gysylltiad cyson, mae Vago bellach yn cynnal sesiynau annibynnol ar lefel genedlaethol gyda Lloyds Banking Group i hyd at 500 o'u gweithwyr. Mae Vago yn fodel rôl ar gyfer gwrywdod cadarnhaol, yn ogystal â gweithio i gyfathrebu gwerth yryr ymgyrch i gannoedd o ddynion ifanc sy'n aelodau o glwb St Joseph.