Mae’r achos hwn o Drosglwyddo Ased Cymunedol wedi galluogi i gartref preswyl i’r henoed oedd wedi cau, oedd yn eiddo i Gyngor Gwynedd, gael ei ailagor fel gwesty sy’n amcanu at ddarparu gwyliau antur seibiant i bobl sydd ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Cefndir
Mae Gwesty Seren yn Llan Ffestiniog yn eiddo i, ac yn cael ei reoli gan, fenter gymunedol Seren Ffestiniog Cyf, ac mae’n agored i bob aelod o’r cyhoedd, yn ogystal â darparu gwyliau antur seibiant ar gyfer cleientiaid penodol.
Cwblhawyd y Trosglwyddo Ased Cymunedol yn 2011-12 ac fe’i hariannwyd gan Gronfa’r Loteri Fawr, Magnox, Llywodraeth Cymru (Croeso Cymru), Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cartrefi Cymunedol Gwynedd, a gan fuddsoddiadau a benthyciadau Seren Ffestiniog.
Roedd y gefnogaeth gan Gronfa’r Loteri Fawr yn cynnwys cymorth cyfalaf a refeniw.
Busnes
Mae Gwesty Seren yn brosiect dielw; mae’r gwesty yn cynnwys cyfleusterau megis ystafell hydrotherapi ac ystafell synhwyraidd, yn ogystal â nodweddion eraill nad ydynt i’w gweld fel arfer mewn gwestai. Mae’n gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau lleol er mwyn cynnig gweithgareddau antur a hamdden ar hyd a lled Eryri.
Mae’r addasiadau a wnaethpwyd i’r gwesty er mwyn gallu gwasanaethu gwesteion sy’n wynebu amrywiaeth o heriau sy’n gysylltiedig â symudedd ac anabledd, yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan Seren Ffestiniog Cyf er mwyn eu gallu marchnata eu cyfleuster fel rhywle sy’n cynnig budd cymdeithasol penodol.
Mae Seren Ffestiniog Cyf, a sefydlwyd yn 1996, yn cefnogi ac yn cyflogi pobl ag anableddau dysgu. Gyda mwy na 60 o gyflogeion llawn amser a rhan amser, Seren Ffestiniog Cyf yw’r ail gyflogwr mwyaf ym Mlaenau Ffestiniog. Maent hefyd yn berchen ar, ac yn cynnal, nifer o fentrau cymdeithasol yng Ngwynedd.
Manylion
Prynwyd yr eiddo gan Gyngor Gwynedd am bris gostyngedig oedd yn is na’r pris a roddwyd gan y Prisiwr Rhanbarth a’r Prisiwr Arbenigol, ac fe’i hagorwyd ym mis Ebrill 2014, gan gynhyrchu elw bychan yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Mae’r cyfleuster hefyd wedi derbyn grant cyfalaf gan Gronfa’r Loteri Fawr a grant refeniw taprog hefyd am gyfnod o bum mlynedd.
Buddion
Mae’n brosiect unigryw ac arloesol sy’n amcanu at roi cymorth i bobl ag anableddau a phobl sy’n wynebu amgylchiadau heriol, ac mae presenoldeb ar booking.com a dolenni i nifer o gwmnïau gwyliau wedi’u teilwra wedi golygu bod y cyfleuster wedi gallu ymestyn yn ehangach.
Mwy o wybodaeth
Anwen Davies
Rheolwraig Cyswllt Mentrau Cymdeithaso
Adran Cymorth Corfforaethol
Cyngor Gwynedd
E-bost: Anwendavies@gwynedd.gov.uk