Neidio i'r prif gynnwy

Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gymorth ar gyfer talebau tanwydd a chronfa wres gyda £700,000 ychwanegol i helpu aelwydydd sy'n agored i niwed y gaeaf hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu cyfnod anodd ac sy'n gorfod rhagdalu am eu hynni gael cymorth pellach y gaeaf hwn, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £700,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cynllun talebau tanwydd a Chronfa Wres y Sefydliad Banc Tanwydd. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn adeiladu ar ymrwymiad hirsefydlog i amddiffyn pobl sy'n wynebu tlodi tanwydd, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu neu heb fynediad at nwy o'r prif gyflenwad.

Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyfanswm o £1.2m i gefnogi amcangyfrif o 8,400 o aelwydydd, neu oddeutu 29,000 o unigolion, gyda thalebau tanwydd argyfwng, gan ddarparu hyd at 10 diwrnod o gymorth ynni hanfodol. Bydd tua 200 o aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy yn cael help gyda phrynu swmp-gyflenwadau tanwydd drwy'r Gronfa Wres. Bydd y cyllid yn caniatáu i 700 o bobl sy'n byw mewn tlodi dderbyn blancedi trydan i’w helpu drwy'r gaeaf.

Wrth gyhoeddi'r cyllid newydd mewn banc bwyd yn Wrecsam heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:

“Mae pawb yn haeddu cartref cynnes, ac rwy'n falch o ehangu'r cymorth hanfodol hwn i helpu'r rhai sy'n gorfod rhagdalu am eu hynni ac sy'n wynebu cael eu datgysylltu. Drwy gynyddu'r cyllid ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd, rydym yn sicrhau na fydd yn rhaid i fwy o bobl wynebu'r dewis amhosibl rhwng aros yn gynnes a diwallu anghenion sylfaenol eraill.

“Rydym yn deall y pwysau y mae costau ynni uchel yn eu creu, ac rydym wedi ymrwymo i leddfu'r baich hwnnw fel y gall pobl ganolbwyntio ar eu lles a'u sefydlogrwydd.”

Mae'r cyllid diweddar hwn yn adeiladu ar £5.1 miliwn a ddyrannwyd eisoes i'r Sefydliad Banc Tanwydd ers 2022, sydd wedi dosbarthu dros 62,000 o dalebau tanwydd ac wedi gwneud dros 360 o swmp-gyflenwadau tanwydd i aelwydydd nad ydynt ar y grid.

Mae'r cyllid wedi galluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i ehangu ei bartneriaid atgyfeirio o 6 i dros 142 o sefydliadau ledled Cymru. Mae'r rhwydwaith eang hwn yn sicrhau bod cymorth ar gael yn lleol i aelwydydd mewn angen ledled Cymru.

Mae aelwydydd sydd wedi cael cymorth drwy'r Sefydliad Banc Tanwydd yn siarad am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae wedi'i wneud. Mae data diweddar a dderbyniwyd gan y Sefydliad Banc Tanwydd yn nodi bod 91% o'r aelwydydd a holwyd ddiwethaf wedi nodi effaith sylweddol ar eu sefydlogrwydd ariannol, a soniodd 60% o deuluoedd a gefnogwyd am welliant sylweddol o ran eu hiechyd corfforol a'u lles meddyliol.

Dywedodd Prif Weithredwr y Sefydliad Banc Tanwydd, Matthew Cole: 

“Mae tlodi tanwydd yn cael effaith andwyol ar gymdeithas, gan achosi dioddefaint corfforol ac emosiynol i filoedd o bobl ledled Cymru, gyda llawer ohonynt naill ai'n agored i niwed neu ar incwm isel. Mae eu sefyllfa ariannol yn enbyd a heb gymorth maen nhw'n wynebu byw mewn cartrefi oer, tywyll, llaith a pheryglus. 

“Dyma pam fod y cyllid gan Lywodraeth Cymru mor bwysig. Mae eisoes wedi ein galluogi i ddarparu talebau tanwydd brys a swmp-gyflenwadau tanwydd i filoedd o gartrefi, gyda miloedd mwy bellach ar fin elwa.

Dywedodd Jo Harry, arweinydd rhwydwaith Cymru yn Trussell:

“Mae'r nifer enfawr o bobl sy'n wynebu newyn a chaledi ledled Cymru yn dorcalonnus. Mae gormod o bobl yn wynebu penderfyniadau amhosib fel gwresogi eu cartref neu brynu hanfodion eraill fel bwyd. Rydym yn croesawu ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet â Banc Bwyd Wrecsam heddiw lle clywodd am brofiadau pobl sydd wedi gorfod troi at y banc bwyd am gymorth.

"Mae talebau tanwydd a pharseli bwyd brys yn rhoi achubiaeth i bobl na allant fforddio costau hanfodol, fel ynni a bwyd, ond rydym yn gwybod nad yw hwn yn ateb tymor hir. Mae pobl yn cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd yng Nghymru oherwydd nad yw incwm o'r gwaith, na thaliadau nawdd cymdeithasol, yn talu cost yr hanfodion, fel bwyd, biliau a phethau ymolchi.

“Rydym yn gobeithio gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau'r angen am gymorth brys drwy ganolbwyntio ar leihau nifer y bobl sy'n gaeth yn y mathau dyfnaf o dlodi.”

I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth o dan y Cynllun Banc Tanwydd a sut i wneud cais, cysylltwch ag unrhyw un o'u partneriaid sy'n cael eu rhoi ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru: Partneriaid y Sefydliad Banc Tanwydd.