Brechiad pertwsis i weithwyr gofal iechyd (WHC/2024/043)
Canllawiau ar frechiad y pas i weithwyr gofal iechyd sy'n gweithio gyda babanod a menywod beichiog.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Statws:
Cydymffurfio / gweithredu.
Categori:
Iechyd y cyhoedd.
Teitl:
Cynnig Brechlyn Pertwsis i Weithwyr Gofal Iechyd.
Dyddiad dod i ben / adolygu:
Amherthnasol.
Angen gweithredu erbyn:
Amherthnasol.
I'w weithredu gan:
- Prif weithredwyr, byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Arweinwyr imiwneiddio, byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cydgysylltwyr imiwneiddio, byrddau iechyd.
- Arweinwyr gweithredol brechu, byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr meddygol, byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gofal sylfaenol, ymddiriedolaethau/byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gweithredol nyrsio.
- Byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr therapïau a gwyddorau iechyd.
- Byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Prif fferyllwyr byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr iechyd y cyhoedd byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwyr gwasanaethau mamolaeth byrddau iechyd.
- Cyfarwyddwyr y gweithlu a datblygu sefydliadol.
- Byrddau/ymddiriedolaethau iechyd.
- Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Cyfarwyddwr Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Cyfarwyddwr Cyflenwi’r Brechlyn, Gweithrediaeth GIG Cymru.
- Ymarferwyr cyffredinol.
- Fferyllwyr cymunedol.
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Er gwybodaeth i:
- Fforwm Partneriaeth GIG Cymru.
- Cyngor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.
- Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
- Y Coleg Nyrsio Brenhinol.
- Coleg Brenhinol y Bydwragedd.
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.
- Cymdeithas Ddeintyddol Prydain.
- Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.
- Fferylliaeth Gymunedol Cymru.
- Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'w anfon ymlaen at:
- Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol.
- Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd, Awdurdodau Lleol.
- Cyfarwyddwyr Addysg Awdurdodau Lleol.
- Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Anfonir gan:
Dr Keith Reid, y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Iechyd y Cyhoedd).
Enw cyswllt yn Llywodraeth Cymru:
Yr Is-adran Frechu,
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd.
CF10 3NQ.
E-bost: wg.vaccinationsprogrammeteam@gov.wales
Dogfennau amgaeedig:
Dim.
Cynnig galwedigaethol o'r brechlyn pertwsis i weithwyr gofal iechyd
Annwyl cydweithwyr,
Rwyf yn ysgrifennu atoch i roi eglurder ar y cynnig galwedigaethol o'r brechlyn pertwsis i weithwyr gofal iechyd (HCWs) y GIG.
Ers diwedd 2023 bu cynnydd mawr mewn hysbysiadau o bertwsis a amheuir, a elwir y pas yn gyffredin, yng Nghymru a ledled y DU.
Haint bacterol o'r llwybr anadlol sy'n lledaenu'n hawdd iawn ac sydd weithiau'n gallu achosi salwch difrifol yw pertwsis. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella heb ymyrraeth feddygol, mae'r risg y bydd cymhlethdodau difrifol, gan gynnwys mynd i'r ysbyty a marwolaeth, ar ei huchaf ymhlith babanod ifanc iawn. Mae pump o fabanod o dan 3 mis oed eisoes wedi marw eleni yn y DU: y marwolaethau cyntaf sy'n gysylltiedig â phertwsis sydd wedi'u hadrodd ers 2019.
Lefel uchel o imiwneiddio'r boblogaeth yw'r dull mwyaf effeithiol o reoli'r pas. Mae'r brechlyn yn cael ei gynnig i fabanod fel rhan o'r rhaglen imiwneiddio ar gyfer babanod yn wyth,12 ac 16 wythnos a phlant cyn oed ysgol yn dair blwydd a phedwar mis oed. Mae'n cael ei gynnig hefyd fel mater o drefn i fenywod beichiog rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd i helpu i amddiffyn babanod newydd-anedig nes eu bod yn ddigon hen i gael eu brechiad cyntaf. Er hynny, mae cyfraddau brechu wedi gostwng dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac o ganlyniad mae'n anochel bod achosion o bertwsis wedi codi, fel y gwelwyd eleni.
Mae HCWs sy'n dod i gysylltiad â menywod beichiog a babanod hefyd fod yn ffynhonnell allweddol o haint. Yng ngoleuni hyn, ac i helpu i amddiffyn babanod rhag pertwsis, cyhoeddwyd Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC) yn 2019 yn nodi cynnig galwedigaethol o'r brechlyn pertwsis ar gyfer rhai gweithwyr gofal iechyd yn sefydliadau GIG Cymru. Yn benodol, dywedodd y WHC blaenorol y gweithwyr gofal iechyd nad oeddent wedi derbyn brechlyn sy'n cynnwys pertwsis yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac a oedd wedi dod i gysylltiad rheolaidd â menywod beichiog neu fabanod ifanc, yn gymwys i gael brechlyn sy'n cynnwys pertwsis fel rhan o'u gofal iechyd galwedigaethol.
Yn dilyn y cynnydd diweddar mewn achosion o bertwsis ac i helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed, hoffwn atgoffa cydweithwyr yn GIG Cymru o'r angen i sicrhau bod y cynnig galwedigaethol o'r brechlyn pertwsis i HCWs yn dal yn un gweithredol.
Yn benodol, dylai HCWs sy'n gweithio gyda'r carfannau canlynol gael cynnig brechiad pertwsis galwedigaethol, os nad ydynt wedi cael un yn ystod y pum mlynedd diwethaf:
- HCWs sydd â chyswllt clinigol rheolaidd ac agos â menywod yn ystod mis olaf beichiogrwydd a babanod ifanc difrifol wael; mae hyn yn cynnwys:
- staff clinigol sy'n gweithio mewn meysydd lle mae menywod beichiog yn debygol o fynychu yn ystod eu mis olaf o feichiogrwydd (er enghraifft bydwreigiaeth, obstetreg a lleoliadau mamolaeth)
- staff gofal dwys babanod newydd-anedig a gofal dwys pediatrig sy'n debygol o fod â chysylltiad clinigol agos ac estynedig â babanod ifanc difrifol wael
- HCWs sydd â chysylltiad clinigol rheolaidd â babanod ifanc heb eu himiwneiddio mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol; enghreifftiau o'r grwpiau hyn yw:
- staff pediatrig cyffredinol
- staff cardioleg bediatrig
- staff llawfeddygol pediatrig
- meddygaeth frys bediatrig
- staff sy'n ymwelwyr iechyd
- HCWs sydd â chysylltiad clinigol ysbeidiol â babanod ifanc heb eu himiwneiddio yn y gymuned; mae hyn yn cynnwys HCWs mewn ymarfer cyffredinol
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol bod HCWs yn y grwpiau hyn wedi bod yn gymwys i gael brechiad pertwsis ers 2019 ac y gallent fod yn gymwys bellach i gael dos arall.
Mae brechu'r HCWs hyn nid yn unig yn helpu i atal trosglwyddo haint pertwsis i fabanod a menywod beichiog agored i niwed mewn lleoliadau gofal iechyd, ond mae hefyd yn lliniaru canlyniadau digwyddiadau o'r fath sydd yn aml yn ddwys o ran adnoddau ac yn peri aflonyddwch, gan gynnwys lliniaru'r risg o absenoldeb staff.
Gan mai cynnig galwedigaethol yw hwn, dylai HCWs cymwys gysylltu â'u cynrychiolydd iechyd galwedigaethol i gael gwybod sut i gael eu brechlyn. Dylai timau iechyd galwedigaethol weithio gyda rheolwyr llinell i nodi staff sy'n gymwys. Dylai aelodau staff hefyd hysbysu iechyd galwedigaethol os ydynt wedi cael brechlyn sy'n cynnwys pertwsis mewn mannau eraill e.e. fel rhan o'r rhaglen feichiogrwydd.
Mae canllawiau gweithredol pellach i'w cael hefyd yn atodiad A.
Yn gywir
Dr Keith Reid
Dirprwy Brif Swyddog Meddygol (Iechyd y Cyhoedd)
Annex A
Vaccine products
The recommended vaccines are acellular pertussis-containing vaccines Repevax, ADACEL and Boostrix-IPV. These are combination vaccines that, in addition to pertussis antigens, contain diphtheria toxoid, tetanus toxoid, and inactivated poliovirus. There are no current issues with the supplies of these vaccines.
Repevax
Repevax diphtheria / tetanus / 5-component acellular pertussis / inactivated polio vaccine (dTaP/IPV) – manufactured by Sanofi Pasteur.
Contact 0800 854 430 (option 1) or gb-vaccinecustomerservices@sanofi.com to order vaccines.
ADACEL (diphtheria / tetanus / 5-component acellular pertussis)
ADACEL does not contain IPV. Not suitable for individuals with latex allergy. Manufactured by Sanofi Pasteur. Order details as above.
Boostrix-IPV
Boostrix-IPV, diphtheria / tetanus / 3-component acellular pertussis / inactivated polio vaccine (dTaP/IPV) – manufactured by GlaxoSmithKline.
Contact AAH Pharmaceuticals on 0344 561 8899 (option 1) to order vaccines.
All pertussis-containing vaccines are supplied as single doses of 0.5 ml. They are inactivated so do not contain live organisms and cannot cause the diseases they protect against.
Vaccines should be stored in the original packaging at +2˚C to +8˚C and protected from light.
Contraindications
There are very few individuals who cannot receive pertussis-containing vaccines. When there is doubt, rather than withhold vaccine, appropriate advice should be sought from:
- local immunisation team / immunisation coordinator
- Welsh Medicines Advisory Service
The vaccines should not be given to those who have had:
- a confirmed anaphylactic reaction to a previous dose of a diphtheria, tetanus, polio or pertussis-containing vaccine
- a confirmed anaphylactic reaction to neomycin, streptomycin or polymyxin B (which may be present in the vaccine in trace amounts)
- a confirmed anaphylactic reaction to any component or excipient of the vaccine
- ADACEL should not be given to individuals with a latex allergy
Precautions
Minor illnesses without fever or systemic upset are not valid reasons to postpone immunisation. If an individual is acutely unwell, immunisation should be postponed until they have fully recovered.
Additional information
Pertussis-containing vaccines are recommended for all pregnant women from 16 weeks gestation and can be given to those who are breastfeeding. HCWs who are pregnant should be vaccinated as recommended under the maternal pertussis programme (ideally between 16 and 32 weeks.
Pertussis vaccines can also be given to those with immunosuppression and HIV infection, but they may not make a full antibody response and may require re-immunisation on specialist advice.
Incidents and outbreaks in healthcare settings
Guidelines for the Public Health Management of Pertussis in Healthcare Settings still apply and are available to view and download.