Neidio i'r prif gynnwy

Mae Pwll Nofio Cei Connah yn bwll nofio sydd wedi’i hen sefydlu yn ardal Sir y Fflint. Cafodd ei adeiladu yn y 60au ac mae wedi’i bod yn werthfawr i’r gymuned leol ers hynny.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

O wynebu y pwysau ar gyllidebau Cyrff Cyhoeddus, gwahoddodd Cyngor Sir y Fflint y gymuned leol i fod yn gyfrifol am redeg y pwll fel rhan o Drosglwyddiad Ased Cymunedol. Y gobaith oedd y byddai hyn yn golygu bod modd cadw’r pwll ar agor, neu osgoi gorfod lleihau oriau agor ar draws cyfleusterau hamdden y sir. 

Mewn ymgais i sicrhau hyfywedd ariannol hirdymor, ac i redeg y pwll, lluniodd grŵp o bedwar cyfarwyddwr y fenter gymdeithasol Cambrian Aquatics, gan weithio gyda Cyngor Fflint, Nofio Cymru, Chwaraeon Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru, a cwblhawyd y broses o drosglwyddo’r ased ym mis Mai 2016.

Busnes

Caiff Cambrian Aquatics ei arwain gan fwrdd o bedwar Cyfarwyddwr gydag amrywiol gefndiroedd ond diddordeb cyffredinol yng Nghlwb Nofio a Phwll Nofio Cei Connah. Cwblhaodd y grŵp, gyda chefnogaeth Busnes Cymdeithasol Cymru, y trosglwyddiad ym mis Mai 2016, a cafodd gefnogaeth cronfa gyfalaf gwerth £150 mil gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer cynnal y pwll a’i gyfleusterau. Ers hynny, mae wedi defnyddio £65 mil (o’r gronfa gyfalaf) i wella’r to, y pwll a pheiriannau’r pwll. Cafodd Cambrian Aquatics gymorth pellach gan Gyngor Tref Cei Connah, Chwaraeon Cymru a Nofio Cymru.

Mae Cambrian Aquatics yn ceisio darparu llwybr i bobl ifanc greu gyrfa yn y diwydiant hamdden yn eu hardal leol. Mae Cambrian Aquatics yn sefydliad di-elw cyfyngedig trwy warant ac mae’n anelu at fod yn hollol gynaliadwy drwy gronfeydd creu incwm.

Ers cwblhau’r trosglwyddiad, mae Cambrian Aquatics wedi ehangu cyfleusterau’r pwll,gan gynnig rhaglenni newydd i’r anabl a rhaglenni perfformiad uchel gyda Clwb Nofio Cei Connah. Y bwriad yw dod yn brif sefydliad ‘dysgu nofio’ Nofio Cymru yn yr ardal, gan eu bod wedi llwyddo i gynyddu nifer y bobl sy’n dysgu nofio. Mae’r grŵp wedi cyflwyno’r cynllun Pasbort Dŵr, ble y gall plentyn a rhiant ddilyn y cynnydd sy’n cael ei wneud drwy wefan y pasbort dŵr

Mae Cambrian Aquatics yn cydweithio’n agos â 14 o ysgolion cynradd, ac mae wedi defnyddio’r cyfleusterau i ddod â plant i’r pwll ac i ddefnyddio’r caffi a’r ystafell gyfarfod fel ystafell ddosbarth, sy’n caniatáu i ysgolion ddod â hyd at ddau ddosbarth ar yr un pryd.

Caiff Cambrian Aquatics ei gefnogi gan Coleg Cambria, y Gymdeithas Frenhinol Achub Bywyd a Nofio Cymru i gynnig addysg, prentisiaethau a chyfleoedd i hyfforddi ar lefel genedlaethol. Gall breswylwyr gymryd rhan mewn dros 60 o chwaraeon dŵr yn y pwll, o nofio a snorclo i polo dŵr a ceufadu (kayaking).

Manteision

Mae Cambrian Aquatics wedi creu 27 o swyddi newydd, ac o’r rhain, mae 11 yn llawn-amser ac 16 yn staff dros dro. Mae’r grŵp yn gweithio gyda Coleg Cambria i gynnig cynlluniau prentisiaeth gyda chefnogaeth Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ar lefel 3 mewn chwaraeon a hamdden. 

Mae pob staff wedi’u hyffordd yn llawn ac mae ganddynt o leiaf lefel 2 mewn hyfforddi nofio (lefel uchaf y cymhwyster). Mae hyn yn helpu gyda lefelau staffio o gymharu â chyfleusterau lleol. Gwahoddir staff, ac yn wir fe’u hanogir i ymweld ag ysgolion i roi cyflwyniadau caffi nofio i blant o bob oedran.

Gan bod angen adnewyddu’r pwll, roedd modd i Cambrian Aquatics, gyda chefnogaeth y gymuned a’r clwb nofio, lanhau a chynnal y cyfleusterau cyn agor i’r cyhoedd, ac mae hyn wedi creu dilyniant gref o fewn y gymuned, ac mae’r rhai sy’n rhan o’r cynllun yn teimlo perchnogaeth, ac yn awyddus i gadw’r safonau uchel hyn. 

Bu myfyrwyr o Goleg Cambria sy’n astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Cynnal a Chadw Adeiladau yn peintio ac addurno’r adeilad a cawsant brofiad gwirioneddol a chredyd tuag at eu cwrs. Mae hyn wedi cryfhau y berthynas gyda’r coleg.

Gwersi a ddysgwyd

  • Roedd Cambrian Aquatics yn teimlo bod y broses yn hir a chymhleth, ac roedd diffyg cydlynu yn y broses o wneud penderfyniad ynghylch trosglwyddo staff TUPE. Er yn cymryd amser, roedd y cyngor wedi cadw staff a chafodd 27 o swyddi newydd eu creu a’u llenwi drwy recriwtio staff dros dro y cyngor. Diolch i’r cymorth gan Nofio Cymru, roedd hyfforddiant a chymwysterau ar gael i bob staff newydd
  • Roedd Cambrian Aquatics yn ei chael yn anodd i fynd drwy’r prosesau grant/cyllido gan nad oedd yn glir pa rai o’r nifer o grantiau oedd ar gael oedd yn addas i’w defnyddio. Roedd ffurflen gais y cyngor yn cynnwys pob math o grantiau, ac nid oedd nifer o’r cwestiynau/sylwadau yn addas i’r cais hwn. Fodd bynnag, cynhaliodd Cambrian Aquatics fforwm grantiau gan wahodd mentrau trosglwyddo asedau eraill i fod yn bresennol, ac roedd hyn yn rhoi gwybodaeth a chyngor am y broses a dulliau o ariannu

Mwy o wybodaeth

Simon Morgan

Cyfarwyddwr 
Cambrian Aquatics