Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
  • Huw Irranca-Davies AS
  • Jayne Bryant AS
  • Mark Drakeford AS
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Lynne Neagle AS
  • Ken Skates AS
     
  • Dawn Bowden AS
  • Sarah Murphy AS
  • Vikki Howells AS
  • Jack Sargeant AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Pontio, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Catrin Sully, Pennaeth Swyddfa'r Cabinet
  • Kevin Brennan, Cynghorydd Arbennig
  • Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
  • Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Maddie Rees, Cynghorydd Arbennig
  • Victoria Solomon, Cynghorydd Arbennig
  • Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Diane Dunning, Dirprwy Gyfarwyddwr, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Bekah Cioffi, Dirprwy Gyfarwyddwr Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni (eitem 4)
  • Lindsey Bromwell, Pennaeth Datgarboneiddio'r Sector Cyhoeddus (eitem 4)
  • Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio (eitem 5)
  • Sarah Rhodes, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Tai (eitem 5)
  • Joanna Valentine, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheoleiddio a Strategaeth (eitem 5)

Eitem 1: Cyflwyniad a chofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 24 Medi.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Tata Steel

2.1 Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ddiwedd gwneud dur ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, wrth i Tata Steel symud i wneud dur ffwrnais arc drydan, a'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y cymunedau a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Roedd angen parhau i gefnogi pawb yr oedd hyn yn effeithio arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn a helpu i ailadeiladu cymunedau. Roedd hefyd yn bwysig cyfeirio pobl at y gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sydd ar gael.

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

2.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet y byddai hi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, yn mynychu agoriad Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn nes ymlaen  yr wythnos honno. Byddai'r Prif Weinidog hefyd yn cynnal cyfres o ymweliadau yn yr ardal.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi nad oedd amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth, ac y byddai amser pleidleisio'n digwydd tua 6.25pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Strategaeth Addasu i'r Newid Hinsawdd

4.1 Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Strategaeth Addasu i Newid Hinsawdd a'r dull gweithredu ar gyfer datblygu fframwaith i olrhain effaith a chyflawniad.

4.2 Roedd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bob maes polisi yn Llywodraeth Cymru, a dim ond ffenestr gul o gyfle oedd i baratoi ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, roedd bron i chwarter miliwn o gartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd neu erydu arfordirol. Roedd ffermwyr yn ceisio ymdopi â mwy o lifogydd, ac roedd pobl hŷn yn dioddef yn y tywydd poethach a natur yn parhau i ddioddef yn sgil y newid ym mhatrymau'r tywydd.

4.3 Ar ben hynny, mae’n debygol y byddai effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo fwyaf gan bobl ar incwm isel sydd, o bosibl, â llai o fodd i newid eu trefniadau byw a gweithio, ac addasu eu cartrefi, neu fod ag yswiriant cartref ar gyfer costau a allai godi o ddifrod stormydd a llifogydd.

4.4 Roedd y Strategaeth yn ganllaw hanfodol i'r Llywodraeth a sefydliadau partner ar gyfer sut i ymateb i heriau'r dyfodol.

4.5    Roedd cyfleoedd hefyd. Gallai hafau sychach fod yn dda i dwristiaeth, a gallai cynhyrchwyr bwyd dyfu mathau newydd o gnydau. Gallai addasu i'r newid yn yr hinsawdd hefyd helpu i greu swyddi gwyrdd yn y dyfodol.

4.6 Yn ystod yr Wythnos Hinsawdd ddiweddar yn Efrog Newydd, roedd Cymru wedi cael ei chydnabod fel arweinydd byd-eang ym maes addasu i'r newid yn yr hinsawdd, ac roedd hyn hefyd wedi dylanwadu ar Lywodraeth y DU wrth gytuno i ymuno â 70 o wledydd eraill i gymeradwyo'r Glymblaid dros Bartneriaethau Aml-lefel Uchelgeisiol ar gyfer Newid Hinsawdd (the Coalition for High Ambition Multilevel Partnerships for Climate Action - CHAMP).

4.7 Croesawodd y Cabinet y Strategaeth, yn enwedig y pwyslais ar gyfiawnder cymdeithasol a'r cysylltiadau â'r gofynion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

4.8 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Papur gwyn ar dai digonol a rhenti teg

5.1 Cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo'r Papur Gwyn ar Dai Digonol a Rhenti Teg, gan nodi y dylid ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori yn ystod yr wythnos yn dechrau 21 Hydref.

5.2 Yn flaenorol, bu Galwad am Dystiolaeth Papur Gwyrdd, a oedd yn ceisio gwella dealltwriaeth o'r farchnad rentu yng Nghymru, a'r dulliau gweithredu y mae angen eu defnyddio i sicrhau tai digonol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ganol Medi gyda 371 o ymatebion wedi dod i law. Roedd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd hefyd wedi cynnal ei Ymchwiliad ei hun i'r Hawl i Dai Digonol, ac roedd y ddau ddarn o waith wedi helpu i lywio'r papur gwyn.

5.3 Roedd y papur gwyn felly wedi taro cydbwysedd gofalus rhwng gosod y cynigion polisi a deddfwriaethol posibl ar gyfer y dyfodol o ran sut i sicrhau tai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd.

5.4 Roedd y papur gwyn hefyd yn nodi'r ystod o fesurau deddfwriaethol, polisi ac ariannol yr oedd y Llywodraeth eisoes yn bwrw ymlaen â nhw er mwyn gwireddu'r gwahanol agweddau ar ddigonolrwydd tai. Yn y cyd-destun hwn, roedd yr ymdrechion i ddiwygio deddfwriaeth digartrefedd a darparu 20,000 o gartrefi ychwanegol ar gyfer y sector cymdeithasol yn gamau hanfodol tuag at sicrhau tai digonol.

5.5 Roedd y papur gwyn wedi ei rannu'n ddwy adran allweddol, un yn canolbwyntio ar sicrhau tai digonol, a'r llall yn mynd i'r afael â rhenti teg a fforddiadwyedd yn y sector preifat.

5.6 Awgrymodd y papur gwyn y dylid defnyddio saith maen prawf Pwyllgor Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer sicrhau tai digonol, gan gymhwyso'r mesurau hyn i lywio'r gwaith o gynhyrchu Strategaeth Tai ar gyfer y dyfodol.

5.7 Er bod y papur yn amlinellu'r potensial i gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol ar gyfer dyletswydd i lunio strategaeth ac ymestyn y ddyletswydd honno i bartneriaid, nid oedd yn cynnig ymgorffori hawl benodol i dai digonol yn y gyfraith ar hyn o bryd.

5.8 Roedd adran rhenti teg y Papur Gwyn yn canolbwyntio ar y Sector Rhentu Preifat, ac roedd yr ymyriadau arfaethedig yn ceisio gwella fforddiadwyedd, ffitrwydd i fod yn gartref, a hygyrchedd.

5.9 Fodd bynnag, roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion i wella mynediad i'r sector preifat, yn benodol mewn perthynas â datblygu cynigion mewn perthynas â Threth Trafodiadau Tir, gyda'r nod o gynyddu'r cyflenwad o dai addas drwy fwy o gymhelliant i landlordiaid ymuno â Chynllun Lesio Cymru.

5.10 Croesawodd y Cabinet y Papur Gwyn.

5.11 Cydnabuwyd y dylai cynnig cymhellion ychwanegol i landlordiaid sector preifat, sy'n ymuno â Chynllun Lesio Cymru, er mwyn gwella'r cyflenwad o eiddo rhent fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm isel a phobl sy'n byw mewn tlodi.

5.12 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2024