Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers mis Mehefin 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid grant i helpu'r Sefydliad Banc Tanwydd i ddatblygu eu rhwydwaith yng Nghymru ac i gefnogi'r rhai mewn argyfwng ariannol sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu tanwydd.

Mae’r cynllun yn darparu cymorth i aelwydydd cymwys sy’n talu ymlaen llaw am eu tanwydd ac sydd mewn perygl o gael eu datgysylltu. Mae hyn yn cynnwys darparu talebau tanwydd i gartrefi sydd â mesuryddion rhagdalu a chyflenwad o olew neu nwy i’r rheini nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif rwydwaith nwy. 

Mae ein cymorth wedi galluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i dyfu rhwydwaith o fwy na 126 o bartneriaid atgyfeirio yng Nghymru ynghyd â 13 partner arall yn y DU sydd hefyd yn cefnogi aelwydydd Cymru. Hyd yn hyn, mae'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi dosbarthu dros 62,000 o dalebau tanwydd, wedi darparu dros 2,500 blanced wresogi ac wedi cefnogi dros 360 o aelwydydd i gael help i brynu tanwydd oddi ar y grid. 

Rwy'n falch o gyhoeddi y byddaf yn rhoi £700,000 ychwanegol i'r Sefydliad y Banc Tanwydd y gaeaf hwn i barhau i ddarparu'r cynlluniau talebau tanwydd a'r gronfa wres sydd â'r nod o ddarparu cymorth argyfwng i'r aelwydydd hynny sy'n gorfod talu ymlaen llaw am ynni ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Mae £200,000 o'r cyllid ychwanegol hwn wedi'i ddyrannu yn benodol i gefnogi cymunedau Sipsiwn Roma a Theithwyr. Bydd hyn i gyd yn dod â'n cefnogaeth i'r Sefydliad y Banc Tanwydd eleni (2024/25) i £1.2m.

Fel rhan o'r cyllid ychwanegol, bydd Sefydliad y Banc Tanwydd yn adeiladu ar lwyddiant eu hymgyrch Blancedi Gwresogi i gleientiaid presennol y Banc Tanwydd, er mwyn lleihau biliau gwresogi cartrefi trwy helpu pobl i gadw'n gynnes.