Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ers i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cadw ffermwyr yn ffermio ddod i ben ym mis Mawrth eleni, rwyf wedi gwrando ar adborth a gweithio gyda rhanddeiliaid ar y Ford Gron Gweinidogol a grwpiau cysylltiedig, gan gynnwys yr undebau ffermio a chynrychiolwyr Cyswllt Amgylchedd Cymru, â'r y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Mae'r cydweithrediad cadarnhaol hwn â rhanddeiliaid yn golygu bod camau breision wedi'u cymryd i ddatblygu Cynllun sy'n rhoi help priodol a hygyrch i ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd ynghyd â buddion eraill sy'n cyd-fynd â'r amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy.
Rwy'n bwriadu cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig i Aelodau'r Senedd ddydd Llun 25 Tachwedd, i gyd-fynd ag Amlinelliad o'r Cynllun diwygiedig, pan fyddaf yn dathlu ansawdd ffermio a chynnyrch Cymru yn bersonol yn Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Dilynir hyn gan ddiweddariad llafar i Aelodau'r Senedd yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 26 Tachwedd ar yr Amlinelliad o'r Cynllun diwygiedig.