Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Rwy’n falch o ddarparu’r datganiad hwn i Aelodau.  Byddaf yn amlinellu’r amserlen ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau o dan gamau 2 a 3 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a’n cynnydd gyda cham 2 y broses o weithredu, gan gynnwys cyflwyno Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.  Hefyd, byddaf yn sôn am sut bydd y rhain yn effeithio ar y gofynion ar gyfer Nyrsys Cofrestredig mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Yr Amserlen ar gyfer Rheoleiddio Gwasanaethau

Bydd cam 2 y Ddeddf yn cael ei weithredu mis Chwefror nesaf, pan fydd y ffenestr ymgeisio yn agor i’r holl ddarparwyr cartrefi gofal, cymorth cartref, llety diogel a gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.  Bydd darparwyr yn cael ailgofrestru o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, a disgwylir y bydd y broses o wneud penderfyniad ynghylch pob cais yn cymryd rhwng dau a phedwar mis. Bydd y cofrestriadau hyn yn dod i rym unwaith y bydd yr hysbysiad o benderfyniad wedi’i gyhoeddi. Felly bydd darparwyr cartrefi gofal, cymorth cartref, llety diogel a chanolfannau preswyl i deuluoedd yn dechrau cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2016 o haf 2018 ymlaen.

O ran gwasanaethau mabwysiadu, maethu, eiriolaeth a lleoli oedolion, rydym yn gweithio gyda’r sector ar y rheoliadau ar gyfer y gwasanaethau hyn fel rhan o gam 3 y broses weithredu.  Bydd y Cynulliad yn ystyried y rheoliadau perthnasol yn ystod hydref/gaeaf 2018. Felly, ni fydd gofyn i'r gwasanaethau hyn gofrestru o dan y Ddeddf tan fis Ebrill 2019. Bydd arolygiadau yn erbyn y gofynion newydd yn dechrau o fis Ebrill 2019 ymlaen ar gyfer y gwasanaethau hyn.


Cofnodi ac ymgynghori ynghylch cam 2 y rheoliadau sy’n ymwneud â chartrefi gofal, cymorth cartref, llety diogel a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd,

Er mwyn symud ymlaen i roi’r Ddeddf ar waith, rydym wedi ymgynghori’n ddiweddar ynghylch Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a rheoliadau hysbysiadau cosb cysylltiedig. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ynghylch agweddau o'r rheoliadau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau dros ddeuddeg wythnos rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2017. Roedd yr ymgynghoriad ynghylch agweddau sy’n gysylltiedig â’r gweithlu’n gorgyffwrdd â hyn, a digwyddodd hynny dros wyth wythnos rhwng mis Mehefin a mis Awst.  Cyflwynwyd Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 fel y'u diwygiwyd yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, gerbron y Cynulliad ddydd Gwener, a heddiw rwy’n cyhoeddi'r adroddiadau ymgynghori a’r canllawiau statudol drafft cysylltiedig.

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?assembly=5&category=Laid Document  

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cam-2-y-broses-o-roi-deddf-rheoleiddio-ac-arolygu-gofal-cymdeithasol-cymru-2016-ar  

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/cam-2-y-broses-o-weithredu-deddf-rheoleiddio-ac-arolygu-gofal-cymdeithasol-cymru-2016

http://gov.wales/topics/health/socialcare/regulation/?skip=1&lang=cy  

Derbyniwyd cyfanswm o 184 o ymatebion ysgrifenedig i'r ddau ymgynghoriad gan amrywiaeth eang o randdeiliaid, yn ogystal â chyfraniadau gwerthfawr gan y 180 a ddaeth i’n digwyddiadau ymgynghori.  O ganlyniad, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'r rheoliadau er mwyn hybu ein bwriadau polisi ymhellach, er mwyn canolbwyntio rheoleiddio ac arolygu ar gefnogi unigolion i gyflawni canlyniadau lles personol a gwella ansawdd a pharhad gofal gan symleiddio rheoleiddio ac arolygu o safbwynt y darparwr.  

Rydym wedi gwneud newidiadau arbennig o bwysig i’r gofynion yng nghyswllt Nyrsys Cofrestredig, ac rwy’n rhoi sylw i hyn isod. Ond yn gyntaf, hoffwn dynnu sylw aelodau at rai o’r newidiadau arwyddocaol eraill rydym wedi’u gwneud, mewn ymateb i adborth o’r ymgynghoriad.

Newidiadau i’r rheoliadau ar ôl yr ymgynghoriad

Roedd nifer o’r ymatebwyr yn bryderus oherwydd bod gofyn i ddarparwr gwasanaeth roi gwybod i wahanol bartïon am unrhyw ddiwygiad i’r Datganiad o Ddiben 28 diwrnod cyn i'r diwygiad hwnnw gael ei roi ar waith. Roeddent yn teimlo nad oedd y gofyn hwn yn caniatáu iddynt wneud newidiadau ar fwy o frys.  Rydym wedi gwrando ar hyn, ac wedi diwygio’r rheoliadau i gydnabod y gall fod achosion lle mae angen i ddarparwr gwasanaeth ddiwygio ei Ddatganiad o Ddiben ar unwaith, a nodi’r gofynion a fydd yn berthnasol mewn amgylchiadau o’r fath.

Yn yr un modd, cyflwynodd ymatebwyr amrywiol safbwyntiau ynghylch ein cynigion ar gyfer ystafelloedd a rennir ar gyfer oedolion. Rydym wedi dileu’r gofyn bod rhaid i bobl sy’n rhannu ystafell fod yn perthyn i’w gilydd.  Yn hytrach, rydym yn canolbwyntio ar lais a rheolaeth yr unigolyn drwy sicrhau mai dewis yr unigolyn ei hun yw rhannu ystafell neu beidio, a bod hynny’n gyson â’i lesiant. Er mwyn osgoi cynnydd yn nifer yr ystafelloedd a rennir, mae’r rheoliadau bellach yn datgan na chaiff nifer yr oedolion mewn ystafelloedd a rennir fod yn uwch na 15% o gyfanswm nifer yr oedolion sy’n cael llety gan y gwasanaeth. Mae hyn yn adlewyrchu gofyn yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol sy’n bodoli eisoes.

Rydym yn ystyried bod y gofynion yng nghyswllt Unigolion Cyfrifol yn bwysig iawn. Rydym am iddynt wybod a chysylltu â’r gwasanaethau y maent yn gyfrifol amdanynt, ond rydym hefyd am sicrhau bod ein gofynion yn gymesur.  Oherwydd hyn, mae’r gofyn sy’n ymwneud ag amlder yr ymweliadau â’r gwasanaeth gan yr Unigolyn Cyfrifol wedi’i newid o bob mis i bob tri mis mewn ymateb i adborth i’r ymgynghoriad.  Cafwyd cwestiynau ynghylch i ba raddau y gallai Unigolion Cyfrifol ddirprwyo’r swyddogaeth hon. Rydym wedi cadw at y farn bod yn rhaid i’r unigolyn cyfrifol ymweld yn bersonol, ond rydym wedi diwygio’r rheoliadau er mwyn i’r geiriau ‘rhoi trefniadau addas yn eu lle’ gael eu defnyddio’n gyson er mwyn bod yn glir ynghylch meysydd lle gall yr unigolyn cyfrifol ddirprwyo rhai tasgau i eraill, ond gan gadw’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd cyffredinol o hyd.

Newidiadau i’r gofynion o ran y ddarpariaeth nyrsio mewn cartrefi gofal

Mae’r Datganiad o Ddiben yn ddogfen bwysig ar gyfer cofrestru a darparu’r gwasanaeth, o dan y Ddeddf. Mae’n disgrifio’r weledigaeth ar gyfer y gwasanaeth, anghenion y bobl a fydd yn derbyn gofal a sut bydd yr anghenion hynny’n cael eu bodloni, gan gynnwys y trefniadau staffio mewn ymateb i'r angen hwnnw. Felly, mae’n faen prawf ar gyfer arolygu’r gwasanaeth yn barhaus.

O ran staffio, mae’r gofyn i ddarparwyr ddarparu tystiolaeth o sut mae’r trefniadau staffio’n briodol ar gyfer yr amrywiaeth o anghenion sydd i’w bodloni a’r gwasanaethau sydd i’w darparu, yn ategu’r Datganiad o Ddiben.

Ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu eto â Choleg Brenhinol y Nyrsys, rydym wedi diwygio a chryfhau ein dull gweithredu ar gyfer staffio gan gyfeirio at Nyrsys Cofrestredig yn benodol. Mae’r gofynion newydd ar ddarparwyr gwasanaeth yng nghyswllt staffio yn adeiladu ar y sylfaen yr wyf wedi’i disgrifio uchod. Maent yn unol â’n dull gweithredu cyffredinol o ran rheoleiddio gofal a chymorth oherwydd nad ydynt, fel yr awgrymwyd, yn ymwneud â lleihau presenoldeb Nyrsys Cofrestredig mewn cartrefi nyrsio pan fo’u hangen, ond yn hytrach yn ymwneud â’i gryfhau drwy gysylltu hyn ag anghenion y preswylwyr.  Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gael cymaint o nyrsys yn bresennol yn yr eiddo ag sy’n ofynnol yn ôl anghenion asesedig y preswylwyr, a’u bod yn gallu dangos sut maent wedi pennu’r nifer hwn.  Mae hyn yn cynnwys gofyn penodol, lle mae unigolyn wedi’i asesu yn rhywun y mae angen gofal nyrsio 24 awr y dydd arno, bod digon o nyrsys cofrestredig sydd â’r cymwysterau addas ar gael i weithio yn y gwasanaeth ar bob adeg.  Mae hyn er mwyn i ddarparwyr ystyried a gallu cyfiawnhau nifer y Nyrsys Cofrestredig ar y safle, a’r cymwyseddau craidd y mae gofyn iddynt eu cael, er mwyn gofalu am yr unigolion hynny sydd ag anghenion gofal nyrsio sy’n derbyn y gwasanaeth, mewn modd sensitif a chynhwysfawr.

Mae ein Rheoliadau newydd yn canolbwyntio ar gryfhau’r gofynion hyn, a sicrhau hyblygrwydd i’r cartrefi hynny lle nad oes preswylwyr ag anghenion gofal nyrsio 24 awr y dydd.   Gall darparwyr gofal nodi’n union sut bydd yr anghenion yn cael eu bodloni yn yr amgylchiadau hyn, heb y gofyn rheoliadol ychwanegol a beichus.

Ymgysylltu â’r sector nyrsio ac eraill wrth ddatblygu ein cynigion

Trwy gydol ein gwaith yn gweithredu’r Ddeddf ac yn datblygu’r rheoliadau hyn, rydym wedi ceisio gweithio’n gyd-gynhyrchiol â’n rhanddeiliaid allweddol, gan gynnal yr agwedd gadarnhaol a oedd gennym yng nghyswllt y ddeddfwriaeth o dan Wasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru. Yr adeg yma y llynedd, buom yn gweithio’n helaeth gyda’n rhanddeiliaid mewn cyfres o grwpiau technegol, yn edrych ar y gwahanol reoliadau.  Roedd y rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, iechyd, darparwyr gofal a’r trydydd sector.  Roedd cynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Nyrsys ar y grŵp a oedd yn edrych ar ein cynigion ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau seiliedig ar lety. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd ar lefel Gweinidogion a swyddogion, i edrych yn fwy manwl ar ofynion gwasanaethau seiliedig ar lety, lle mae gofal nyrsio’n cael ei ddarparu.

Cyfathrebu ac ymgysylltu yn y dyfodol

Mae lefel sylweddol yr ymatebion i’n hymgynghoriadau, a’r nifer dda a ddaeth i’n digwyddiadau i randdeiliaid, yn brawf o’n dull gweithredu cynhwysfawr o ran ymgynghori ac ymgysylltu.  Ond, rydym yn sylweddoli bod mwy o waith i’w wneud er mwyn paratoi’r sector ar gyfer gweithredu’r ddeddf y flwyddyn nesaf.  Mae gweithredu’r Ddeddf yn broses barhaus. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi hyn drwy weithio gyda’n partneriaid i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r hyn y mae gweithredu’r Ddeddf yn ei olygu, a hynny ymhlith y rheini sy’n ymwneud yn fwyaf uniongyrchol â hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sef y rhai sy’n cyflenwi’r newidiadau a gyflwynir gan y Ddeddf, ac mae’n cadw llygad manwl ar y gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu y mae’n eu harwain

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi fersiynau hawdd eu deall ac ar gyfer plant o Ddeddf 2016 er mwyn cynorthwyo ac ymestyn yr ymgysylltu.  Mae rhagor o ddeunydd hygyrch wedi’i drefnu ar gyfer y cyfnod cyn gweithredu yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf. Mae adnoddau ar gael ar-lein ac yn cael eu hyrwyddo yn y digwyddiadau perthnasol i randdeiliaid.

Er mwyn cefnogi hyn, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cael cyllid i ehangu ei Hwb Gwybodaeth a Dysgu i gynnal adnoddau a gwybodaeth am ddeddfwriaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys Deddf 2016. Mae pecyn gwybodaeth ac ymwybyddiaeth wedi’i baratoi ar y cyd hefyd, sy’n cynnwys sleidiau PowerPoint, fideos, taflenni a Chwestiynau Cyffredin.


Cefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol

Fel yr adlewyrchir yn ein rheoliadau arfaethedig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a gwerthfawrogi’r gweithlu gofal cymdeithasol. Ar ôl ystyried safbwyntiau’r ymatebwyr yn ofalus o ran cynnig contractau i weithwyr gofal cartref ar ôl cyfnod cymhwyso, ac amlinellu amser gofal a theithio, ni fyddwn yn gwneud newidiadau i’r rheoliadau arfaethedig.  Rydym yn teimlo, drwy wneud y rheoliadau hyn, byddwn yn gwneud cynnydd gyda’n nod o wella ansawdd a pharhad gofal ar gyfer y bobl sy’n derbyn cymorth cartref, yn ogystal â gwneud pethau’n llawer cliriach a rhoi rhagor o gefnogaeth i weithwyr gofal cartref. Mae'r gofynion yn y rheoliadau hyn yn ategu agenda ehangach Llywodraeth Cymru o ran cefnogi’r gweithlu; mae’n canolbwyntio ar ei helpu i addasu a datblygu i fodloni’r gofynion gwasanaeth newydd, yn ogystal â sicrhau bod ei weithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy yn yr hirdymor.  Drwy Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn datblygu amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi’r gweithlu, gan gynnwys datblygu llwybrau gyrfa, adolygu graddau mewn gwaith cymdeithasol a datblygu set ddata genedlaethol i ganfod tueddiadau gofal cymdeithasol yn y dyfodol.  Bydd hyn yn helpu i godi proffil a gwella statws y sector, yn hwyluso proses effeithiol o gynllunio’r gweithlu, ac yn rhoi sylw i’r anawsterau presennol o ran recriwtio a chadw staff er mwyn i ofal cymdeithasol fod yn ddewis gyrfa cadarnhaol lle mae pobl yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi mewn ffordd gyfrifol.