Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad yn dangos twf iach ar draws dangosyddion allweddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2023 ar sectorau a gefnogir gan Cymru Greadigol yn dangos bod trosiant blynyddol o £1.5 biliwn wedi cael ei gynhyrchu yn ystod 2023, cynnydd o dros 10% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae uchafbwyntiau eraill yn yr adroddiad ystadegol yn dangos:

  • Bod dros 3,500 o fusnesau bellach yn gweithredu yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, cynnydd o 12% ers 2018
  • Bod dros 35,000 o bobl bellach yn cael eu cyflogi o fewn sectorau â blaenoriaeth Cymru Greadigol, yn ogystal â gweithlu llawrydd sylweddol
  • Bod trosiant blynyddol wedi cynyddu ar gyfer y sectorau Teledu a Ffilm, Gemau, Digidol a Cherddoriaeth

Mae'r diwydiannau creadigol yn cael eu cydnabod yn eang fel un o lwyddiannau mawr Cymru, yn dilyn dros ddegawd o fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru ar ôl nodi eu bod yn cynnig potensial sylweddol i Gymru ar gyfer twf. 

Sefydlwyd Cymru Greadigol gan Lywodraeth Cymru yn 2020, ac mae wedi cefnogi sectorau creadigol â blaenoriaeth i gynnal momentwm a thyfu yn ystod cyfnod arbennig o anwadal i'r economi a'r sector oherwydd heriau diwydiant a byd-eang, gan gynnwys y pandemig.

Mae sawl cynhyrchiad a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar fel: cyfres Netflix boblogaidd Sex Education; House of the Dragon gan HBO (rhaghanes i Game of Thrones); Lost Boys & Fairies gan y BBC; ffilm nodwedd sydd wedi ennill BAFTA, sef Chuck Chuck Baby; darlledu Gemau Paralympaidd 2024 o bell o Ganolfan Ddarlledu Cymru yng Nghaerdydd; ac enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni, Lemfreck. Mae Wales Interactive, y cwmni gemau o Gymru y tu ôl i'r gêm arswyd Gothig ysgubol boblogaidd Sker Ritual, hefyd wedi derbyn cymorth gan Cymru Greadigol.

Hwb economaidd

Ers iddi gael ei sefydlu, mae cynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol wedi cyfrannu at £313 miliwn disgwyliedig o wariant amodol i economi Cymru (ar bopeth o gyflogaeth a datblygu sgiliau i setiau ffilmio a thwf busnes) drwy fuddsoddiadau gwerth £26.5 miliwn mewn cyllid cynhyrchu yn unig.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Rebecca Evans:

Dylen ni fod yn gweiddi o'r toeau am gryfder a llwyddiant ein diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yr hyn yr oedden ni eisoes yn ei amau – bod y sectorau ffilm a theledu, cerddoriaeth, gemau, digidol, animeiddio a chyhoeddi bellach yn gyflogwyr pwysig yma, gyda throsiant a swyddi yn tyfu ar gyfradd sy'n llawer uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

Yn ogystal â darparu cymorth ariannol, mae gan Cymru Greadigol hanes o gefnogi talent leol a denu prosiectau creadigol rhyngwladol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi mynd â chwmnïau o Gymru i gynadleddau, gwyliau a ffeiriau masnach mawr yn yr Unol Daleithiau ac Ewrop, gyda rhagor wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Roeddwn i wrth fy modd bod adroddiad diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach yn cynnwys adborth gan y sector ynghylch yr effaith gadarnhaol y mae Cymru Greadigol yn ei chael. Gall busnesau creadigol fod yn sicr y byddwn ni, drwy Cymru Greadigol, yn parhau i weithio'n agos gyda nhw i helpu i sicrhau bod gan y sector ddyfodol bywiog, cynaliadwy ac iach.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod 3,595 o fusnesau yn gweithredu yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru erbyn hyn, cynnydd o 11.8% o'u cymharu â ffigyrau 2018 (o'i gymharu â chynnydd o 3.5% yn nifer y busnesau ar draws economi Cymru). Mae'r sectorau â blaenoriaeth a gefnogir gan Cymru Greadigol yn darparu swyddi i 35,100 o bobl yng Nghymru (yn ogystal â gweithwyr llawrydd) – cynnydd o 8% o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, sydd eto'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru.

Fe wnaeth y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru ar ei ben ei hun ddarparu trosiant o £460 miliwn i Gymru yn ystod 2023. Mae cynyrchiadau llwyddiannus fel House of the Dragon, Men Up a Lost Boys & Fairies wedi arddangos lleoliadau Cymru eto eleni, ac wedi helpu i adeiladu enw da byd-eang Cymru ymhellach fel lle o'r radd flaenaf i wneud rhaglenni teledu a ffilmiau ardderchog.

Eleni fe wnaeth Cymru Greadigol hefyd gefnogi Canolfan Ddarlledu Cymru newydd a fydd yn darparu llu o gynyrchiadau chwaraeon a chynyrchiadau eraill o Gaerdydd dros y tair blynedd nesaf, gyda ffocws gwirioneddol ar adeiladu'r sylfaen sgiliau. Yn ystod y darllediad cyntaf o'r ganolfan ym mis Awst, cafodd miloedd o oriau o ffilm o bell o Gemau Paralympaidd 2024 ym Mharis eu ffrydio o Gaerdydd i wylwyr Channel 4 ar draws ystod o sianeli.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod sectorau digidol a cherddoriaeth Cymru hefyd yn perfformio'n dda. Cynhyrchodd y sector digidol drosiant o £303 miliwn yn 2023, a chynhyrchodd y sector cerddoriaeth £262 miliwn, gyda ffigyrau'n awgrymu bod trosiant y ddau sector wedi cynyddu'n sylweddol o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 

Hwb sgiliau

Y tu hwnt i'w heffaith economaidd, mae cynyrchiadau a gefnogir gan Cymru Greadigol hefyd yn cyfrannu at ddatblygu gweithlu creadigol Cymreig sy'n fwyfwy medrus ac amrywiol. Dywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Sgiliau:

Mae buddsoddiadau Cymru Greadigol bob amser yn cael eu targedu at gryfhau'r diwydiant yn y tymor hir – er enghraifft drwy brentisiaethau a lleoliadau uwchsgilio. Mae'r buddsoddi hwn mewn datblygu sgiliau yn allweddol i gynnal a datblygu diwydiant sydd â chymaint o botensial inni fel cenedl.

Roeddwn i'n falch iawn o gyhoeddi 17 o dderbynwyr o dan yr ail Gronfa Sgiliau Creadigol fis diwethaf, ar ôl i dros 27,000 o bobl elwa ar y rownd gyntaf, gyda bron i 500 o gyrsiau hyfforddi a 435 o leoliadau uwchsgilio wedi'u darparu. Bydd mentrau fel hyn yn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i greu cyfleoedd cyffrous a gwerth chweil yn y sector ffyniannus hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.