Neidio i'r prif gynnwy

Yn ystod 2013 cychwynnodd Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr gynllunio ar gyfer ail-leoli Siambr y Cyngor mewn cyn adeilad llyfrgell gyhoeddus yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Yn ogystal â hyn, roedd y sefydliad celf lleol, Bridgend Arts Ltd wedi nodi diffyg lleoliad ar gyfer celfyddyd yng nghanol y dref ac na allai gynnig lleoliad i artistiaid ddod ynghyd a chyflwyno eu gwaith. Bu i aelodau o Bridgend Arts Ltd gyfarfod â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer sut y gellid defnyddio hen lyfrgell y dref er mwyn ymateb yn greadigol i’r sefyllfa hon. 

Drwy gydweithio, ac ar ôl trafodaethau manwl â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bu i’r Cyngor Tref symud i gyn adeilad y llyfrgell gyhoeddus ar Stryd Wyndham, Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Ionawr 2014. Roedd yr adeilad yn wreiddiol yn llyfrgell a sefydlwyd gan Andrew Carnegie. Gyda caniatâd gan Ymddiriedolaeth Carnegie ar gyfer cofio am y gorffennol, ailenwyd yr adeilad yn Tŷ Carnegie.

Busnes

Nod Tŷ Carnegie yw darparu digwyddiadau a gweithgareddau celf a diwylliannol o safon uchel. Mae hyn yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau proffesiynol yn ogystal â gweithgareddau cymunedol ac addysgol sy’n annog pobl leol i gymryd rhan mewn celfyddyd yn ei holl agweddau gwahanol. Mae digwyddiadau a gynhelir yn y lleoliad yn cynnwys perfformiadau byw, dosbarthiadau celf, gweithdai, digwyddiadau cerddorol ac arddangosiadau. 

Mae llawr cyntaf yr adeilad yn gartref i Siambr Cyngor y Dref, Ystafell y Bwrdd a swyddfa staff, tra bod y llawr isaf ac ardal oriel fechan ar y llawr cyntaf wedi eu neilltuo ar gyfer y Celfyddydau. 

Mae Cyngor y Dref wedi defnyddio ei gyllid er mwyn adnewyddu’r adeilad. Mae hyn wedi cynnwys gosod system wresogi newydd, adnewyddu ac ailaddurno ystafelloedd y llawr isaf a’r llawr cyntaf (mewn lliwiau Edwardaidd), gosod llawr newydd yn y fynedfa, ar y grisiau ac ar y llawr cyntaf i gyd a’r brif neuadd. 

Ym mis Medi 2014, derbyniodd Cyngor y Dref grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn datblygu rhaglen o ddigwyddiadau yn y lleoliad yn ystod 2015. Sicrhawyd mwy o gyllid yn ddiweddarach i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau yn ystod 2016. 

Er mwyn gwella’r dull o ddarparu rhaglen newydd o ddigwyddiadau, bu i Gyngor Celfyddydau Cymru roi arian cyfalaf, a derbyniwyd arian cyfatebol gan Gyngor y Dref. Bwriedir i’r arian hwn gael ei ddefnyddio i wella mwy ar gyfleusterau ac offer yr adeilad – darparu llwyfan, goleuadau, system sain a byrddau arddangos, yn ogystal â gwneud addasiadau sylweddol i’r brif neuadd. 

Bydd y gwaith mewnol y gwella llinellau gweld y gynulleidfa drwy leihau maint y colofnau canolog a gwella acwsteg yr ystafell drwy gael gwared â’r nenfwd crog. 

Cafodd prosiect i atgyweirio ac adfer gwaith cerrig allanol yr adeilad ei ariannu gan Grant Treftadaeth y Loteri a derbyniwyd arian cyfatebol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Manylion

Erbyn diwedd rhaglen 2015, roedd y Ganolfan wedi rhaglennu:

  • 17 o ddigwyddiadau Datblygu Artistiaid
  • 18 o ddigwyddiadau celfyddydol proffesiynol, yn cynnwys drama a theatr, llenyddiaeth ac adrodd straeon, geiriau ar lafar a chomedi, cerddoriaeth a chelfyddyd weledol
  • Amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys perfformiadau a gweithdai ar gyfer 4 digwyddiad tymhorol
  • Amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n ymgysylltu â chynulleidfaoedd penodol – plant a phobl ifanc, oedolion a phobl hŷn, teuluoedd Cymraeg a phlant ag anableddau

Buddion

Roedd Cyngor y Dref a Thŷ Carnegie yn amcanu at ymgysylltu ac ysbrydoli pobl, cynulleidfaoedd ac artistiaid Pen-y-bont ar Ogwr, drwy ddarparu cyfleoedd i bobl fod yn greadigol, mwynhau profiadau diwylliannol newydd ac ymgysylltu â bywyd y gymuned. 

Mae Trosglwyddo Ased Cymunedol oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi golygu bod adeilad dinesig yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd unwaith eto, gan droi adeilad hanesyddol yn adeilad perthnasol drwy ddarparu canolbwynt ar gyfer y celfyddydau a’r cyfryngau creadigol yn yr ardal. 

Mae’r llyfrgell a symudwyd o Dŷ Carnegie wedi elwa hefyd o symud i leoliad mwy pwrpasol ger canol y dref, gydag amwynderau priodol, ynghyd â chyfleusterau hamdden eraill yn cael eu darparu mewn lleoliad amlbwrpas yn y ganolfan hamdden. Ymddiriedaeth Halo sy’n rheoli’r cyfleuster hamdden, ac mae wedi gwario swm sylweddol ar adnewyddu’r gofod. Mae’r niferoedd sy’n ymweld â’r llyfrgell wedi cynyddu ar ôl ail-leoli, er iddi gael ei symud o ganol y dref. 

Mae’r adeilad oedd yn wreiddiol yn gartref i Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyrion y dref wedi cael ei werthu i ddatblygwr preifat fydd yn ailddatblygu’r safle. 

Erbyn hyn mae Cyngor y Dref mewn lleoliad canolog sydd wedi codi ei broffil ac wedi gwella ei welededd a’i hygyrchedd, ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfuno ei bresenoldeb ochr yn ochr â swyddogaethau eraill y Cyngor.

Mwy o wybodaeth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Uwch Syrfëwr

Leanne Edwards 

Clerc Tre 
Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr