Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ystadegau misol diweddaraf y farchnad lafur ar gyfer Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys amcangyfrifon o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS) o gyfraddau cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Unwaith eto, nid yw'r amcangyfrifon o'r LFS yn ddigon cadarn i wybod a ydynt yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn amodau'r farchnad lafur. Mae'r data diweddaraf yn dangos na fu unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol i brif ddangosyddion y farchnad lafur. Mae hyn yn golygu na allwn wybod a yw'r amcangyfrifon yn adlewyrchu newid gwirioneddol yn y farchnad lafur, neu a ydynt o ganlyniad i newidiadau yn y sampl o bobl a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r amcangyfrifon. 

Cynhyrchir amcangyfrifon yr LFS drwy ofyn cwestiynau i sampl o filoedd o bobl yng Nghymru am amrywiaeth o bynciau mewn perthynas â'r farchnad lafur, gan gynnwys gwybodaeth hanfodol am y rhai sy'n gweithio a'r rhai nad ydynt yn gweithio, a defnyddio'r ymatebion hynny i ddarparu gwybodaeth am y farchnad lafur gyfan. Pe baem yn defnyddio llawer o samplau, byddai pob un yn rhoi canlyniad gwahanol, a elwir yn amrywioldeb samplu. Un o'r heriau mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi'i hwynebu yw cynnal cyfraddau ymateb ac, felly, maint y sampl. Er enghraifft, ar lefel y DU, mae nifer y cyfweliadau yn berson a gynhaliwyd wedi gostwng o tua 81,000 yn 2014 i tua 47,400 yn 2024.[1]

Gall samplau llai gynyddu amrywioldeb samplu a'i gwneud yn anoddach gwneud amcangyfrifon cywir am y farchnad lafur. Mae hyn yn arbennig o wir am amcangyfrifon ar gyfer Cymru, y gwledydd datganoledig eraill a rhanbarthau Lloegr. 

Mae rheoleidd-dra'r LFS – gyda diweddariadau yn cael eu cyhoeddi bob mis fel rhan o gyfres ehangach o ddata ar y farchnad lafur – yn ei gwneud yn un o'r ffynonellau gwybodaeth mwyaf amserol am farchnad lafur y DU. Fodd bynnag, mae amcangyfrifon yr LFS yn arbennig o anwadal, ac wedi bod ers peth amser, gyda gwahaniaethau mawr rhwng gwahanol gyfnodau. Mae'r anwadalrwydd hwn wedi cynyddu wrth i faint y sampl ostwng, sy'n ei gwneud hi'n anodd asesu cyflwr y farchnad lafur yng Nghymru yn gywir pan ddefnyddir y ffynhonnell ddata hon yn unig.

Oherwydd y problemau hyn, nid yw ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar yr LFS bellach yn cael eu hachredu yn swyddogol. Yn hytrach maent bellach yn cael eu labelu yn 'ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad' nes iddynt gael eu hadolygu ymhellach, ac argymhellir gofal wrth ddehongli'r data.  Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad yw ystadegau sy'n cael eu datblygu, ac maent yn ddarostyngedig i gael eu profi am ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn unol â'r safonau a bennir gan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. 

Mae defnyddwyr eraill yr LFS, gan gynnwys Banc Lloegr a'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, wedi mynegi pryderon am ansawdd ac wedi nodi anwadalrwydd amcangyfrifon ar lefel y DU. Fodd bynnag, mae'r problemau i Gymru a gwledydd a rhanbarthau eraill yn y DU yn debygol o fod yn fwy byth oherwydd y samplau llai a ddefnyddir i gynhyrchu'r amcangyfrifon. 

O ystyried yr heriau parhaus gyda'r LFS, mae Llywodraeth Cymru yn argymell na ddylid dibynnu ar y ffynhonnell ddata hon yn unig i ddeall newidiadau yn y farchnad lafur, yn enwedig dros y cyfnodau diwethaf. Y ffordd orau o ddeall perfformiad marchnad lafur Cymru yw ystyried tueddiadau tymor hwy ar draws set o ddangosyddion. Mae'r rhain yn cynnwys ffynonellau data fel HMRC real time information on paid employees, data ar workforce jobsHawlio budd-daliadau a'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth – arolwg mwy o'r farchnad y mae Llywodraeth Cymru yn ychwanegu ato. 

Mae tystiolaeth o'r ffynonellau data hyn yn awgrymu bod y farchnad lafur yng Nghymru wedi dilyn tueddiadau tebyg i'r DU gyfan ers y pandemig.

Mae rhagor o wybodaeth am heriau, diweddariadau a bathodynnau presennol yr LFS ar gael mewn diweddariad Prif Ystadegydd ar amcangyfrifon y farchnad lafur ar gyfer Cymru.

O ystyried yr heriau a amlinellir uchod, mae'r SYG yn cyflwyno Arolwg Trawsnewidiol newydd o'r Llafurlu (TLFS), a'r nod yw mai'r arolwg hwn fydd y brif ffynhonnell ddata ar gyfer gwybodaeth am y farchnad lafur yng Nghymru a'r DU yn y dyfodol. Mae'r SYG yn parhau i brofi rhai gwelliannau dylunio pellach ar gyfer y TLFS ac wedi dweud y byddant yn adrodd ar y cynnydd yng Ngwanwyn 2025. Yn y cyfamser, bydd yr SYG yn parhau i ddefnyddio'r LFS yn brif fesur o'r farchnad lafur; fodd bynnag, ar gyfer Cymru, rydym yn parhau i argymell y dylid ystyried y tueddiadau a ddangosir gan ffynonellau eraill.

Yn ddiweddar, cwrddais ag Ystadegydd Gwladol y DU a nodi'r heriau presennol o ran defnyddio data'r Arolwg o'r Llafurlu ar gyfer Cymru. Mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i'w gwneud yn glir pa mor bwysig yw data dibynadwy ar y farchnad lafur ar gyfer Cymru. Rydym yn cydnabod y gwaith sylweddol y mae'n ei wneud ar y TLFS, a ddylai ddod â gwelliannau i ystadegau'r farchnad lafur ledled y DU. Rydym hefyd yn parhau i alw ar yr SYG i ddarparu gwybodaeth glir ar gyfer y rhai sy'n defnyddio data'r LFS ar gyfer Cymru ar hyn o bryd am ba mor ddibynnol yw'r data, a pha ffynonellau eraill a all roi syniad o'r hyn sy'n digwydd yn y farchnad lafur yng Nghymru.

Labour Force Survey performance and quality monitoring report: July to September 2024 - Office for National Statistics (excludes imputed)