Neidio i'r prif gynnwy

Uwchsgilio eich gweithwyr gyda Phrosiectau Partneriaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae’n bosib iawn y gall ein rhaglenni eich helpu chi gyda chymorth ariannol tuag at uwchsgilio'ch staff. Ar hyn o bryd mae gennym ni raglenni penodol a fydd yn helpu gyda’r canlynol:

  • datblygu sgiliau digidol uwch
  • mynd i'r afael â heriau sgiliau sy'n gysylltiedig ag allforio
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau yn y diwydiant Peirianneg a Cynhyrchu
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector creadigol
  • cefnogaeth i datblygu sgiliau i cynorthwyo sialensau Sero Net
  • cefnogaeth i fylchau sgiliau ac uwchsgilio yn y sector Twristiaeth a Lletygarwch
  • chefnogaeth sgiliau coedwigaeth a chyflenwi pren lansiwyd Hydref 2024)

Pwy sy'n gymwys:

Rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli yng Nghymru, yn ddiddyled, a rhaid i chi ymrwymo i ryddhau staff i gyflawni'r hyfforddiant dan sylw erbyn diwedd mis Mawrth 2025. 

Rhaid i'r hyfforddiant hyrwyddo dysgu'r unigolion sy'n ymwneud ag o leiaf un o'r meysydd hyfforddi a gymeradwywyd ymlaen llaw

Hyfforddiant Cyn Cymeradwy.

Rhaid i bob elfen o'r hyfforddiant wella gallu neu gapasiti’r busnes.

Mae'r cyllid yn ddewisol a Llywodraeth Cymru sydd â’r gair olaf ar gymhwysedd.

Datganiad o ddiddordeb:

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.

Ychwanegwyd yn ddiweddar

Rydym wedi ychwanegu yn ddiweddar sgiliau Coedwigaeth a’r Gadwyn Cyflenwi Pren

Diben y rhaglen hon yw darparu cymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru sy'n dymuno mynd i'r afael â bylchau o ran sgiliau a gwella sgiliau eu gweithluoedd a helpu i ddatblygu gweithlu hyblyg ym maes Coedwigaeth ac yn y Gadwyn Cyflenwi Pren yng Nghymru.

Manyldeb y Rhaglen Sgiliau Coedwigaeth a Chyflenwi Pren

Nid oes unrhyw ofyniad i ddefnyddio cwmni hyfforddi penodol – gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig, gan gofio rhoi pob ystyriaeth i ansawdd, cost a gwerth cyffredinol am arian.

Rhaid i'r hyfforddiant naill ai fod wedi'i achredu neu dylai gyfateb i safon a gydnabyddir yn eang yn y diwydiant, a dylai fod yn drosglwyddadwy.

Hyfforddi a gymeradwywyd ymlaen llaw

Mae'r hyfforddiant y gellir ei gefnogi o dan y Rhaglen Coedwigaeth a Phren yn cynnwys:

Paratoi, cynnal a chadw a rheoli coetir a choed

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Hyfforddiant ar sut i ddefnyddio peiriannau bwydo â llaw i dorri sglodion coed, defnyddio peiriannau torri prysgwydd a pheiriannau tocio
  • Canllawiau ar Drafod a Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) ac ar Ddefnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel wrth Ddefnyddio Offer Llaw ar Droed (PA6), cynnal a chadw llifiau cadwyn, croesdorri, cwympo a phrosesu Coed
  • Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith + ym maes Coedwigaeth
  • Torri Coed sydd wedi'u Dadwreiddio neu eu Chwythu gan y Gwynt, Platfformau Gwaith Uchel Symudol
  •  Defnyddio Peiriannau Coedwigaeth, Dyfarniad Technegol mewn Gwaith Arolygu ac Archwilio Sylfaenol ar Goed, Defnyddio Dronau

Peiriannau Mawr

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Peiriannau Cynaeafu
  • Cerbydau Tynnu Wagenni Pren
  • Peiriannau Telescopig i Drafod Coed

Prosesu Pren

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Graddio pren
  • Gweithredu’n ddiogel (Melinau coed)

Digidol, TG a Chyfathrebu

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Marchnata digidol
  • Y cyfryngau cymdeithasol
  • Datblygu gwefannau
  • Dylunio gyda chymorth cyfrifiadur

Technoleg pren

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Technoleg
  • Peirianneg a dylunio pren 

Hyfforddiant Rheoli ym maes Coedwigaeth a Phren

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Rheolwr Gwaith Coedwigaeth
  • Cynllun Hyfforddiant ar Ddiogelwch ar gyfer Goruchwylwyr Safleoedd, FSC® ISO 19011 at ddibenion Archwilio

Caiff pob busnes wneud un cais o dan y rhaglen hon bob blwyddyn.

Manteision i’r Busnes

Bydd pob cwrs hyfforddiant cymeradwy yn denu cyfraniad o 50% oddi wrth Lywodraeth Cymru at gyfanswm y costau cymwys.

Caiff y taliadau eu talu mewn ôl-daliadau ar yr amod eich bod yn darparu’r dystiolaeth angenrheidiol am y canlynol:

  • cadarnhad bod yr unigolion wedi dilyn cwrs yn llawn a (neu) wedi’i gwblhau
  • thystiolaeth am gostau'r darparwr hyfforddiant ac am y taliadau a wnaed

Y Camau Nesaf:

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais am y cyllid hwn, cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a bydd aelod o'n tîm Sgiliau yn ymateb cyn gynted â phosibl ac o fewn 10 diwrnod gwaith.