Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Rwy'n falch o roi gwybod bod adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Iechyd Democrataidd wedi'i gyhoeddi. Mae'r adroddiad cynhwysfawr hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein dealltwriaeth o sefyllfa bresennol ein cynghorau cymuned a thref o ran iechyd democrataidd.
Ym mis Ebrill 2023, gofynnodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd i'r Grŵp nodi opsiynau ar gyfer camau gweithredu y gallai cynghorau cymuned a thref, cyrff sy'n cynrychioli'r sector a'r Llywodraeth eu cymryd i wneud y canlynol:
- Gwella ymwybyddiaeth a'r ymwneud rhwng cymunedau a'u cynghorau cymuned,
- Cynyddu nifer, ac amrywiaeth, yr ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad ar gyfer cynghorau cymuned a thref.
Mae'r Grŵp, o dan gadeiryddiaeth Shereen Wiliams MBE, Prif Weithredwr y Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, wedi casglu ac adolygu ystod eang o dystiolaeth. Diolch i'r Grŵp am ei ymroddiad a'i waith caled. Mae ei ymdrechion wedi bod yn allweddol o ran sicrhau bod gennym ddealltwriaeth drylwyr a chyflawn. Mae'r adroddiad yn cyflwyno darlun heriol ac yn nodi dau lwybr clir ar gyfer sicrhau llywodraethiant cymunedol cadarn, cynrychioliadol ac effeithiol.
Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau o'r cyhoedd, sefydliadau'r trydydd sector, y cynghorau cymuned a thref a'r prif gynghorau a gyflwynodd dystiolaeth. Roedd eu cyfraniadau yn amhrisiadwy o ran llywio'r canfyddiadau a'r opsiynau.
Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wrthi'n arwain ymchwiliad ynghylch rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned. Newydd ddechrau y mae'r ymchwiliad ac rwy'n disgwyl i'r adroddiad hwn fod yn rhan o'r dystiolaeth ar gyfer gwaith y Pwyllgor.
Edrychaf ymlaen at ystyried canlyniadau'r ymchwiliad law yn llaw â'r adroddiad hwn.