Cyfarfod Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru: 24 Gorffennaf 2024
Cyfarfod Grŵp Llywio Symleiddio Budd-daliadau Cymru a gynhaliwyd ar 24 Gorffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mynychwyr
Fran Targett, Cadeirydd
Amanda Main, CBS Caerffili
Andrew Arrowsmith, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Anna Friend, Cyngor Sir y Fflint
Claire Germain, Llywodraeth Cymru
Karen McFarlen, Plant yng Nghymru
Katie Till, Ymddiriedolaeth Trussell
Lindsey Phillips, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Matthew Evans, Grŵp Rheolwyr Refeniw a Budd-daliadau Cymru
Miranda Evans, Anabledd Cymru
Nigel Griffiths, CBS Pen-y-bont ar Ogwr
Simon Hatch, Cyngor ar Bopeth Cymru
Hefyd yn bresennol
Angela Endicott, Llywodraeth Cymru
Ben Gibbs, Hwylusydd Llif Gwaith
Emma Morales, Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
Glyn Jones, Hwylusydd Llif Gwaith
James Walsh-Heron, Llywodraeth Cymru
Launa Anderson, Llywodraeth Cymru
Paul Neave, Llywodraeth Cymru
Sam Pidduck, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Helal Uddin (Tîm Lleiafrifoedd Ethnig a Chymorth Ieuenctid), Leah Whitty (Hwylusydd Llif Gwaith), Victoria Lloyd (Age Cymru), Josh Parry (Hwylusydd Llif Gwaith), Steffan Evans (Sefydliad Bevan), Joanna Goodwin (Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol), David Willis (Llywodraeth Cymru), Mel James (Llywodraeth Cymru), Jen Griffiths (Grŵp Cynghori Uwch-swyddog Cyfrifol Llywodraeth Leol)
Croeso gan y Cadeirydd
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a diolch iddynt am eu cyfraniadau i'r prosiect yn ystod y mis diwethaf.
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y newidiadau diweddar i Lywodraeth Cymru, gan atgoffa'r Aelodau bod y prosiect hwn, er yn eistedd o dan yr Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, mai’r Trefnydd a'r Prif Chwip Jane Hutt a gychwynnodd y gwaith yn ei rôl flaenorol fel Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Ymhellach, ailadroddodd CG fod gan y prosiect gefnogaeth Cabinet Llywodraeth Cymru a Chyngor Partneriaeth Cymru.
Nododd yr Aelodau hefyd bod Llywodraeth Leol yn bartner(iaid) allweddol i’r gwaith hwn. Dywedodd y Cadeirydd wrth y grŵp y bydd Cadeirydd Grŵp Cynghori Uwch-swyddogion Cyfrifol Llywodraeth Leol (Jen Griffiths) yn ymuno â'r Grŵp Llywio i helpu gyda llif gwybodaeth a chydweithio rhwng y ddau grŵp.
Pwynt gweithredu 1: cylch Gorchwyl i'w ddiwygio i adlewyrchu’r ffaith bod Jen Griffiths yn ymuno â'r Grŵp Llywio.
Grŵp Cynghori Uwch-swyddogion Cyfrifol Llywodraeth Leol
Dechreuodd LH yr eitem hon gyda diweddariad byr am gyfarfod diweddaraf Grŵp Cynghori Uwch-swyddogion Cyfrifol Llywodraeth Leol a wnaeth amlygu'r angen am fwy o eglurder i’r prosiect. Pwyntiau a godwyd:
- Eglurhad o’r berthynas rhwng y grwpiau sy'n ymwneud â'r prosiect (megis y Grŵp Llywio, Grŵp Cynghori Uwch-swyddogion Cyfrifol Llywodraeth Leol, Ffrydiau Gwaith, Cyngor Partneriaeth Cymru).
- Map ffordd i nodi cyfeiriad trosfwaol y prosiect a ffrydiau gwaith.
- Rhannu cofnod risg y Grŵp Llywio ar gyfer y prosiect.
- Ymarfer mapio manwl i weld ble mae prosesau a system au’r holl gynghorau yn debyg a ble maen nhw’n amrywio.
- Gwybodaeth yn cael ei rannu’n gylchynol rhwng y ddau grŵp.
- Cydnabod, er nad oes angen cyllid ychwanegol ar y prosiect ar yn o bryd, y gellid argymell bod angen yn y dyfodol.
- Mewn ymateb, nododd yr Aelodau waith parhaus y Tîm Craidd i nodi'n glir y berthynas rhwng yr holl grwpiau sy'n ymwneud â'r prosiect.
- Ymhellach, nodwyd bod rhaid mynd i'r afael â'r pryder am yr angen am fap ffordd a dealltwriaeth o'r prosesau a'r systemau presennol o fewn cynghorau, wrth i'r Ffrydiau Gwaith ddechrau nodi'r tasgau sydd angen eu gwneud er mwyn bwrw ymlaen â'u camau blaenoriaeth.
- Cytunodd y Cadeirydd i rannu cofnod risg y prosiect yn rheolaidd gyda'r Grŵp Uwch-swyddogion a chynigiodd gyfarfod yn rheolaidd gyda'u Cadeirydd i helpu gyda llif gwybodaeth.
Pwynt gweithredu 2: Cadeirydd y Grŵp Uwch-swyddogion a Chadeirydd y Grŵp Llywio i gyfarfod yn rheolaidd.
Pwynt gweithredu 3: Tîm Craidd / CLlLC i rannu’r cofnod risg gydag Aelodau Grŵp yr Uwch-swyddogion Cyfrifol.
Adborth o sesiynau drafftio
Yn y cyfarfod diwethaf, cytunodd sawl Aelod i ddechrau drafftio'r templed cynllun gwaith. Yn dilyn dau sesiwn drafftio, cyflwynwyd strwythur a thempled drafft arfaethedig i'r Aelodau.
Mae egwyddorion ac ymrwymiadau Siarter Budd-daliadau Cymru wedi eu gosod wrth galon y drafft arfaethedig ac mae tair haen:
- Map ffordd gweledol (manylion lefel uchel): Offeryn gweledol i helpu i roi trefn ar y llif gwaith ar draws pob un o'r chwe ffrwd waith a thynnu sylw at gyd-ddibyniaethau a cherrig milltir allweddol.
- Fframwaith map ffordd (manylion lefel-ganol): Fe'i defnyddir i ddangos gwybodaeth lefel uchel ychwanegol fel blaenoriaethau, allbynnau, effeithiau, amserlenni a chyfranwyr arweiniol. Mae'n ffordd glir o gynrychioli sut mae pob blaenoriaeth yn cysylltu'n ôl â'r Siarter.
- Cam Un Cynllun Gweithredu Ffrwd Waith (manylion lefel gronynnol): Rhestr o dasgau sydd angen eu gwneud, a phryd, yn nhrefn eu blaenoriaeth, i gyfrannu tuag at gyflawni'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt ar gyfer Cam Un.
Cyflwynwyd templed i'r aelodau o’r Fframwaith Map Ffordd a fyddai, ynghyd â'r ddwy haen arall, yn cael eu poblogi ymhellach wrth i ffrydiau gwaith barhau i nodi eu tasgau allweddol.
Cymeradwyodd yr Aelodau y drafft fel prawf o gysyniad gan wneud yr argymhellion canlynol ar gyfer y fersiwn nesaf:
- cydnabod y bydd y cynllun gwaith yn ddogfen fyw ac felly bydd yn debygol o newid dros amser
- ffordd gliriach o gynrychioli trefn gronolegol y camau gweithredu sy'n ofynnol ar gyfer Cam Un
- Rhagor o eglurder ynghylch pwy sy'n gyfrifol am bob gweithred.
Penderfynwyd y byddai'r grŵp drafftio yn parhau i gyfarfod dros yr haf ac yn adeiladu ar y templed. Yn y cyfamser, cytunwyd i rannu'r drafft presennol gyda Grŵp Cynghori’r Uwch-swyddogion.
Pwynt Gweithredu 4: ffrydiau gwaith i barhau i nodi'r tasgau sydd eu hangen i gyflawni eu camau blaenoriaeth.
Pwynt Gweithredu 5: cynhelir sesiynau drafftio pellach dros yr haf i ddechrau poblogi templed fframwaith y cynllun gwaith.
Pwynt Gweithredu 6: tîm Craidd / CLlLC i rannu templed ddrafft y cynllun gwaith gydag Aelodau Grŵp Cynghori’r Uwch-swyddogion Cyfrifol.
Cofnod risg
Adolygodd yr aelodau’r cofnod risg a thrafod a ddylid ychwanegu risgiau eraill.
Cytunodd yr Aelodau i ddiwygio'r cofnod risg i adlewyrchu'r pwysau a roddir ar gapasiti/adnoddau Partneriaid Trydydd Sector sydd naill ai'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect neu a allai weld mwy o alw o ganlyniad i symleiddio gweithgarwch budd-daliadau Cymru.
Ymhellach, nododd yr Aelodau bod perygl na fyddai gan rai o’r partneriaid sy’n cyflwyno budd-daliadau yng Nghymru y wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i fabwysiadu dull y Model Cymdeithasol o Anabledd o ddarparu gwasanaethau yn effeithiol.
I ddod â'r eitem i ben, gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau anfon risgiau/mesurau lliniaru pellach at y Tîm Craidd.
Pwynt Gweithredu 7: cofnod risg i'w ddiwygio i adlewyrchu'r trafodaethau am adnoddau'r Trydydd Sector a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Pwynt Gweithredu 8: aelodau i anfon unrhyw risgiau/mesurau lliniaru ychwanegol at y Tîm Craidd.
Yr hyn sydd ei angen arnaf gennych chi
Yn ystod yr eitem hon, arweiniodd EM yr Aelodau trwy ymarfer "Yr hyn sydd ei angen arnaf gennych chi" i helpu i adnabod beth yw’r anghenion hanfodol ac i dderbyn neu wrthod ceisiadau am gymorth.
Nod yr ymarfer oedd ei gwneud yn eglur beth sydd ei angen ar Aelodau unigol y grŵp i gyflawni eu nodau cyffredin. Roedd cefnogaeth amlwg gan Aelodau ar gyfer anghenion y rhan fwyaf o unigolion.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf ac unrhyw fusnes arall
Cymeradwyodd yr aelodau gofnodion y cyfarfod diwethaf (25.06.2024).
Mae disgwyl i gyfarfod nesaf y grŵp llywio ddigwydd ym mis Medi 2024, gyda'r dyddiad i'w gadarnhau.