Daeth aelodau o genedl yn nyffryn Amazon Periw i Gymru yr wythnos hon i drafod gwaith hanfodol y Wampís i amddiffyn coedwig law yr Amazon a sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu i'w cefnogi i symud at ynni adnewyddadwy.
Wedi'i drefnu gan Maint Cymru fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru, treuliodd Teófilo Kukush Pati, Llywydd Cenedl y Wampís, sef cenedl frodorol o ddyffryn Amazon Periw, a Tsanim Wajai Asamat, arweinydd Wampís ifanc, wythnos yng Nghymru yn mynychu digwyddiadau yn y Senedd a digwyddiadau COP Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd a Wrecsam.
Prin 15,000 o bobl sy'n perthyn i'r genedl ond mae eu tiriogaeth yn estyn dros 1.3 miliwn hectar o goedwig drofannol hynod fioamrywiol. Mae 98% o'r goedwig yn dal yn ddilychwin er gwaethaf torri coed yn anghyfreithlon, cloddio am aur a chwilio am olew.
Amcangyfrifodd astudiaeth y gall eu coedwigoedd storio 145 miliwn tunnell o garbon ac mae Maint Cymru wedi bod yn cefnogi Cenedl y Wampís ers 2016.
Cafodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd bryd hynny, gwrdd â chynrychiolwyr Cenedl y Wampís yn COP27 yn Glasgow yn 2021 ac eto yn y COP Bioamrywiaeth ym Montreal yn 2022.
O ganlyniad i'r cyfarfodydd hyn, gwnaeth Llywodraeth Cymru neilltuo cyllid i'r Wampís trwy Maint Cymru i'w helpu i gael eu holl ynni o ffynonellau adnewyddadwy a thalu am adeiladu cwch pŵer solar deg sedd – y cyntaf o'i fath ym Mheriw.
Mae'r cwch eisoes yn gwneud gwaith gwerthfawr i genedl y Wampís drwy fynd ag aelodau'r gymuned i ganolfannau iechyd ac ysgolion, i gynaeafu cnydau, i wneud eu gwaith pob dydd ac i batrolio'r afon.
Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau hanfodol megis mynd â mamau beichiog o'r cymunedau lleol i'r ganolfan iechyd leol i gael archwiliadau, yn ogystal â mynd â'u plant i gael eu harchwiliadau iechyd misol.
Yn ystod eu hymweliad â Chymru, ymrwymodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies £50,000 yn ychwanegol i helpu i ariannu cychod llai i gefnogi eu system drafnidiaeth ymhellach.
Dywedodd Barbara Davies-Quy, Dirprwy Gyfarwyddwr Maint Cymru:
“Dyma foment bwerus i Gymru, drwy groesawu arweinwyr brodorol sydd wedi teithio o ganol yr Amazon i rannu eu gwybodaeth a'u profiad mewn stiwardiaeth amgylcheddol.
"Mae eu dewrder a'u hymroddiad i ddiogelu eu tiriogaeth yn ysbrydoledig, ac mae eu profiadau yn ffordd bwerus i'n hatgoffa am yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn sefyll gyda'n gilydd ar draws cenhedloedd.”