Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb
Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb Bil sy'n rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar aros dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ac mae hyn yn ymrwymiad sy’n cael blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ardoll yn gyfraniad teg gan ymwelwyr ac yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yn codi arian ychwanegol i awdurdodau lleol ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddiant. Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, sy’n golygu y bydd hon yn ardoll leol newydd wedi’i dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am y Bil.
O ran ei dyluniad, mae'r ardoll wedi'i chadw'n syml ond yn deg er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl; rydym yn rhagweld y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd lleol sy'n dewis defnyddio ardoll drwy gynhyrchu refeniw i gefnogi ardaloedd lleol, a thrwy hynny wella enw da'r gyrchfan a chefnogi'r economi ymwelwyr.
Bydd cofrestr statudol o ddarparwyr llety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob llety ymwelwyr diffiniedig yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, ochr yn ochr ag ymchwil barn defnyddwyr i geisio barn trigolion Cymru a defnyddwyr gwyliau domestig y DU.
Diffiniadau
Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) drafft a dylid ei ystyried ochr yn ochr ag ef.
Geiriau/ymadroddion allweddol
Diffiniad.
ACC
Ystyr ACC yw Awdurdod Cyllid Cymru, adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru: Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Ad-daliadau
Pan fydd yr ardoll ymwelwyr wedi'i throsglwyddo i ymwelydd a bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael ad-daliad.
Ardoll Ymwelwyr
Tâl ychwanegol a godir ar lety ymwelwyr dros nos. Cyfeirir at hyn hefyd mewn gwledydd eraill fel treth dwristiaeth, treth llety, neu dreth gwesty.
Awdurdod Lleol/ Awdurdodau Lleol
Y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, y cyfeirir atynt hefyd fel Awdurdodau Unedol.
Cyfraddau Sero
Arhosiad mewn llety ymwelwyr ag ardoll ar gyfradd o £0.
Darparwr Llety Ymwelwyr
Person/ busnes sy’n darparu neu’n cynnig darparu llety i ymwelwyr mewn safleoedd yng Nghymru wrth fasnachu neu gynnal eu busnes.
Esemptiadau
Mathau o lety na fydd yn destun ardoll ymwelwyr.
Llety Ymwelwyr
Llety i ymwelwyr sy'n cael ei ddiffinio yn y Bil sy'n ddarostyngedig i gofrestru fel darparwr llety i ymwelwyr.
Twristiaeth gynaliadwy
Twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr. (Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig).
Ymwelydd
Person sy'n aros mewn llety ymwelwyr.
Llinell amser ddangosol
2024 Cyflwyno
Cyflwyno'r bil llety ymwelwyr i'w graffu gan y Senedd. Cyhoeddi'r Asesiadau Effaith.
2025 Senedd yn pleidleisio
Os yw'r bil yn pasio, cael Cydsyniad Brenhinol.
2025 Disgresiwn lleol
Awdurdod lleol yn gallu dechrau ymgynhori'n lleol ac asesu effaith ardoll ymwelwyr.
2026 Cyfnod rhybudd
Cyfnod rhybudd tebygol o 12 mis os yw awdurdod yn penderfynu cyflwyno ardoll.
2026 Cofrestru
Darparwyr llety'n dechrau cofrestru mewn ardaloedd fydd yn cyflwyno'r ardoll.
2027 Gweithredu
Dyddiad dangosol cyflwyno'r ardoll gan awdurdod lleol.
Nodau polisi ac effeithiau bwriadedig
1. Bydd yr Ardoll Ymwelwyr yn rhoi pŵer dewisol i awdurdodau lleol godi ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal. Nod cyffredinol yr ardoll yw cynhyrchu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol sy’n dewis defnyddio ardoll, ac ni ddisgwylir y bydd effeithiau “uniongyrchol” ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Yn ogystal, nid oes sicrwydd beth fydd yr union ymateb ymddygiadol i’r ardoll a gallai amrywio yn ôl yr unigolyn a’r ardal.
2. Pe bai awdurdod lleol yn dewis mabwysiadu ardoll, byddai disgwyl i'r effeithiau gael eu monitro. Bydd y canllawiau a ddatblygir yn cyfeirio at rwymedigaethau statudol presennol sy'n cynnwys cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.
Cyflwyniad
3. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod Dyletswydd Cydraddoldeb Gyffredinol ar Weinidogion Cymru i roi ‘sylw dyledus’ i ystod o ofynion sy’n ymwneud â dileu neu leihau anfanteision a ddioddefir gan bobl sydd â nodweddion gwarchodedig neu sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, a dileu rhwystrau i gyfranogi.
4. Wrth ystyried pob un o’r nodweddion gwarchodedig, mae’r asesiad hwn o’r effaith ar gydraddoldeb yn cyd-gysylltu â sawl ystyriaeth a archwiliwyd yn yr asesiad o effaith economaidd-gymdeithasol yr ardoll ymwelwyr a’r asesiad o’r effaith ar hawliau plant. Felly, argymhellir eu darllen ochr yn ochr â'i gilydd.
5. Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar gydraddoldeb wedi ystyried effeithiau posibl y Bil ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Nododd ein hasesiad fod y darpariaethau yn y Bil yn annhebygol o effeithio’n sylweddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig. Lle nodwyd effeithiau negyddol, gwnaed ymdrechion i’w lliniaru neu eu lleihau.
6. Wrth ystyried y nodweddion gwarchodedig, nodwn nad yw’r nodweddion gwarchodedig a restrir ynghyd ag ystyriaethau eraill yn annibynnol ar ei gilydd, ac efallai y bydd yn rhaid i rai pobl ddelio â materion cymhleth a chydgysylltiedig sy’n ymwneud ag anfantais ar unrhyw un adeg.
7. Bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael effaith uniongyrchol neu anuniongyrchol ar awdurdodau lleol, ymwelwyr, a thrigolion lleol a busnesau lle mae ardoll yn cael ei gweithredu. Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i lywio gan ddadansoddiad manwl o’r dystiolaeth bresennol er mwyn nodi effeithiau posibl y polisi ar y nodweddion gwarchodedig canlynol: Oedran, Anabledd, Rhyw, Beichiogrwydd a mamolaeth, Ailbennu rhywedd, Cyfeiriadedd Rhywiol, Hil, Priodas a Phartneriaeth Sifil, a Chrefydd a Chred.
8. At ddibenion yr asesiad effaith hwn, mae ‘effaith uniongyrchol’ yr ardoll ymwelwyr yn cyfeirio at unrhyw effaith bosibl o orfod talu neu godi’r ardoll. Mae ‘effaith anuniongyrchol’ yn cyfeirio at unrhyw effaith bosibl y gallai bodolaeth yr ardoll ei hachosi. Gall y rhain fod yn effeithiau ‘eilaidd’ neu ‘drydyddol’ sy’n digwydd oherwydd bod ardoll ymwelwyr yn cael ei gweithredu ond nad yw’n cael eu hachosi’n uniongyrchol gan yr ardoll ymwelwyr.
9. Gan mai prin yw’r ymchwil presennol ar effeithiau cyflwyno ardoll ymwelwyr ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, mae’r asesiad effaith hwn yn defnyddio adroddiadau ansoddol gan y rhai â nodweddion gwarchodedig a gasglwyd gan swyddogion a data ehangach sydd ar gael er mwyn dod i gasgliadau ynglŷn ag effaith “anuniongyrchol” bosibl gweithredu ardoll ymwelwyr.
10. Mae’r dadansoddiad wedi cadarnhau'r angen am ystyriaeth ddyledus a dealltwriaeth o arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr a thirwedd cydraddoldeb a grwpiau agored i niwed yn yr ardal. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i roi sylw dyledus i adran 149(1) Deddf Cydraddoldeb 2010. Disgwylir y bydd awdurdodau lleol yn ystyried anghydraddoldebau trwy benderfyniadau'r awdurdod lleol a gofynion asesu effaith yr ardoll ar lefel leol.
Y sefyllfa gyffredinol o ran y gyfradd sero, ad-daliadau ac esemptiadau
11. Cafwyd dros 1200 o ymatebion i'r ymgynghoriad ffurfiol yn 2021. O’r ymatebion hynny, roedd sicrhau bod yr ardoll yn cael ei gweithredu mewn ffordd deg yn thema a oedd yn codi dro ar ôl tro. Yn gyffredinol, roedd y rhai a oedd o blaid rhoi esemptiadau neu gyfraddau sero i rai grwpiau yn gwneud hynny ar y sail bod y gyfradd sero yn hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb trwy gefnogi grwpiau â nodweddion gwarchodedig (gan osgoi mynd yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ), tra bod eraill yn dadlau bod rhai grwpiau y tu hwnt i’r hyn a ddylai gael ei ddiffinio fel ymwelydd, er enghraifft, y rhai sy'n aros mewn llety ymwelwyr oherwydd anghenraid, yn hytrach nag at ddibenion hamdden.
12. Yn gyffredinol, roedd y rhai a oedd yn anghytuno â’r esemptiadau neu gyfraddau sero arfaethedig yn nodi y gallai’r esemptiadau arwain at anghysondebau a allai wneud yr ardoll yn fwy cymhleth a chynyddu’r baich gweinyddol ar awdurdodau treth a darparwyr llety ymwelwyr. Er enghraifft, gallai hyn olygu y byddai'n ofynnol i ddarparwr llety ymwelwyr wirio'r gyfradd sero a roddir a chadw tystiolaeth ohono. Gallai hyn godi materion yn ymwneud â’r cais am wybodaeth sensitif a’r cyfyngiadau cysylltiedig ar ddiogelu data. Roedd eraill o'r farn y byddai cyfraddau sero yn annheg, o ystyried bod pob ymwelydd yn elwa ar seilwaith a gwasanaethau ymwelwyr ac y dylent felly gyfrannu tuag at eu cynnal.
13. Mae angen sylfaen polisi clir ar gyfer unrhyw gyfradd is neu gyfradd sero sy’n seiliedig ar nodweddion personol neu nodweddion gwarchodedig. Mae'r rhain yn gymesur lle maent yn dileu rhwystrau i grwpiau, fodd bynnag gallai gweithredu cyfradd sero mewn modd amhriodol greu annhegwch. Gall cyfradd sero fod o fudd i un grŵp ar draul grŵp arall. Rydym wedi mabwysiadu’r dull o ddefnyddio cyn lleied o gyfraddau sero â phosib ond gan sicrhau bod cyfradd ardoll is yn cael ei phennu. Mae hyn yn cadw'r dull yn syml ac yn hawdd i'w weinyddu, gan sicrhau cost-effeithiolrwydd treth sy’n codi swm cymharol isel. Rydym o’r farn y byddai pob ymwelydd yn cael effaith ar ardal, ac eithrio dan yr amgylchiadau lle aseswyd y byddai eu cynnwys yng nghwmpas yr ardoll yn annheg ac yn anghymesur.
14. Mae’r ddeddfwriaeth ddrafft yn nodi tri chategori o arosiadau mewn perthynas â’r ardoll, a fydd naill ai wedi’u hesemptio, ar gyfradd sero neu’n cael eu had-dalu:
- Esemptiad yw pan fo darparwr wedi'i esemptio rhag unrhyw un o ddyletswyddau’r ardoll ymwelwyr yn y bil. Mae hyn ar gyfer darparwyr penodol o fathau penodol o lety. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys llety ar gyfer ceiswyr lloches, ysbytai preifat, safleoedd cymeradwy, cartrefi gofal a safleoedd sipsiwn a theithwyr.
- Mae cyfraddau sero yn cyfeirio at arosiadau mewn llety ymwelwyr (gwestai, gwely a brecwast ac ati) lle nad ydym yn dymuno i’r ardoll fod yn berthnasol am resymau polisi. Mae hyn yn cynnwys arosiadau a drefnir gan awdurdodau lleol ar gyfer y rhai sy'n ddigartref.
- Ad-daliadau: O dan rhai amgylchiadau, efallai y bydd rhai ymwelwyr yn gallu adennill swm sy'n cyfateb i swm yr ardoll a dalwyd wrth aros mewn llety ymwelwyr. Gellir adennill y swm hwn wrth wneud cais a chyflwyno tystiolaeth i ACC. Mae hyn yn cynnwys arhosiad pan fo risg i iechyd, diogelwch neu les pe bai unigolyn yn aros yn ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa (er enghraifft, arosiadau a drefnwyd gan elusennau ar gyfer pobl agored i niwed neu lle mae tân, llifogydd neu drychineb arall yn golygu bod eiddo yn anaddas i fyw ynddo neu lle mae gwasanaethau brys wedi cynghori i beidio ag aros yn yr eiddo am resymau o’r fath), lle roedd unigolyn yn ddigartref (ac nid oedd yr arhosiad ar gyfradd sero), ac arosiadau gan bobl anabl sy’n teithio yng nghwmni gofalwr.
15. Er eglurder, nodir yr esemptiadau, cyfradd sero ac ad-daliadau yn Nhabl 1:
Esempt | Cyfradd sero | Ad-daliadau |
---|---|---|
Arosiadau dros nos ar safle sipsiwn a theithwyr | Arosiadau brys mewn llety ymwelwyr sydd wedi’u trefnu gan awdurdodau lleol fel rhan o’u dyletswyddau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. | Arosiadau sy'n gysylltiedig â llety brys dros dro a drefnir gan sefydliadau elusennol mewn llety ymwelwyr ar ran pobl ddigartref gan gynnwys y rhai sy'n ffoi rhag cam-drin domestig a cheiswyr lloches. |
Arosiadau sydd wedi’u trefnu gan y Swyddfa Gartref fel rhan o'u rhwymedigaethau statudol. | Pobl anabl sy'n derbyn budd-dal anabledd cymwys sydd wedi talu ardoll ymwelwyr tra'n aros mewn llety ymwelwyr ac sydd yng nghwmni gofalwr. | |
Arosiadau sydd wedi’u trefnu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel rhan o'u rhwymedigaethau statudol. | Arhosiadau pan fo risg i iechyd, diogelwch neu les pe bai unigolyn yn aros yn ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa (er enghraifft, arosiadau a drefnwyd gan elusennau ar gyfer pobl agored i niwed neu lle mae tân, llifogydd neu drychineb arall yn golygu bod eiddo yn anaddas i fyw ynddo neu lle mae gwasanaethau brys wedi cynghori i beidio ag aros yn yr eiddo am resymau o’r fath), |
Ymgynghori ac ymgysylltu
16.Mae swyddogion ardoll ymwelwyr wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws timau polisi Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector i ddeall profiadau bywyd grwpiau agored i niwed sy’n defnyddio llety ymwelwyr. Gwnaed hyn gyda’r nod o nodi effeithiau posibl a, lle bo hynny’n bosibl, lleihau’r effeithiau negyddol. Mae Atodiad A yn yr asesiad effaith integredig yn darparu rhestr lawn o'r sefydliadau rydym wedi ymgysylltu â nhw.
17. Nododd yr ymgysylltu hwn y gallai’r rhai sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), gan gynnwys ceiswyr lloches Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF) gael eu lletya dros dro mewn llety i ymwelwyr wrth aros am dai parhaol. Gall y llwybrau i gael gafael ar lety dros dro mewn llety ymwelwyr fod trwy’r awdurdod lleol, elusen, neu wedi’u hunan-drefnu. Lle mae arosiadau’n cael eu hunan-drefnu, ni fyddai'n bosibl i roi cyfradd sero ar yr arosiadau hyn na rhoi ad-daliad. Y rheswm am hyn yw y byddai'n creu baich anghymesur ac amhriodol ar ddarparwyr llety ymwelwyr i asesu statws tai unigolyn a'r rhesymau dros y statws tai.
18. Mae swyddogaethau tai yn gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol, ac oherwydd hynny mae angen eu cyfranogiad er mwyn hwyluso cyfradd sero o'r fath. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai rhai elusennau gefnogi unigolion i drefnu llety dros dro wrth aros am gymorth gan yr awdurdod lleol. Rydym yn nodi y gallai hyn ddigwydd mewn achosion lle mae’r unigolyn mewn sefyllfa fregus a’r trefniadau’n cael eu gwneud ar frys, gan olygu nad yw'r awdurdod nad yw'r awdurdod lleol yn cael eu cynnwys bob tro.
19. Mae darparwyr gwasanaethau sy'n cefnogi'r rhai sydd Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus yn cael eu hariannu gan y Swyddfa Gartref ar gyfer y swyddogaeth hon. Mae’r darparwyr gwasanaeth hyn yn nodi bod ‘cap’ ar gyllid wrth ddarparu llety mewn sefyllfaoedd brys/dros dro. Mae’r darparwr gwasanaeth yn aml yn ariannu'r llety o'u cronfeydd wrth gefn neu o roddion a dderbyniwyd mewn sefyllfaoedd fel hyn. Yn yr amgylchiadau hyn, mae elusennau’n ffafrio mynd ar drywydd gwasanaethau’r Swyddfa Gartref neu’r awdurdod lleol sy’n darparu llety i unigolion yn uniongyrchol. Mae sawl rheswm pam nad yw dewis defnyddio llety ymwelwyr masnachol yn ddull a ffefrir, yn anad dim ceir risg o hyd nad yw’r person yn cael ei letya’n ddiogel.
20. Bydd cyflwyno ardoll ymwelwyr yn y sefyllfaoedd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i elusennau neu unigolion agored i niwed dalu cost yr ardoll pan fydd darparwyr yn ei drosglwyddo, a gallai hynny gael effaith negyddol gan mai cyllideb gyfyngedig sydd ganddynt i gyfrif am unrhyw daliad ychwanegol am yr ardoll. Yn wir, efallai na fydd gan bobl agored i niwed fynediad uniongyrchol at gyllid ac maent yn dibynnu ar drydydd parti, yr elusen gofrestredig yn yr achos hwn, i'w cefnogi.
21. Rydym felly wedi galluogi o fewn y Bil y bydd unigolion (neu’r rhai sy'n eu cefnogi) o dan yr amgylchiadau hyn yn gallu adennill unrhyw symiau ardoll a dalwyd. Yr her gyda chyfradd sero yw y byddai angen asesu digartrefedd, swyddogaeth sy'n dod dan gyfrifoldebau awdurdodau lleol. Yn ymarferol, os nad oes awdurdod lleol neu elusen gofrestredig yn ymwneud â threfnu’r arhosiad byddai gofyniad ar ddarparwyr llety ymwelwyr i asesu digartrefedd, a chasglu tystiolaeth er mwyn galluogi cyfradd sero. Nid yw swyddogion o’r farn fod hyn yn briodol ac mae’n debygol nad yw’n gydnaws â’r ddeddfwriaeth bresennol (h.y. bod awdurdodau lleol yn trefnu arosiadau fel rhan o’u dyletswyddau tai).
22. Ar gyfer y math hwn o arhosiad, rydym yn cydnabod na fyddai bob amser yn bosibl neu'n briodol i'r elusen ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol, felly rydym wedi cyfrif am elfen o ddisgresiwn gan Awdurdod Cyllid Cymru wrth adolygu'r dystiolaeth addas. Gallai dogfennau y gellir eu gwirio gynnwys cofnodion archebu, derbynebau, datganiadau ariannol a gohebiaeth.
23. Dylid nodi mewn sefyllfaoedd lle mae unigolyn agored i niwed yn “hunan-ariannu” ei arhosiad (h.y. nid drwy elusen), ni fyddai modd iddynt wneud cais am ad-daliad heb gyflwyno tystiolaeth briodol i ddangos ei gymhwysedd.
24. Bydd canllawiau technegol yn cael eu datblygu yn egluro'r prosesau ar gyfer gwneud cais am ad-daliadau. Mae Tabl 2 yn nodi'r camau yr ydym yn eu cymryd o ganlyniad i'n hymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol. Ar y cyfan, mae’r Bil wedi’i gynllunio gyda rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu i addasiadau gael eu gwneud yn y dyfodol, pe bai unrhyw effeithiau anghymesur neu ganlyniadau anfwriadol yn dod i’r amlwg ar ôl i ardoll ddod yn weithredol.
Darpariaeth | Gweithred |
---|---|
Cyfraddau’r ardoll |
|
Esemptiadau |
|
Arosiadau cyfradd sero |
|
Ad-daliadau |
|
Canllawiau cenedlaethol |
|
Monitro a gwerthuso | O ystyried bod yr ardoll yn ddewisol ac y gallai gymryd blynyddoedd i awdurdodau lleol ei mabwysiadu, bydd y broses o werthuso’r ardoll yn esblygu. Fodd bynnag, mae systemau ar waith i fonitro’r effaith dros amser:
|
Pa effaith fydd y cynigion hyn yn ei chael ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig a phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010
Oedran
25. Mae proffil oedran twristiaid domestig sy’n ymweld â Chymru wedi’i ddosbarthu’n weddol gyfartal ar draws y grwpiau oedran, gyda 27% o’r ymwelwyr yn 2022 rhwng 25 a 34 oed. Fodd bynnag, mae grwpiau hŷn (55+) yn llai tebygol o ymweld â Chymru na’r grwpiau oedran eraill (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr, arolwg twristiaeth dros nos Cymru, adroddiad blynyddol: 2022). Mae hyn yn nodweddiadol o dwristiaeth ddomestig ond ceir amrywiannau ar draws Prydain Fawr. Ar gyfer y rhai 25-34 oed, mae proffil Cymru yn debyg i broffil Lloegr; ond ar gyfer y rhai dros 55 oed mae'n debyg i'r Alban, gyda Lloegr â demograffeg llawer hŷn.
Grŵp oedran | Canran y teithiau i Gymru 2022 |
---|---|
16-24 | 23% |
25-34 | 27% |
35-44 | 21% |
45-54 | 13% |
55-64 | 9% |
65+ | 7% |
Grŵp oedran 25-34 | |
---|---|
Gwlad ym Mhrydain Fawr | Canran y teithiau 2022 |
Cymru | 27% |
Yr Alban | 31% |
Lloegr | 26% |
Grŵp oedran 55+ | |
---|---|
Gwlad ym Mhrydain Fawr | Canran y teithiau 2022 |
Cymru | 16% |
Yr Alban | 15% |
Lloegr | 23% |
26. Mae cydberthynas rhwng gallu person i dalu ardoll ymwelydd (ac yn wir i ddefnyddio llety ymwelwyr neu i fynd ar daith) â’i statws economaidd-gymdeithasol, sy’n awgrymu ei bod yn fwy tebygol o fod yn rhwystr i bobl sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae’n bosibl bod y rhai mewn oed sydd fel arfer yn cael eu cysylltu ag incwm is (er enghraifft, pobl iau), yn llai tebygol o allu fforddio’r gost ychwanegol ar gyfer llety ymwelwyr sy’n gysylltiedig â’r ardoll (Tourists' willingness to pay to improve sustainability and experience at destination). Fodd bynnag, mae’r amrywiannau yn y galw gan ddefnyddwyr yn ffactor pwysig yma ac, efallai na fydd y costau ychwanegol yn annog y rhai ar gyflogai llai i beidio â mynd ar wyliau, ond gallai arwain at newid ymddygiad mewn ffyrdd eraill, fel aros am gyfnodau byrrach neu wario llai.
27. Cydnabyddir bod gwaith yn y sector twristiaeth yn aml yn fwy ansicr h.y. mae gweithwyr yn fwy tebygol o gael eu cyflogi’n rhan amser neu dreulio llai o amser yn gweithio i’r un cyflogwr (Travelling light: Labour shortages hampering sustainable recovery for tourism). Yn ogystal, ar y cyfan mae'r rhai sy’n cael eu cyflogi ym maes twristiaeth yn iau (Tourism employment summaries) gyda 38% o weithwyr twristiaeth rhwng 16 a 29 oed yn 2022 (Welsh Tourism Sector Business and Labour Market Statistics, 2016-2021). O ran y rhai sy’n talu ardoll, gall pobl iau fod yn fwy hyddysg o ran TG ac yn fwy cyfforddus â phroses gofrestru electronig, na phobl hŷn. Dylai cynnig y cyfle i ddarparu ceisiadau papur helpu unrhyw un a allai fod angen cymorth gyda hygyrchedd TG. Rydym hefyd yn awgrymu bod y gofrestr yn gofyn am ddyddiad geni’r Darparwyr Llety Ymwelwyr er mwyn helpu gyda’r broses wirio. Bydd y data hwn hefyd yn ein helpu i ddeall unrhyw faterion penodol sy'n gysylltiedig ag oedran trwy ymchwil.
28. Pe bai awdurdod lleol yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr gallai hynny achosi ymateb ymddygiadol andwyol ymysg ymwelwyr gan arwain at ostyngiad yn y galw. Mae ein hasesiad o’r effaith economaidd yn amcangyfrif unrhyw newidiadau i gyflogaeth o ganlyniad i’r ardoll ymwelwyr yn seiliedig ar dri senario sy’n amrywio o ymateb ymddygiadol gwan, canolig a chryf i’r ardoll. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio o gynnydd net o 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (CALl) mewn senario wan i golli tua 390 o swyddi CALl mewn sefyllfa gref. Er enghraifft, gallai gostyngiad yn y galw arwain at gyflogwyr yn lleihau oriau, recriwtio, cynlluniau buddsoddi, cyflogau neu mewn rhai achosion ddileu swyddi. Gall hyn effeithio ar weithwyr yn y pen draw. Mae'n anochel bod y canlyniadau hyn yn ansicr ac yn seiliedig ar effaith net gyffredinol gan fod cynnydd mewn swyddi CALl o ganlyniad i wariant refeniw ardoll ymwelwyr sy'n gwrthbwyso colledion. Mae tystiolaeth o gyrchfannau eraill yn awgrymu bod hyn yn annhebygol ac os bydd yn digwydd, efallai mai dim ond yn y tymor byr y bydd yn digwydd, gyda’r refeniw a gynhyrchir o ardoll yn y tymor hwy yn gorbwyso unrhyw effeithiau tymor byr.
29. Yn y pen draw, bydd ffactorau ehangach yn dylanwadu ar ymddygiad ymwelwyr a chyflogwyr, gan gynnwys y cyd-destun macro-economaidd, felly ni fyddai’n ymarferol i amlinellu union effaith economaidd a ddaw yn sgil ardoll ymwelwyr. Bydd ffactorau fel y tywydd, yr adeg o'r flwyddyn, lefelau incwm gwario, beth mae cyrchfannau eraill yn ei wneud, cyflwr yr economi a ffactorau eraill i gyd yn effeithio ar ymddygiad ymwelwyr.
30. Yn ogystal, pe bai'r refeniw ychwanegol a godir yn ysgogi gwelliannau i'r seilwaith a’r gwasanaethau lleol, gallai hyn arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardal, gan sbarduno mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector twristiaeth. Gallai’r refeniw ychwanegol hefyd fod o fudd anuniongyrchol i drigolion hŷn a thrigolion iau drwy wella ansawdd bywyd yn y gymuned yn gyffredinol, pe bai’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella seilwaith, gan wneud y cyrchfan yn fwy hygyrch i fwy o bobl. Gallai’r arian hefyd gefnogi ymdrechion i ddiogelu diwylliant, a allai helpu i ddiogelu a hyrwyddo treftadaeth a thraddodiadau lleol, a fyddai o fudd i bobl hŷn a allai fod â chysylltiad dyfnach â’r elfennau diwylliannol (How Heritage Can Improve the Lives of Older People), hyn, ac ar y llaw arall byddai cynnal a chreu cyfleusterau newydd i’r cenedlaethau iau eu defnyddio o fudd i bobl ifanc.
31. I grynhoi, mae effeithiau ardollau ymwelwyr ar bobl iau a phobl hŷn yn amlweddog ac yn dibynnu ar y cyd-destun. Dylai awdurdodau lleol ystyried yr effeithiau posibl ar les a sefydlogrwydd ariannol trigolion iau a thrigolion hŷn wrth weithredu’r ardoll ymwelwyr, gan anelu at ddull cytbwys sydd o fudd i’r economi leol a chynaliadwyedd y gymuned yn y tymor hir. Ceir dadansoddiad pellach o’n hasesiad o effaith ardoll ymwelwyr ar blant a phobl ifanc yn yr asesiad o’r effaith ar hawliau plant sy’n cyd-fynd â’r ddogfen hon.
Pobl anabl
32. Drwy’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, fe wnaethom ystyried a ddylai pobl anabl sydd angen gofalwr i ofalu amdanynt a rhoi cymorth iddynt er mwyn hwyluso ymweliad orfod talu’r ardoll. Archwiliwyd a ddylai cyfradd sero (a fyddai’n galluogi’r darparwr llety ymwelwyr i ostwng cyfradd yr ardoll i sero), neu ad-daliad (a fyddai’n cael ei brosesu gan ACC) fod yn berthnasol i bobl anabl y mae angen gofalwyr arnynt i alluogi eu hymweliad.
33. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety ymwelwyr dros nos nad yw’n breswylfa arferol iddynt, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail anabledd.
34. Fodd bynnag, rydym yn deall bod gan bobl anabl anghenion, blaenoriaethau a phrofiadau gwahanol o ran twristiaeth, a'u bod yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau a heriau amrywiol wrth geisio cael gafael ar gyfleoedd twristiaeth a'u mwynhau (Time allocation in tourism for people with disabilities).
35. Yn ôl Cyfrifiad 2021 roedd tua 670,000 o bobl anabl yng Nghymru a oedd yn cyfrif am 21.1% o gyfanswm y boblogaeth, gyda’r gyfran uchaf o bobl anabl yn byw ym Mlaenau Gwent (24.6%), Castell-nedd Port Talbot (24.6%) a Merthyr Tudful (24.2%) (Iechyd, anabledd a darpariaeth gofal di-dâl yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)).Mae cyfran y bobl anabl yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU o 17.7%, ac mae’n amrywio ar draws gwahanol ranbarthau, grwpiau oedran, a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Mae pobl anabl ledled y DU hefyd yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar a chyfradd uwch ohonynt yn byw mewn tlodi (Prin yn Goroesi’: Effaith yr Argyfwng Costau Byw ar Bobl Anabl yng Nghymru).
36. O ran gweithgareddau twristiaeth, amcangyfrifir bod 30% o'r holl deithiau i Gymru yn cynnwys rhywun sy'n anabl neu sydd ag amhariad, sy'n uwch na theithiau i rannau eraill o Brydain Fawr (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025). Amcangyfrifir bod 1.43m o deithiau dros nos i Gymru rhwng Ionawr a Rhagfyr 2022 yn deithiau a wnaed gan y rhai sy’n gofalu am bobl â chyflyrau meddygol, sy’n cyfateb i 16% o gyfanswm y teithiau i Gymru. Sylwch, mae’r amcangyfrif hwn yn seiliedig ar sampl bach o ran maint ac mae cyfran o’r arosiadau hyn yn ymwneud ag arosiadau gyda ffrindiau a theulu yn eu cartrefi eu hunain yn hytrach nag mewn llety i ymwelwyr. Ar ben hynny, nid yw'n golygu bod yr ymwelwyr hynny yn teithio gyda'r person y maent yn gofalu amdanynt ond yn hytrach bod ganddynt gyfrifoldeb gofalu o’r math hwn.
37. Dylid nodi na allwn ganfod gyda sicrwydd union gyfran yr ymwelwyr sy’n teithio gyda rhywun anabl neu sydd ag amhariad at ddibenion darparu gofal, sy’n aros mewn llety ymwelwyr o’i gymharu â phreswylfeydd preifat. Rydym wedi ymgysylltu â’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig a/neu gynrychiolwyr y grwpiau hynny, i ddeall yr effeithiau posibl yn fwy manwl, fel y nodir yn yr asesiad hwn o’r effaith ar gydraddoldeb.
38. O’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus, roedd 22% o’r farn y dylai pobl anabl gael eu heithrio rhag talu’r ardoll. (At ei gilydd, atebodd 876 o ymatebwyr y cwestiwn hwn, sef 80% o’r 1,087 o ymatebwyr.)
39. Yn ôl canfyddiadau Insecure Work Index 2022 gan y Work Foundation, mae gweithwyr anabl yn fwy tebygol o fod mewn gwaith ansicr na gweithwyr nad ydynt yn anabl. Mae 18% o'r rhai sy'n gweithio ym maes twristiaeth yn anabl, cyfran debyg i'r cyfartaledd ar draws yr holl ddiwydiannau (Welsh Tourism Sector Business and Labour Market Statistics, 2016-2021).
40.Mae tystiolaeth hanesyddol yn awgrymu y gallai pobl anabl, mewn rhai sefyllfaoedd, wynebu costau uwch er mwyn aros mewn llety i ymwelwyr. Dylid hefyd ystyried y costau uwch sy’n gysylltiedig â chostau byw i bobl anabl (Cost of living for people with disabilities). Roedd ymchwil a gynhaliwyd gan y Centre for Research in Social Policy gyda chefnogaeth y Disability Alliance, ac a gyhoeddwyd gan Sefydliad Joseph Rowntree yn 2004, yn nodi ystod eang o gostau ychwanegol, sy’n sylweddol brin o’r gyllideb sydd ei angen ar bobl anabl er mwyn sicrhau ansawdd bywyd derbyniol a theg. Barriers and challenges for disabled people include:
- Rhwystrau amgylcheddol: Mae adroddiad ymchwil Arolwg Anabledd y DU 2021 sy’n ddadansoddiad cynhwysfawr o’r ymateb i Arolwg Anabledd y DU 2021 yn dangos bod 57% o bobl anabl wedi dweud nad oeddent yn gallu mynd ar wyliau oherwydd materion hygyrchedd h.y. mynediad i adeiladau cyhoeddus (The Caterer a Boutique Hotelier).
- Diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am argaeledd ac ansawdd cyfleusterau a gwasanaethau twristiaeth hygyrch, a hawliau pobl anabl fel twristiaid. Mae gwybodaeth am gyrchfannau hygyrch yn ffactor allweddol o ran gwella cyfleoedd twristiaeth ymhlith unigolion anabl (Anxiety to Access: Tourism patterns and experiences people with a physical disability).
- Gall archebu gwyliau arwain at gostau ychwanegol oherwydd diffyg argaeledd llety hygyrch a fforddiadwy ac opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, ac yn ystod y tymhorau prysur (Disabled people's costs of living a Drws ar Glo a Disability Price Tag 2023: the extra cost of disability). Mewn arolwg diweddar gan Leonard Chesire Disability, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Enable, dywedodd 8 o bob 10 o bobl anabl eu bod yn wynebu rhwystrau ac anawsterau wrth aros mewn gwestai a chyrchfannau gwyliau yn y DU. Roedd dros 70% yn nodi eu bod wedi wynebu problemau wrth geisio dod o hyd i ystafelloedd hygyrch. Mae costau llety hygyrch hefyd yn rhwystr cyffredin rhag cymryd seibiant i tua 6 o bob 10 o ymatebwyr yr arolwg, gydag ystafelloedd hygyrch yn aml yn cael eu hystyried yn ddrytach.
41. Gall rhwystrau a heriau fel hyn gyfyngu ac effeithio ar ansawdd y dewisiadau a’r cyfleoedd i bobl anabl a’r rhai ag amhariadau a gallai effeithio ar eu boddhad â’u profiadau twristiaeth.
42.Yn ogystal, gall diffyg hygyrchedd i rai pobl anabl mewn meysydd gwersylla a hosteli fod yn broblem yn aml. Felly, gallai cost ychwanegol ardoll ymwelwyr roi mwy o bwysau ar eu cyllidebau teithio, ac ar ben hynny gallai fod risg y byddai’r ardoll yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl o ran dod o hyd i opsiynau llety addas mewn sefydliadau tebyg i safleoedd gwersylla, y rhai sy’n ddarostyngedig i’r gyfradd is (Disabled Travel Advice a Out & About). Fodd bynnag, gallai’r cyfraddau cymharol isel sydd wedi’u cynnwys yn y ddeddfwriaeth ddrafft helpu i liniaru’r effaith.
43. Gall costau ychwanegol i bobl anabl gynnwys yr angen am gynorthwyydd personol neu offer arbenigol, neu efallai y bydd angen i bobl sydd ag amhariad ar eu golwg neu sy’n ddall fynd â chi tywys gyda nhw, a phobl sydd â chi cymorth yn yr un modd. Gallai hyn olygu bod llai o ddewis ar gael iddynt o ran llety sy’n diwallu eu hanghenion.
44. Wrth siarad â sefydliad cŵn tywys, pwysleisiwyd pa mor bwysig yw hi i ddarparwyr llety ddeall sut mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn berthnasol i’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig. Roeddent yn awyddus i sicrhau nad yw ardoll ymwelwyr yn rhoi ymwelwyr dall neu rannol ddall dan anfantais. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd defnyddio’r ardoll fel ffordd o wella ymwybyddiaeth o’r addasiadau rhesymol sydd eu hangen er mwyn darparu ar gyfer y rhai ag amhariad ar eu golwg a’r rhai sydd â chŵn tywys. Nodwyd y gallai cost uwch arhosiad fod yn broblem i rai yn fwy nag eraill, gan ychwanegu y gallai rhai pobl ddisgwyl llety o safon uwch oherwydd y costau uwch. Weithiau mae darparwyr llety yn codi mwy am gostau glanhau os bydd ci tywys yn aros gyda rhywun. Byddai angen ffordd hygyrch i dalu am yr ardoll, yn ogystal â bod gwybodaeth a rennir am yr ardoll ar gael mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch.
45. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau drin pobl anabl yn llai ffafriol ac mae’n gofyn bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i ddileu’r rhwystrau i gyfranogi. Ni all darparwr neu asiantaeth llety ymwelwyr gynyddu taliadau na ffioedd ar gyfer perchnogion cŵn cymorth, hyd yn oed os yw contract yn nodi eu bod yn codi tâl ychwanegol ar westeion ag anifeiliaid anwes.
46. Gan fod yr ardoll yn ddewisol, mater i’r awdurdodau lleol fydd penderfynu pa brosiectau/amwynderau sy'n derbyn cyllid yn eu hardal. Gallai’r ardoll ymwelwyr gael effeithiau cadarnhaol ar bobl anabl yng Nghymru drwy gynhyrchu refeniw y gellid ei ddefnyddio i wella hygyrchedd ac ansawdd cyfleusterau ac atyniadau twristiaeth, i hyrwyddo twristiaeth gynhwysol a chynaliadwy, a chreu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl anabl yn y sector twristiaeth. Gellid defnyddio cyllid hefyd i wella gwybodaeth am hygyrchedd.
47. Er ein bod yn cydnabod bod diffyg data a thystiolaeth, sy’n ei gwneud yn anodd dod i unrhyw gasgliadau pendant ynglŷn â’r effaith ar bobl anabl yn benodol, rydym wedi ymgysylltu â grwpiau anabledd, gan gynnwys Anabledd Cymru, Autistic UK, Triniaeth Deg i Ferched Cymru a Freedom 365, i ddeall yn well eu safbwyntiau o ran bobl anabl sy'n defnyddio llety ymwelwyr am unrhyw reswm (er enghraifft, gwaith, gwyliau neu ymweld â theulu neu ffrindiau).
48. Nododd Freedom 365 fod costau talu am lety ymwelwyr yn aml yn uwch ar gyfer ymwelwyr anabl oherwydd y cynnydd yn y costau sy’n deillio o dalu mwy am lety hygyrch, yr angen am gymorth personol, fel gofalwr a/neu unrhyw offer ychwanegol. Codwyd y pwynt hefyd bod nifer yr ystafelloedd hygyrch yn gyfyngedig, a hynny oherwydd bod angen gwaith cynnal a chadw mwy rheolaidd ar ystafelloedd sydd wedi'u haddasu'n arbennig sydd felly’n golygu bod costau ychwanegol i’w cynnal. I'r rhai sy'n teithio'n aml, at ddibenion busnes a hamdden, teimlwyd y byddai effaith yr ardoll yn dwysáu dros amser.
49. Cyfarfu swyddogion â chynrychiolwyr o Anabledd Cymru, Autistic UK a Triniaeth Deg i Ferched Cymru hefyd. Er eu bod yn gefnogol i'r ffaith y byddai ardoll yn codi arian ychwanegol i'w wario yn yr ardal leol, mynegwyd nifer o bryderon. Er enghraifft, pryderon y gallai’r ardoll effeithio’n anghymesur ar bobl anabl, oherwydd y costau uwch, gan eu bod yn fwy tebygol o fynd ar wyliau’n lleol ac angen ystafelloedd hygyrch drutach. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â’r heriau o ran darparu tystiolaeth ar gyfer cyfradd sero posibl i bobl anabl neu ofalwyr pobl anabl. Roeddent yn cydnabod y cymhlethdodau a'r sensitifrwydd o ran data sy’n gysylltiedig â’r broses; fodd bynnag, nodwyd pryderon ganddynt am yr anawsterau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth wneud cais am fudd-daliadau a'r effaith negyddol y gall ei chael ar eu hiechyd meddwl. Teimlwyd y gallai gorfod profi anableddau fod yn ymyrraeth sylweddol ar wybodaeth bersonol. Gwnaethant hefyd gais bod canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer awdurdodau lleol ynglŷn â sut a gyda phwy y dylid ymgynghori ynghylch yr ardoll, gan sicrhau bod ymgysylltiad cynhwysol gyda sefydliadau pobl anabl yn cael ei bwysleisio.
50. Rydym yn nodi bod ymateb gan elusen i’r ymgynghoriad yn dweud:
Gweithwyr gofal a chynorthwywyr cymorth sy’n gorfod teithio gyda’r rhai y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Gallai hyn gynnwys swydd â thâl a rôl ddi-dâl a gellid profi hynny drwy lythyr cyflogaeth neu gerdyn gofalwr di-dâl
(Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol)
51. Mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn flaenoriaeth i hyrwyddo ac ymgorffori’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r model hwn, a ddatblygwyd gan bobl anabl, yn nodi bod pobl yn cael eu hanablu gan rwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu hamhariad neu eu gwahaniaeth. Mae'r model yn cydnabod bod rhwystrau penodol yn gwneud bywyd yn anoddach i bobl anabl, a hynny mewn ffordd anghymesur ac annheg. Drwy helpu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a datblygwyr polisi i ddeall eu rôl o ran cael gwared ar y rhwystrau hyn, nod y llywodraeth yw sicrhau trawsnewid go iawn.
52. Mae swyddogion polisi wedi ystyried nifer o opsiynau er mwyn sicrhau bod pobl anabl sydd angen gofalwyr yn gallu cael gafael ar lety ymwelwyr heb dalu cost ychwanegol.
53. Hefyd, rydym wedi nodi y gallai codi ardoll ymwelwyr ar ofalwyr sy'n mynd gyda pherson anabl sydd angen gofal fel rhan o'u hymweliad gael ei ddehongli fel gwahaniaethu anuniongyrchol. Y rheswm am hyn yw y gallai pobl anabl sydd angen gofalwr wynebu costau ychwanegol oherwydd bod yr ardoll yn berthnasol i'r gofalwr, pe bai'r person anabl yn ysgwyddo’r costau ychwanegol hynny.
Gwyddom fod tua 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn 2021, ac 84,134 o bobl yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol i oedolion a 19,571 o weithwyr gofal cartref eraill yng Nghymru yn 2022. Fodd bynnag, nid oes gennym amcangyfrif o nifer y gofalwyr sy'n mynd gydag ymwelwyr i alluogi eu hymweliad (Unpaid carers in Wales: The determinants of mental wellbeing).
55. Ceir gofalwyr cyflogedig, gofalwyr di-dâl a chynorthwywyr gofal personol (gofalwyr cyflogedig). Nid oes un ffordd, ddiffiniol i brofi statws unigolyn fel gofalwr, gellid defnyddio sawl math o dystiolaeth naill ai ar wahân neu gyda’i gilydd er mwyn pennu statws unigolyn. Er mwyn dileu’r tâl ar gyfer ardoll ymwelwyr, byddai angen tystiolaeth o ryw fath a byddai’n rhaid i ymwelydd wneud cais am gyfradd sero neu ad-daliad penodol. Gallai’r dogfennau canlynol ddangos tystiolaeth o rôl gofalwr:
- Copi o'r llythyr sy'n dangos eich bod yn cael Lwfans Gofalwr neu Credyd Gofalwr
- Llythyr dyfarnu at y person rydych yn darparu gofal ar ei gyfer, e.e. Lwfans Gweini neu Daliad Annibyniaeth Personol
- Llythyr gan gyflogwr yn nodi rôl yr unigolyn fel cynorthwyydd gofal personol.
- Contract cyflogaeth fel cynorthwyydd gofal personol.
- Gohebiaeth oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau.
- Tystiolaeth gan feddyg teulu.
- Cynlluniau cerdyn gofalwr sy'n cael eu rhedeg gan rai canolfannau cefnogi gofalwyr yn eu hardaloedd lleol.
- Asesiad gofalwr.
- Pasbort gofalwr, sydd o bosibl yn cael eu defnyddio gan ddarparwyr gofal iechyd neu mewn sefydliadau cymunedol lleol neu hyd yn oed gan rai cyflogwyr.
- Cerdyn gofalwr.
- Asesiad gofalwr yr awdurdod lleol.
- Pobl anabl sydd â cherdyn cydymaith Trafnidiaeth Cymru neu gyfwerth.
56. Nid oes un ffordd benodol y gall gofalwyr ddangos a darparu prawf eu bod yn ofalwyr. Os yw gofalwyr yn cael eu rhyddhau rhag talu’r ardoll, byddent yn awyddus i’r broses i brofi cymhwysedd fod mor hawdd â phosibl. Nid yw’r rhan fwyaf o ofalwyr erioed wedi cael asesiad anghenion gofalwr. Nodwyd mai dogfennau personol, cyfrinachol yw’r rhain ac ni fyddai’n briodol eu rhannu â busnesau preifat at ddibenion hwyluso cyfradd sero.
57. I fod yn glir, dim ond mewn sefyllfa lle mae gofalwyr yn mynd gydag ymwelydd sydd angen gofal y byddai codi ardoll ar ofalwyr yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol posibl. Nid yw codi ardoll ar rywun sy'n ofalwr ynddo'i hun yn wahaniaethol. Yr her felly yw adnabod y gofalwr a bod angen gofal ar y person anabl. Fel arall, byddai peidio â chodi ardoll ar ofalwyr yn rhy eang, gan fod gofalwyr hefyd yn mynd ar wyliau neu’n ymweld â chyrchfannau ond nid yn rhinwedd eu swydd fel gofalwr.
58.Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai heriau diogelu data yn gysylltiedig â chasglu gwybodaeth am rôl ofalu unigolion. Gan y byddai’r wybodaeth yn cael ei defnyddio ar yr un pryd â cheisio dod i ddeall a yw rhywun yn gofalu am ymwelydd sydd angen gofal, gellir defnyddio’r wybodaeth gyfunol i ddod i gasgliadau ynglŷn â statws meddygol unigolyn. Mae hyn yn cyflwyno risgiau fel sy’n cael eu hamlinellu yn yr asesiad o'r effaith ar breifatrwydd data gan fod yr wybodaeth yn ymwneud â chasglu a phrosesu data categori arbennig.
59.Ystyriwyd a ddylai pobl sy'n aros mewn llety ymwelwyr dros nos tra’n cyflawni eu cyfrifoldebau fel gofalwr gael eu rhyddhau rhag talu ardoll ymwelwyr. Rydym wedi ymgysylltu â Gofalwyr Cymru a’r ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddeall yr effeithiau yn fwy manwl. Fel rhan o’r ymgysylltiad hwn, clywsom y byddai gweithredu cyfradd sero yn gymhleth ac yn heriol iawn, o ran ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr llety ymwelwyr farnu statws gofal yn ogystal â’r risg sy’n gysylltiedig â storio gwybodaeth bersonol (a chreu problemau o ran GDPR).
60. Ystyriwyd cymesuroldeb pob opsiwn hefyd:
- Mae Opsiwn 1, sef cynnig ardoll cyfradd sero sy'n darparu ar gyfer cyfradd sero i ofalwyr sy'n aros mewn llety ymwelwyr tra'n darparu gofal ar gyfer ymwelydd anabl, yn wynebu heriau o ran diffinio gofalwr a darparu tystiolaeth o'r rôl ofalu. Heb gyfyngu ar y diffiniadau a’r gofynion o ran tystiolaeth, mae swyddogion o’r farn y byddai hyn yn rhy eang i'w gwneud yn ymarferol.
- Roedd Opsiwn 2 yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn opsiwn 1 drwy gyfyngu’r diffiniadau a gwneud cyfradd sero yn fwy penodol. Byddai hyn yn rhoi eglurder ynghylch pwy oedd yn gymwys ar gyfer y cyfradd sero. Fodd bynnag, byddai'n gosod gofynion gweinyddol newydd ar ddarparwyr llety o ran ymdrin â gwybodaeth sensitif a byddai risgiau o ran cysondeb wrth weithredu a rhannu gwybodaeth sensitif.
- Roedd Opsiwn 3a hefyd yn wynebu'r heriau o fod yn rhy eang ac o bosibl yn gwneud yr opsiwn ar gyfer ad-daliad yn bosibl i unrhyw un a allai ddarparu tystiolaeth i'r perwyl bod angen gofalwr arnynt. O ystyried yr amrywiaeth o ran ansawdd ac argaeledd y mathau o dystiolaeth, byddai hyn yn rhoi gormod o faich ar ACC i ddehongli tystiolaeth. Byddai hefyd risg sylweddol o herio penderfyniadau, er enghraifft pe bai ACC yn gwrthod cais ar sail y dystiolaeth. Ni fyddai’n gallu gwneud hynny oni bai bod y gofynion tystiolaeth wedi’u pennu gan Lywodraeth Cymru.
- Roedd Opsiwn 3b cyfyngu ar roi ad-daliad penodol i berson anabl sy'n derbyn budd-dal cymwys sydd wedi talu ardoll ymwelwyr. Mae'r opsiwn hwn yn sicrhau ei bod yn glir mai grŵp penodol sy’n gymwys ar gyfer ad-daliad a bod gofynion tystiolaeth clir er mwyn galluogi ad-daliad. Mae hyn yn ei wneud yn opsiwn mwy ymarferol o safbwynt gweithredu ac yn rhoi mwy o reolaeth i ACC i sicrhau triniaeth gywir yn hytrach na darparwyr llety ymwelwyr. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'r dull a ddefnyddir gyda threth car sy'n cael ei gyfyngu i'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau cymwys a gostyngiadau yn y drwydded deledu sydd hefyd yn cael ei gyfyngu i'r rhai sy'n darparu tystiolaeth o’u hawl i gael gostyngiad.
- Roedd Opsiwn 4 yn ystyried a oedd angen gweithredu o gwbl ac a oedd hi’n bosibl i ni barhau â’n dull gweithredu presennol. Nod dilys yr ardoll ymwelwyr yw casglu refeniw i wrthbwyso effaith y poblogaethau sy'n ymweld. Mae pob ymwelydd yn effeithio ar yr ardal y maent yn ymweld â hi. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety dros nos nad yw’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa iddynt, rydym yn credu felly fod codi ardoll ymwelwyr ar y grwpiau hyn yn rhesymol ac yn gyfreithlon. Fodd bynnag, o ystyried bod Gweinidogion Cymru ac ACC yn ddarostyngedig i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru, yn ogystal â gweithrediad y darpariaethau sy’n ymwneud â gwahaniaethu anuniongyrchol yn Neddf 2010 y (yn enwedig a.29(6)), ni ellid cymeradwyo’r opsiwn hwn gan nad yw'n lliniaru'r risgiau a nodwyd o ran gwahaniaethu anuniongyrchol.
61. Ar ôl ystyriaeth ddyledus, yr opsiwn a argymhellwyd oedd penodi ACC i roi ad-daliadau i berson anabl sy'n derbyn budd-dal anabledd cymwys sydd wedi talu ardoll ymwelwyr tra'n aros mewn llety ymwelwyr. Er nad yw’r opsiwn hwn yn dileu’r risg o wahaniaethu anuniongyrchol yn llwyr, ystyriwyd ei fod yn ymateb cymesur sy’n cydbwyso’r angen i fynd i’r afael â’r gwahaniaethu anuniongyrchol ond hefyd yn sicrhau cywirdeb ac effeithlonrwydd y system dreth
Effaith bosibl ar Ddarparwyr Llety sy’n anabl
62. Bydd yr ardoll yn cael ei chasglu a'i rheoli gan ACC. Rhagwelir mai bach iawn bydd effaith gweithredu’r ardoll o ddydd i ddydd ar berchnogion busnes sydd ag amhariad ar eu golwg a/neu eu clyw gan fod sawl ffordd y gall person gyfathrebu gydag ACC (a’u systemau). Bydd system ddigidol ar gyfer ffeilio a dychwelyd ffurflenni i ACC, yn ogystal â gwasanaeth ffôn a phapur, yn ôl yr angen. Bydd safonau gwasanaeth ACC yn sicrhau hygyrchedd – mae’r egwyddorion ar gyfer dylunio a chreu cynnyrch llyw.cymru yn cynnwys egwyddor ar gyfer sicrhau bod eu cynnyrch yn hygyrch i bawb, a’u bod mor gynhwysol â phosibl (Egwyddorion dylunio LLYW.CYMRU a Understanding WCAG 2.2). Y bwriad yw y bydd offer newydd yn cael eu creu gan dîm digidol ACC, a fyddai’n cael eu profi i weld a ydynt yn cydymffurfio â’r safonau a’r egwyddorion hyn (gan gynnwys hygyrchedd).
63. Ni ragwelir y bydd yr ardoll yn effeithio’n negyddol ar ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n anabl, gan gynnwys pobl ag amhariadau dysgu, drwy gynnig gwasanaethau pwrpasol gan ACC yn unol â’r Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus cyffredinol.
Crefydd, cred a dim cred
64. Rydym yn ymwybodol bod lleiafrif bach o bobl yn ymweld â Chymru at ddibenion crefyddol neu ar gyfer diddordeb twristaidd gyffredinol mewn pensaernïaeth grefyddol (CroesoCymru). Mewn dadansoddiad o dwristiaid domestig yn 2023, roedd 174,456 o bobl wedi “ymweld ag eglwys gadeiriol, eglwys, abaty neu adeilad crefyddol arall”, y gyfran leiaf ar draws y gwahanol fathau o atyniadau i ymwelwyr .
65. Fodd bynnag, nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng ardollau ymwelwyr a chrefydd, cred, neu dim cred. Yn dibynnu ar natur yr ymweliad, gallai polisïau neu drethi sy’n ymwneud â thwristiaeth effeithio ar ryddid unigolyn i ymarfer eu crefydd. Gallai cyflwyno ardoll ymwelwyr effeithio ar fforddiadwyedd ymweld â lleoedd o’r fath, gan ddylanwadu o bosibl ar nifer y pererinion neu dwristiaid sy’n ymweld â safleoedd crefyddol. Er enghraifft, pe bai'r ymweliad yn golygu aros dros nos mewn llety ymwelwyr, byddai cost uwch ar gyfer yr arhosiad. Pe bai'r arhosiad dros nos mewn llety yn cael ei ddarparu am ddim, ni fyddai'r ardoll yn berthnasol.
66. Gallai gael effaith andwyol ar y rhai nad ydynt yn ymgysylltu â phrosesau digidol fel rhan o’u ffydd, ond fel yr eglurwyd yn gynharach, bydd ACC yn cynnig rhannau o’u gwasanaeth fel gwasanaeth annigidol lle bo angen (cofrestru â llaw, ffurflenni papur, llythyrau yn hytrach nag e-bost).
67. Gellid defnyddio’r refeniw a gynhyrchir o’r ardoll i warchod a chynnal a chadw tirnodau crefyddol, gan gael effaith gadarnhaol ar y rhai sydd â diddordeb mewn treftadaeth ddiwylliannol, grefyddol a hanesyddol.
68. Cyfarfu swyddogion â Chyngor Rhyng-ffydd Cymru yn 2023 a chafwyd ymateb i gais pellach am adborth ym mis Mehefin 2024 trwy eu cynrychiolaeth yng Ngrŵp Partneriaeth y Trydydd Sector. Tynnwyd sylw at y ffaith bod grwpiau ffydd yn aml yn trefnu teithiau gwersylla i deuluoedd, pobl ifanc a phererinion, a gwnaed cais i'r rhain fod y tu allan i gwmpas yr ardoll. Roeddent yn croesawu’r ffaith na fyddai’r ardoll yn berthnasol i lety rhad ac am ddim gan ychwanegu y byddai hynny’n lleddfu pryderon gan grwpiau ffydd. Bydd yr ardoll yn berthnasol i arosiadau mewn llety ymwelwyr dros nos gan gynnwys meysydd gwersylla a charafannau, er bydd yr ardoll yn cael ei gosod ar gyfradd is i liniaru'r effeithiau negyddol posibl. Byddwn yn monitro effeithiau'r ardoll a disgwylir i awdurdodau lleol gynnal asesiadau effaith i lywio eu penderfyniad ynghylch mabwysiadu ardoll ai peidio, a phe baent yn dewis gwneud hynny, i fonitro’r effeithiau yn eu hardaloedd hefyd.
Rhyw
69. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety ymwelwyr dros nos nad yw’n breswylfa arferol iddynt, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail rhyw.
70. Yn 2022, roedd 56% o deithiau i Gymru yn cynnwys ymwelwyr benywaidd ac roedd 43% o deithiau yn cynnwys ymwelwyr gwrywaidd (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr). Gall ardollau ymwelwyr gael effaith anuniongyrchol ar ryw a rhywedd (Travelpac: travel to and from the UK). Er enghraifft, gall dylanwad posibl ardollau ymwelwyr ar gyflogaeth effeithio ar ddynion a menywod yn wahanol, mewn rhai achosion, gall menywod fod yn fwy tebygol o fod mewn swyddi anffurfiol neu ran-amser, gyda chyfran y gwaith rhan amser yn aml yn sylweddol uwch mewn sectorau fel twristiaeth (Tackling undeclared work in the tourism sector). Gan edrych ar draws Ewrop, mae cyfran y menywod yn y gweithlu twristiaeth yn aml yn uwch hefyd, tra bod enillion mewn gwestai a bwytai yn is nag enillion cyfartalog yn yr economi’n gyffredinol (Supporting Quality Jobs in Tourism).
71. Mae parodrwydd i dalu yn uniongyrchol gysylltiedig ag incwm a chyllideb ymwelydd, ac yna byddai eu rhywedd yn effeithio ar hyn hefyd (ibid). Mae astudiaethau hefyd wedi nodi bod dynion yn fwy parod i dalu ardoll ymwelwyr – gallai hyn fod oherwydd y cydberthynas rhwng rhywedd ac incwm, lle mae gan fenywod, ar gyfartaledd, incwm is na dynion (How much less were women paid in 2019?).
72. Mewn arolwg defnyddwyr a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd mwyafrif (58%) yr ymatebwyr yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu tuag at gostau cynnal a buddsoddi yn y cyrchfannau y maent yn aros ynddynt. Ychydig iawn (13%) o’r rhai a holwyd oedd yn anghytuno â’r cysyniad o gyfrannu tuag at y costau. Ar ben hynny, mae canfyddiadau’r arolwg yn dangos fod pobl yn cytuno y dylai twristiaid gyfrannu at gynnal a buddsoddi mewn cyrchfannau ac mae cydberthynas amlwg rhwng y farn hon a gradd gymdeithasol a ‘modd ariannol’ – mae graddau cymdeithasol uwch a phobl sy’n cael eu heffeithio i raddau llai gan yr argyfwng costau byw yn fwy tebygol o gytuno na graddau cymdeithasol is a phobl sy’n cael ei heffeithio’n fwy gan yr argyfwng costau byw. Fodd bynnag, dim ond lleiafrif o’r holl is-grwpiau oedd yn anghytuno â’r farn hon ac roedd pob gradd gymdeithasol a segment ariannol yn fwy cadarnhaol na negyddol ynglŷn â’r cysyniad o ‘ardoll ymwelwyr’.
Ailbennu Rhywedd
73. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety ymwelwyr dros nos nad yw’n breswylfa arferol iddynt, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.
74. Rhoddwyd ystyriaeth i’r rhai sydd angen triniaeth feddygol, er enghraifft, fel rhan o broses ailbennu rhywedd unigolyn. Mae arosiadau mewn ysbytai preifat y tu allan i gwmpas y ddeddfwriaeth.
Beichiogrwydd a mamolaeth
75. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety ymwelwyr dros nos nad yw’n breswylfa arferol iddynt, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth
Cyfeiriadedd rhywiol
76. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety ymwelwyr dros nos nad yw’n breswylfa arferol iddynt, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Nid oes data ar gael, ac eto mae tystiolaeth yn dangos bod 10% o deithiau i Gymru yn deithiau gan ymwelwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol rhwng Ionawr a Rhagfyr 2022 (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr). Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth i awgrymu y byddai ymwelwyr sydd â nodwedd cyfeiriadedd rhywiol dan anfantais oherwydd darpariaethau’r Bil.
Priodas a phartneriaeth sifil
77. Ni ddisgwylir i’r darpariaethau yn y Bil gael unrhyw effaith ar y nodwedd priodas a phartneriaeth sifil. Byddai llety ymwelwyr dros nos sy’n ymwneud â phriodasau a seremonïau partneriaeth sifil yn destun ardoll ymwelwyr.
Ystyriaethau yn ymwneud â hil, gan gynnwys digartrefedd, safleoedd Teithwyr Roma a sipsiwn, ceiswyr lloches a ffoaduriaid a menywod sy'n ffoi rhag cam-drin domestig, a phobl o leiafrifoedd ethnig
78. Mae’r darpariaethau yn y Bil yn berthnasol i bob ymwelydd sy’n aros mewn llety ymwelwyr dros nos nad yw’n breswylfa arferol iddynt, ac nid ydynt yn gwahaniaethu ar sail hil.
79. Gall effaith ardollau ymwelwyr ar hil amrywio yn dibynnu ar gyd-destunau penodol a dulliau gweithredu, a ble mae'r refeniw a gesglir yn cael ei wario. Gellir cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod manteision twristiaeth yn cael eu dosbarthu'n decach ymhlith pob rhan o'r boblogaeth, gydag ymgysylltu â'r gymuned a phrosesau gwneud penderfyniadau cynhwysol yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael ag effeithiau negyddol posibl ar grwpiau ethnig lleiafrifol.
80. Yn ogystal, mae swyddogion wedi ymgysylltu ag elusennau sy’n cynrychioli anghenion pobl ddigartref, gan gynnwys y rhai sy’n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a phobl ethnig leiafrifol sy’n ceisio lloches ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus.
81. Trwy'r ymgysylltiad hwn, nododd swyddogion sefyllfa lle gallai'r grwpiau agored i niwed hyn gael eu lletya mewn llety ymwelwyr dros dro a’r gost yn cael ei dalu gan elusen sy’n eu cefnogi, mewn argyfwng.
82. O ystyried mai bwriad yr elusen yw dod o hyd i atebion tai hirdymor a mwy diogel trwy wasanaethau cymorth a chyllid presennol y Llywodraeth, rydym o'r farn ei bod yn briodol i alluogi elusennau i adennill costau'r ardoll ar gyfer yr arosiadau cymwys hyn.
83. Mae’r data sydd ar gael yn ein hadroddiad ar dwristiaeth dros nos Cymru 2022 yn nodi cyfanswm nifer y teithiau a chanran y teithiau yn ôl ethnigrwydd:
Ethnigrwydd yr ymatebydd | Teithiau (miliynau) | % o Gyfanswm y Teithiau |
---|---|---|
Gwyn | 7.47 | 86% |
Cymysg/Grwpiau Aml-ethnig | 0.20 | 2% |
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig | 0.46 | 5% |
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig | 0.33 | 4% |
Tseiniaidd | 0.06 | 1% |
Arabaidd | 0.08 | 1% |
Grŵp ethnig arall | 0.00 | 0% |
84. Yn ôl grŵp Ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (Cyfrifiad 2021), yn 2021, nododd 155,000 o bobl yng Nghymru (5.0% o’r boblogaeth) nad oeddent yn wyn (Grŵp ethnig). Gwyddom o edrych ar ddata’r farchnad lafur fod ceiswyr gwaith o grwpiau ethnig lleiafrifol yn wynebu cyfnod anoddach wrth geisio dod o hyd i waith a’u bod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn swyddi anniogel ac ansicr, er enghraifft yn y sector twristiaeth. Yng Nghymru mae cyfran uwch o’r gweithlu twristiaeth yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol o’i gymharu â phob diwydiant (9.6% o gyflogaeth twristiaeth o’i gymharu â 4.4% o gyflogaeth pob diwydiant yn 2021 - Ceisiadau ystadegol ad-hoc: 6 i 17 Mehefin 2022).
Sector Twristiaeth | ||
---|---|---|
Ethnigrwydd | Gwyn | Grŵp Ethnig Arall |
2016 | 131,200 | 10,300 |
2017 | 131,500 | 10,000 |
2018 | 137,800 | 10,400 |
2019 | 136,100 | 13,700 |
2020 | 120,000 | 8,600 |
2021 | 121,300 | 11,600 |
85. Rydym yn cydnabod bod hil yn gorgyffwrdd â rhywedd, oedran, anabledd, LHDTC+ a grwpiau gwarchodedig eraill, a gall hyn arwain at luosi’r effeithiau ar anfantais. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn cydnabod y diffyg data yn ymwneud â chyflogau a chyflogaeth pobl ethnig leiafrifol ac yn cynnwys camau i ymgorffori data yn ein dulliau mesur canlyniadau gwaith teg, a gyrru cynlluniau i adolygu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn eu blaen. Gan nodi bod diffyg data o ansawdd da ar leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl mewn cymunedau ethnig lleiafrifol sydd â sawl nodwedd warchodedig, ymgysylltwyd yn helaeth â sefydliadau’r trydydd sector ac elusennau i drafod yr ardoll er mwyn eu hannog i rannu profiadau bywyd. Ceir yr adborth o'r trafodaethau hyn isod.
Safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr
86. Yn ei hanfod, mae ffordd o fyw Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn grwydrol ac yn cynnwys croesi’r ffin rhwng awdurdodau lleol yn rheolaidd. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, ar 20 Gorffennaf 2023, roedd 1,128 o garafannau Sipsiwn a Theithwyr a 150 o safleoedd wedi’u cofnodi yng Nghymru. Rhwng Gorffennaf 2022 a Gorffennaf 2023, bu gostyngiad o 3% (38 carafán) yng nghyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr, a bu gostyngiad o 11% (18 safle) yn nifer y safleoedd, gyda’r niferoedd uchaf o garafannau yng Nghaerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot; gyda'i gilydd roedd y rhain yn cyfrif am 49% o'r holl garafannau. Ar adeg y cyfrif yng Ngorffennaf 2023, cyfanswm nifer y carafannau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru oedd 1,128. Roedd 977 o garafannau ar safleoedd awdurdodedig gyda chaniatâd cynllunio, sef 87% o’r holl garafannau (i fyny o 78% ym mis Gorffennaf 2022). O'r rhain, roedd 593 (61%) ar safleoedd rhent cymdeithasol a 384 (39%) ar safleoedd a ariennir yn breifat (Cyfrif carafannau Sipsiwn a Theithwyr: Gorffennaf 2023).
87. Mae swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Tros Gynnal Plant Cymru (TGP Cymru) i archwilio materion yn ymwneud â’r ardoll i Sipsiwn, Roma a Theithwyr. O'r trafodaethau, nodwyd pe byddai'r safleoedd parhaol a’r safleoedd dros dro dynodedig yn cael eu hesemptio rhag talu'r ardoll, yna mae'n annhebygol y byddai’r ardoll yn cael effaith sylweddol ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
88.Fel y nodir yn Nhabl 1, mae safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n cael eu darparu gan awdurdod lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig yn cael eu hesemptio rhag talu’r ardoll. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd diogelu eu ffordd o fyw unigryw a chrwydrol.
89.Rydym yn deall bod Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn defnyddio nifer o safleoedd cyhoeddus a safleoedd preifat ledled Cymru, gan gynnwys safleoedd tymhorol, tir sy’n addas ar gyfer trafodaethau aros, a safleoedd gwyliau prif ffrwd ar gyfer teithio tymhorol. Byddai aelodau o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr sy'n defnyddio llety ymwelwyr at bwrpas heblaw fel eu prif breswylfa neu eu preswylfa arferol yn destun yr ardoll.
90.Mae’r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru greu esemptiadau cenedlaethol newydd (ar fathau o lety ymwelwyr) a chyfraddau sero (arosiadau penodol mewn llety ymwelwyr) pe bai tystiolaeth o effaith negyddol ar unrhyw grŵp penodol.
Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
91.Mae data ar geiswyr lloches sy’n cael cymorth gan y Swyddfa Gartref fesul awdurdod lleol yn dangos bod cyfanswm o 2,857 o geiswyr lloches yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2023 wedi’u cartrefu mewn “Llety cychwynnol”, “Llety gwasgaru” (llety tymor hwy) a “Llety Wrth Gefn” (gwestai). Cafodd 96 eu lletya mewn llety Wrth Gefn, a ddefnyddir pan nad oes digon o lety Cychwynnol neu lety Gwasgaru ar gael. Darparwr llety’r Swyddfa Gartref, Clearsprings Ready Homes, sy’n caffael ac yn talu am y llety hyn.
92.Ceir anawsterau o ran nodi faint o ffoaduriaid sydd yng Nghymru gyfan gan fod diffyg data o ran ble mae ffoaduriaid yn adsefydlu. O edrych ar y wybodaeth sydd ar gael (Immigration system statistics data tables), mae 33 achos o adsefydlu (ibid) yng Nghymru yn Ch4 2023 (yn Sir y Fflint, Ynys Môn, Castell-nedd Port Talbot a Bro Morgannwg a Rhondda Cynon Taf).
93. O ystyried nad oes gan geiswyr lloches hawl i gyllid neu fod yr hawl i gyllid yn gyfyngedig, gallai gweithredu’r ardoll gael effaith negyddol. Yn y sefyllfaoedd hyn er enghraifft, byddai’r rhai sy’n aros gydag unigolion o dan y cynllun ‘Cartrefi i’r Wcráin’ y tu allan i’r cwmpas (gan mai arhosiad hirdymor yw hwn fel unig neu brif breswylfa rhywun).
94. Mae mathau eraill o arhosiad lle ceir potensial i godi’r ardoll yn anfwriadol, gan gynnwys arosiadau brys mewn llety ymwelwyr sydd wedi’u trefnu dros dro drwy elusennau sy’n cynrychioli anghenion ceiswyr lloches, tra bod sianeli’r Swyddfa Gartref sy’n ymwneud â cheisiadau am loches a chartrefu ffoaduriaid dros dro yn dod o hyd i dai cymdeithasol.
95. O ystyried mai bwriad yr elusen yw dod o hyd i atebion tai hirdymor a mwy diogel trwy wasanaethau cymorth a chyllid presennol y Llywodraeth, rydym hefyd o'r farn ei bod yn briodol i alluogi elusennau i adennill costau'r ardoll ar gyfer unrhyw arosiadau cymwys.
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
96. Ni fyddai angen i lety a ddarperir ar sail rhoi lloches gofrestru ac felly ni fyddai'n destun ardoll. Mae'r arosiadau hyn yn dod o dan 'llety â chymorth' fel y'u diffinnir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
97. Efallai y bydd sefyllfaoedd lle mae unigolion yn yr amgylchiadau bregus hyn yn trefnu eu llety eu hunain neu nad oes dewis arall gan ddarparwyr gwasanaeth ond dod o hyd i lety dros dro mewn llety ymwelwyr a’i ariannu, hyd nes y gellid dod o hyd i loches sy’n dod o dan ddyletswyddau presennol yr awdurdod lleol (h.y. trwy dai cymdeithasol). Mae'n anodd pennu niferoedd ar gyfer y sefyllfaoedd hyn.
98. Yn dilyn trafodaethau gyda chydlynwyr rhanbarthol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru, nodwyd y gallai eu Gwasanaeth Cynghorwr Annibynnol ar Drais Domestig dderbyn atgyfeiriadau dyddiol ar gyfer dioddefwyr VAWDASV risg uchel a’u bod yn chwilio am lety diogel bron bob dydd (SafeLives). Os nad oes lle mewn lloches neu ei fod yn anaddas, maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i opsiynau tai addas ar gyfer goroeswyr/dioddefwyr. Ar hyn o bryd, os nad oes llety dros dro diogel ac addas ar gael, mae rhai dioddefwyr/goroeswyr yn cael eu rhoi mewn gwestai a gwely a brecwast dros dro, er y gall rhai aros yno am rai misoedd.
99. Yn ogystal, efallai na fydd rhywun sy'n ffoi rhag camdriniaeth yn teimlo'n gyfforddus yn rhannu eu manylion personol neu ddatgelu natur eu hymweliad â'r darparwr llety ymwelwyr. Yn yr un modd, ni fyddai'n briodol i'r darparwr llety ymwelwyr geisio datgelu'r wybodaeth hon. Gall y math hwn o wybodaeth fod yn sensitif iawn ac mae angen mesurau diogelu ychwanegol er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel ac nad yw’n cael ei datgelu’n ddamweiniol rhag achosi niwed i’r unigolyn. Byddai gosod gofynion o’r fath ar ddarparwyr llety ymwelwyr yn amhriodol o ystyried natur y gwasanaeth y maent yn ei ddarparu.
100. Gan fod yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r rhain yn debyg i ddigartrefedd, mae'r un egwyddor yn berthnasol. Mae'r math hwn o arhosiad yn cael ei ddarparu i fodloni'r gofyniad sylfaenol am loches (tai) ac felly'n gymwys ar gyfer cyfradd sero’r ardoll. Byddai awdurdod lleol yn darparu llety fel rhan o’u dyletswyddau tai (Deddf Tai Cymru 2014). Felly, mewn achosion lle mae’r awdurdod lleol yn trefnu ac yn talu am yr arhosiad, byddai angen iddynt gadarnhau gyda’r darparwr llety ymwelwyr nad oes ardoll yn ddyledus (drwy ohebiaeth ysgrifenedig/llythyr swyddogol). Byddai angen i awdurdodau lleol weithio'n agos gyda darparwyr llety ymwelwyr yn eu hardaloedd i sicrhau bod y prosesau dan sylw yn glir i bawb er mwyn osgoi gweithredu’r ardoll ymwelwyr yn amhriodol. Bydd Llywodraeth Cymru ac ACC yn paratoi canllawiau yn ymwneud â’r mater hwn.
101. Fel y nodir yn yr asesiad effaith hwn, mewn sefyllfaoedd lle mae’r elusen yn trefnu ac yn talu am loches frys mewn llety i ymwelwyr, o ystyried mai bwriad yr elusen yw dod o hyd i atebion tai hirdymor a mwy diogel trwy wasanaethau cymorth a chyllid presennol y Llywodraeth, rydym o'r farn ei bod yn briodol i alluogi elusennau i adennill costau'r ardoll ar gyfer unrhyw arosiadau cymwys.
102. Yn unol â’n dulliau ymgysylltu ar gyfer digartrefedd a cheiswyr lloches, roedd y sefyllfaoedd hyn yn ganolbwynt i’n hymgysylltiad â darparwyr gwasanaethau a goroeswyr er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u profiadau a deall hyd a lled y math hwn o sefyllfa. Mae canlyniadau’r ymgysylltiad hwn i'w gweld isod.
Canlyniadau’r ymgysylltiad
103. Mae Black Association of Women Step Out (BAWSO) yn cefnogi pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a mathau eraill o gam-drin. Roeddent yn argymell cyfradd sero i’r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chanllawiau clir i awdurdodau lleol ar sut i ymdrin ag achosion o’r fath os ydynt yn digwydd. Opsiwn arall a gynigiwyd oedd sicrhau y gellid ad-dalu’r ardoll, trwy broses ad-dalu syml, gydag ychydig iawn/dim gofynion casglu data, gan nodi hefyd, o ystyried sensitifrwydd y sefyllfaoedd yn y senario hwn, bod hyn yn cael ei wneud ar ran y goroeswyr trwy’r darparwr gwasanaeth i oroeswyr. Roeddent wedi darparu amcangyfrifon ar y sail y gallai goroeswr, ar gyfartaledd, fod yn defnyddio llety ymwelwyr am gyfnod o wythnos i 12 wythnos, er enghraifft mewn sefyllfaoedd lle mae goroeswyr yn aros am benderfyniad gan y Swyddfa Gartref ynglŷn â’u cais am loches.
104. Nod Cymorth i Ferched Cymru yw rhoi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod. Roeddent yn amcangyfrif bod arhosiad brys fel arfer yn para 2-3 diwrnod, cyn y gall y darparwr gwasanaeth ymgysylltu’n llwyddiannus â’r awdurdod lleol – dyma pryd y byddai’r llwybr arferol i ariannu cymorth i oroeswr sy’n ffoi, yn digwydd. Roeddent o'r farn ei bod yn bwysig i unrhyw sefyllfa ad-dalu fod yn hyblyg Roeddent hefyd yn tynnu sylw at y lefelau uchel o waith gweinyddu sydd eisoes yn bodoli felly pwysleisiwyd yr angen i unrhyw broses ad-dalu fod yn syml ac yn glir.
105. Eglurodd aelodau o dîm Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST) fod eu goroeswyr yn aml yn dewis aros gydag aelodau o’u teulu yn hytrach nag mewn llety ymwelwyr wrth geisio lloches, gan fod hyn yn fwy cydnaws â’u traddodiadau diwylliannol. Tynnwyd sylw at faterion yn ymwneud â landlordiaid preifat a rhwystrau ieithyddol sy’n aml yn atal y teuluoedd y maent yn eu cynrychioli rhag dod o hyd i lety diogel. Tynnwyd sylw at yr anawsterau wrth geisio dod o hyd i dai ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid heb unrhyw hawl i arian cyhoeddus ar sail eu statws ‘answyddogol’, sy’n golygu nad yw cyllid y Swyddfa Gartref yn berthnasol. Mewn sefyllfaoedd fel hyn mae angen i'r elusennau perthnasol dalu o'u cronfeydd brys er mwyn darparu lloches a llety. Awgrymwyd y dylid sicrhau bod gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr ar gael mewn ieithoedd eraill, oherwydd gallai diffyg dealltwriaeth arwain at ddryswch ynghylch atebolrwydd.
Ystyriaethau carcharorion a chaethwasiaeth fodern
106. Ni wnaethom nodi unrhyw effaith benodol ar garcharorion na dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
Undebau llafur a gweithwyr
107. Cynhaliwyd trafodaethau gyda swyddogion polisi mewn timau ym maes Trosedd a Chyfiawnder, Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Gweithwyr. Mynegwyd pryderon am unrhyw effaith tymor byr i ganolig o ardoll twristiaeth ar niferoedd ymwelwyr a sefyllfa ariannol busnesau twristiaeth, gan amlygu y gallai unrhyw gynnydd yn y pwysau ariannol ar fusnesau twristiaeth greu pwysau ar i lawr ar gyflogau, telerau ac amodau o fewn y sector twristiaeth. Gan nodi bod twristiaeth yn sector sydd angen llawer o weithwyr a phe byddai busnesau’n dod o dan straen ariannol, mae newidiadau i amodau cyflogaeth yn cynnig maes posibl, a thebygol hyd yn oed, lle y gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd, yn enwedig gan nad yw’r sector dan ddylanwad cryf undebau llafur nac yn destun cytundebau cydfargeinio ar y cyfan. Gallai unrhyw ostyngiad tymor byr yn nifer yr ymwelwyr (a gwariant) hefyd roi pwysau ar fusnesau lleol eraill nad ydynt yn ymwneud â thwristiaeth a’r amodau gwaith y maent yn eu cynnig.
108. Fodd bynnag, gwerthfawrogwyd y byddai’r ardoll ymwelwyr yn casglu arian y gellir ei ddargyfeirio i wella’r seilwaith, y gwasanaethau a’r amgylchedd y mae cynnig twristiaeth deniadol a busnesau twristiaeth llwyddiannus yn dibynnu arnynt.
Grŵp Partneriaeth y Trydydd Sector
109. Rydym wedi ymgysylltu â Grŵp Partneriaeth y Trydydd Sector, a rhannwyd gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr gyda’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli, a chawsom adborth yn uniongyrchol oddi wrth yr Urdd, a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru. Rydym yn parhau i fod yn agored i barhau i ymgysylltu â Grŵp Partneriaeth y Trydydd Sector a’r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli yn ystod y gwaith craffu ar y Biliau a thu hwnt.
Sut bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb?
110. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn deall yr effeithiau posibl a’r sgil effeithiau anfwriadol ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig. Bydd canllawiau’n cael eu datblygu er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddehongli a chyflwyno’r ardoll. Bydd y canllawiau a ddatblygir yn cyd-fynd â’r rhwymedigaethau statudol presennol ar gyfer Awdurdod Lleol i roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011.
111. Mae Tabl 2 hefyd yn nodi sut rydym wedi ymateb i’r ymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol ar effaith bosibl yr ardoll, drwy addasu’r Bil er mwyn sicrhau y gellir addasu’r cyfraddau, yr esemptiadau a’r gyfradd sero, a’r ad-daliadau – a hynny er mwyn sicrhau y gallwn ymateb yn briodol pe bai unrhyw effeithiau neu faterion negyddol yn cael eu nodi. Byddai disgwyl hefyd i awdurdodau lleol ymgysylltu â grwpiau a chymunedau allweddol cyn gweithredu ardoll ac ar ôl ei rhoi ar waith.
Atodiad
Nodwedd warchodedig | Effeithiau posibl | Camau lliniaru |
---|---|---|
Oedran | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Anabledd | Nodwyd y gallai codi ardoll ymwelwyr ar ofalwyr sy'n mynd gyda pherson anabl sydd angen gofal fel rhan o'u hymweliad gael ei ddehongli fel gwahaniaethu anuniongyrchol. Y rheswm am hyn yw y gallai pobl anabl sydd angen gofalwr wynebu costau ychwanegol oherwydd bod yr ardoll yn berthnasol i'r gofalwr, pe bai'r person anabl yn ysgwyddo’r costau ychwanegol hynny. | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. Gellir gwneud cais am ad-daliad gan ACC am arosiadau a wnaed gan bobl anabl sy’n teithio yng nghwmni gofalwr. |
Hil | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Ailbennu rhywedd | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Beichiogrwydd a mamolaeth | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Crefydd, cred a dim cred | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Rhyw / Rhywedd | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Cyfeiriadedd rhywiol | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Priodas a phartneriaeth sifil | Dim | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Plant a phobl ifanc | Dim effeithiau uniongyrchol negyddol na chadarnhaol. Nodwyd rhai effeithiau eilaidd. Ceir dadansoddiad pellach o’n hasesiad o effaith ardoll ymwelwyr ar blant a phobl ifanc yn yr asesiad o’r effaith ar hawliau plant sy’n cyd-fynd â’r ddogfen hon. | Rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig
Ydych chi’n credu y bydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl? (Cyfeiriwch at bwynt 1.4 yn y Canllawiau ar gyfer Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb am ragor o wybodaeth am Hawliau Dynol a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig).
Hawliau dynol | Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig? | Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) | Sut y byddwch chi’n lliniaru effeithiau negyddol? |
---|---|---|---|
Amherthnasol | Nid yw'r ardoll yn effeithio ar hawliau unrhyw un. Nid yw'n targedu unrhyw grwpiau neu unigolion penodol, felly nid yw'n amharu arnynt. Mae’r ardoll yn berthnasol ar gyfer trafodion masnachol lle mae arian yn cael ei gyfnewid. |
Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir
Mae’r Bil yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n rhoi cyfle i awdurdodau lleol Cymru gyflwyno ardoll ar dwristoaeth a chefnogi a gwella’r cyrchfannau ymwelwyr o safon fyd-eang sydd yng Nghymru drwy gyllid a buddsoddiad ychwanegol. Felly, nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol o ganlyniad i’r Bil ei hun, ac nid yw’r Bil ar ei ben ei hun yn cael unrhyw effaith ar Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a’r Swistir.