Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol
Ar 13 Rhagfyr 2016, rhoddais wybod i aelodau Llywodraeth Cymru fy mod yn bwriadu rhoi trefn ar y llyfr statud a datblygu codau o gyfraith Cymru. Fy nod yw rhoi trefn ar y cyfreithiau yr ydym wedi eu hetifeddu a sefydlu dull newydd o ddeddfu yng Nghymru yn y dyfodol – dull a fydd yn rhoi'r dinesydd, fel yr un sy'n defnyddio deddfwriaeth yn y pen draw, yn flaenaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar adeg pan cyfyngedig yw mynediad at gyngor, cefnogaeth a chynrychiolaeth gyfreithiol.
Mae hyn hefyd yn fater o bwys cyfansoddiadol. Mae mwy na 50 o gyfreithiau sylfaenol wedi cael eu pasio ers i'r Cynulliad Cenedlaethol gael mwy o gymhwysedd yn 2007 ac mae mwy na 4,000 o Offerynnau Statudol wedi cael eu gwneud er 1999. Mae gan Senedd Cymru gyfrifoldeb yn awr dros ddeddfu ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Os ydym am barhau i weinyddu cyfiawnder yn briodol ac yn effeithlon yng Nghymru a chadw ar drywydd y newidiadau sy'n yr arfaeth, bydd datblygu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol i Gymru yn anorfod maes o law.
Mae yna amryw o elfennau i'r gwaith sydd ar y gweill i wella mynediad at ein corff o gyfreithiau, sy'n datblygu'n gyflym. Dechrau ar y gwaith o gydgrynhoi cyfreithiau yr ydym wedi eu hetifeddu a gwella’r ffordd y cânt eu cyhoeddi yw'r elfen fwyaf amlwg. Ond mae yna hefyd fentrau mwy technegol ac arbenigol sy'n bwysig, er nad ydynt o reidrwydd yn rhai uchel eu proffil.
Mae'r llywodraeth yn cyhoeddi heddiw bapur ymgynghori ar gynnig i ddatblygu bil ar ddehongli statudol sy'n neilltuol i ddeddfwriaeth Cymru. Er mwyn cynnig sicrwydd ac eglurder, rhaid i ddeddfwriaeth fod yn fanwl ac yn ddyrys o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, gellir torri ar y fath gymhlethdod drwy nodi rhai egwyddorion, rheolau a diffiniadau unwaith fel nad oes angen eu hailadrodd ym mhob cyfraith newydd yr ydym yn ei gwneud. Datblygu "Deddf ddehongli" yw'r ffordd o wneud hyn; nodwedd sy'n gyffredin i awdurdodaethau cyfreithiol ar draws gwledydd y gyfraith gyffredin.
Mae Deddfau dehongli yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion gweithdrefnol ac yn diffinio ymadroddion a ddefnyddir yn gyffredin mewn deddfwriaeth. Gall hyn helpu i ddatrys ansicrwydd ynghylch ystyr darpariaethau deddfwriaethol penodol. Maent yn cynnwys rheolau dehongli statudol, fel darpariaethau ynghylch pryd y bydd cyfreithiau yn dod i rym, cyfrifo cyfnodau amser, ac effeithiau diddymu, sy'n rhoi sicrwydd cyfreithiol. Un o'u prif ddibenion yw helpu i gadw deddfwriaeth yn fyrrach ac yn fwy cyson.
Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth Cymru yn ddarostyngedig i Ddeddf Dehongli 1978. Mae'r Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig (DU) hon yn bodoli ers bron i 40 o flynyddoedd. Mae angen diweddaru'r Deddf ac, yn bwysicach oll, nid yw'n cydnabod ein bod yn deddfu yn y Gymraeg a'r Saesneg - diffyg y tynnwyd sylw ato gan Gomisiwn y Gyfraith a Phwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.
Rydw i o'r farn y dylem ddatblygu ein Deddf Ddehongli ein hun – fel a wnaed eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon – sy'n ddwyieithog ac wedi'i theilwra at ein hawdurdodaeth. Mae'r papur ymgynghori sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn ystyried y ffordd orau o wneud hyn.
Mae'r ymgynghoriad ar y polisi i’w weld yma:
https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/dehongli-cyfreithiau-cymru-deddf-dehongli-i-gymru