Bydd asid ffolig yn cael ei ychwanegu at flawd i amddiffyn cannoedd o fabanod rhag anableddau difrifol bob blwyddyn. Ond mae prif feddyg Cymru yn pwysleisio bod atchwanegiadau dyddiol yn dal yn bwysig.
Bydd cyfraith newydd yn ei gwneud yn ofynnol i flawd nad yw'n flawd gwenith cyflawn gael ei atgyfnerthu ag asid ffolig o ddiwedd 2026 ymlaen.
Bydd hyn yn helpu i atal tua 200 o achosion o nam ar y tiwb nerfol mewn babanod bob blwyddyn.
Mae nam ar y tiwb nerfol yn gallu atal yr ymennydd, yr asgwrn cefn a llinyn asgwrn y cefn rhag datblygu'n iawn yn y groth.
Gall hyn achosi cyflyrau ar yr asgwrn cefn sy'n cyfyngu ar fywyd, fel spina bifida neu anenceffali.
Cyn beichiogi, ac yn ystod 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd, mae menywod yn cael eu cynghori i gymryd atchwanegiadau asid ffolig i amddiffyn eu babanod rhag namau difrifol.
Ond nid yw tua hanner yr achosion o feichiogrwydd wedi'u cynllunio, ac mae arbenigwyr yn dweud mai dim ond rhai menywod sy'n cymryd y tabledi dyddiol.
Bydd ychwanegu asid ffolig at fwyd sy'n cynnwys blawd – fel bara – yn helpu i leihau nifer yr achosion o feichiogrwydd sy'n cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol yn ogystal â gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth.
Mae calsiwm, haearn a rhai fitaminau B eisoes yn cael eu hychwanegu at flawd yn y DU.
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton:
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi'r dechrau gorau, iachaf i fywyd i blant.
Mae atgyfnerthu blawd ag asid ffolig yn ffordd syml ac effeithiol o leihau namau ar y tiwb nerfol a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lawer o fywydau.
Ond mae'n bwysig bod menywod sy'n feichiog, neu a allai ddod yn feichiog, yn dal i ddilyn y cyngor i gymryd atchwanegiad asid ffolig bob dydd.
Mae cymryd 400 microgram o asid ffolig, cyn ac yn ystod 3 mis cyntaf y beichiogrwydd, yn gam pwysig i amddiffyn babanod rhag cyflyrau sy'n peryglu bywyd.
Gall namau ar y tiwb nerfol gael effaith ofnadwy ar ddisgwyliad oes, felly gallai'r cam syml hwn achub bywydau ledled Cymru.
Dywedodd Kate Steele, Prif Swyddog Gweithredol Shine, sef yr elusen genedlaethol sy'n helpu pobl y mae anenceffali, spina bifida a hydroseffalws wedi effeithio ar eu bywydau:
Mae hyn yn newyddion gwych.
Mae Shine wedi bod ar flaen y gad yr ymgyrch hon ynglŷn â gorfodi ychwanegu asid ffolig at flawd ers dros 30 o flynyddoedd, pan gafodd ymchwil ei chyhoeddi yn dangos y gallai hyn leihau'r siawns o achosion o feichiogrwydd yn cael eu heffeithio gan namau ar y tiwb nerfol fel anenceffali, un o'r prif resymau dros golli babi, a spina bifida.
Bydd y cam hwn yn golygu y bydd rhaid i lawer llai o deuluoedd wynebu'r trawma o ddiagnosis i fabi heb ei eni a allai fod yn ddiagnosis angheuol neu'n un a fyddai'n effeithio ar ei fywyd.
Mae hon yn garreg filltir bwysig, ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith i basio'r ddeddfwriaeth hon.