Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y rhyddhad TTT (atodlen 21A) ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTTT/7110 Rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig

(Atodlen 21A)

Mae rhyddhad TTT ar gael ar gyfer rhai pryniannau tir ac adeiladau sydd o fewn safleoedd treth arbennig dynodedig, a hynny o dan Atodlen 21A o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (DTTT).

Bydd rhyddhad ar gael pan brynir tir ac adeiladau o fewn safle treth arbennig y Porthladd Rhydd Celtaidd o 26 Tachwedd 2024 hyd at 30 Medi 2029. 

Rhaid hawlio’r rhyddhad mewn ffurflen dreth neu mewn diwygiad i ffurflen dreth (adran 30(4) DTTT)

Gellir hawlio rhyddhad am dir o fewn safle treth arbennig, dim ond os bwriedir ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol ar yr adeg y caiff y tir ei brynu.

Unwaith y bydd rhyddhad yn cael ei hawlio, nid oes gwahaniaeth sut y defnyddir tir nad oedd yn gymwys am ryddhad – naill ai am nad oedd i’w ddefnyddio mewn modd cymhwysol neu am ei fod y tu allan i’r safle treth arbennig.

Ar wahân i rai eithriadau, bydd rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl os fydd tir cymhwysol yn peidio â chael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn ystod y cyfnod rheoli.

Mae’r rheolau ar gyfer trefniadau cyllid amgen yn sicrhau bod cymhwyster ar gyfer rhyddhad yn cael ei bennu drwy gyfeirio at y "person perthnasol" (sef y person, ac eithrio’r sefydliad ariannol a ymrwymodd i'r trefniant cyllid amgen).

DTTT/7111 Ystyr tir y trafodiad a safle treth arbennig

(Paragraffau 1 a 2, Atodlen 21A)

Ystyr “tir y trafodiad”, mewn perthynas â rhyddhad safle treth arbennig, yw buddiant trethadwy yn y tir sy’n destun y trafodiad. 

At ddibenion rhyddhad TTT, ystyr y safle treth arbennig yw'r ardaloedd hynny a ddynodwyd yn wreiddiol gan y rheoliadau ar y dyddiad y gwnaed y rheoliadau hynny. 

Dim ond os caiff Atodlen 21A ei diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau hyn y bydd newidiadau i’r ardal safle treth arbennig yn cael eu hadlewyrchu.

DTTT/7112 Tir cymhwysol

(Paragraff 3, Atodlen 21A)

Gelwir tir sy'n gymwys am ryddhad safle treth arbennig yn dir cymhwysol.

Er mwyn bod yn dir cymhwysol, rhaid i’r tir fod o fewn safle treth arbennig dynodedig a rhaid i’r prynwr fwriadu iddo gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig.

I fod yn gymhwysol, rhaid i dir y trafodiad fod o fewn safle treth arbennig ar yr adeg pan fo’r contract yn cael ei gwblhau, neu cyn hynny pan fo'r contract wedi'i "gyflawni'n sylweddol". Rhoddir ystyriaeth fanylach i gwblhau contractau a chyflawni sylweddol o DTTT/2130 ymlaen.

Ni all tir sydd y tu allan i safle treth arbennig fod yn gymwys am rhyddhad. Nid yw'r rheolau priodoli cydnabyddiaeth ym mharagraff 8 Atodlen 21A yn cael yr effaith o roi rhyddhad i dir y trafodiad sydd y tu allan i'r safle treth arbennig.

Bwriedir defnyddio tir mewn modd cymhwysol os yw'n bodloni un neu fwy o'r defnyddiau cymhwysol (DTTT/7113) ac nad yw’r defnydd bwriadol yn ddefnydd nad yw’n gymhwysol (DTTT/7114).

DTTT/7113 Modd cymhwysol

(Paragraffau 4(1), Atodlen 21A)

Defnyddir tir y trafodiad mewn modd cymhwysol os caiff ei ddefnyddio mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • fe’i defnyddir gan y prynwr neu berson cysylltiedig yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol
  • fe’i datblygir neu fe’i hailddatblygir gan y prynwr neu berson cysylltiedig i’w ddefnyddio (gan unrhyw berson) yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol
  • ymelwir arno gan y prynwr neu berson cysylltiedig, yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol, fel ffynhonnell rhenti neu dderbyniadau eraill (ac eithrio rhenti wedi eu heithrio a derbyniadau eraill)

Ystyr person cysylltiedig yw person sydd wedi'i gysylltu â pherson arall o dan adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010. Mae Adran 74 o DTTT (cyfeiriadau at bobl cysylltiedig) yn berthnasol i’r rhyddhad ar gyfer safleoedd treth arbennig.

Ar gyfer rhyddhad safleoedd treth arbennig, ystyr masnachol yw gweithgareddau a wneir ar sail fasnachol a chyda'r bwriad o wneud elw. Mae gan CThEF ganllawiau pellach ynghylch pryd y mae masnach neu broffesiwn yn cael ei gynnal ar sail fasnachol a chyda'r bwriad o wneud elw (mae canllawiau pellach ar gael yn BIM85705 CThEF).

Mae defnydd mewn masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol, at ddibenion safle treth arbennig, yn cynnwys defnydd yng nghwrs busnes rhentu eiddo. Mae gan “busnes rhentu eiddo" yr un ystyr â "property business" yn Neddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005. Mae CThEF yn darparu canllawiau i’ch helpu i ddeall pryd y mae gweithgaredd yn gyfystyr â busnes eiddo yn y DU (gweler  PIM1020 CThEF am arweiniad pellach).

Mae gan "rhenti wedi eu heithrio a derbyniadau eraill" yr un ystyr ag incwm o fewn unrhyw un neu ragor o ddosbarthau 1 i 6 yn y tabl yn adran 605(2) o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010.

DTTT/7114 Modd nad yw’n gymhwysol

(Paragraffau 4(2), Atodlen 21A)

Ni roddir rhyddhad os defnyddir tir y trafodiad mewn modd nad yw’n gymhwysol.

Bydd tir y trafodiad yn cael ei ddefnyddio mewn modd nad yw’n gymhwysol os caiff ei ddefnyddio mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:

  • caiff ei ddefnyddio fel annedd neu fel gardd neu diroedd annedd (ond gweler DTTT/7115 am eithriad i’r rheol hon)
  • caiff ei ddatblygu neu ei ailddatgblygu yn eiddo preswyl
  • ymelwir arno fel ffynhonnell rhenti neu dderbyniadau eraill sy’n daladwy gan berson sy’n defnyddio’r tir mewn modd nad yw’n gymhwysol
  • caiff ei ddal fel stoc busnes i’w ailwerthu heb ei ddatblygu na’i ailddatblygu 

Mae gardd neu diroedd annedd yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar y tir hwnnw.

DTTT/7115 Anheddau a ddarperir ar gyfer gofalwr a staff diogelwch

(Paragraffau 4(3), Atodlen 21A)

Defnyddir unrhyw ran o dir y trafodiad mewn modd cymhwysol os’i y defnyddir fel annedd, gardd neu dir annedd a ddarperir i unigolyn a theulu’r unigolyn er mwyn cyflawni dyletswyddau cyflogaeth yr unigolyn yn well fel gofalwr tir y trafodiad neu fel aelod o staff diogelwch tir y trafodiad.

Fel yr eglurir yn EIM11346 CThEF, y prawf gorau o berfformiad yw’r un gwrthrychol. Rhaid i'r prynwr ddangos bod yr annedd yn cael ei ddarparu er mwyn galluogi’r gweithiwr i gyflawni ei ddyletswyddau yn well na phe bai'n byw mewn man arall.

Nid yw’r ffaith bod annedd yn agos i’r gweithle yn ddigon i fodloni’r prawf hwn. Rhaid ystyried dyletswyddau’r gweithiwr fel gofalwr neu fel aelod o’r staff diogelwch.

Dyma rai dyletswyddau a allai fodloni’r prawf perfformiad gwell yn ymarferol:

  • bod angen i'r gweithiwr fod ar alwad y tu allan i oriau arferol a bod angen y gweithiwr y tu allan i oriau yn aml; a
  • bod yr annedd yn cael ei darparu er mwyn i'r gweithiwr gael mynediad cyflym i'r man cyflogaeth petai’n cael ei alw i’r lle hwnnw

DTTT/7116 Tir ategol

(Paragraff 4(4), Atodlen 21A)

Gellir hawlio rhyddhad am dir hefyd os yw ei ddefnydd yn ategol i’r defnydd o dir arall. Ni fydd tir yn gymwys am ryddhad fel tir ategol oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n angenrheidiol ar gyfer cefnogi'r tir arall dan sylw mewn modd cymhwysol.

I wneud cais, rhaid i'r tir arall fod o fewn safle treth arbennig a rhaid iddo gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol. Mae tir yn ategol pan fo’n cael ei ddefnyddio, ei ddatblygu, neu ei ailddatblygu yng nghwrs masnach fasnachol neu broffesiwn masnachol sy’n rhoi cymorth sy'n angenrheidiol i dir arall sydd ynddoi’i hun yn gymwys am ryddhad.

Mae enghreifftiau o ddefnydd ategol yn cynnwys:

  • ffyrdd mynediad i ffatrïoedd a warysau
  • meysydd parcio ar gyfer gweithwyr ffatri neu swyddfa

Er mwyn bod yn gymwys am ryddhad mae'n rhaid i'r tir ategol hefyd fod o fewn safle treth arbennig.

DTTT/7117 Cyfnodau rhyddhad

Mae’r rhyddhad safle treth arbennig yn berthnasol i'r Porthladd Rhydd Celtaidd yn y cyfnod rhwng 26 Tachwedd 2024 a 30 Medi 2029. 

DTTT/7118 Rhyddhad llawn

(Paragraff 6, Atodlen 21A)

Bydd trafodiad yn cael ei ryddhau'n llawn rhag TTT os yw 100% o’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad i’w phriodoli i dir cymhwysol a bod y dyddiad y daw trafodiad i rym o fewn y cyfnod rhyddhad.

Enghraifft

Mae Cwmni A yn ymrwymo i drafodiad cymhwysol sy’n dod i rym ar 1 Mai 2025. Mae'r dyddiad dod i rym o fewn y cyfnod penodol pan fo rhyddhad ar gael ac mae'r holl dir o fewn y safle treth arbennig. 

Mae’r cwmni’n caffael les ar gyfer eiddo sydd wedi'i leoli o fewn safle treth dynodedig. Mae'r holl gydnabyddiaeth drethadwy yn ymwneud â lleoliad a bwriedir ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol. 

Gan y gellir priodoli’r holl gydnabyddiaeth drethadwy tir y tafodiad yn gymhwysol, mae gan Cwmni A hawl i ryddhad llawn. 

Rhaid i Gwmni A gyflwyno ffurflen dreth TTT, gan gynnwys yr hawliad am ryddhad, o fewn 30 diwrnod i’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, sef erbyn 31 Mai 2025 yn yr achos hwn.

DTTT/7119 Rhyddhad rhannol

(Paragraff 7, Atodlen 21A)

Bydd trafodiad yn cael ei ryddhau'n rhannol rhag TTT os gellir priodoli llai na 100% ond mwy na 10% o gydnabyddiaeth drethadwy trafodiad tir i dir cymhwysol, ac os yw’r dyddiad y daw'r trafodiad i rym o fewn y cyfnod rhyddhad.

Bydd y TTT sydd i’w chodi yn cael ei gostwng gan gyfran sy’n cyfateb i’r gyfran berthnasol. "Y gyfran berthnasol" yw'r gyfran o’r gydnabyddiaeth drethadwy y gellir ei phriodoli i dir cymhwysol.

Enghraifft

Mae Cwmni B yn ymrwymo i drafodiad cymhwysol sy’n dod i rym ar 1 Mai 2025. Mae'r holl gydnabyddiaeth a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig dynodedig. 

Mae 60% o'r gydnabyddiaeth drethadwy yn ymwneud â les ar eiddo sydd wedi'i leoli o fewn safle treth dynodedig ac a fydd yn cael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol, tra bod 40% yn ymwneud â les ar dir na fydd yn cael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol. 

Gan fod llai 100% o'r gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig dynodedig i’w briodoli i dir sydd i'w ddefnyddio mewn modd cymhwysol, gall Cwmni B hawlio rhyddhad rhannol. 

Mae hyn yn gymesur â swm y gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd am y tir neu eiddo cymhwysol sydd o fewn y safle treth arbennig dynodedig. Yn yr achos hwn, gellir hawlio rhyddhad ar 60% o'r rhwymedigaeth TTT. 

Rhaid i Gwmni B gyflwyno ffurflen dreth TTT, gan gynnwys eu hawliad am ryddhad, o fewn 30 diwrnod i’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, sef erbyn 31 Mai 2025 yn yr achos hwn. Rhaid i Gwmni B hefyd dalu'r TTT sy’n daladwy ar y 40% gydnabyddiaeth a roddwyd erbyn yr un dyddiad.

DTTT/7120 Priodoli cydnabyddiaeth drethadwy

(Paragraff 8, Atodlen 21A)

Rhaid pennu’r gydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol ar sail gyfiawn a rhesymol.

Os yw llai na 100% o’r gydnabyddiaeth drethadwy sydd i’w phriodoli i dir y trafodiad sydd wedi ei leoli mewn safle treth arbennig ("y gydnabyddiaeth safle treth"), i’w phriodoli i dir y mae’r prynwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig, rhaid ystyried dwy reol ychwanegol.

Mae'r cyntaf yn gymwys os yw o leiaf 90% o’r gydnabyddiaeth safle treth i’w phriodoli i dir y mae'r prynwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig. Os yw'r rheol hon yn gymwys yna, at ddibenion y rhyddhad hwn, bydd holl gydnabyddiaeth y safle treth yn cael ei drin fel cydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol.

Mae'r ail yn gymwys os yw llai na 10% o’r gydnabyddiaeth safle treth i’w phriodoli i dir y mae'r prynwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig. Os yw'r rheol hon yn gymwys, yna at ddibenion y rhyddhad hwn bydd dim o’r gydnabyddiaeth safle treth yn cael ei ystyried fel cydnabyddiaeth sydd i’w phriodoli i dir cymhwysol.

Enghraifft 1

Mae Cwmni C yn ymrwymo i drafodiad cymhwysol sy’n dod i rym ar 1 Mai 2025. Mae'r dyddiad dod i rym o fewn y cyfnod penodol pan fo rhyddhad ar gael ac mae'r holl dir o fewn y safle treth arbennig. 

Mae’r cwmni’n caffael les ar gyfer eiddo sydd wedi'i leoli o fewn safle treth dynodedig. Mae 95% o'r gydnabyddiaeth drethadwy yn ymwneud â gofod sydd i'w ddefnyddio mewn modd cymhwysol. 

Gan fod 90% neu fwy o'r gydnabyddiaeth drethadwy i’w phriodoli i dir cymhwysol y trafodiad, mae gan Gwmni C hawl i gael ryddhad ar yr holl TTT sy’n codi (boed hynny trwy hawlio ryddhad rhannol) oherwydd y rheol ym mharagraff 8(3) o Atodlen 21A.

Rhaid i Gwmni C gyflwyno ffurflen dreth TTT, gan gynnwys hawliad am ryddhad, o fewn 30 diwrnod i’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, sef erbyn 31 Mai 2025 yn yr achos hwn.

Enghraifft 2

Mae Cwmni D yn ymrwymo i drafodiad cymhwysol sy’n dod i rym ar 1 Mai 2025. Mae’r gydnabyddiaeth a roddwyd, ar sail gyfiawn a rhesymol, am dir sydd y tu allan i’r safle treth arbennig yn cynrychioli 30% o'r holl gydnabyddiaeth a roddwyd. Mae 70% o'r gydnabyddiaeth a roddwyd an dir sydd o fewn y safle treth arbennig. O'r gydnabyddiaeth a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig, mae 80% ohono am dir a fydd yn bodloni'r amodau ar gyfer hawlio rhyddhad safle treth arbennig. 

Ar ôl sefydlu faint o’r gydnabyddiaeth a roddwyd am y tir sydd o fewn y safle treth arbennig a faint sydd y tu allan iddo, caiff y gydnabyddiaeth a roddwyd am y tir o fewn y safle treth arbennig ei ystyried er mwyn sefydlu a oes unrhyw un o'r rheolau arbennig ym mharagraff 8(3) neu (4) o Atodlen 21A yn gymwys. Yn yr achos hwn, nid yw'r naill reol na’r llall yn gymwys, felly dim ond 80% o'r gydnabyddiaeth a roddwyd am dir o fewn y safle treth fydd yn gymwys am ryddhad. 

Felly, cyfrifir y rhyddhad ar y 70% o'r gydnabyddiaeth a roddwyd am y tir o fewn y safle treth arbennig trwy luosi'r rhwymedigaeth treth ar gyfer yr holl dir (o fewn ac oddi allan i'r safle treth arbennig) nad yw’n gymwys am ryddhad safle treth arbennig gyda (chyfran y gydnabyddiaeth a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig wedi'i luosi â chyfran y tir sy'n gymwys am ryddhad). 

Os tybir mai £1,000,000 yw’r dreth ar y trafodiad, swm y rhyddhad treth fydd £1,000,000 x (0.7 x 0.8) = £560,000, a bydd £440,000 ar ôl i’r trethdalwr ei thalu. 

Rhaid i Gwmni D gyflwyno ffurflen dreth TTT, gan gynnwys eu hawliad am ryddhad, o fewn 30 diwrnod i’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, sef erbyn 31 Mai 2025 yn yr achos hwn. Rhaid i Gwmni D hefyd dalu £440,000 o TTT erbyn yr un dyddiad.

Enghraifft 3

Mae Cwmni J yn ymrwymo i drafodiad cymhwysol sy’n dod i rym ar 1 Mai 2025. Mae’r gydnabyddiaeth a roddwyd, ar sail gyfiawn a rhesymol, am dir sydd y tu allan i’r safle treth arbennig yn cynrychioli 80% o'r holl gydnabyddiaeth a roddwyd. Mae 20% o'r gydnabyddiaeth a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig. O'r gydnabyddiaeth a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig, mae 5% ohono am dir a fydd yn bodloni'r amodau ar gyfer hawlio rhyddhad safle treth arbennig. 

Ar ôl sefydlu faint o’r gydnabyddiaeth a roddwyd am dir sydd o fewn y safle treth arbennig a faint am dir sydd oddi allan, caiff y gydnabyddiaeth a roddwyd am dir o fewn y safle treth arbennig ei ystyried er mwyn sefydlu a yw unrhyw un o'r rheolau arbennig ym mharagraff 8(3) neu (4) o Atodlen 21A yn gymwys. 

Yn yr achos hwn, mae’r rheol ym mharagraff 8(4) yn gymwys gan y gellir priodoli llai na 10% o gydnabyddiaeth y safle treth i dir y mae'r prynwr yn bwriadu ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig. O ganlyniad, bydd holl gydnabyddiaeth y safle treth yn cael ei thrin fel cydnabyddiaeth y gellir ei phriodoli i dir cymhwysol a ni fydd rhyddhad ar gael. 

Rhaid i Gwmni J gyflwyno ffurflen dreth TTT o fewn 30 diwrnod i’r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad i rym, sef erbyn 31 Mai 2025 yn yr achos hwn. Rhaid i Gwmni J hefyd dalu'r TTT ar gyfanswm cydnabyddiaeth y trafodiad erbyn yr un dyddiad.

DTTT/7121 Tynnu rhyddhad yn ôl

(Paragraff 10, Atodlen 21A)

Caiff rhyddhad ei dynnu'n ôl os na ddefnyddir y tir cymhwysol mewn modd cymhwysol yn unig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod rheoli.

Pan fydd rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl, mae'n rhaid cyflwyno ffurflen dreth arall o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y daeth y defnydd cymhwysol i ben. Rhaid talu'r dreth sy'n ddyledus erbyn y dyddiad hwn hefyd.

Y dreth sy'n ddyledus pan fo’r rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl yw cyfanswm y rhyddhad a hawliwyd yn wreiddiol.

Nid yw’r rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl pan fo newid mewn amgylchiadau na allwyd ei ragweld ac sydd y tu hwnt i reolaeth y prynwr ac, o ganlyniad, nad yw’n rhesymol disgwyl i'r tir cymhwysol gael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol yn unig ar yr adeg honno.

Os cymerir camau rhesymol yn ystod y cyfnod rheoli i sicrhau bod y tir yn cael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol, ni fydd y tir neu’r darn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol eto yn peri i ryddhad gael ei dynnu yn ôl.

Pan fo’r defnydd o’r tir cymhwysol mewn modd cymhwysol, ar adeg yn ystod y cyfnod rheoli, wedi dod i ben, bydd y tir hwnnw'n parhau i gael ei drin fel pe bai'n cael ei ddefnyddio mewn modd cymhwysol os cymerir camau rhesymol i

  • sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn y modd hwnnw, neu
  • waredu'r holl fuddiannau trethadwy yn y tir hwnnw, neu’r rhan honno o’r tir hwnnw, a ddelir gan y prynwr a personau cysylltiedig mewn modd amserol

DTTT/7122 Cyfnod rheoli

(Paragraff 11, Atodlen 21A)

Mae'r cyfnod rheoli yn dechrau ar y dyddiad y mae’r trafodiad yr hawlir rhyddhad safle treth arbennig ar ei gyfer yn dod i rym.

Bydd y cyfnod rheoli ar gyfer y trafodiad hwnnw’n dod i ben naill ai:

  • ar ôl y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r trafodiad i rym
  • neu, ar y dyddiad y daw’r trafodiad terfynol i rym os yw’r dyddiad hwnnw cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd

Trafodiad tir yw’r trafodiad terfynol os nad yw’r prynwr na pherson cysylltiedig yn dal budddiant trethadwy yn y tir cymhwysol yn union ar ôl y dyddiad y mae’r trafodiad yn dod i rym. Gall hyn ddigwydd naill ai o ganlyniad i un trafodiad lle gwerthir y buddiant trethadwy neu o ganlyniad i nifer o drafodiadau.

Bydd prynwr, neu unrhyw berson cysylltiedig, yn cael ei drin fel pe na bai ganddynt unrhyw fuddiant trethadwy yn y tir cymhwysol os yw gwerth marchnad unrhyw fuddiant trethadwy a gedwir yn llai na £40,000 yn dilyn trafodiad lle gwerthir buddiant trethadwy, neu ran o fuddiant trethadwy. Os yw’r prynwr ac unrhyw berson cysylltiedig yn dal rhyngddynt fwy nag un buddiant trethadwy, rhaid i gyfanswm gwerth marchnadol yr holl fuddiannau hynny gyda'i gilydd fod yn llai na £40,000 er mwyn i’r rheol hon fod yn gymwys.

DTTT/7123 Gwaredu buddiant mewn rhan o dir cymhwysol yn ystod y cyfnod rheoli

(Paragraff 12, Atodlen 21A)

Pan fo’r prynwr yn gwaredu buddiant trethadwy mewn rhan o’r tir cymhwysol, bydd y rhyddhad a dynnir yn ôl a’r cyfnod rheoli ond yn gymwys i'r rhan hwnnw o'r tir cymhwysol sy’n dal i fod ym meddiant y prynwr.

DTTT/7124 Lesoedd a rhent

Mae rhyddhad yn gymwys i renti yn yr un modd ag unrhyw fath arall o gydnabyddiaeth.

Bydd rhent yn gymwys am ryddhad cyn belled â bod y dyddiad y daw’r trafodiad i rym ar, neu cyn, diwedd y cyfnod rhyddhad ar gyfer y safle treth arbennig ac ar adeg pan fo'r trafodiad yn dir cymhwysol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn DTTT/4100 ar effaith aseiniad cyntaf o’r les nad yw’n ddarostyngedig i hawliad am ryddhad safle treth arbennig neu ryddhad priodol arall.

DTTT/7125 Cwblhau ar ôl y cyfnod rhyddhad

(Paragraff 9, Atodlen 21A)

Pan fydd trafodiad yn digwydd, o ganlyniad i gwblhau drwy drosglwyddiad ar ôl y cyfnod rhyddhad, gall y trafodiad hwn beidio â pheri i dreth fod yn daladwy os oedd y contract eisoes wedi’i gyflawni’n sylweddol yn ystod y cyfnod rhyddhad a bod y trafodiad wedi cael ei ryddhau.

Bydd hyn yn digwydd os mai'r unig reswm y byddai'r dreth wedi bod yn daladwy yw bod y trafodiad wedi’i gwblhau ar ôl diwedd y cyfnod rhyddhad. Os bydd rhesymau eraill dros godi treth, yna bydd y TTT llawn yn daladwy pan fydd y trafodiad yn cael ei gwblhau.

DTTT/7126 Cyllid eiddo arall

(Paragraff 13, Atodlen 21A)

Mae paragraff 13 yn ddarpariaeth ar gyfer cefnogi trefniadau cyllid eiddo arall a'r rhyddhadau sy’n bodoli eisoes pan fo tir yn cael ei werthu i sefydliad ariannol a'i brydlesu i berson, neu pan fo tir yn cael ei werthu i sefydliad ariannol a'i ailwerthu i berson. Mae canllawiau ar ryddhadau cyllid eiddo arall ar gael o DTTT/7017 ymlaen.

Pan fydd y naill ryddhad cyllid eiddo hwn neu’r llall yn gymwys, bydd cymhwysedd ar gyfer rhyddhad, a thynnu rhyddhad yn ôl, yn cael ei bennu gan amgylchiadau'r "person perthnasol". Y "person perthnasol" yw'r person ac eithrio’r "sefydliad ariannol" sydd yn y trefniant cyllid eiddo arall.

Os yw'r "person perthnasol" yn bodloni'r amodau ar gyfer rhyddhad safle treth arbennig, bydd y "trafodiad cyntaf" (prynu'r tir gan y "sefydliad ariannol") yn gymwys am ryddhad.

Pan fydd rhyddhad yn cael ei dynnu'n ôl, bydd y rhwymedigaeth am unrhyw dreth ychwanegol y gellir ei chodi ar y "trafodiad cyntaf" yn aros gyda’r "sefydliad ariannol".