Neidio i'r prif gynnwy

Mae Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Gymunedol Plas Newydd yn Y Rhath, Caerdydd wedi galluogi YMCA i ymestyn ei waith yng Nghaerdydd ac ehangu’r gwasanaethau ac mae’n eu darparu i’r dyfodol.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

YMCA yw un o elusennau ieuenctid hynaf y DU. Yng Nghaerdydd mae YMCA wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc a’r gymuned ehangach ar hyd a lled y ddinas ers 1852. Felly, maent wedi hen sefydlu eu hunain ac mae ganddynt adnoddau a hanes o gyflawni. 

Ar hyn o bryd maent yn cynnal amrywiaeth o brosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc o gwmpas Caerdydd a Bro Morgannwg, yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi gofalwyr ifanc yn y ddwy sir, a chyngor iechyd rhyw arbenigol i bobl ifanc o gwmpas y sir mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Maent hefyd yn darparu llety i’r digartref a chymorth i bobl ifanc sy’n agored i niwed, gyda dros 100 o welyau ar gael o gwmpas y ddinas.

Busnes

Yng Nghaerdydd, mae portffolio YMCA yn cynnwys dwy gampfa, theatr ac ystafelloedd cymunedol, sydd ar gael i glybiau a grwpiau lleol fel rhan o’u mentrau ymgysylltu â’r gymuned ehangach. 

Roedd gan YMCA ddiddordeb mewn Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Gymunedol Plasnewydd, oherwydd y byddai’n galluogi’r elusen i ymestyn ei waith yng Nghaerdydd y tu hwnt i’w prif safle yn The Walk, ac yn atgyfnerthu gwaith yr elusen gyda’r gymuned a phobl ifanc o gwmpas y ddinas. 

Mae Canolfan Gymunedol Plasnewydd wedi bod yn adnodd cymunedol gwerthfawr yn yr ardal leol ers peth amser, a bu trigolion, grwpiau a theuluoedd eraill yn defnyddio’r safle dros y blynyddoedd. Felly, mae’r TAC wedi darparu cyfle i fanteisio ar yr ymgysylltu hwn er mwyn targedu gwelliannau mewn perthynas â defnyddwyr presennol a defnyddwyr newydd posibl.

Manylion

Ar ddiwedd 2013-14, fel rhan o’i broses pennu Cyllideb, nododd Cyngor Caerdydd ei fod yn ceisio mynegiant o ddiddordeb mewn perthynas â’r posibilrwydd o Drosglwyddo Ased Gymunedol Canolfan Gymunedol Plasnewydd. 

Er iddo gydnabod nad oedd ganddo’r adnoddau i barhau i gynnal y Ganolfan a’u bod felly wedi ei chlustnodi ar gyfer ei chau, eglurodd bod angen a galw parhaus am y Ganolfan, ac felly cynigiodd geisio datrysiad drwy’r broses o drosglwyddo asedau. 

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cabinet, bu angen tua 12 mis o drafod cyn i’r trosglwyddiad gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2015. 

Amodau’r Trosglwyddo Ased Cymunedol oedd:

  • Les 99 mlynedd gan nad oedd y Cyngor yn gallu rhyddhau rhydd-ddaliad y safle
  • Dim rhent i’w dalu am y 25 mlynedd cyntaf
  • Y rhent cytunedig i’w bennu ar lefel rhent tir
  • Rhaid i’r safle gael ei ddefnyddio at ddiben cymunedol

Buddion 

Mae’r Trosglwyddo Ased Cymunedol wedi hwyluso ailddatblygu’r safle, ac wedi galluogi YMCA i greu canolfan mewn partneriaeth â phartneriaid fydd yn canolbwyntio ar raglenni iechyd a lles, darpariaethau gofal plant a mynediad i adnoddau cymunedol. 

Ystyriwyd y byddai’r ailddatblygiad hwn yn fuddiol yn yr hirdymor i YMCA, y bobl maent yn eu cefnogi a’r gymuned. 

Mae’r trosglwyddo ased wedi sicrhau cyfleuster ym Mhlasnewydd sy’n darparu targed ar gyfer ymgysylltu cymunedol a chydlyniant cymunedol mewn perthynas ag amrywiaeth o amcanion datblygu cymunedol. 

Mae wedi galluogi i YMCA Caerdydd ddatblygu rhaglen fuddsoddi strategol 5 mlynedd ar gyfer y safle, gan adnewyddu’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu ar draws eu portffolio yng Nghaerdydd.

Gwersi a ddysgwyd

Mae’r ddau barti wedi dysgu llawer o ganlyniad i’r broses drosglwyddo a bu’n rhaid cyfaddawdu er mwyn sicrhau y gellid gwireddu’r trosglwyddiad. 

Ar yr adeg y gwnaethpwyd y trosglwyddiad, nid oedd gan Gyngor Sir Caerdydd broses sefydledig ar gyfer trosglwyddo asedau. Er hyn, bu’r trosglwyddiad yn llwyddiannus o ganlyniad i ymrwymiad gan y ddwy ochr i gydweithio, gyda’r ddau barti yn barod i gymryd ychydig o risg drwy gyfaddawdu er mwyn datrys materion. 

Dau faes penodol o anghytuno y bu angen peth amser er mwyn eu datrys oedd Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 mewn perthynas â staff, a’r cytundeb les. 

Ym mis Hydref 2014 cyhoeddodd Cyngor Caerdydd eu Pecyn ‘Camu Ymlaen’ ar gyfer cefnogi eu proses o drin ceisiadau i ymgymryd â rheoli gwasanaeth neu ased cymunedol a reolwyd o’r blaen gan gorff cyhoeddus yn ardal Caerdydd.

Mwy o wybodaeth

Cyngor Caerdydd

Ystadau Strategol

Andrew Templeton

Prif Weithredwr
YMCA Caerdydd