Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru: 18 Gorffennaf 2024
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Cafcass Cymru 18 Gorffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Tracey Holdsworth (Cadeirydd), NSPCC Cymru
- Mike Clark, TGP Cymru
- Paul Apreda, FNF Both Parents Matter Cymru
- Sarah Coldrick, Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru
- Emma Phipps-Magill, Voices from Care
- Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru
- Donna Mulhern, GLlTEF
- Matthew Pinnell, Cafcass Cymru
- De Litchfield, Cafcass Cymru
- Anna Sinclai, Cafcass Cymru
- Lydia Hall-Mulvaney, Cafcass Cymru (Ysgrifenyddiaeth)
Croeso ac Ymddiheuriadau
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:
- Nigel Brown, Cafcass Cymru
- Ei Hanrhydedd y Farnwres Jayne Scannell, Y Farnwriaeth
- Samantha Williams, Anabledd Dysgu Cymru
- Sharon Lovell, Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS)
- Gareth Jenkins, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Cynrychiolydd
- Lauren Shepherd, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc (Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol I Bobl Ifanc)
- Jennifer Gibbon Lynch, Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc (Y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol I Bobl Ifanc)
- Helal Uddin, Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST Cymru)
- Caroline Rawson, Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig (SNAP) Cymru
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a nododd yr ymddiheuriadau a oedd wedi dod i law.
Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024
Cytunodd yr aelodau fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024 yn gofnod cywir ac nad oedd unrhyw faterion yn codi.
Data / Perfformiad
Darparodd Matthew drosolwg cynhwysfawr o'r adroddiadau ar ddata a pherfformiad ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus a phreifat. Darparodd Matthew grynodeb manwl o'r setiau data a'r dangosyddion perfformiad allweddol. Yn ogystal, rhoddodd Matthew ddiweddariad ar y Peilot Braenaru sydd wedi'i ymestyn yng Ngogledd Cymru ac wedi'i lansio yn Ne Cymru a Gwent.
Cafwyd trafodaeth ddilynol, ac ymatebodd Matthew i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor.
Cytunwyd y dylai mesurau sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau fod yn eitem benodol a fydd yn cael ei chodi yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynghori ym mis Tachwedd. Byddai hyn yn rhoi cyfle i aelodau'r pwyllgor ystyried dyheadau ac amserlenni i'r dyfodol.
Cyflwyniad y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc
Rhoddodd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc gyflwyniad da a thrylwyr iawn drwy recordiad, gan ymdrin â'r pynciau canlynol:
- Cafwyd adborth cadarnhaol iawn o gynhadledd staff Cafcass Cymru ar 18 Ebrill 2024.
- Llwyddodd Cafcass England i gael gradd ‘Eithriadol’ gan Ofsted.
- Prosiect Braenaru Cyfranogiad Pobl Ifanc Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu archwilio ffordd newydd o helpu pobl ifanc sy'n mynd trwy achosion gofal i gael clust i wrando arnynt.
- Datblygu ap i gynnig ffyrdd eraill i blant a phobl ifanc ymgysylltu a chyfathrebu â Cafcass Cymru.
- Llysoedd Braenaru i ddrafftio canllawiau er mwyn sicrhau bod canllawiau ar gael yn hawdd i blant a phobl ifanc i'w helpu yn ystod eu hachosion.
- Yn ogystal, croesawodd y Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc holl aelodau ei Bwyllgor Cynghori i fynychu ei ddigwyddiad ar-lein ar 25 Gorffennaf a fydd yn canolbwyntio ar leisiau plant a phobl ifanc.
Rhoddodd Cadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Cynghori ganmoliaeth i'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol i Bobl Ifanc am ei gyflwyniad ardderchog ac ategodd ymrwymiad y pwyllgor i weithio'n agos gyda'r Bwrdd.
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Braenaru
Rhoddodd Anna ddiweddariad cynhwysfawr ar y Cynllun Braenaru peilot yng Ngogledd Cymru a lansiad y Cynllun Braenaru yn Ne-ddwyrain Cymru.
Cafwyd trafodaeth ddilynol, ac ymatebodd Anna a Donna i gwestiynau a godwyd gan aelodau'r pwyllgor.
Cytunwyd y bydd dogfennau sy'n wynebu tuag allan y mae Cafcass Cymru yn eu darparu i rieni a phlant mewn perthynas â materion Braenaru yn cael eu rhannu â'r pwyllgor. Mae LH-M wedi dosbarthu'r dogfennau i aelodau.
Gofynnodd Paul i'w bryderon mewn perthynas â chynnwys adroddiadau RIC DASH gael eu cofnodi.
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Fframwaith Ymarfer
Rhoddodd Matthew ddiweddariad cryno ar lansio'r Fframwaith Ymarfer a'r ffordd y mae Cafcass Cymru yn bwriadu ymgorffori'r Fframwaith i ymarfer.
Unrhyw Fater Arall
Gan nad oedd unrhyw fater arall i’w drafod, daethpwyd â’r cyfarfod i ben.
Cynhelir cyfarfod nesaf y pwyllgor rhwng 16:00 a 17:30 ar 5 Tachwedd drwy Teams.