Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: adroddiad cynnydd blynyddol 2023 i 2024
Crynodeb o’r cynnydd a wnaed rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, ac mae’n cyd-fynd â’r chwe amcan a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) 2022 i 2026.
O dan adran 12 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’), rhaid i Weinidogion Cymru, ar gyfer pob blwyddyn ariannol, gyhoeddi adroddiad sy’n rhoi sylw i’r canlynol:
- y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gyflawni’r amcanion yn y Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gyflawni pwrpas Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yng Nghymru (drwy gyfeirio at y dangosyddion cenedlaethol).
Pwrpas y Ddeddf yw gwella:
- y trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- y trefniadau ar gyfer gwarchod dioddefwyr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- y cymorth i bobl y mae trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt
Mae tair rhan i’r adroddiad hwn.
- Mae Rhan 1 yn nodi’r cyd-destun ehangach yng Nghymru y dylid ei gadw mewn cof wrth edrych ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion, gan ddangos cynnydd tuag at gyflawni pwrpas y Ddeddf, sef atal cam-drin ar sail rhywedd a gwarchod a chefnogi goroeswyr. Mae hyn yn cynnwys adrannau ar y Glasbrint VAWDASV a’r Dangosyddion Cenedlaethol.
- Mae Rhan 2 yr adroddiad yn canolbwyntio ar bob amcan yn y Strategaeth Genedlaethol yn ei dro ac mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a’r camau nesaf ar gyfer pob un.
- Mae Rhan 3 yr adroddiad yn canolbwyntio ar ystyriaeth benodol o gydraddoldeb a chynhwysiant, croestoriadedd a grwpiau agored i niwed, a hefyd ymgysylltiad ehangach â Llywodraeth y DU a thu hwnt.
Rhan 1: y cyd-destun ehangach
Y Strategaeth Genedlaethol a’r Glasbrint VAWDASV
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer VAWDASV 2022 i 2026 ym mis Mai 2022. Cytunodd Llywodraeth Cymru a Heddluoedd yng Nghymru i fabwysiadu dull gweithredu’r Glasbrint i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth, a oedd yn golygu y gallai asiantaethau datganoledig a heb eu datganoli, sefydliadau anllywodraethol, gwasanaethau arbenigol a goroeswyr gydweithio i gydlynu camau gweithredu a sbarduno gweithgareddau i gyflawni ein blaenoriaeth gyffredin o fynd i’r afael â VAWDASV.
Mae mabwysiadu dull y Glasbrint wedi ei gwneud hi’n bosibl sefydlu strwythur llywodraethu ar y cyd newydd, sy’n adlewyrchu cyd-berchnogaeth y flaenoriaeth gyffredin hon o fynd i’r afael â VAWDASV. Bydd mabwysiadu dull Iechyd y Cyhoedd yn ein gwaith yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio. Dyma’r egwyddorion sylfaenol sy’n sail i’n hymdrechion ar y cyd:
- herio agweddau’r cyhoedd
- cynyddu ymwybyddiaeth ymysg plant
- rhagor o atebolrwydd i’r rhai sy’n gyfrifol am drais a cham-drin
- blaenoriaethu a chanolbwyntio ar atal
- gweithlu hyderus a gwybodus
- darparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sy’n ystyriol o drawma ac sy’n cael eu harwain gan anghenion
Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun lefel uchel y glasbrint ar gyfer VAWDASV ym mis Mawrth 2023 ac wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd yn erbyn y camau gweithredu lefel uchel ym mis Hydref 2023.
Mae’r camau gweithredu sydd wedi cael eu cymryd gan ffrydiau gwaith y Glasbrint wedi cael eu hymgorffori yn yr Adroddiad Blynyddol hwn ar gyfer 2024 a byddant hefyd yn cael eu cyhoeddi fel adroddiad cynnydd ar dudalennau’r Glasbrint VAWDASV, i wneud yn siŵr bod pob Ffrwd Gwaith yn dryloyw ynghylch ei gynnydd ers mis Hydref 2023.
Llais y Goroeswr: Panel Craffu a Chynnwys
Rydyn ni’n parhau i weithio i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau bywyd goroeswyr wrth galon gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Ar ôl ymgyrch recriwtio wedi’i thargedu yn canolbwyntio ar grwpiau goroeswyr ledled Cymru ar ddechrau 2023, mae’r panel bellach wedi penodi naw o oroeswyr gwahanol fathau o drais yn erbyn menywod, gan gynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae’r panel wedi cyfarfod 10 gwaith yn ystod y flwyddyn. Mae’r panel yn craffu ar gynlluniau ac argymhellion y ffrydiau gwaith cyn eu cyflwyno i Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV. Mae’r panel yn cael ei gadeirio gan y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gam-drin ar sail rhywedd ac mae llawer o’i aelodau yn dod o grwpiau goroeswyr sydd eisoes wedi’u sefydlu ledled Cymru. Mae hyn yn creu grŵp sydd â chysylltiadau â’r rhwydweithiau presennol a’u haelodaeth ac sy’n gallu cyfrannu atynt, gan greu strwythur cefnogol, cydweithredol a chynaliadwy.
Cynghorwyr cenedlaethol
Johanna Robinson a Yasmin Khan yw’r Cynghorwyr Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Mae’r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu cynllun blynyddol ar gyfer 2024 i 2025 , sy’n amlinellu sut y byddant yn gweithio i atal VAWDASV ac i warchod a chefnogi pobl sydd wedi dioddef trais a cham-drin.
Dangosyddion cenedlaethol
Cafodd y set gyntaf o Ddangosyddion Cenedlaethol i Gymru ar gyfer VAWDASV eu gosod yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, fel yr oedd ar y pryd, ym mis Mehefin 2019. Ar yr un pryd, fe wnaethom hefyd gyhoeddi Dogfen Dechnegol y Dangosyddion Cenedlaethol i Gymru ar gyfer VAWDASV. Bwriad y dangosyddion cenedlaethol oedd bod yn ddangosyddion cam cyntaf, ac y byddai rhagor o waith datblygu yn cael ei wneud yn ystod 2019-2020 lle byddai rhanddeiliaid yn adeiladu ar y dangosyddion, y mesurau a’r ffynonellau data. Mae hyn yn gyson â’r ddarpariaeth a nodir yn adran 11(3) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru adolygu a diwygio’r dangosyddion unrhyw bryd. Ar y pryd, y bwriad oedd gosod y set derfynol o ddangosyddion cenedlaethol yng ngwanwyn 2020.
O dan adran (11)(1) o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol: (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y gellir eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni pwrpas y Ddeddf hon; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd.
Cafodd y 10 dangosydd cenedlaethol cam cyntaf eu dylunio i fesur cynnydd tuag at gyflawni tri diben y Ddeddf. Dyma’r dangosyddion:
- Cynyddu’r adroddiadau o bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Cynyddu’r ymwybyddiaeth ar draws pob rhan o gymdeithas bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn annerbyniol.
- Cynyddu’r ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach.
- Cynyddu’r ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc bod cam-drin bob amser yn anghywir.
- Sicrhau bod mwy o achosion sy’n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn arwain at arestiadau, erlyniadau ac euogfarnau.
- Sicrhau bod ymyriadau priodol ar gael i dramgwyddwyr.
- Sicrhau bod ymyriadau cynnar, effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gael i ddioddefwyr a goroeswyr, a’u bod yn gallu cael gafael arnynt yn gyfartal.
- Sicrhau bod y rhai mewn swyddi perthnasol yn cael eu hyfforddi i adnabod ac ymateb yn briodol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
- Sicrhau bod dioddefwyr yn cael cymorth priodol.
- Cynyddu hyder dioddefwyr a’u mynediad at gyfiawnder.
Gwaith datblygu pellach
Ar ôl gosod y dangosyddion cenedlaethol cam cyntaf ym mis Mehefin 2019, cafodd y gwaith gyda rhanddeiliaid allweddol a’r gwaith o fapio ffynonellau data ei ohirio yn 2020 oherwydd y pandemig, ac yn 2021 wrth i waith ddechrau ar ddatblygu ac ymgynghori ar Strategaeth Genedlaethol VAWDASV newydd ar gyfer 2022-2026, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022. Yn y strategaeth honno, fe wnaethom ymrwymo i adolygu’r dangosyddion cenedlaethol i sicrhau eu bod yn adlewyrchu’r strategaeth ac y gellir eu defnyddio i fesur ein cynnydd o ran cyflawni ein nodau a’n hamcanion. Roedd y strategaeth yn cydnabod, er mwyn gwerthuso effaith ein strategaeth, ei bod hi’n bwysig ein bod yn defnyddio mesurau sy’n adlewyrchu ein dull system gyfan ac yn adlewyrchu cyfraniad yr ystod lawn o’n partneriaid.
Yn 2023, sefydlwyd grŵp Gorchwyl a Gorffen gyda thimau polisi Llywodraeth Cymru, gwasanaethau gwybodaeth a dadansoddi, a’r Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV, i adolygu’r dangosyddion a gafodd eu mabwysiadu a’r atodiad technegol a gafodd ei gyhoeddi yn 2019. Cynhaliwyd yr adolygiad gan gydnabod, ers gosod y dangosyddion cenedlaethol cam cyntaf gerbron y Senedd am y tro cyntaf, ein bod wedi datblygu Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026, dull gweithredu’r Glasbrint a’r cynllun gweithredu cysylltiedig, a’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol i Gymru (2022).
Bydd casgliadau’r grŵp Gorchwyl a Gorffen yn cael eu cyflwyno i Fwrdd Rhaglen Genedlaethol VAWDASV fis Rhagfyr. Yn dilyn hyn, bydd diweddariad ar gasgliadau’r grŵp a’r camau nesaf yn cael ei gyhoeddi.
Y bwriad yw bod unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol ar y dangosyddion cenedlaethol yn cyfrannu at yr adolygiad o Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026 ac at y gwaith datblygu ar gyfer unrhyw fersiwn o strategaeth genedlaethol yn y dyfodol.
Cyfathrebu strategol
Ar ran yr holl bartneriaid yn y Glasbrint, mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y gwaith o ddatblygu Pecyn Cymorth Cyfathrebu ac Ymgysylltu VAWDASV, sy’n nodi sut bydd cynnydd y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a’i ffrydiau gwaith cyfansoddol yn cael ei gyflwyno i randdeiliaid. Ym mis Ionawr, cafodd y Bwrdd weld amlinelliad drafft o’r pecyn cymorth, a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan heddluoedd yng Nghymru, a oedd wedi cynnal dadansoddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer y Glasbrint.
Mae briff craidd am y Strategaeth a’r Glasbrint VAWDASV wedi cael ei gwblhau a’i rannu â rhanddeiliaid allweddol, ynghyd â diweddariad cynnydd 7 munud rheolaidd sy’n rhoi gwybod i’n rhanddeiliaid am y cynnydd allweddol sydd wedi’i wneud ers yr adroddiad diwethaf ym mis Hydref 2023.
Ymysg y ffyrdd eraill rydyn ni wedi hyrwyddo’r Glasbrint VAWDASV mae cydweithio â Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, gwaith trawslywodraethol, y pum Awdurdodaeth yn cwrdd â’r pedair gwlad arall, a drwy rwydweithiau rhanbarthol VAWDASV ar lefel leol.
Mae manylion ymgyrchoedd cyfathrebu VAWDASV penodol wedi’u hamlinellu yn yr adrannau perthnasol o’r adroddiad cynnydd hwn: mae’r ymgyrch Iawn wedi’i chynnwys o dan Amcan 1 a Byw Heb Ofn.
Rhan 2: cynnydd yn erbyn Amcanion y Strategaeth Genedlaethol
Amcan 1
Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.
Lansiwyd yr ymgyrch ‘Iawn’ ym mis Gorffennaf 2023, gyda’r nod o gynnwys dynion a bechgyn ledled Cymru yn y drafodaeth ar sut i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Drwy’r ymgyrch, roedden nhw’n cael eu hatgoffa ei bod hi’n ‘iawn siarad’ gyda’i gilydd am eu perthnasoedd, eu hymddygiad a’u barn, eu hannog i gael ‘cymorth iawn’ gan ffynonellau dibynadwy, ac i fabwysiadu agwedd ‘popeth yn iawn’ y bobl sy’n esiampl gadarnhaol iddynt.
Mae’n galluogi dynion ifanc yng Nghymru i hybu a dathlu gwrywdod cadarnhaol, i ddal ei gilydd yn atebol am bethau maen nhw’n eu gwneud, i helpu ei gilydd i fod yn driw iddyn nhw eu hunain, ac, yn sgil hynny oll, i helpu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Cafodd Iawn ei chynhyrchu ar y cyd â dynion 18 i 34 oed drwy waith maes helaeth â’r gymuned. Mae’n gwrando ar ddynion ac yn eu helpu i wybod beth yw eu rôl nhw o ran dod o hyd i atebion i drais ar sail rhywedd, a hynny er budd pawb. Mae Iawn yn canolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar, un o flaenoriaethau Strategaeth Genedlaethol VAWDASV 2022 i 2026 Llywodraeth Cymru.
Roedd yr ymgyrch wedi canolbwyntio ar ymddygiadau camdriniol, gan gynnwys ‘bomio â chariad’ a ‘dibwyllo’, ac ar drawstoriad o gymdeithas, gan gynnwys pêl-droedwyr ifanc, campfa focsio a phrentisiaid mewn coleg yng Nghymru. Roedden nhw wedi siarad yn agored am eu profiadau drwy gyfres o fideos byr, podlediadau a digwyddiadau, a gafodd eu postio ar yr holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd ac ar wefannau gemau. Roedd hyn yn cynnwys dolenni cyfeirio i ffynonellau cymorth a chefnogaeth os oedden nhw’n poeni am eu hymddygiad eu hunain.
Rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024, dyma effaith yr ymgyrch:
- Sawl gwaith roedd y cynnwys yn weladwy (y telir amdanynt ac organig): 14,490,797
- Cyfleoedd i weld (y telir amdanynt, organig, PR a dylanwadwyr): 105,953,711
- Sawl gwaith cafodd y cynnwys ei rannu neu ei gadw: 1,090
- Sylwadau: 4,716
- Teimladau cadarnhaol: 99.3%
- Dilynwyr ar sianeli cymdeithasol: 3,070 (TikTok, Instagram, YouTube)
Yn 2024 i 2025, bydd gwaith yn parhau gyda chyd-weithwyr yn y byd chwaraeon i fabwysiadu dulliau sefydledig o fynd i’r afael â VAWDASV drwy ddulliau cadarnhaol yn y byd hwnnw.
Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo yn 2024-25 i ddatblygu ymhellach ein dealltwriaeth o’r rôl y gall ac y dylai dynion a bechgyn ei chwarae o ran mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol, gan hybu herio a dysgu drwy barhau i godi ymwybyddiaeth a thrafod. Byddwn yn parhau i ystyried rôl Iawn yn ein gwaith o ddatblygu polisi atal a sut y gallai fod yn sail i weithgareddau ffrydiau gwaith eraill wrth i’r ymgyrch addasu i wahanol gyd-destunau.
Mae’r ffrwd waith Aflonyddu ar sail Rhywedd ym Mhob Lle Cyhoeddus wedi cydweithio i fapio’r gwaith sy’n mynd rhagddo yn y maes hwn. Ym mis Medi 2023, cynhyrchodd Llywodraeth Cymru adolygiad llenyddiaeth o ymchwil academaidd, ymgyrchoedd a mentrau sydd ar waith yng Nghymru, ac yn ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r adolygiad yn cael ei ddefnyddio i lywio cyfleoedd a dulliau gweithredu yn y dyfodol, ac fel sail ar gyfer ymchwil pellach. Roedd is-grŵp o’r ffrwd waith hefyd wedi cyfarfod i fapio’r wybodaeth yn y maes hwn gan aelodau’r ffrwd waith.
Mae Hyb ACE Cymru wedi ymrwymo, drwy’r ffrwd waith, i ehangu a dadansoddi adolygiad llenyddiaeth Llywodraeth Cymru ymhellach yn 2024 i 2025.
Ym mis Chwefror 2024, cafodd y seminar ‘Preventing Violence: Working with Men and Boys’ ei gynnal gyda’r Athro Michael Flood, ymchwilydd uchel ei barch ar ddynion a gwrywdod, rhywedd ac atal trais, gan arwain at waith ehangach ym maes atal cychwynnol ac atal niwed cyn iddo ddigwydd yn ein cymunedau.
Cynhaliodd y ffrwd waith Aflonyddu yn y Gweithle ddigwyddiad rhannu arferion ar-lein ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus ym mis Mai 2023. Cafodd y digwyddiad hwn ei drefnu drwy’r ffrwd waith ac roedd yn gyfle gwerthfawr i sefydliadau ddysgu o brofiadau ei gilydd, gan gynnwys yr heriau a’r arferion da wrth fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.
Mae’r ffrwd waith wedi mynd ati i drafod â sefydliadau, arweinwyr a goroeswyr i gasglu gwybodaeth amrywiol sydd wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a llunio’r cyfeiriad strategol. Yn dilyn adborth o’r digwyddiad rhannu ymarfer a mewnbwn ychwanegol gan randdeiliaid, penderfynodd y ffrwd waith flaenoriaethu cyfres o gynadleddau wyneb yn wyneb ledled Cymru. Mae’r cynadleddau hyn yn cael eu trefnu ar y cyd â phartneriaid cymdeithasol a’u nod yw darparu arweinwyr sector cyhoeddus Cymru â’r wybodaeth a’r adnoddau i greu gweithleoedd diogel, parchus a chynhwysol, yn ogystal â darparu cymorth cadarn i ddioddefwyr, goroeswyr a phobl sy’n chwythu’r chwiban. Bydd y cynadleddau’n cyd-fynd â Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 a ddaeth i rym ym mis Hydref 2024, ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023. Mae’r ddeddfwriaeth yn diwygio’r darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i warchod gweithwyr yn well rhag aflonyddu yn y gweithle ac aflonyddu rhywiol, gan ganolbwyntio ar ‘atal’ yn lle ‘gwneud iawn’. Bydd y cynadleddau’n cael eu cynnal dros gyfnod adrodd 2024 i 2025.
Ym mis Mawrth 2024, comisiynodd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Llywodraeth Cymru ymchwil ar ran y ffrwd waith Aflonyddu yn y Gweithle i archwilio profiadau uniongyrchol menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru. Bydd gwybodaeth yn cael ei dwyn ynghyd mewn adroddiad terfynol ym mis Rhagfyr 2024 a fydd yn cael ei ddefnyddio i lywio camau gweithredu yn ffrwd waith Aflonyddu yn y Gweithle y Glasbrint VAWDASV, y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg.
Amcan 2
Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a’u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.
Ym mis Medi 2022, cafodd addysg orfodol ar gydberthynas a rhywioldeb ei chyflwyno ledled Cymru. Mae’r cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cynnwys gofynion gorfodol (sail gyfreithiol) fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Rhaid i addysg cydberthynas a rhywioldeb gynnwys perthnasoedd a hunaniaeth, iechyd a lles rhywiol, a grymuso, diogelwch a pharch. Mae trais a pherthnasoedd iechyd yn rhan o addysg cydberthynas a rhywioldeb.
Mae elfen grymuso, diogelwch a pharch y cwricwlwm yn canolbwyntio ar hawliau dysgwyr i ddiogelwch, sut mae gofyn am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth, a sut mae eirioli dros barch. Ar gyfer dysgwyr dros 11 oed, mae hyn yn cynnwys adnabod ymddygiad sy’n niweidio, yn cam-drin neu’n gorfodi mewn perthnasoedd personol gan gynnwys rheolaeth, trais a thrais rhywiol, a sut mae ymateb a gofyn am gymorth iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill. Mae hyn yn cynnwys pob math o drais ar sail rhyw, rhywedd a rhywioldeb. Roedd y tîm VAWDASV wedi parhau i ariannu Rhaglen Sbectrwm Stori i ddarparu hyfforddiant ar addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws ysgolion ar gyfer athrawon, cyfadrannau a myfyrwyr.
Prif lwyddiannau Sbectrwm 2023 i 2024
- Roedd y prosiect yn cynnwys 30,439 o blant i’w helpu i gael rhagor o wybodaeth, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion VAWDASV.
- Cafodd 124 o staff ysgol hyfforddiant i helpu ysgolion i wreiddio dull ysgol gyfan ar gyfer perthnasoedd iach.
- Cafodd gwers briodol Cyfnod Allweddol 4 newydd ei datblygu, gan ganolbwyntio ar aflonyddu a stelcio.
- Mae llyfr “Tedi Sbectrwm – Gwersyll Haf” wedi cael ei ddatblygu a’i argraffu i’w gyflwyno fel rhan o sesiynau’r cyfnod sylfaen. Erbyn hyn, mae Sbectrwm wedi ysgrifennu tri llyfr i gyd er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg. Mae’r llyfrau’n ddwyieithog ac yn briodol i’r oedran, ac mae negeseuon allweddol yn cael eu hatgyfnerthu drwyddynt draw.
Yn ystod 2023 i 2024, sefydlodd y ffrwd waith Anghenion Plant a Phobl Ifanc gysylltiadau trawsgwricwlaidd cryf â’r timau addysg a chwricwlwm, ochr yn ochr â diogelu a chadernid digidol, gan adlewyrchu’r dull system gyfan o atal a mynd i’r afael â VAWDASV.
I bwysleisio’r dull partneriaeth, roedd y tîm wedi ymgysylltu â’r Uned Atal Trais ar eu Fframwaith newydd ar y cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc i sicrhau cysondeb ac integreiddio, gan gynnwys cyflwyniad ar safbwyntiau plant a phobl ifanc o’r Uned Atal Trais.
Fel yr amlinellwyd yn fanwl yn Amcan 1, roedd yr ymgyrch Iawn wedi gweithio’n uniongyrchol â dynion a bechgyn mewn ymgyrch bwysig, gan greu trafodaeth rymusol a chadarnhaol ar rolau dynion a bechgyn o ran creu Cymru heb drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Cytunwyd ar draws y llywodraeth mai’r ffrwd waith Anghenion Plant a Phobl Ifanc fyddai’r mecanwaith atebolrwydd ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar Aflonyddu Rhywiol rhwng Cyfoedion, gyda’r farn y byddai’r ffrwd waith yn adolygu, o leiaf bob blwyddyn, y cynnydd sydd wedi’i wneud yn erbyn y cynllun hwn.
Bydd timau VAWDASV a’r cwricwlwm yn parhau i drafod yn 2024 i 2025 i ystyried y ffordd orau o ddarparu’r dull system gyfan ar gyfer ymyrraeth gynnar drwy gynyddu ymwybyddiaeth ymysg plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Amcan 3
Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.
Yn 2023 i 2024, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyd-ariannu’r gwaith o gyflwyno ymyriad wedi’i anelu at bobl sy’n peri risg isel o gam-drin domestig, sy’n droseddwyr tro cyntaf, ac sy’n gymwys i gael Rhybuddiad gan yr Heddlu gydag amod i fynd i ymyriad dwy sesiwn i leihau’r risg y bydd hynny’n digwydd eto yn y dyfodol. Dechreuodd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent y broses hon yn 2023 i 2024. Ymrwymodd Heddlu Gogledd Cymru a Dyfed Powys i werthuso’r angen a’r dichonoldeb yn barod ar gyfer 2024 i 2025.
Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu parhau i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r ymyriad hwn ar draws yr holl Heddluoedd yng Nghymru yn 2024 i 2025, gan gasglu data a gwerthuso effeithiolrwydd yr ymyriad ochr yn ochr â chyd-weithwyr ym maes Plismona. Yn 2024, bydd newid sylweddol yng nghymhwysedd penderfyniadau ynghylch cyhuddo a rhoi rhybuddiad, a fydd yn symud o Wasanaeth Erlyn y Goron i heddluoedd unigol, gyda’r gobaith o gynyddu’r defnydd o rybuddiad amodol.
Daeth Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru ynghyd i lansio ‘TABW’, cynllun peilot sy’n cynnig cymorth a chyngor ychwanegol i bobl sydd wedi dioddef dan ddwylo swyddogion heddlu neu gyn-swyddogion heddlu. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o’r Grŵp Llywio ar gyfer y Gwasanaeth hwn, gan helpu i ddatblygu’r Ddamcaniaeth Newid a’r Cylch Gorchwyl.
Yn 2024 i 2025, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gyd-ariannu rôl gweithiwr DRIVE i weithio gyda’r swyddog heddlu sy’n gyfrifol am y cam-drin honedig, i ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud gyda dioddefwyr, i gyfrannu at asesiadau risg a rheoli risg, ac i gyfeirio’r unigolyn at wasanaethau cymorth perthnasol.
Mae Llywodraeth Cymru’n aelod craidd o’r tasglu ‘Pobl sydd wedi troseddu’ sy’n cael ei reoli gan y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Mae hyn yn darparu rhyngwyneb rhwng gwaith ffrwd waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais y Glasbrint VAWDASV a’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol, sy’n atal dyblygu o ran gwaith a’r rolau a’r cyfrifoldebau clir mewn perthynas â cham-drin domestig a thrais rhywiol.
Drwy Ffrwd Waith Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais y Glasbrint VAWDASV, ac fel rhan o’r cynllun gweithredu lefel uchel a gafodd ei amlinellu yn 2023, cafodd arolwg Cymru gyfan ei lansio ym mis Rhagfyr 2023, gan ddod i ben ym mis Chwefror 2024. Nod yr arolwg oedd casglu gwybodaeth mewn perthynas â’r holl ymyriadau sydd ar gael ar hyn o bryd i droseddwyr. Roedd hyn yn cynnwys manylion y darparwr, meini prawf cymhwysedd, yr ymddygiad dan sylw, statws achredu a meysydd allweddol eraill. Roedd yr arolwg yn un aml-swyddogaethol, gyda’r nod o wneud y canlynol: creu cyfeiriadur o wasanaethau i ymarferwyr; dod o hyd i fylchau yn y ddarpariaeth bresennol; tynnu sylw’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol at y bylchau hyn, a chymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon gyda rhanbarthau i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Ar ôl dadansoddi canfyddiadau’r arolwg, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV gyda rhestr lawn o argymhellion i’w hystyried a’u rhoi ar waith.
Bydd yr arolwg Mynd i’r Afael â Chyflawni Trais yn arwain at adroddiad sy’n manylu ar ei ganfyddiadau a, gobeithio, at gynhyrchu cyfeiriadur i ymarferwyr o Ymyriadau sydd ar gael ledled Cymru.
I gefnogi’r gweithgaredd hwn a’r awydd i ddeall effeithiolrwydd ymyriadau newid ymddygiad yn well, byddwn yn datblygu datganiad sefyllfa ar effeithiolrwydd y cyfeiriadur a’i ddefnydd o ran datblygu gwasanaethau a threfniadau comisiynu o dan ddull system gyfan.
Drwy ein gwaith gydag academyddion a gwasanaethau arbenigol (er enghraifft yr Athro Michael Flood, SheIsNotYourRehab, Plan International), rydyn ni wedi bod yn datblygu ein dealltwriaeth o’r ymddygiadau sy’n gysylltiedig â gwrywdod cadarnhaol, perthnasoedd iach a'r rôl weithredol y gall dynion a bechgyn ei chwarae yn lleihau pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r ddealltwriaeth hon yn amhrisiadwy er mwyn datblygu dull gweithredu parhaus a gwneud yn siŵr bod atal cychwynnol wrth galon ein cymunedau. Mae’r ddealltwriaeth nid yn unig yn ychwanegu gwerth at y ffrwd waith Mynd i'r Afael â Chyflawni Trais, mae'n berthnasol ar draws gweithgareddau ffrydiau gwaith eraill a'r cyd-destunau maen nhw’n gweithredu ynddynt. Yn 2024 i 2025, byddwn yn parhau i sbarduno’r sgwrs ar herio ymddygiad dynion a bechgyn ym maes atal cychwynnol, ac yn datblygu ymhellach ein dealltwriaeth o’r dulliau, y gwasanaethau a’r mecanweithiau sy’n gallu lleihau agweddau ac ymddygiadau niweidiol sy’n arwain at drais a cham-drin – gan ddefnyddio Iawn fel ein llwyfan.
Amcan 4
Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.
Mae blaenoriaethu ymyrryd yn gynnar ac atal wedi’i wreiddio ar draws ein strategaeth genedlaethol ar gyfer VAWDASV a ffrydiau gwaith y Glasbrint. Mae’r strategaeth yn ymrwymo i barhau i ganolbwyntio ar gymorth a gwasanaethau i oroeswyr, gan symud o’r symptom i’r achos ar yr un pryd drwy ddull iechyd y cyhoedd. Roeddem yn cefnogi casgliadau adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024 ar Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd, sef bod angen dull iechyd y cyhoedd i fynd i’r afael â’r achosion yn ogystal ag effeithiau trais ar sail rhywedd. Mae’r effeithiau hirdymor ar ddioddefwyr camdriniaeth yn sylweddol ac yn effeithio ar bob agwedd ar eu bywyd. Roeddem hefyd yn falch o weld yr Uned Atal Trais yn cyhoeddi’r ‘Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc’ yn 2023, a byddwn yn ceisio parhau i brofi egwyddorion dull iechyd y cyhoedd a rhoi ymddygiadau ar waith.
Mae’r camau ataliol penodol ar draws y ffrydiau gwaith yn cynnwys lansio Cam 1 ein hymgyrch ‘Iawn’ yn ystod haf 2023. Fel y cafodd ei amlinellu o dan amcan 1, roedd yr ymgyrch yn gweithio gyda dynion a bechgyn rhwng 18 a 34 oed ledled Cymru i’w helpu i chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi ymyrryd yn gynnar ac atal trais ymysg menywod a merched.
Oherwydd bod Cam 1 yr ymgyrch Iawn wedi bod yn gymaint o lwyddiant, bydd ail ymgyrch, yn cynnwys rhaglen ddogfen wedi’i chynhyrchu gan BBC Cymru, yn cael ei lansio yn ystod haf 2024. Bydd yr ymgyrch unwaith eto’n canolbwyntio ar ymddygiadau penodol ac yn annog trafodaethau mwy myfyriol ymysg dynion a bechgyn ynghylch sut gallant chwarae eu rhan yn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Byddwn hefyd yn gwerthuso’r ymgyrch Iawn i fyfyrio a dysgu o’n dull gweithredu, ac yn datblygu cyfleoedd i bartneriaethau gefnogi dulliau atal cychwynnol mewn rhagor o leoliadau cymunedol.
Yn ystod 2023-24, mae’r hyfforddiant Arwain y Newid: Ymyrraeth gan Wylwyr wedi cwblhau cam cychwynnol y peilot, gan gynnwys recriwtio a hyfforddi hyfforddwyr a dechrau’r camau cynnar o ddarparu hyfforddiant mewn gwahanol fformatau i wahanol garfannau. Mae hwn yn gynllun peilot tair blynedd wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i redeg tan fis Mawrth 2026. Mae Kindling Transformative Interventions yn gweithio gyda Plan International UK a Beyond Equality i dreialu hyfforddiant gwylwyr gweithredol am ddim i sefydliadau, grwpiau cymunedol, timau chwaraeon, lleoliadau addysg a gweithleoedd yng Nghymru rhwng 2024 a 2026. Bydd gwerthusiad o’r cynllun peilot yn cael ei gynhyrchu fel rhan o’r prosiect hwn pan fydd wedi dod i ben.
Roeddem wedi ymwneud yn agos â’r gwaith o ddatblygu’r Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus gyda Llywodraeth y DU. Bydd hyn yn creu trosedd newydd o dan y Ddeddf Trefn Gyhoeddus ar gyfer pobl sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod bwriadol i berson yn gyhoeddus, a bod yr ymddygiad hwnnw’n seiliedig ar ryw’r dioddefwr. Bydd hyn yn targedu aflonyddu rhywiol ar fenywod a merched yn bennaf, ac yn sicrhau bod neges glir na fydd yr ymddygiad hwn yn cael ei dderbyn. Drwy gwblhau Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, bydd y drosedd yn berthnasol i Gymru hefyd. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Llywodraeth y DU yn cytuno y bydd Gweinidogion Cymru a’r DU rhyngddynt yn pennu dyddiad dod i rym y drosedd newydd.
Fel y cafodd ei amlinellu’n fanwl o dan Amcan 2, mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn parhau i gael ei chyflwyno fel pwnc gorfodol ar draws ysgolion Cymru o 3 oed ymlaen. Mae’r cwricwlwm yn amlinellu cyfleoedd sy’n briodol i oedran i ddysgu plant sut beth yw perthnasoedd iach, gan gynnwys themâu sy’n ymwneud â pharch, perthnasoedd agos rhwng partneriaid, a sut mae cael gafael ar gymorth. Roedd y tîm VAWDASV wedi parhau i ariannu prosiect Sbectrwm Stori Cymru yn 2023-24, sy’n darparu addysg a hyfforddiant perthnasoedd iach i blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion.
Amcan 5
Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
Y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw un o’r prif fecanweithiau ar gyfer gweithredu’r Ddeddf. Bydd dioddefwyr a goroeswyr VAWDASV yn rhyngweithio ag amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys tai a gofal iechyd, ac mae’n bwysig sefydlu llwybrau priodol at gymorth a gwreiddio dealltwriaeth o drais ar sail rhywedd ym mhob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
Mae’n rhaid i awdurdodau perthnasol (fel yr amlinellir yn y Ddeddf) gymryd camau rhesymol i hyfforddi eu staff i fodloni gofynion y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ac adrodd ar y cynnydd drwy gyflwyno adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Yn yr hydref, byddwn yn ysgrifennu at arweinwyr yr awdurdodau perthnasol i roi gwybod iddynt am y cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn eu hardaloedd ac i’w hatgoffa o’u rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â’r Fframwaith. Mae’n galonogol gweld bod ffocws o hyd ar gynllunio a gweithredu’r Fframwaith ar draws Cymru.
Rhwng 1 Mawrth 2023 a 31 Mawrth 2024, roedd dros 55,000 o weithwyr proffesiynol yng Nghymru wedi cael hyfforddiant drwy’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol, sy’n golygu eu bod yn fwy gwybodus, yn fwy ymwybodol ac yn fwy hyderus wrth ymateb i bobl sy’n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Adolygu’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol
Yn yr adroddiad cynnydd diwethaf, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol a’r Canllawiau Statudol cysylltiedig a gafodd eu cyhoeddi yn 2016. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac mae swyddogion wedi cynnal sesiynau trafod cychwynnol gyda rhanddeiliaid sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ran 1 y canllawiau statudol ar gynlluniau hyfforddi lleol, dadansoddi anghenion hyfforddi lleol a’r adroddiad blynyddol, er mwyn casglu gwybodaeth ac adborth i ddiweddaru a gwella’r fframwaith.
Hoffem ddiolch i’r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu safbwyntiau gwerthfawr yn ystod y broses drafod gychwynnol. Bydd yr adborth a gafwyd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad yr adolygiad a sicrhau bod y fframwaith diwygiedig yn fwy ymatebol ac effeithiol, ac wedi’i deilwra i gyd-destun presennol cam-drin domestig ac atal trais rhywiol.
Wrth symud ymlaen, byddwn yn datblygu cynigion ar gyfer diwygio’r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, gan sicrhau bod y fframwaith diwygiedig yn cyd-fynd ag anghenion y rhai sy’n ei ddefnyddio ac amcanion ehangach y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru).
Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau perthnasol i gynyddu canran y gweithlu sy’n cael hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol. Byddwn yn parhau i drafod ag awdurdodau perthnasol wrth i’r gwaith fynd rhagddo ar yr adolygiad o’r Fframwaith, gyda’r nod o gyhoeddi canllawiau diwygiedig erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae Llywodraeth Cymru’n dal wedi ymrwymo i atal ac ymateb i gam-drin domestig a thrais rhywiol, ac mae’r adolygiad hwn yn gam pwysig tuag at gryfhau’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w gwarchod.
Cafodd Pecyn Cymorth Addysg VAWDASV Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi’n wreiddiol yn 2016 i roi amrywiaeth o ddeunyddiau arferion gorau i ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a darparwyr addysg bellach eu defnyddio mewn lleoliadau addysg. Bydd y pecyn yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru lle bo'n briodol yn 2025 i sicrhau bod yr adnoddau mwyaf priodol ar gael i athrawon a staff cyfadrannau ysgolion. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy ffrwd waith Anghenion Plant a Phobl Ifanc y Glasbrint mewn partneriaeth ag amrywiaeth o gyd-weithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, timau rhanbarthol a phartneriaid sector arbenigol.
Amcan 6
Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.
Rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn bennaf drwy Ffrwd Gwaith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau y Glasbrint VAWDASV.
Mae gan y Ffrwd Gwaith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau weithgor sy’n adrodd yn uniongyrchol i fwrdd y prosiect ac mae’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o’r sector, ac yn cael ei gadeirio gan un o Gynghorwyr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Mae’r gweithgor yn cyfarfod bob chwarter ac yn llywio’r ffrwd waith drwy gynllun cyflawni manwl. Yr amcan cyffredinol yw sefydlu fframwaith darparu clir, wedi’i ategu gan ganllawiau cadarn, i wella’r cysylltiad rhwng asesiadau o anghenion sydd wedi’u targedu ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynllunio a chyflawni strategol i sicrhau bod gwasanaethau VAWDASV yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn effeithiol, ac yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Ar ben hynny, comisiynodd y ffrwd waith Anghenion Plant a Phobl Ifanc ddarn o waith i fireinio’r wybodaeth sylfaenol sydd ar gael am gymorth a llwybrau gofal i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth i ddangos ymchwil a phapurau presennol, ochr yn ochr ag adroddiad yn cynnwys trosolwg o’r adnoddau presennol yng Nghymru, ac argymhellion ar gyfer y Glasbrint. Disgwylir i’r adroddiad a’r argymhellion gael eu llunio’n derfynol ddechrau 2024 i 2025.
Ym mis Chwefror 2024, fe wnaethom lansio arolwg ar y rhyngrwyd i helpu i gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol gan randdeiliaid ynghylch effeithiolrwydd y fframwaith presennol, sut mae’r dyletswyddau yn Neddf VAWDASV yn cael eu cyflawni, a sut mae partneriaid yn gweithio ar y cyd ar draws y sector i gyflawni’r gofynion yn y Polisi a’r Glasbrint VAWDASV.
Bydd adroddiad, sy’n crynhoi canfyddiadau’r arolwg hwn, ynghyd ag argymhellion clir ar gyfer y cam cyflawni nesaf, yn cael ei gyflwyno i’r Gweithgor yn yr hydref.
Dyma ddechrau’r broses hon. Mae angen llawer iawn o waith ychwanegol i sefydlu fframwaith gwell ac i ddatblygu’r canllawiau sydd eu hangen i gefnogi’r rhwydwaith o randdeiliaid a darparwyr ledled Cymru.
Mae’r ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc yn canolbwyntio ar lais plant a phobl ifanc drwy gomisiynu ymarfer mapio o’r ddarpariaeth sydd ar gael iddynt yng Nghymru ar hyn o bryd, ochr yn ochr â dull wedi’i hwyluso o ddatblygu fframwaith ar gyfer cynnwys plant a phobl ifanc drwy’r Glasbrint.
Rhan 3: gwaith maes ehangach
Cydraddoldeb, croestoriadedd a grwpiau agored i niwed
Ni allwn gyflawni’r newid rydyn ni am ei weld heb fynd i’r afael â chroestoriadedd a’r ffyrdd y gall nodweddion fel oedran, hil, statws anabledd, rhywioldeb, statws economaidd-gymdeithasol a nodweddion ehangach greu anghenion, rhwystrau a heriau ychwanegol i’r rhai sy’n dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae’r Glasbrint VAWDASV wedi ymrwymo i ddatblygu a gwreiddio fframwaith croestoriadedd. Bydd y fframwaith yn nodi ac yn mynd i’r afael â’r achosion strwythurol sylfaenol sy’n golygu bod pobl yn wynebu rhwystrau, yn dyrchafu lleisiau sydd ar y cyrion, yn darparu meincnod ar gyfer dysgu a datblygu parhaus, ac yn gwneud argymhellion i greu ymateb sy’n seiliedig ar degwch, peidio â gwahaniaethu a chynhwysiant. Mae’r fframwaith croestoriadedd hwn wedi cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei dreialu gyda ffrydiau gwaith y Glasbrint yn 2024 i 2025.
Ar draws y llywodraeth, rydyn ni’n cyfrannu at fuddiannau VAWDASV ac yn eu cynrychioli mewn amryw o gynlluniau gweithredu cydraddoldeb, gan gynnwys y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, y Cynllun Gweithredu LHDTC+ a’r Tasglu Anableddau.
Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Roedd Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu Bawso yn 2023 i 2024, gan sicrhau gwasanaeth cenedlaethol gan ac ar gyfer cymunedau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru. Gyda chymorth y grant refeniw VAWDASV, mae Bawso wedi taflu goleuni ar y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin drwy drefnu digwyddiadau ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod a Diwrnod Rhyngwladol Dim Goddefgarwch ar gyfer Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Mae Bawso’n parhau i gynnig gwasanaethau allgymorth yn y Gogledd i sicrhau dull darparu cenedlaethol, yn ogystal â phrosiectau plant ledled Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe.
Yn ystod y flwyddyn roedd Bawso wedi rhoi cymorth i 403 o fenywod a 94 o blant drwy lety arbenigol dros dro. Darparwyd gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth i 2,906 o gleientiaid yr oedd VAWDASV wedi effeithio arnynt, a daeth 420 o bobl i’w digwyddiadau coffa yn ystod y flwyddyn.
Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus
Mae bod heb hawl i gyllid cyhoeddus yn creu rhwystrau ychwanegol, cymhleth i ddioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Ym mis Chwefror 2022, roedd Bawso wedi cyflwyno papur i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip yn amlinellu cyfyngiadau cynllun Cymorth i Fewnfudwyr sy’n Ddioddefwyr y Swyddfa Gartref, ac wedi darparu enghreifftiau o feysydd lle nad oedd y cyllid yn mynd yn ddigon pell i gefnogi dioddefwyr cam-drin sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus yng Nghymru. Roedd y cyfyngiadau’n cynnwys diffyg llety digonol, roedd y cyllid cynhaliaeth yn rhy fyrhoedlog mewn perthynas â’r broses hir o geisio lloches, yn ogystal â diffyg dealltwriaeth o ran rolau statudol asiantaethau eraill ledled Cymru, fel gwasanaethau cymdeithasol. Roedd yr amseru’n briodol, gan fod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi cyhoeddi ei adroddiad ar anghenion menywod sy’n fudwyr ac sydd wedi dioddef trais ar sail rhywedd.
Cytunodd y Gweinidog y byddem yn darparu cyllid peilot ar gyfer 2023 i 2024 i ‘ychwanegu at’ y cynllun Cymorth i Fewnfudwyr sy’n Ddioddefwyr yng Nghymru. Er na fyddai hyn yn ateb perffaith, byddai’n sicrhau y gallai Bawso ddarparu cyllid ychwanegol i’r unigolion hynny a oedd yn defnyddio’r cynllun hwn, am gyfnod hirach, i sicrhau eu diogelwch a chymorth parhaus iddynt drwy’r system loches gymhleth. Cytunwyd y byddai Bawso yn cael cyllid i gyflawni yn erbyn y disgwyliadau hyn ar gyfer 2023 i2024.
Paramedrau’r gronfa oedd sicrhau bod cyfraddau cynhaliaeth dyddiol yn cael eu cynyddu i sicrhau bod gan ddioddefwr a’i phlant arian ar gyfer bwyd a hanfodion eraill, eu bod yn gallu talu costau llety am gyfnod estynedig, ac yn gallu talu costau eraill fel trafnidiaeth, cymorth cyfreithiol a gofynion eraill.
Llwyddodd Bawso i roi cymorth i 90 o unigolion drwy ychwanegu at eu cronfa Cymorth i Fewnfudwyr sy’n Ddioddefwyr gyda chyllid peilot Llywodraeth Cymru. Roedd hynny 15 yn fwy na’r hyn a oedd wedi’i fwriadu yn y cynllun cyflawni.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ariannu Bawso i ddarparu’r cynllun peilot ‘atodol’ yn 2024 i 2025 i barhau i sicrhau bod dioddefwyr sy’n fudwyr yng Nghymru ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus yn cael cynnig cymorth ychwanegol wrth lywio drwy’r dirwedd fewnfudo gymhleth. Mae dadansoddi parhaus yn cael ei gynnal i nodi’r llwybr mwyaf priodol a chynaliadwy o roi cymorth i bobl yn y dyfodol.
Arferion niweidiol
Roedd y Grŵp Arwain ar Gam-drin ar sail Anrhydedd wedi parhau i gyfarfod drwy gydol 2023 i 2024. Mae’r Grŵp Arwain yn cynnwys gweithwyr proffesiynol o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r sector arbenigol, ond oherwydd problemau capasiti ar draws y sector, cyfyngedig oedd presenoldeb rhai sefydliadau partner.
Roedd y pynciau allweddol a drafodwyd yn cynnwys diffyg cysondeb o ran casglu data ledled Cymru (a’r DU) yn ogystal ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gam-drin ar sail anrhydedd ar draws y sector proffesiynol, gan olygu nad yw risg yn cael ei rheoli’n ddigonol na llwybrau cymorth addas yn cael eu hysgogi. Mae’n hanfodol bod pawb sy’n cymryd rhan yn cytuno ar berchnogaeth dros y materion hyn o hyn ymlaen i sicrhau y gellir rhoi newid go iawn ar waith. Roedd y Grŵp Arwain wedi drafftio cynllun cyflawni newydd, mwy penodol yn 2023 i 2024 i sicrhau bod modd sicrhau’r berchnogaeth hon drwy gamau gweithredu penodol a chyraeddadwy, gan annog bob rhan o’r sector cyhoeddus ac arbenigol i gyfrannu er mwyn atal a mynd i’r afael â cham-drin ar sail anrhydedd.
Mae'r Grŵp Arwain wedi gweithio gydag academydd sydd hefyd yn canolbwyntio ar gasglu data ynghylch cam-drin ar sail anrhydedd ledled y DU, ac mae disgwyl cynnydd pellach yn 2024 i 2025.
Pobl hŷn
Roedd aelodau’r ffrwd waith Anghenion Pobl Hŷn wedi canolbwyntio ar ddeall a nodi bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn. Cafodd hyn ei wneud drwy gynnal ymarfer mapio o’r gwasanaethau cyffredinol a phwrpasol sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl hŷn ledled Cymru, a hynny i’r rhai sydd wedi dioddef a’r rhai sydd wedi achosi’r dioddef.
O’r map hwn, cafodd dau ddarn arall o waith eu sefydlu – un yn canolbwyntio ar lais goroeswyr, a’r llall yn canolbwyntio ar drafod â’r gwasanaethau i ddysgu mwy am sut mae sicrhau hygyrchedd i bobl hŷn.
Dechreuodd y ddau brosiect yn 2023 i 2024, lle cynhaliwyd trafodaethau gyda phobl hŷn, gan ganolbwyntio ar eu profiadau o gael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael. Ar yr un pryd, tua diwedd 2023-24, dechreuodd y ffrwd waith gyfres o drafodaethau â’r gwasanaethau eu hunain, gan ddechrau nodi’r arferion gorau o ran hygyrchedd i bobl hŷn. Mae disgwyl i’r ddau brosiect ddod i ben yn 2024 i 2025.
Cymunedau LHDTC+
Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei gynnwys yn gyson yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru y Llywodraeth, gyda chamau gweithredu penodol i sicrhau bod y gwaith sy’n cael ei wneud yn y tîm VAWDASV yn cyd-fynd â nodau ehangach Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod cymunedau LHDTC+ yn ddiogel ac yn iach. Mae’r camau gweithredu hyn yn cynnwys: canolbwyntio ar gyllid cynaliadwy, hirdymor ar gyfer gwasanaethau VAWDASV arbenigol; sicrhau bod gwasanaethau VAWDASV yn gynhwysol; cynnal rhagor o ymchwil i ddeall anghenion croestoriadol cymunedau LHDTC+ ethnig leiafrifol a phobl ag anableddau, ynghyd â chasglu data’n well.
Mae’r Dull System Gyfan yn y Glasbrint yn canolbwyntio ar gomisiynu cynaliadwy, gan sicrhau dull cydweithredol o gomisiynu i leihau dyblygu, a thargedu cymorth ac ymyrraeth lle mae ei angen fwyaf. Bydd hyn yn sicrhau, drwy weithredu ar y cyd, ein bod yn gallu ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg. Mae croestoriadedd a chydraddoldeb yn sail i’r holl waith datblygu polisi i sicrhau bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ynghylch dulliau system gyfan cynaliadwy yn ystyried anghenion yr holl ddioddefwyr a goroeswyr posibl yng Nghymru, gan gynnwys y gymuned LHDTC+.
Anabledd
Roedd y tîm VAWDASV wedi sicrhau ei fod yn cael ei gynrychioli ar y Tasglu Anabledd, yn enwedig ar y ffrydiau gwaith Mynediad at Gyfiawnder a Phlant a Phobl Ifanc i sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr anabl sydd wedi dioddef camdriniaeth neu drais yn cael eu hystyried. Cafodd y ffrydiau gwaith eu cyflawni drwy ddull cydgynhyrchu gyda chynrychiolaeth o sefydliadau pobl anabl, y trydydd sector, cyfiawnder troseddol ac arweinwyr polisi trawslywodraethol. Ar ddiwedd 2023 i 2024, cafodd argymhellion drafft o’r ffrwd waith Mynediad at Gyfiawnder eu llunio’n derfynol o dan y thema VAWDASV, gan ganolbwyntio ar lais goroeswyr, data croestoriadol a chodi ymwybyddiaeth. Bydd yr argymhellion llawn yn cael eu rhannu ddechrau 2024 i 2025.
Dechreuodd y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ddefnyddio Sign Live yn 2023 i sicrhau bod gan ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain lwybr ychwanegol i gael gafael ar wasanaethau gan y Llinell Gymorth. Er bod negeseuon testun, e-bost a sgwrsio byw eisoes yn llwybrau amgen i siarad ag eiriolwr ar y llinell gymorth, ceir cydnabyddiaeth mai 8 oed yw oedran darllen a deall pobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, sy’n golygu y gall mynediad at ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain helpu i sicrhau gwell dealltwriaeth a mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad.
Trafodaethau â Llywodraeth y DU ac Ewrop
Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus (2023)
Yn ystod 2023, roedd y tîm polisi VAWDASV yn rhan o grŵp trawslywodraethol yn Llywodraeth Cymru a fu’n trafod â chyd-weithwyr yn y Swyddfa Gartref yn ystod taith y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus, a ddaeth yn Ddeddf ym mis Medi 2023.
Mae’r Ddeddf Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus (2023) yn gwneud darpariaeth i fynd i’r afael ag ‘aflonyddwch, braw neu drallod bwriadol i berson yn gyhoeddus lle mae’r ymddygiad yn cael ei wneud oherwydd rhyw, neu ryw canfyddedig y person hwnnw’. Mae’n creu trosedd newydd ac yn darparu trefn ddedfrydu fwy llym ar gyfer troseddwyr sy’n aflonyddu, yn codi braw neu’n achosi trallod oherwydd rhyw canfyddedig y dioddefwr-goroeswr, ac mae hefyd yn ychwanegu Adran 4A at Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1986, gan ganiatáu ar gyfer dedfrydau mwy llym i droseddwyr sy’n aflonyddu’n fwriadol ar berson arall mewn man cyhoeddus oherwydd eu rhyw, neu eu rhyw canfyddedig. Mae gan y Ddeddf uchafswm dedfryd o garchar o 2 flynedd am y drosedd o aflonyddu cyhoeddus.
Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Ddeddf hon ar 1 Mehefin 2023 rhwng Ysgrifennydd Gwladol y Swyddfa Gartref a Gweinidogion Cymru, lle maen nhw’n ymrwymo i gydweithio ac ymgynghori ar y dyddiad cychwyn a’r canllawiau i awdurdodau perthnasol. Yn dilyn hynny, pasiodd Senedd Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar 13 Mehefin 2023 i roi caniatâd i’r drosedd hon fod yn berthnasol i Gymru hefyd. Ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2023, rydyn ni wedi parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer rhoi’r Ddeddf ar waith ddiwedd 2024.
Deddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024
Yn ystod 2023 to 2024, roedd y tîm polisi VAWDASV yn rhan o grŵp trawslywodraethol yn Llywodraeth Cymru a fu’n trafod â chyd-weithwyr yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystod taith y Bil Dioddefwyr a Charcharorion, a ddaeth yn Ddeddf ym mis Ebrill 2024.
Mae’r Ddeddf Dioddefwyr a Charcharorion (2024) yn gwneud darpariaeth ynghylch dioddefwyr ymddygiad troseddol a phobl eraill y mae ymddygiad troseddol yn effeithio arnynt; ynghylch penodi a swyddogaethau eiriolwyr dros ddioddefwyr digwyddiadau mawr; ynghylch rhyddhau carcharorion; ynghylch aelodaeth a swyddogaethau’r Bwrdd Parôl; i wahardd rhai carcharorion rhag priodi neu gofrestru mewn partneriaeth sifil; ac at ddibenion cysylltiedig.
Yn ystod 2023 i 2024, roedd Llywodraeth Cymru wedi trafod yn rheolaidd ynghylch nifer o ddarpariaethau yn y Bil i ddeall elfennau ymarferol taith y Bil o ran polisi, strategaeth, y gyfraith a chyfansoddiad, gan ganolbwyntio ar yr effaith ar Gymru. O ran y tîm VAWDASV, rhoddwyd sylw penodol i Gymal 15 (Adran 16 o’r Ddeddf erbyn hyn) a oedd yn ymwneud â chanllawiau ynghylch cynghorwyr annibynnol, er enghraifft Cynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol ac Eiriolwyr Annibynnol ar Drais Domestig, ac roedd wedi canolbwyntio ar y ddyletswydd arfaethedig i gydweithio (Adran 13 o’r Ddeddf erbyn hyn).
Mae’r tîm Polisi yn parhau i drafod â chyd-weithwyr polisi ehangach yn Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a phartneriaid eraill yn y sector VAWDASV ynghylch effaith y Ddeddf yng Nghymru.
Gwerthusiad Cyngor Ewrop o’r confensiwn ar atal a threchu trais yn erbyn menywod a thrais domestig (Confensiwn Istanbul)
Ym mis Ionawr 2024, roedd GREVIO, y corff arbenigol sy’n gwerthuso’r gwaith o weithredu Confensiwn Istanbul, wedi ymweld â phedair gwlad y DU i drafod y cynnydd yn y maes hwn. Yng Nghymru, roedd hyn yn golygu ymweld â Chaerdydd i drafod ag arweinwyr polisi a strategaeth, yr heddlu, CAFCASS Cymru, cynghorwyr rhanbarthol VAWDASV, a’r trydydd sector. Roedd GREVIO hefyd wedi cyfarfod â Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
I sicrhau bod Cymru’n gallu dangos y gwaith traws-sector a oedd wedi cael ei wneud i gadarnhau’r confensiwn, cynhaliwyd dau ddiwrnod llawn o gyfarfodydd a oedd yn dangos y cynnydd a oedd wedi’i wneud mewn meysydd fel strategaethau cenedlaethol, cyflawni rhanbarthol, croestoriadedd, cefnogi dioddefwyr sy’n fudwyr, cyllid cynaliadwy ar gyfer cyrff anllywodraethol a phartneriaethau rhanbarthol. Roedd yn llwyfan defnyddiol i ddangos y gwaith traws-lywodraethol sy’n cael ei wneud i lunio polisïau a darparu systemau gwell i gefnogi’r rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth a thrais yng Nghymru, a’r rhai sydd mewn perygl o hynny. Bydd adroddiad GREVIO yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2024.
Ymweliad Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod a merched
Ym mis Chwefror 2024, ymwelodd rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar drais yn erbyn menywod a merched â Chymru fel rhan o daith pedair gwlad. Roedd y rapporteur arbennig wedi gwahodd arweinwyr polisi a strategaeth, heddluoedd yng Nghymru a phobl â phrofiad bywyd i gymryd rhan mewn trafodaeth bwrdd crwn er mwyn cyflwyno’r cynnydd ar draws y sector VAWDASV yng Nghymru. Roedd y rapporteur wedi cyfarfod â’r trydydd sector hefyd.
Roedd yr ymweliad yn gyfle i Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ar y pryd, atgyfnerthu’r ymrwymiad i fynd i’r afael â VAWDASV yng Nghymru, gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein Rhaglen Lywodraethu a’n strategaeth VAWDASV genedlaethol. Roedd gan y rapporteur ddiddordeb penodol mewn heriau data, cefnogi pobl ag anghenion croestoriadol, niwed ar-lein a chasineb at fenywod, a’r gofyniad i lywodraethau a sefydliadau’r trydydd sector gydweithio’n well.
Rhagwelir y bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn nes ymlaen eleni.
Casgliadau a ffocws i’r dyfodol
Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud yn 2023 i 2024 drwy barhau i wreiddio chwe ffrwd waith y Glasbrint VAWDASV a chyflawni chwe amcan y Strategaeth Genedlaethol. Mae’r Glasbrint wedi rhoi cyfle i ni ffurfioli a gwreiddio ein hegwyddorion o bartneriaeth a chydweithio i gael gwared ar drais a cham-drin ar sail rhywedd. Rydyn ni wedi parhau i wneud cynnydd o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn 2023 i 2024; fodd bynnag, mae’n amlwg bod llawer i’w wneud o hyd. Roeddem yn cefnogi casgliadau adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Sut y mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan: dull iechyd y cyhoedd o atal yr epidemig trais ar sail rhywedd, sef bod angen dull iechyd y cyhoedd i fynd i’r afael â’r achosion yn ogystal ag effeithiau trais ar sail rhywedd.
Dim ond drwy wreiddio ymdrech ar y cyd i gyflawni ein hamcanion y gallwn weld newid go iawn. Mae angen i bawb mewn cymdeithas fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ein ffocws yn 2024 i 2025 fydd parhau i hybu’r dull trawslywodraethol hwn sydd wedi’i wreiddio yn y Glasbrint, a blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal. Byddwn hefyd yn ceisio sicrhau cyllid mwy cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol i atal, gwarchod a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr, a bod llais goroeswyr yn parhau i ddylanwadu ar ein polisïau a’n hymyriadau.
Ni fydd Cymru’n goddef cam-drin.