Ystadegau, Dogfennu
Rhaglen Plant Iach Cymru (cysylltiadau gyda phlant): Ebrill i Mehefin 2024
Mae’r Rhaglen Plant Iach Cymru yn rhaglen iechyd cyffredinol ar gyfer pob teulu gyda phlant oed 0 i 7 ar gyfer Ebrill i Mehefin 2024.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 86 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
- Gyda’i gilydd, derbyniodd 79.8% o blant cymwys gyswllt Plant Iach Cymru yn y chwarter mis Ebrill i fis Mehefin 2024, sef y chwarter uchaf sydd wedi ei gofnodi.
- Mae'r data diweddaraf yn dangos bod canran is o blant cymwys wedi derbyn cysylltiadau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2024 nag ym mis Ionawr i fis Mawrth 2024 ar gyfer mwy na hanner y pwyntiau cyswllt, ond mae'r cysylltiadau ar ôl 12 wythnos, 16 wythnos a 3.5 mlynedd yr uchaf sydd wedi eu cofnodi.
- Mae ffocws penodol ar y pwynt cyswllt 3.5 mlynedd yn dangos bod cynnydd y chwarter hwn i 72.2%, 2.2 pwynt canran yn uwch na’r chwarter blaenorol, cynnydd o 15.8 pwynt canran o’i gymharu â’r un chwarter y llynedd, a 37.1 pwynt canran yn uwch na’r chwarter cyntaf y mae data cymaradwy ar ei gyfer (mis Hydref i fis Rhagfyr 2016).
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Annie Campbell
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099