Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Eluned Morgan wedi bod yn myfyrio ar ei 100 diwrnod cyntaf yn Brif Weinidog Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Pan ddes i’n Brif Weinidog, gwnes addewid i roi llais i’r rhai sy’n rhy aml wedi cael eu gwthio i’r cyrion, i gefnogi rhannau o Gymru sy’n rhy aml wedi teimlo eu bod yn cael eu hanghofio, ac i bob amser fod yn Brif Weinidog sy’n gwrando.

“Ond yn fwy na hynny - gwnes addo bod yn Brif Weinidog sy’n canolbwyntio ar gyflawni. Ar ôl 100 diwrnod yn y swydd, gallwn ni ddangos sut mae’r Llywodraeth hon yn cyflawni - nid addewidion yn unig, ond gweithredu pendant i’n cymunedau.”

Ers i Eluned Morgan ddod yn Brif Weinidog ar 6 Awst, mae Llywodraeth Cymru, ymysg pethau eraill, wedi cyflawni’r canlynol:  

  • Gorffen cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd
  • Darparu dyfarniad cyflog uwch na chwyddiant i filoedd o weithwyr yn y sector cyhoeddus
  • Buddsoddi £28m i leihau’r amseroedd aros hiraf mewn ysbytai
  • Eithrio meithrinfeydd dydd cofrestredig yn barhaol rhag ardrethi busnes
  • Agor yn swyddogol yr ysgol feddygol newydd yn y Gogledd yn barod i dderbyn ei myfyrwyr cyntaf
  • Helpu i greu a diogelu swyddi, gan gynnwys mwy na 300 o swyddi ar Lannau Dyfrdwy

Aeth y Prif Weinidog yn ei blaen i ddweud:

“Mae’r rhestr o’r hyn ry’n ni wedi’i gyflawni yn hir – ond bydd y rhestr honno yn cynyddu, wrth inni barhau i gyflawni ar gyfer pobl Cymru. Mae gennym lawer mwy i’w wneud ac mae llawer mwy i ddod.

“Nid yw’r ffordd ymlaen yn hawdd. Ry’n ni’n wynebu heriau enfawr, ond byddwn ni’n eu hwynebu gyda’n gilydd, ar sail Cymru’n un.”