Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020, ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022. Amcan cyffredinol y ddeddfwriaeth yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd eu cosbi’n gorfforol, a hynny drwy ddileu amddiffyniad cosb resymol.

Mae’r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ers mis Mawrth 2022. Cafodd y grant ei greu wrth baratoi ar gyfer y Ddeddf yn dod i rym. Mae’n ariannu cymorth rhianta wedi’i deilwra y gall yr heddlu atgyfeirio pobl ato fel dewis arall yn lle erlyniad, mewn achosion lle mae'r heddlu'n penderfynu ei bod hi'n briodol cynnig datrysiad y tu allan i'r llys.

Dylid dehongli’r data yn ofalus o ystyried eu bod yn ymwneud â blwyddyn yn unig. Mae’r holl niferoedd yn cael eu talgrynnu i’r pump agosaf er mwyn lleihau unrhyw risg o ddatgelu data.

Bydd datganiad data llawn yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2025, a fydd yn cynnwys dadansoddiadau demograffig, atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol a data ar erlyniadau sy'n ymwneud â'r Ddeddf.

Canfyddiadau allweddol

Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys: 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024

Yn ystod yr ail flwyddyn ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, roedd 125 o atgyfeiriadau newydd am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys ledled Cymru gan yr heddlu.

Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, dewisodd 115 o unigolion newydd fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta. Roedd 20 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol, ac wedi parhau i ddefnyddio’r cymorth rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024. O blith y 135 unigolyn yma, roedd 110 wedi cwblhau’r sesiynau yn llawn a 20 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Mae rhai unigolion wedi ymddieithrio o'r cymorth cyn cwblhau'r sesiynau. Mae hyn yn golygu y gallai nifer yr unigolion sydd wedi cwblhau'r sesiynau yn llawn neu yn rhannol fod yn llai na chyfanswm yr unigolion a ddewisodd fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta.

Gwnaed pum cais am gymorth rhianta drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gofynnir i'r unigolion sy'n manteisio ar y cymorth rhianta lenwi holiadur a ddosberthir gan awdurdodau lleol ar ôl iddynt gwblhau'r sesiynau. Nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 90 o’r unigolion a lenwodd holiadur wedi adrodd canlyniad cadarnhaol. Mae canlyniad cadarnhaol yn cael ei ddiffinio fel gwelliant yn ymddygiad y plentyn, neu welliant o ran lles neu effeithiolrwydd rhieni.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Chloe Whiteley

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Chloe Whiteley
Ebost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 82/2024
ISBN digidol 978-1-83625-971-8

Image
GSR logo