Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Carys Williams
  • Mutale Merrill
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Tim Moss
  • Judith Paget
  • Tracey Burke
  • Andrew Slade
  • David Richards
  • Nia James
  • Dean Medcraft
  • Cynrychiolydd TUS
  • Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd

Yn mynychu

  • Cyd-gadeiryddion presennol a blaenorol Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol
  • Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol

Ysgrifenyddiaeth

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol

Ymddiheuriadau

  • Sioned Evans
  • Amelia John

1. Croeso, trafodaeth â Chyd-gadeiryddion Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol (MESN) a materion cyfredol

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a gafwyd. Cafodd cofnodion 2 Awst eu cymeradwyo yn amodol ar fân ddiwygiad.

1.2 Gwnaeth y Cadeirydd groesawu Cyd-gadeiryddion presennol a blaenorol Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol (MESN) i’r cyfarfod a’u gwahodd i feddwl am brofiadau eu haelodau ac i dynnu sylw’r Bwrdd at y materion y mae cydweithwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol yn eu profi.

1.3 Nododd Aled Edwards y pryderon a godwyd gan aelodau MESN a phwysleisiodd fod angen gweithredu i sicrhau bod staff yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn gallu codi pryderon.

1.4 Diolchodd Mike Usher i aelodau MESN am fod yn agored ac yn onest wrth godi pryderon ac am herio’r sefydliad i fynd i’r afael ag ymddygiadau annerbyniol. Amlygodd Mike yr angen i ymwreiddio gwrth-hiliaeth ym mhopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud.

1.5 Awgrymodd Mutale Merrill y dylid defnyddio’r system rheoli perfformiad fel modd o ymwreiddio gwrth-hiliaeth ar draws Llywodraeth Cymru.

1.6 Cymeradwyodd Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol alwadau i fynd i’r afael â hiliaeth, gan nodi natur groestoriadol gwaith yr amrywiol rwydweithiau staff a thynnu sylw at yr angen am ragor o gefnogaeth ar gyfer rhwydweithiau staff. Nododd y Bwrdd Cysgodol fod angen rhagor o ddata ar gadw staff â nodweddion gwarchodedig.

1.7 Croesawodd Judith Paget waith MESN gan dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio gyda phartneriaid cyflenwi a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus i wneud gwahaniaeth.

1.8 Ategodd cynrychiolydd TUS y pwyntiau a godwyd a thynnu sylw at yr angen i sicrhau bod gan reolwyr llinell yr wybodaeth a’r sgiliau priodol i fynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol yn y gweithle.

1.9 Nododd Dean Medcraft waith cynharach a wnaed i fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu ac awgrymodd y gellid ailedrych ar yr argymhellion a wnaed.

1.10 Cynigiodd Dom Houlihan, fel Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd, ei fyfyrdodau am y pwyntiau a godwyd. Cymeradwyodd Dom y galwadau i gefnogi cydweithwyr yn well, yn enwedig rheolwyr llinell, i fynd i’r afael ag ymddygiadau annerbyniol. Nododd Dom fod gan bob aelod o’r Uwch Wasanaeth Sifil o leiaf un amcan sy’n gysylltiedig â gwrth -hiliaeth a dywedodd y byddai canllawiau ychwanegol yn cael eu darparu ar y ffordd orau o ddwyn ynghyd amcanion effeithiol. Nododd Dom y gwaith y mae RedQuadrant wedi’i gomisiynu i’w wneud. Bydd cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu fel ymateb i ganfyddiadau’r gwaith hwnnw.

1.11 Nododd y Cadeirydd y cyhoeddiad am y Cabinet newydd a’r datganiad gan y Prif Weinidog ar y blaenoriaethau i Lywodraeth Cymru.

2. Gweledigaeth, egwyddorion a matrics aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru

2.1 Gwnaeth y Cadeirydd wahodd Tim Moss i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y cynnydd o ran datblygu datganiad o weledigaeth ac egwyddorion ar gyfer y sefydliad.

2.2 Yn dilyn trafodaeth yn y Bwrdd ar 2 Awst, a thrafodaethau dilynol gan gynnwys gyda’r Undebau Llafur, y Cyfarwyddwyr a’r Pwyllgor Gweithredol (ExCo), cafodd y datganiad o weledigaeth a’r egwyddorion eu datblygu ymhellach, gan ddefnyddio pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i siapio’r egwyddorion a dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â newid mewnol. Mae matrics aeddfedrwydd wedi cael ei ddatblygu i’w gwblhau gan groestoriad bach o’r sefydliad, er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o sefyllfa bresennol y sefydliad ac er mwyn helpu i ddeall y bwlch sydd angen ei bontio i wireddu’r weledigaeth ar gyfer y sefydliad. Cynhelir gweithdy ar gyfer y Cyfarwyddwyr Cyffredinol a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol i drafod y ffurflenni matrics aeddfedrwydd ymhellach ar 10 Hydref. Bydd hyn hefyd yn tynnu ar ganlyniadau’r gwaith i asesu’r holl amrywiaeth o newid sydd eisoes wedi’i gynllunio neu sydd ar y gweill. Bydd hefyd yn tynnu ar ganlyniadau’r trafodaethau â chyfarwyddwyr ynglŷn â swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru, i helpu i bennu’r blaenoriaethau fel rhan o’r agenda ar gyfer newid.

2.3 Croesawodd y Bwrdd Cysgodol dôn gadarnhaol y datganiad o weledigaeth a’r egwyddorion a phwysleisiodd fod angen i gydraddoldeb gael ei ymgorffori yn sylfeini’r rhaglen ar gyfer newid. Awgrymodd y Bwrdd Cysgodol y dylid rhoi eglurder pellach ar yr hyn y gellid disgwyl yn rhesymol i’r rhaglen ar gyfer newid ei gyflawni yn ystod gweddill tymor y Senedd hon.

2.4 Croesawodd y Cadeirydd fod pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael eu defnyddio, a nododd fewnbwn Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y Bwrdd a oedd wedi bod yn eiriol dros y dull hwn yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd. Nododd y Cadeirydd fod y Bwrdd yn cefnogi’r datganiad o weledigaeth a’r egwyddorion.

3. Datganiad o Barodrwydd i Dderbyn Risg Llywodraeth Cymru

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Bennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol i’r cyfarfod a’i gwahodd i gyflwyno Datganiad o Barodrwydd i Dderbyn Risg diwygiedig, drafft Llywodraeth Cymru i’r Bwrdd. Cafodd y Datganiad o Barodrwydd i Dderbyn Risg ei ystyried yn y Bwrdd ar 7 Mehefin, a chytunwyd y byddai rhagor o waith yn cael ei wneud ar adolygu’r datganiad dros yr haf.

3.2 Croesawodd Mike Usher y ddogfen ddiwygiedig a dywedodd y byddai Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Llywodraeth Cymru yn ystyried y datganiad o barodrwydd i dderbyn risg yn ei gyfarfod nesaf. Awgrymodd Mike y dylid bod yn gwbl eglur ynglŷn â’r parodrwydd i dderbyn risg sy’n cael ei gymhwyso mewn dogfennau cynigion prosiect a gofynnodd a oes angen categori ychwanegol ar gyfer dad-flaenoriaethu.

3.3 Nododd Carys Williams ba mor bwysig ydyw bod y parodrwydd i dderbyn risg yn cael ei berchenogi gan staff ar draws y sefydliad, ac awgrymodd y gellid defnyddio’r datganiad o barodrwydd i dderbyn risg i rymuso staff yn y sefydliad i wneud penderfyniadau ac i fodloni gweledigaeth y sefydliad a disgwyliadau’r Prif Weinidog i’r sefydliad fod yn un sy’n canolbwyntio ar gyflawni. Cytunodd David Richards ond pwysleisiodd fod angen rhoi sicrwydd i’r staff y byddent yn cael eu cefnogi pan fyddai materion yn codi. Cytunodd Aled Edwards, gan nodi’r angen i gefnogi staff yn enwedig ar adegau pan fo diffyg adnoddau.

3.4 Nododd Nia James fod natur gymhleth, sy’n ddibynnol ar gyd-destun, yn perthyn i risg, gan olygu bod angen gwahanol ddulliau o fynd ati i reoli risg.

3.5 Croesawodd Andrew Slade y datganiad o barodrwydd i dderbyn risg gan nodi bod angen i systemau reoli risg yn briodol pan fo’r parodrwydd i dderbyn risg yn uchel.

3.6 Diolchodd y Cadeirydd i gydweithwyr yn y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol am eu gwaith ar y datganiad o barodrwydd i dderbyn risg a nododd gefnogaeth y Bwrdd. Bydd ExCo yn adolygu’r datganiad o barodrwydd i dderbyn risg ac yn cytuno arno maes o law.

4. Diweddariad Ariannol Cyfnod 4

4.1 Gwnaeth y Cadeirydd wahodd Dean Medcraft i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am ragolygon alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-2025 a’r sefyllfa o ran y cronfeydd wrth gefn fel ag yr oedd ar 31 Gorffennaf (cyfnod 4). Ychwanegodd Dean nad yw’r ffigurau dros dro ar gyfer cyfnod 5 yn awgrymu unrhyw newid sylweddol yn y sefyllfa gyffredinol. Nododd y Bwrdd y diweddariad.

5. Cynllunio Diwrnod Datblygu’r Bwrdd

5.1 Ystyriodd aelodau’r Bwrdd y nodau a’r amcanion ar gyfer Diwrnod Datblygu’r Bwrdd y cynigiwyd ei gynnal. Byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn cydweithio ag aelodau’r Bwrdd y tu allan i’r cyfarfod i ddatblygu’r nodau ac amcanion ar gyfer y diwrnod.

6. Unrhyw fater arall

6.1 Ni chodwyd unrhyw fater arall.