Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Arolwg Amaethyddol a Garddwrol wedi’i gynnal ym mis Mehefin ers 1867 er mwyn darparu amcangyfrifon o weithgarwch amaethyddol yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r amcangyfrifon cyntaf o’r newidynnau allweddol o’r arolwg Mehefin 2024.

Prif bwyntiau

Mae 90% o arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio. Oherwydd natur y tir hwn, fe’i defnyddir yn bennaf ar gyfer magu defaid a gwartheg.

Mae yna 8.7 miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru sy’n debyg i’r ffigur yn 2023. Y cyfanswm isaf ers 2011 ydy hyn. Mi wnaeth y rhif yma amrywio i fyny ac i lawr yn y blynyddoedd rhyngol.

Mae yna 1.09 miliwn o wartheg a lloi yng Nghymru – man gostyngiad ar y 1.12 miliwn y flwyddyn cynt. Roedd y gostyngiad yma yn fwy amlwg yn y fuches eidion (5.8%) nag yn y fuches llaeth (1.3%).

Cafwyd 53,000 hectar o ydau eu tyfu yng Nghymru yn 2024 – cynnydd o 4% o’r flwyddyn cynt ond yn is na’r ffigwr yn 2022 a oedd yn ffigwr brig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. I’w roi yn ei gyd-destun, mae ardaloedd ydau yn cyfrif am lai na 3% o holl dir amaethyddol Cymru.

Ymateb i’r arolwg

Roedd y gyfradd ymateb o 45% wedi’i chynnal ar gyfer 2024  mae hyn yn gostyngiad o gymharu â’r blynyddoedd diwethaf.

Yn 2024 anogwyd ffermwyr i gwblhau’r arolwg ar-lein lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Fodd bynnag, cwblhawyd 46% o'r ffurflenni ar-lein eleni - cynnydd o 24% y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y gyfran hon yn parhau i gynyddu ar gyfer yr arolwg hwn yn y dyfodol.

Fel bob amser, mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar iawn i'r holl ffermwyr hynny a roddodd o’u hamser i lenwi'r arolwg.

Cymharu â blynyddoedd blaenorol

Y canlyniadau a gyflwynir yn y datganiad hwn yw'r amcangyfrifon allweddol cyntaf o'r arolwg eleni. Mae'r rhain yn cael eu cymharu â'r amcangyfrifon o arolwg 2023 gan amlaf.

Yn aml, y cyd-destun hanesyddol sy’n rhoi’r persbectif pwysicaf ar niferoedd heddiw – boed hynny ar draws nifer o'r blynyddoedd diweddaraf neu dros gyfnod hwy.

Felly mae taenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn ac ynddi:

  • restr lawn o newidynnau hyd at 2024: cyfres amser (1998 i 2024) sy'n dangos sut mae'r prif newidynnau yn rhannu'n is-gategorïau manylach; sylwer nad oes rhai o'r manylion hyn ar gael ar gyfer 2020 o ganlyniad i'r arolwg llai a gynhaliwyd y llynedd. (gweler datganiad ar ganlyniadau Arolwg 2020 am ragor o fanylion)
  • y cyd-destun hanesyddol: cyfres amser sy'n dyddio'n ôl i 1867 ac sy'n dangos y tueddiadau yn y dangosyddion allweddol yn y tymor hir

Yn ogystal, mae’r datganiad ar Ganlyniadau Arolwg 2019 yn cynnwys rhywfaint o sylwebaeth sy'n tynnu sylw at y prif ffactorau sy’n cyfrannu at y tueddiadau hyn.

Defnydd tir amaethyddol yng Nghymru

Mae tirwedd, ansawdd pridd a hinsawdd Cymru yn cyfyngu ar y defnydd y gellir ei wneud o’r tir. Mae rhan fwyaf o Gymru yn fryniog neu’n fynyddig ac mae hynny, ynghyd ag ansawdd pridd cymharol wael a hinsawdd wlyb, yn golygu mai dim ond pori defaid a gwartheg y gellir ei wneud ar y rhan fwyaf o’r tir.

Mae Arolwg Amaethyddol Cymru yn casglu gwybodaeth am dir a ddefnyddir ar ffermydd (sydd naill ai’n eiddo i rywun neu’n cael eu rhentu). Nid yw’r wybodaeth hon yn cynnwys defnydd o dir comin. Mae rhyw 180,000 hectar ohono yng Nghymru. Nid yw tir comin yn cael ei gynnwys gan ei fod yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau o ffermydd sydd â hawliau ar gomin penodol, yn hytrach na chael ei ddefnyddio gan un fferm yn unig.

Data diweddaraf

Amcangyfrifon ar gyfer yr arolwg 2024 ar ddefnydd o dir amaethyddol

  • Gwelwyd cynnydd o 0.4% yng nghyfanswm y tir ar ddaliadau i 1,775,200 hectar ym mis Mehefin 2024. O’i gyfuno â’r 180,300 hectar o dir pori garw ar dir comin, mae hynny’n golygu bod 90% o holl arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol.
  • Roedd 107,800 hectar o gnydau âr ym mis Mehefin 2024. Cynyddodd arwynebedd y grawnfwydydd a dyfwyd o 12 mis yn ôl, ond nid mor uchel ag yn 2022, sef yr uchafbwynt yn y blynyddoedd diwethaf. Mae defnydd o dir ar ddaliadau yng Nghymru yn 2024 i’w weld isod.

Ffigur 1: Rhaniad tir ar ddaliadau amaethyddol yn ôl defnydd 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart yn dangos bod glaswelltir parhaol yn cyfri am bron i ddau draean (62%) o dir fferm yng Nghymru. Mae’r tir yn weddill yn gynnwys glaswelltir newydd (9%), tir pori garw (14%), cnydau âr (6%) a thir arall (9%). Mae tir arall yn gynnwys coedir, adeiladau a thir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amaeth.

Ffynhonnell: Arolwg Amaethyddol Mehefin 2024

[Nodyn1] Tir pori garw lle mae gan y deiliad yr unig hawliau  (h.y. nid yw’n cynnwys tir pori garw ar dir comin).

[Nodyn2] Mae’n cynnwys garddwriaeth (llysiau a ffrwythau a dyfir yn yr awyr agored, stoc galed a thai gwydr).

Mae arwynebedd tir ar ffermydd yng Nghymru wedi cynyddu ychydig (0.4%), sy’n parhau’r cynnydd cyson yn y gyfres hanesyddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n debyg bod hyn wedi digwydd oherwydd bod tir yn cael ei gyfrif ddwywaith. Realiti ffermio yw bod deiliadaeth tir yn broses gyfnewidiol. Mae tir yn cael ei brynu a'i werthu, ei rentu a'i osod drwy’r amser. Mae ceisio dilyn yr holl newidiadau hyn a chadw cofrestr gyfredol o ffermydd yn broblem.

Nid yw cadw gwybodaeth am ffermydd sy’n cael eu cofrestru o’r newydd yn broblem fel arfer. Bydd angen i ffermwr gofrestru er mwyn cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN) at ddibenion taliadau a CPH (rhif daliad) er mwyn caniatáu iddo symud anifeiliaid. Felly, byddwn yn dod i wybod am ffermydd newydd wrth iddynt gofrestru am y tro cyntaf.

Mae'r broblem yn codi pan ddaw gweithgarwch ffermio i ben. Mae'r cofrestriad yn parhau ond nid yw'r tir yn cael ei ffermio mwyach, neu mae’n cael ei roi ar osod i ffermwr arall neu'n cael ei werthu. Felly, mae’n bosibl bod y tir yn cael ei gyfrif o dan ei gofrestriad gwreiddiol a hefyd pan fydd yn dechrau cael ei ffermio o dan ei gofrestriad newydd.

Yn ddiweddar, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi ymgymryd ag ymarfer i gysylltu â chofrestriadau “segur” gyda’r bwriad i’w harchifo oni bai y cânt wybod yn wahanol. Mae hyn yn debygol o fod yn ffactor sydd wedi cyfrannu at wrthdroi cyfanswm yr arwynebedd sydd o hyd yn cynyddu.

Defaid ac ŵyn yng Nghymru

Mae gwytnwch defaid yn golygu bod modd eu ffermio mewn bron pob rhan o Gymru. Mae defaid yn fwy cyffredin yn yr ucheldir ac mae’n bosibl mai dyma’r unig opsiwn busnes ymarferol yno. Er bod y costau cynnal a chadw a’r costau cyfalaf sy’n gysylltiedig â defaid yn gymharol isel, nid ydynt yn gwneud llawer o elw i’r ffermwr ychwaith. Felly, gall gweithgareddau eraill gael blaenoriaeth ar dir gwell.

Data diweddaraf

Amcangyfrifon ar gyfer yr arolwg 2024 ar gyfer defaid ac ŵyn

  • Roedd cyfanswm y defaid ac ŵyn yng Nghymru yn 8.75  miliwn - cynnydd o 0.6% ar y ffigur ar gyfer y llynedd.

Dechreuodd nifer y defaid a'r ŵyn yng Nghymru dyfu yn ystod y 1970au, gan gyrraedd uchafbwynt o 11.8 miliwn ym 1999. Bu gostyngiad graddol yn y niferoedd dros y 10 mlynedd dilynol, ac mae’n bosibl mai’r hyn a oedd i gyfrif am hynny oedd y newidiadau i’r ffordd yr oedd Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC) yn cael ei weithredu, pan gafwyd gwared yn raddol ar gynlluniau a oedd yn seiliedig ar nifer y da byw a oedd yn cael eu cadw.

Cynyddodd niferoedd eto am ychydig o flynyddoedd, ond dros y 10 mlynedd diwethaf maent wedi amrywio fyny ac i lawr. Fodd bynnag, y ffigur o dua 8.7 miliwn a welwyd yn y dwy flynedd ddiwethaf yw’r lefel isaf ers 2011.

Mae'r ystadegau hanesyddol i'w gweld yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn. Ceir sylwebaeth fanylach ar y tueddiadau yn fersiwn 2019 o'r datganiad hwn.

Gwartheg a lloi yng Nghymru

Mae gwartheg yn cael eu cadw’n bennaf am eu llaeth neu er mwyn cynhyrchu cig. Dyma’r sectorau godro ac eidion. Mae ffermydd yn dueddol o ganolbwyntio naill ai ar odro neu ar eidion. Mae ffermydd sy’n gwneud y ddau yn brin, ond mae rhai i’w cael. Mae ffermio gwartheg godro yn dueddol o greu enillion uwch ond mae’n gofyn am dir gwell a chryn fuddsoddiad cyfalaf. Yng Nghymru, mae gan ffermydd sydd â llawer o wartheg eidion lawer o ddefaid hefyd yn aml. Gall ffermydd eidion fagu’r anifeiliaid o’r cyfnod pan fyddant yn lloi nes iddynt gael eu hanfon i’r lladd-dy. Fodd bynnag, mae’n gymharol gyffredin yng Nghymru, yn enwedig ar yr ucheldir, i fagu’r anifeiliaid tan iddynt gyrraedd pwynt penodol ac yna’u symud i fferm arall lle byddant yn parhau i gael eu magu cyn cael eu hanfon i’r lladd-dy. Gall y ffermydd hynny fod ar diroedd isel yng Nghymru neu yn Lloegr.

Data diweddaraf

Amcangyfrifon ar gyfer yr arolwg 2024 ar gyfer gwartheg

  • Roedd cyfanswm y gwartheg a’r lloi yng Nghymru yn 1,089,800 – gostyngiad o 2.4% o gymharu â’r ffigur ar gyfer mis Mehefin 2023.
  • Mae’r nifer o wartheg godro 2+ oed sydd wedi bwrw llo wedi gostwng 1.3% i 251,300. Mae’r diffiniad hwn yn cael ei dderbyn yn gyffredinol fel mesur o’r fuches odro.

Gan ddefnyddio’r diffiniad cyfatebol, gostyngodd maint y fuches eidion 5.8% dros y 12 mis diwethaf i 140,700.

Ers 2004, mae data am niferoedd gwartheg wedi bod ar gael drwy’r System Olrhain Gwartheg sy’n cael ei rheoli gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS), at ddibenion iechyd anifeiliaid yn bennaf.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cyferbyniad rhwng y tueddiadau a welwyd yn nifer y gwartheg llaeth a’r gwartheg eidion. Er bod nifer y gwartheg llaeth wedi cynyddu ychydig (3%), mae nifer y gwartheg eidion wedi gostwng gryn dipyn (33%).

Mae’r ystadegau hanesyddol i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae esboniad manylach o’r tueddiadau yn fersiwn 2019 o’r datganiad hwn.

Da byw eraill yng Nghymru

Yn economaidd, y prif fathau o dda byw ar ffermydd masnachol yng Nghymru yw gwartheg a defaid. Y prif grwpiau eraill o dda byw yw dofednod a moch, ond yn achos y rheini, mae’r cynhyrchu’n digwydd mewn nifer cymharol fach o unedau mawr. Bydd y niferoedd a gadwir gan geidwaid eraill, nad ydynt yn fasnachol, yn gymharol fach.

O fewn y strwythur hwn, gall cynnydd neu ostyngiad mawr yn y niferoedd mewn ychydig o unedau gael effaith sylweddol ar yr amcangyfrifon cyffredinol.

Data diweddaraf: moch

Amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2024

  • Roedd cynnydd o 12% yn nifer y moch yng Nghymru ym mis Mehefin 2024. Y cyfanswm ar hyn o bryd yw 27,900. Mae mwyafrif (92%) yr anifeiliaid hynny’n cael eu cadw i’w pesgi (cynhyrchu cig) gyda’r gweddill yn cael eu defnyddio ar gyfer magu.

Data diweddaraf: dofednod

Amcangyfrifon ar gyfer arolwg 2024

  • Cyfanswm y dofednod yng Nghymru ym mis Mehefin 2024 oedd 11,842,400 – roedd y rhan fwyaf ohonynt (dros 90%) yn ieir bwyta neu’n frwyliaid (6.3 miliwn) ac ieir a gadwir ar gyfer wyau (4.4 miliwn o adar).

Mae’r gyfres hanesyddol ar gyfer y niferoedd o foch a dofednod i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. Mae esboniad manylach o’r tueddiadau yn fersiwn 2019 o’r datganiad hwn.

Ceffylau a geifr

Nid yw data am y grwpiau hyn o dda byw yn cael eu cyflwyno fel rhan o’r datganiad hwn er eu bod ar gael yn y daenlen sy’n cyd-fynd ag ef. Y rheswm dros hynny yw nad ydynt o gymaint o ddiddordeb â grwpiau eraill o dda byw yng nghyd-destun amaethyddol Cymru gyfan.

Yn sgil mecaneiddio, mae defnyddio ceffylau at ddibenion amaethyddol wedi dod i ben i bob pwrpas yn yr 21ain ganrif. Efallai fod ychydig iawn yn cael eu defnyddio fel hyn ond ar safleoedd twristiaeth/amgueddfeydd y bydd hynny’n digwydd yn hytrach nag ar ffermydd gweithredol modern go iawn. Mae’r rhan fwyaf i’w gweld mewn stablau hurio, ysgolion marchogaeth neu’n cael eu cadw mewn caeau bychain neu stablau fel anifeiliaid anwes at ddibenion hamdden. Bydd rhai ffermydd yn ennill incwm ychwanegol drwy ddarparu gwasanaethau marchogaeth, stablau a stablau hurio.

Er bod rhai geifr yng Nghymru, bydd y rhan fwyaf ohonynt yn gymharol fach ac ni fyddant yn fusnesau masnachol. Fel arfer, byddant yn cael eu defnyddio i bori er mwyn cynnal y tir ac, mewn rhai achosion, i gynhyrchu ychydig o laeth. Mae llond llaw o gynhyrchwyr llaeth mwy masnachol ond nid oes modd rhoi sylw iddyn nhw heb berygl o ddatgelu gwybodaeth am weithrediadau ffermydd unigol.

Llafur ar ddaliadau amaethyddol yng Nghymru

Mae’r amcangyfrifon a gyflwynir yn y datganiad hwn ar gyfer llafur ar ffermydd yn cael eu cyfyngu i niferoedd y prif ffermwyr ac i’r bobl hynny sy’n cael eu cyflogi i weithio ar y fferm. Gweler y sylwadau am ansawdd data isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch pam nad oes rhagor o fanylion yn cael eu cynnwys.

Amcangyfrifon 2024

  • Nifer y prif ffermwyr, cyfarwyddwyr, partneriaid busnes a’u gŵyr/gwragedd oedd 37,300, gostyngiad o 2.4% ers 2023.
  • Mae’r nifer hwn yn cynnwys 16,600 o brif ffermwyr llawnamser a 20,700 o ffermwyr rhan-amser; teimlir efallai bod problem adrodd gyda rhai unigolion ar rai unedau llai yn cofnodi llawnamser oherwydd mai dyna yw eu patrwm gwaith cyffredinol, nid eu patrwm gwaith ar y fferm yn unig; ni wyddys i ba raddau y mae hyn yn digwydd.
  • Nifer y bobl a gyflogwyd ar ffermydd ar 1 Mehefin 2024 oedd 12,200 – cynnydd o 1.8% ers 2023; gwelwyd y tuedd hwn ymhlith gweithwyr arferol (llawnamser a rhan-amser) a gweithwyr achlysurol.

Mae’r diffiniad o brif ffermwyr yn un eithaf eang: mae’n cynnwys partneriaid busnes, cyfarwyddwyr cwmnïau ac unrhyw ŵr/gwraig i ffermwr, neu ei gysylltiadau busnes. Fodd bynnag, mae’n rhaid i unrhyw ŵr/wraig wneud rhywfaint o waith ar y fferm i gael eu cynnwys.

Yng Nghymru, mae’r rhan fwyf o’r gwaith bob dydd ar y fferm yn cael ei wneud gan y ffermwr a’i deulu agosaf. Gan amlaf, bydd y rhain yn cael eu cynnwys yn y diffiniad uchod o brif ffermwyr. Fel rheol, dim ond am gyfnodau byr ar adegau prysur o’r flwyddyn (e.e. ŵyna, cynhaeaf) neu i wneud tasgau arbenigol (e.e. cneifio, dipio) y bydd angen cymorth ychwanegol.

Bydd y gwaith arbenigol yn dueddol o gael ei wneud gan gontractwyr nad ydynt yn cael eu cynnwys yng nghyfrif llafur yr Arolwg Amaethyddol. Y prif resymau dros hynny yw eu bod yn hunangyflogedig ac yn ffermwyr eu hunain yn aml (ac felly eisoes wedi’u cynnwys yn amcangyfrif yr arolwg).

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar ffurf cipolwg ar un diwrnod penodol ddechrau mis Mehefin. Mae’r anweddolrwydd sy’n gysylltiedig â hynny yn ei gwneud yn anodd iawn gweld unrhyw duedd dros nifer o flynyddoedd. Gall ffactorau fel y tywydd benderfynu pryd mae pobl yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn, er enghraifft.

Rydym yn sylweddoli bod y diffiniadau o pwy ddylai gael eu cynnwys a sut dylid eu categoreiddio yn gallu creu anhawster. O’r herwydd, rydym wedi mynd ati ddwywaith yn ystod y 10 mlynedd diwethaf i ddiwygio sut mae’r cwestiynau am lafur yn cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, er bod newid geiriad y cwestiynau a’r ffordd y cânt eu cyflwyno yn gallu helpu o ran eglurder, mae angen cofio bod hynny hefyd yn gallu effeithio ar gysondeb wrth adrodd ar niferoedd.

Cymariaethau â gweddill y DU

Rhagor o wybodaeth am ystadegau amaethyddol yng Nghymru

Mae’r datganiad hwn yn rhoi prif ganlyniadau arolwg 2024 ar lefel Cymru gyfan. Bydd canlyniadau manylach yr arolwg yn cael eu darparu mewn allbynnau ar wahân yn y dyfodol.

Mae problemau adnoddau o fewn y tîm yn ystod 2024 wedi golygu nad ydym wedi gallu diweddaru’r allbynnau hyn fel y byddem wedi dymuno. Gobeithiwn y caiff y rhain eu diweddaru erbyn Gwanwyn 2025.

Prif allbynnau eraill yn ymwneud ag ystadegau amaethyddol

  • StatsCymru: dyma adnodd dadansoddi rhyngweithiol Llywodraeth Cymru ac mae ynddo nifer o dablau sy’n ymdrin â gwahanol agweddau ar yr Arolwg Amaethyddol dros y cyfnod rhwng 2007 a 2017. Mae'r gyfres hon wedi dod i ben dros dro gan nad yw adnoddau wedi bod ar gael i ddiweddaru’r gyfres. 
  • Ffeithiau a Ffigurau Ffermio: dyma daflen maint poced y bwriedir iddi gael ei defnyddio fel adnodd cyfeirio cyflym ar gyfer data lefel uchel. O’r herwydd, mae’n cael ei gyhoeddi ar ffurf copi caled ond gallwch wneud cais am y data. Mae Ffeithiau a Ffigurau Ffermio yn cael ei gyhoeddi bob blwyddyn. 
  • Ystadegau ar ardaloedd bach amaethyddol: dyma’r canlyniadau manylaf o’r Cyfrifiad Amaethyddol a gynhelir ym mis Mehefin bob blwyddyn. Er mwyn diwallu’r anghenion cynyddol am ystadegau amaethyddol manwl, mae’r bwletin hwn yn amlinellu’r cyfaddawd rhwng manylder ac ansawdd data ac yn darparu set ddata sy’n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau ar gyfer y defnyddiwr. Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi Gwanwyn 2025.
  • Incymau Fferm yng Nghymru: mae’r bwletin blynyddol hwn yn cyflwyno canlyniadau’r Arolwg o Fusnesau Ffermio a gynhelir gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2025.

Mae ystadegau amaethyddol Cymru ar gael ar gyfer cyfnod hanesyddol hir, ac mae’r data hynny ar gael ar ffurf taenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn. I gael rhagor o wybodaeth am ystadegau amaethyddol Cymru, gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio un o’r ffyrdd a nodir ar y dudalen flaen.

Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am amaethyddiaeth i’w gweld o dan y pwnc Ffermio a Chefn Gwlad ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cafodd adroddiad ansawdd cynhwysfawr, sy’n disgrifio’r ddwy agwedd hyn ar ddata’r arolwg ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2021.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU)

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Chwefror 2013. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig (OSR) yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Dibynadwyedd

  • Parhau i ddefnyddio iaith glir, annhechnegol i gyflwyno’r ystadegau a’u cyd-destun i gynulleidfa mor eang â phosibl.
  • Cyflwyno’r prif “ddata diweddaraf” ar frig pob adran gan mai’r rhain fydd o’r diddordeb mwyaf i’n defnyddwyr allweddol.
  • Darparu data hanesyddol i gyd-fynd â’r datganiad hwn, ynghyd â sylwadau sy’n egluro’r ffactorau sydd y tu ôl i’r tueddiadau hanesyddol.

Ansawdd

  • Cyhoeddi adroddiad ansawdd manwl ym mis Chwefror 2021 ac ynddo wybodaeth am ansawdd data a methodoleg yr arolwg. Mae darparu'r wybodaeth honno ar wahân yn golygu bod y Datganiad hwn yn fyrrach.

Gwerth

  • Perswadio ffermwyr i gwblhau'r arolwg ar-lein lle bynnag y bo modd.
  • Ehangu’r manylion ar sut y defnyddir y data mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru.
  • Defnyddio’r cylchgronau eraill a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru ac Undebau’r Ffermwyr ac a anfonir at ffermwyr i’w hannog i anfon ffurflenni’r arolwg yn ôl atom. Hefyd defnyddio gwasanaeth negeseuon electronig Taliadau Gwledig Cymru at yr un diben.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stuart Neil
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 105/2024