Demograffeg busnes: 2023
Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2023 ac yn cyfeirio at fusnesau oedd yn weithredol rhwng Rhagfyr 2022 a Rhagfyr 2023.
Prif bwyntiau
- Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2023 oedd 102,215. Roedd hyn yn ostyngiad o 2,305 o fentrau (2.2%) ar 2022.
- Gwelwyd 10,520 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2023, sy'n gyfradd o 10.3%. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 11.0%.
- Bu 11,300 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2023, sef cyfradd o 11.1%. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 10.8%.
- Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2018 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2023 yng Nghymru oedd 36.6%, ychydig yn is na chyfradd oroesi’r DU o 39.4%. Yng Ngogledd Iwerddon oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (47.7%) ac yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yr oedd yr isaf (34.7%).
- Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2022 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2023 yng Nghymru oedd 91.8%, ychydig yn is na chyfradd oroesi'r DU o 92.3%. Yn Ne Ddwyrain Lloegr cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (93.4%), tra bod yr isaf yng Ngogledd Iwerddon (90.8%).
Nodyn
Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.
Bydd y setiau data manwl Demograffeg busnes ar StatsCymru yn cael eu diweddaru i gynnwys y data newydd maes o law.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Emma Horncastle
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099