Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Grantiau i'r Trydydd Sector a Sefydliadau Allweddol y Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy wedi cael eu hymestyn hyd 2025-26, gan gynnal y buddsoddiad blynyddol hwn o dros £10 miliwn i'r sector gofal cymdeithasol.
Mae'r cyllid hwn yn galluogi darpariaeth gofal cymdeithasol eang ac amrywiol ar draws Cymru, fel prosiect “Lets Age Well” Women Connect sy'n grymuso menywod o gefndiroedd ethnig leiafrifol a allai fod yn agored i niwed, dan anfantais neu'n ynysig i gael mynediad at ystod eang o weithgareddau. Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau fel dosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer heneiddio'n iach, a dysgu Saesneg fel ail iaith – sydd o fudd i'w lles meddyliol a chorfforol.
Mae’n helpu sefydliadau fel Cyngor y Deillion Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall Cymru i ddarparu cyngor, hyder a sgiliau i bobl sydd wedi colli eu golwg, gan eu helpu i gael mynediad at wasanaethau cymorth a gwneud newidiadau ymarferol hanfodol i'w bywydau a'u hamgylchedd. Yn ogystal â chynorthwyo sefydliadau allweddol eraill i gefnogi teuluoedd a phobl ledled Cymru, mae'r cyllid hwn hefyd yn helpu pobl ag awtistiaeth i gael cymorth cynaliadwy gan gymheiriaid trwy fanteisio ar brofiad ac arbenigedd y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, tra bod prosiect ‘Moving On’ Whizz Kidz yn gwella boddhad bywyd i bobl ifanc sy’n defnyddio cadair olwyn trwy raglenni chwaraeon a symud.
Bydd yr estyniad am un flwyddyn hyd at 2025-26, ar y lefelau cyllido presennol, yn caniatáu ar gyfer gadael y trefniadau grant presennol mewn modd wedi'i reoli, gan arwain at broses newydd, symlach, sy'n fwy ymatebol yn 2026-27. Byddwn yn ystyried ac yn nodi blaenoriaethau ar gyfer arloesi a chyflawni ac yn cysylltu â phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu amryw o brosiectau newydd sy'n arwain at weithredu’r trefniadau newydd a ddaw i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Rydym yn falch o sicrhau'r cyllid hanfodol hwn am flwyddyn arall ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu cynigion cyflawni newydd ar gyfer y dyfodol, sy'n addas ar gyfer anghenion gofal cymdeithasol Cymru.