Symleiddio budd-daliadau Cymru: trywydd cam 1 (2025 i 2026)
Cam cyntaf yr hyn yr ydyn ni am ei wneud i’w gwneud yn haws i bobl hawlio budd-daliadau yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gweledigaeth ar y cyd ar gyfer budd-daliadau Cymru
Dull tosturiol a chyson o ddylunio a darparu Budd-daliadau Cymru sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar sail egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru, sy'n galluogi pobl i adrodd eu stori unwaith yn unig i dderbyn yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Cefndir a phwrpas
Rydyn ni’n gwybod bod y budd-daliadau sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cymorth fel Prydau Ysgol am Ddim, Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, y Grant Hanfodion Ysgolion a’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn hanfodol i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru. Ond rydyn ni’n gwybod hefyd nad yw rhai pobl yn hawlio o hyd, a rhaid i hynny newid. Mae’r rhesymau am hyn yn aml yn gymhleth ac yn amrywiol, ond rydyn ni’n gwybod bod dryswch ynghylch yr hyn y mae gennych chi hawl iddo, ffurflenni cais cymhleth a gorfod profi cymhwysedd dro ar ôl tro i gyd yn cyfrannu at hyn.
Mae annog pobl i hawlio pob punt y mae ganddynt hawl iddi yn ymrwymiad allweddol i Lywodraeth Cymru ac i lywodraeth leol, a drwy ddod â phartneriaid sydd â’r un nod cyffredin at ei gilydd, mae hanes hir eisoes o waith cynyddu incwm llwyddiannus gan bawb sy’n gysylltiedig, sydd wedi bod o fudd i filoedd o gartrefi ledled Cymru. Yn gyson â’r ymrwymiad hwn, rydyn ni am symleiddio mynediad at y gyfres o grantiau a thaliadau i unigolion, sy’n cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru a’u darparu gan awdurdodau lleol a sefydliadau eraill. Mae’n dasg enfawr ac mae’n cynnwys dull cydweithredol nid yn unig rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ond hefyd drwy gynnwys sefydliadau allweddol fel y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gwasanaethau cynghori a llawer o sefydliadau trydydd sector eraill sy’n gweithio’n ddiflino i wella mynediad at wasanaethau i bobl ledled Cymru.
Mae profiad unigolion sy’n hawlio budd-daliadau Cymru yn rhan hanfodol o’r gwaith hwn. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau gwelliannau i bobl yng Nghymru, sy’n golygu bod yn rhaid i ni wrando ac ystyried barn unigolion sy’n cael cymorth ariannol gennym ni ar hyn o bryd. Rydyn ni’n ddiolchgar i sefydliadau fel Sefydliad Bevan, sydd wedi bod yn ymchwilio i’r mater hwn am flynyddoedd, gan gynnwys enghreifftiau o brofiad bywyd sydd wedi rhoi cipolwg defnyddiol i ni ar sut i lunio ein trywydd. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i gyd-weithwyr mewn awdurdodau lleol am rannu eu profiadau o ddarparu’r taliadau hyn i gannoedd o filoedd o gwsmeriaid agored i niwed dros flynyddoedd lawer.
Mae’r trywydd hwn yn nodi’r camau cychwynnol a fydd yn ein helpu i ddod yn nes at gyflawni ein huchelgais, a’r bwriad yw mai man cychwyn yn unig fydd y trywydd hwn. Bydd modd addasu’r trywydd wrth i’r gwaith fynd rhagddo i sicrhau bod lle i dyfu a gwneud newidiadau yn ôl yr angen, ac yn unol â’r dystiolaeth. Y bwriad yw mai trywydd ar gyfer Cam Un yn unig fydd hyn (hyd at fis Ebrill 2026) - lle rydyn ni’n archwilio tri budd-dal allweddol sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol (Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgolion), a sut mae cael gafael arnynt, i ddeall sut gallwn wella profiad y defnyddiwr a sut gallwn ddefnyddio’r profiad hwn i gefnogi’r gwaith o symleiddio Budd-daliadau Cymru.
Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?
Ers lansio Siarter Budd-daliadau Cymru ym mis Ionawr 2024, rydyn ni wedi canolbwyntio o’r newydd ar gydweithio i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Siarter. Mae Siarter Budd-daliadau Cymru yn nodi’r egwyddorion ar gyfer dylunio a darparu system Budd-daliadau Cymru sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n dosturiol ac yn gydlynol.
Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymrwymo i’r Siarter ac yn gweithio i gyflawni’r ymrwymiadau. Mae cyhoeddi’r Siarter yn gosod y naws ar gyfer prosiect Symleiddio Budd-daliadau Cymru ac mae’n brawf gwirioneddol o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio gyda’n gilydd. Rydyn ni’n elwa ar y dull cydweithredol hwn wrth fwrw ymlaen gyda’r camau gweithredu ar y trywydd.
Wedi’i gadeirio’n annibynnol gan Fran Targett, cafodd Grŵp Llywio (Symleiddio Budd-daliadau Cymru) ei sefydlu yn 2024 ac mae wedi cyfarfod yn rheolaidd i bennu’r cyfeiriad strategol ac i gytuno ar ddull gweithredu fesul cam ar gyfer y gwaith. Bydd hyn yn golygu y bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar dri budd-dal allweddol sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol, sef Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim a’r Grant Hanfodion Ysgolion, lle rydyn ni eisoes wedi gweld arferion da ar draws llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru. Y bwriad yw mabwysiadu’r arferion da hyn ac adeiladu arnynt.
Sefydlodd y Grŵp Llywio chwe ffrwd waith gan ystyried materion fel:
- cymhwysedd
- dylunio a data
- monitro, ymchwil a gwerthuso
- dysgu/datblygu
Mae rhagor o wybodaeth am waith y Grŵp Llywio ar gael yma.
Yn ystod y gwaith paratoi pan ddefnyddiwyd y dull ffrydiau gwaith a sefydlwyd gan y Grŵp Llywio, daeth yn amlwg bod lefel uchel o ryngddibyniaethau (cymhlethdodau trawsbynciol) rhwng pob un o'r ffrydiau gwaith. O ganlyniad, byddwn yn newid at ddull mwy ystwyth wrth i waith fynd rhagddo i weithredu allbynnau'r trywydd. Bydd hyn yn darparu ar gyfer aelodaeth hyblyg ac ar gyfer creu tîm o amgylch pob tasg a fydd yn sicrhau dull dynamig a all newid yn gynt.
Mae Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol Llywodraeth Leol wedi cael ei sefydlu hefyd. Mae’r grŵp hwn yn dwyn ynghyd swyddogion arweiniol o bob awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ddatblygu’r gwaith hwn yn eu hawdurdod lleol. Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd y Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol yn darparu arbenigedd ac arweiniad hanfodol i’r grŵp llywio, ac yn chwarae rôl gynghori allweddol.
Beth fydd llwyddo yn ei olygu?
- Nod hirdymor y rhaglen yw ei gwneud hi’n haws i unigolyn gael mynediad at ei hawliau ariannol, dim ots ble mae’n byw yng Nghymru. Bydd pobl yn gallu adrodd eu stori unwaith i gael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo, yn hytrach na gorfod darparu gwybodaeth a thystiolaeth ddyblyg sawl gwaith.
- Bydd newid diwylliannol mewn cymdeithas tuag at hawliau, lle bydd rhwystrau fel stigma yn cael eu hystyried a’u dileu cymaint ag y bo modd.
- Bydd yr ymrwymiadau a’r canlyniadau yn Siarter Budd-daliadau Cymru yn sail i lwyddiant y nodau hyn.
Mae llwyddiant Cam Un wedi cael ei ddiffinio fel pob Awdurdod Lleol yng Nghymru yn darparu’r tri budd-dal dan sylw mewn ffordd fwy cydlynol. Bydd hyn yn golygu mai dim ond unwaith y bydd yn rhaid i bobl ledled Cymru ddarparu eu gwybodaeth a’u tystiolaeth ategol i hawlio Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Prydau Ysgol am Ddim, a’r Grant Hanfodion Ysgol. Y nod yw y bydd hyn yn digwydd ar draws pob awdurdod lleol erbyn mis Ebrill 2026. Bydd y trywydd yn cael ei ddiweddaru i gynnwys camau gweithredu i weithio tuag at gamau dilynol, gan ystyried y gwersi a ddysgwyd o’r cam cyntaf.
Methodoleg
Mae ein hymrwymiadau yn y Siarter wedi’u mapio yn erbyn y 5 amcan strategol.
1. System Budd-daliadau Mwy Syml i Gymru
- Gweithredu yn unol â Safonau’r Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan hyrwyddo a hwyluso gallu dinasyddion i gael mynediad at y system mewn Cymraeg clir, hygyrch.
- Addasu'r broses a'r systemau i ddiwallu anghenion a dewisiadau unigol ac archwilio dulliau a fydd yn sicrhau bod Budd-daliadau Cymru ar gael drwy sawl sianel gyfathrebu – dulliau digidol, dros y ffôn neu drwy’r post.
- Cadw at Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru.
- Mesur y nifer sy'n manteisio yn ôl nifer y bobl a gefnogir drwy gynlluniau budd-daliadau Llywodraeth Cymru.
2. System Budd-daliadau Gynhwysol i Gymru
- Dangos tegwch a chydraddoldeb wrth ddarparu budd-daliadau Cymru i sicrhau urddas a pharch wrth drin unigolion heb wahaniaethu.
- Diwallu anghenion grwpiau ymylol a difreintiedig sy'n arbennig o agored i dlodi, gan gydnabod amrywiaeth pobl Cymru yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
- Sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn gyfartal, yn deg a heb wahaniaethu a bod y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei fabwysiadu gan yr holl bartneriaid cyflawni.
- Nodi a dileu'r rhwystrau sy'n atal pobl rhag hawlio yr hyn sy’n ddyledus iddynt, ac yn helpu pobl yn rhagweithiol i gael mynediad at y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
- Codi ymwybyddiaeth a galluogi'r rhai sy'n gymwys i fanteisio ar eu hawliau trwy:
- gyfathrebu ar bob cyfrwng mewn ffordd sy'n hyrwyddo golwg gadarnhaol ar hawliau, ac mewn fformatau hygyrch gan gynnwys fformat Hawdd ei Darllen, Iaith Arwyddion Prydain ac yn Gymraeg ac mewn ieithoedd cymunedol
- Gwell ymwybyddiaeth o hawl i fudd-daliadau a'r cymorth sydd ar gael drwy negeseuon clir ar fudd-daliadau yng Nghymru a budd-daliadau sydd heb eu datganoli, sydd hefyd yn herio mythau a stereoteipiau
3. System Budd-daliadau i Gymru sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Gwerthuso prosesau a systemau gyda'r bobl a fydd yn eu defnyddio cyn eu rhoi ar waith.
- Hyblyg, heb wthio’r un fethodoleg ar bawb, ac yn gallu ymateb yn gyflym i'r newidiadau a'r pwysau sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru.
- Polisi gwybodus i Gymru sydd wedi cynnwys partneriaid ac unigolion a rhanddeiliaid eraill yn ei ddatblygiad.
- Dyrannu adnoddau yn deg ac yn effeithlon ledled Cymru i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi pobl yn gyntaf.
- Annog adborth, ac ymateb iddo er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth gorau posibl.
4. System Budd-daliadau Gydlynol i Gymru
- Sicrhau bod budd-daliadau newydd Cymru wedi'u cynllunio i gyd-fynd â'r system fudd-daliadau datganoledig bresennol, gan nodi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol.
- Gweithio tuag at un pwynt mynediad ar gyfer Budd-daliadau Cymru.
- Codi ymwybyddiaeth a galluogi'r rhai sy'n gymwys i fanteisio ar eu hawliau trwy:
- sicrhau bod staff sy'n darparu budd-daliadau Cymru yn wybodus ac yn brofiadol ac yn derbyn hyfforddiant parhaus wrth ddarparu cyngor cyfoes a chymorth priodol
- Codi ymwybyddiaeth a galluogi'r rhai sy'n gymwys i fanteisio ar eu hawliau trwy:
- barhau i weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli yng Nghymru
- Hwyluso'r dull o nodi cymhwysedd am gymorth ariannol arall.
Gwneud defnydd o arferion rhannu data er budd y cyhoedd, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
5. System Budd-daliadau i Gymru sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol
- Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yng Nghymru sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol.’
- Codi ymwybyddiaeth a galluogi'r rhai sy'n gymwys i fanteisio ar eu hawliau trwy gyfeirio pobl at gyngor a chymorth annibynnol yn gynnar er mwyn:
- nodi a mynd i'r afael ag achosion o galedi ariannol, gan helpu i dorri'r cylch tlodi
- helpu i wneud eu cais am gymorth ariannol a herio penderfyniadau
- Gwella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc o aelwydydd incwm isel, gan eu cefnogi i gael dyfodol gwell a chyrraedd eu potensial llawn.
- Mwy o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau Cymru, gan helpu i wneud y mwyaf o incwm aelwydydd a chyfrannu at fynd i'r afael â thlodi yng Nghymru.
- Datblygu cymunedau cydnerth yn ariannol drwy ein hymrwymiad i liniaru ac atal tlodi.
- Gostyngiad yn yr angen am gymorth brys fel banciau bwyd gan fod cartrefi yn cael eu cefnogi i gryfhau yn ariannol.
Y Trywydd
Gweler isod y camau blaenoriaeth lefel uchel y mae angen eu cyflawni o dan y 5 amcan strategol, a phwy sy’n gyfrifol, gydag amserlen ar gyfer cyflawni. Mae’n amlwg bod rhyngddibyniaethau rhwng rhai o’r blaenoriaethau a fydd yn cael eu trafod gan ffrydiau gwaith a’u symud ar draws er mwyn osgoi dyblygu gweithgarwch.
Rhaid dweud nad nod y trywydd hwn yw rhagnodi’r holl weithgareddau a fydd yn cael eu cyflawni fel rhan o’r rhaglen, ond yn hytrach, darparu cyfeiriad lefel uchel gyda’r bwriad o symud y gwaith o ddarparu Budd-daliadau Cymru yn nes at y nod terfynol. Ceir cydnabyddiaeth y bydd y trywydd yn datblygu ac y bydd y blaenoriaethau a’r allbynnau’n cael eu mireinio wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Mae amserlenni yn y trywydd wedi cael eu nodi ar sail y flwyddyn ariannol, felly mae Ch4 2024 yn golygu rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025, a Ch1 2025 yn golygu rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2025, ac ati. Mae’r rhain wedi cael eu trafod a’u cytuno drwy gyfarfodydd ffrydiau gwaith a gafodd eu cynnal ym mis Hydref 2024.
Mae’r holl ddyddiadau’n rhai dangosol a gallant newid wrth i’r gwaith fynd rhagddo, a drwy drafodaeth â Llywodraeth Leol a’r grŵp llywio.
1. System Budd-daliadau Mwy Syml i Gymru
Blaenoriaeth 1
Deall yr holl swyddogaethau gweinyddol, hy ceisiadau, tystiolaeth i ddangos hawl, prosesau gwneud penderfyniadau ac ati, a gyflawnir gan Awdurdodau Lleol wrth iddynt ddarparu budd-daliadau unigol Cymru a nodi lle gellir symleiddio swyddogaethau heb gynyddu’r risg o dwyll a gwallau.
Allbwn
- Ymarfer mapio ar gyfer tri budd-dal Cymru sy’n rhoi darlun gweledol o’r broses o’r dechrau i’r diwedd er mwyn i bob un o’r 22 awdurdod lleol sy’n darparu tri budd-dal Cymru gynnwys sut maen nhw’n annog pobl i wneud cais, a beth yw eu pwynt mynediad.
Effaith
- Cael dealltwriaeth fanwl o’r sefyllfa fel y mae ac awgrymu ffyrdd o’i gwella.
- Dysgu’r gwersi ar ôl dadansoddi budd-daliadau’r cam cyntaf.
Erbyn pryd
- Ch1 2025.
Blaenoriaeth 2
Deall y ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n cyfarwyddo ac yn rheoli’r gwaith o bennu meini prawf cymhwysedd ar gyfer budd-daliadau unigol Cymru, a nodi lle byddai modd cysoni cymhwysedd â budd-daliadau eraill er mwyn gallu eu symleiddio.
Allbwn
- Bydd bwriad deddfwriaethol a pholisi ar gyfer pob budd-dal yn cael ei fapio, a bydd synergeddau’n cael eu nodi.
- Archwilio sut mae pob Awdurdod Lleol yn pennu cymhwysedd ar gyfer tri budd-dal y cam cyntaf.
Effaith
- Cael dealltwriaeth fanwl o’r sefyllfa fel y mae ac a oes lle i gysoni cymhwysedd budd-daliadau.
Erbyn pryd
- Ch1 2025.
Blaenoriaeth 3
Nodi’r prosesau y gall Awdurdodau Lleol eu defnyddio i ddarparu tri budd-dal cam un yn ddi-dor ac yn gyson.
Allbwn
- Adolygu ymarfer mapio i nodi’r arferion gorau.
- Archwilio sut mae rhai Awdurdodau Lleol eisoes yn darparu’n ddi-dor a nodi hyn mewn dogfen ganllaw ar gyfer pob Awdurdod Lleol.
- Nodi unrhyw rwystrau i Awdurdodau Lleol eraill a allai eu hatal rhag atgynhyrchu prosesau sy’n cael eu defnyddio mewn ardaloedd eraill.
Effaith
- Nodi’r arferion gorau a’u lledaenu.
Erbyn pryd
- Ch2 2025.
2. System Budd-daliadau Gynhwysol i Gymru
Blaenoriaeth 1
Cynnal ymchwil defnyddwyr ymysg dinasyddion a’r gweithlu i ddeall eu profiad a’r hyn sy’n achosi problemau iddynt. Hefyd, sefydlu’r manteision a’r rhwystrau sy’n deillio o gais, prosesu a chynnal safbwynt yr hawliad.
Allbwn
- Ymchwil defnyddwyr sy’n edrych yn benodol ar grwpiau ar y cyrion i nodi’r rhwystrau penodol rhag gwneud cais a chynnal yn llwyddiannus am gymorth, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
- Datblygu cynllun gweithredu cyffredinol i sicrhau tegwch a chynhwysiant wrth ddarparu tri budd-dal Cymru ar sail y rhwystrau a nodwyd.
Effaith
- Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut gallwn gyrraedd grwpiau sydd ar y cyrion a chymryd camau wedi’u targedu i gael gwared ar y rhwystrau rhag cael gafael ar gymorth.
Erbyn pryd
- Ch2 2025.
Blaenoriaeth 2
Nodi cynulleidfaoedd cyhoeddus allweddol a sefydliadau rhanddeiliaid/partneriaid y bydd angen ymgysylltu’n gadarnhaol â nhw er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd allweddol.
Allbwn
- Datblygu gwell dealltwriaeth o bwy y mae angen i ni ei gyrraedd – pwy yw’r gynulleidfa darged y mae angen i ni ymgysylltu â nhw er mwyn cyflawni cam un, a’r un fath ar gyfer camau pellach.
- Rhestr o gysylltiadau allweddol i’w datblygu ar gyfer y prosiect hwn a fydd yn gallu helpu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl a rhoi cyngor ar gyfathrebu cynhwysol.
Effaith
- Ei gwneud hi’n bosibl hyrwyddo i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Targedu’r rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml.
Erbyn pryd
- Ch1 2025.
Blaenoriaeth 3
Datblygu strategaeth ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd targed – gan gynnwys datblygu asedau angenrheidiol. Blaenoriaethu cyfres o negeseuon allweddol ar gyfer cyfathrebu cyson ar draws partneriaid.
Allbwn
- Cyhoeddi trosolwg lefel uchel o’r strategaeth gyfathrebu ar gyfer pob cam o’r prosiect, gan ddechrau gyda cham un.
- Pecyn o asedau y gall rhanddeiliaid eu defnyddio i hyrwyddo’r prosiect. Mae angen i’r rhain fod ar gael ym mhob fformat.
Effaith
- Negeseuon cyson, cydlynol am Fudd-daliadau Cymru.
Erbyn pryd
- Ch3 2025.
Blaenoriaeth 4
Sicrhau bod yr holl ddulliau gwneud cais/deunyddiau hyrwyddo yn hygyrch.
Allbwn
- Carry out an accessibility audit on application methods.
- Carry out an accessibility audit on promotional materials.
Effaith
- Cyfathrebu cynhwysol ar draws Budd-daliadau Cymru.
Erbyn pryd
- Q4 2025.
- User research: Q2, 2025.
3. System Budd-daliadau i Gymru sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Blaenoriaeth 1
Nodi’r wybodaeth sydd ar gael am y ‘rhwystrau rhag hawlio’ budd-daliadau ymysg cynulleidfaoedd targed o safbwynt cyfathrebu hyrwyddol. Chwilio’n benodol am unrhyw ddealltwriaeth sydd eisoes yn bodoli o 'derminoleg' fel rhwystr.
Allbwn
- Cynhyrchu canllaw arferion da ar gyfer iaith i gael gwared ar wahaniaethu a rhwystrau wrth gael gafael ar hawliau.
Effaith
- Bydd hyn yn dileu stigma ac yn galluogi’r newid diwylliant tuag at hawliau y bwriadwyd i Siarter Budd-daliadau Cymru ei ysgogi.
Erbyn pryd
- Ch2 2025.
Blaenoriaeth 2
Cael gwell dealltwriaeth o ba mor hyblyg yw’r prosesau presennol ac i ba raddau y gellir eu haddasu i gyd-fynd ag anghenion unigolion.
Allbwn
- Cynnal ymarfer cwsmer cudd mewn amrywiaeth o wahanol amgylchiadau i brofi pa mor hyblyg yw’r system bresennol (I’w ystyried ochr yn ochr ag ymchwil defnyddwyr).
- Ystyried sut mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cyfeirio at fudd-daliadau Cymru.
Effaith
- Deall sut gallwn sicrhau bod y gwaith o ddarparu Budd-daliadau Cymru yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Erbyn pryd
- Ch3 2025.
4. System Budd-daliadau Gydlynol i Gymru
Blaenoriaeth 1
Datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r gofynion casglu data presennol ar gyfer Budd-daliadau Cymru a nodi lle mae dyblygu data yn digwydd.
Allbwn
- Cynhyrchu adroddiad yn manylu ar y gofynion casglu data presennol ar gyfer Budd-daliadau Cymru, gan nodi lle mae dyblygu data yn digwydd.
Effaith
- Gwybodaeth am y sefyllfa fel y mae.
Erbyn pryd
- Ch2 2025.
Blaenoriaeth 2
Datblygu dealltwriaeth o’r gofynion rhannu data, a’r rhwystrau presennol. Archwilio’r agweddau cyfreithiol a thechnegol ar rannu data, gan gynnwys gofynion yr Adran Gwaith a Phensiynau/CThEF fel y nodir yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth blynyddol a lofnodwyd gan bob Awdurdod Lleol.
Allbwn
- Cynhyrchu adroddiad sy’n cofnodi’r gofynion rhannu data a’r rhwystrau presennol y mae Awdurdodau Lleol yn eu hwynebu.
Effaith
- Cynghorau’n hyderus o ran pa ddata y gellir ei rannu a pha ddata na ellir ei rannu.
Erbyn pryd
- Ch3 2025.
Blaenoriaeth 3
Cynhyrchu canllawiau i awdurdodau lleol ar rannu a defnyddio data sy’n bodoli eisoes mewn ffordd dderbyniol o dan ofynion presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau/CThEF.
Allbwn
- Cyhoeddi canllawiau i holl Awdurdodau Lleol Cymru yn nodi safbwynt y cytunwyd arno ar gyfer ailddefnyddio a rhannu data gweinyddol sy’n bodoli eisoes.
Effaith
- Defnydd cyson o rannu data ar gyfer pasbortio’r hawl i Fudd-daliadau Cymru.
Erbyn pryd
- Ch4 2025.
Blaenoriaeth 4
Rhannu gwybodaeth, dealltwriaeth a’r arferion gorau ar draws ffiniau sefydliadol.
Allbwn
- Cynhyrchu canllawiau arferion gorau ar gyflawni cam un.
- Sefydlu fforwm i Awdurdodau Lleol rannu’r arferion gorau a/neu wersi a ddysgwyd.
- Datblygu astudiaethau achos rheolaidd a’u rhannu drwy’r Cylchlythyr i Randdeiliaid.
Effaith
- Rhannu’r arferion gorau ledled Cymru i ganiatáu i Awdurdodau Lleol ddysgu gwersi o brofiadau Awdurdodau Lleol eraill.
Erbyn pryd
- Ch4 2025.
Blaenoriaeth 5
Ystyried sut i hyrwyddo Budd-daliadau Cymru fel cynnig cydlynol er mwyn sicrhau bod unigolion yn deall yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
Allbwn
- Datblygu cynllun cydlynol ar gyfer hyrwyddo Budd-daliadau Cymru er mwyn cael logo unedig y gellir ei ddefnyddio ar draws tri budd-dal cam un.
Effaith
- Hyrwyddo gwasanaeth cyfartal ledled Cymru.
Erbyn pryd
- Ch4 2025.
5. System Budd-daliadau i Gymru sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol
Blaenoriaeth 1
Deall a oes unrhyw fylchau sgiliau a nodi’r meysydd hyfforddiant neu gymorth sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau yn unol ag ymrwymiadau Siarter Budd-daliadau Cymru.
Allbwn
- Mapio’r hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd i staff darparu budd-daliadau ym mhob Awdurdod Lleol.
- Mapio’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymrwymiadau’r Siarter a nodi unrhyw fylchau.
- Ystyried a oes angen pecyn hyfforddi safonol.
Effaith
- Sicrhau gweithlu medrus, cyfredol ar draws Cymru.
Erbyn pryd
- Ch4 2025.
Blaenoriaeth 2
Casglu ynghyd yr hyn rydyn ni’n ei wybod am y dirwedd data.
Allbwn
- Cynhyrchu adroddiad yn manylu ar ba ddata y mae Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru yn ei gasglu ar hyn o bryd, a sut maen nhw’n gwneud hynny.
Effaith
- Nodi tueddiadau a bylchau yn y wybodaeth sy’n cael ei chasglu, a’r potensial ar gyfer monitro gweithrediad y Siarter.
Erbyn pryd
- Ch2 2025.
Blaenoriaeth 3
Datblygu model rhesymeg ar gyfer pob cam, gan ddechrau gyda cham un.
Allbwn
- Creu darlun gweledol o’r broses o ddarparu tri budd-dal cam un.
Effaith
- Bydd hyn yn ein helpu i ystyried sut i werthuso cynnydd.
Erbyn pryd
- Ch2 2025.
Blaenoriaeth 4
Nodi cwestiynau ymchwil a gwerthuso posibl i lywio Cam Un a chamau gwaith yn y dyfodol, ac i arwain gwaith y grŵp llywio.
Allbwn
- Cytuno ar ddull gwerthuso.
Effaith
- Bydd hyn yn ein helpu i ystyried sut i werthuso cynnydd.
Erbyn pryd
- Ch3 2025.
Blaenoriaeth 5
Ensure that people who claim Welsh benefits are aware of other financial entitlements and are supported to become financially resilient.
Allbwn
- Sicrhau bod pobl sy’n hawlio Budd-daliadau Cymru yn ymwybodol o hawliau ariannol eraill ac yn cael cymorth i fod yn ariannol gydnerth.
Effaith
- Datblygu ffordd gyson o gyfeirio at Wasanaethau Cynghori fel rhan o’r broses ymgeisio ar gyfer Budd-daliadau Cymru.
Erbyn pryd
- Ch4 2025.
Mae’r trywydd hwn yn cael ei gyhoeddi o dan egwyddorion Siarter Budd-daliadau Cymru a gafodd ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyngor Partneriaeth ym mis Tachwedd 2023.
Symleiddio aelodaeth Grŵp Llywio Llywodraeth Cymru
Strwythur llywodraethu a rhyngddibyniaethau
- Cyngor Partneriaeth Cymru
- Grŵp Llywio Budd-daliadau Cymru
- Tîm Craidd (Llywodraeth Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)
Gyda chymorth
- Grŵp Uwch-swyddogion Cyfrifol Llywodraeth Leol
Ffrydiau gwaith
- Cymhwysedd
- Ymchwil
- Cam 1
- Dylunio/data
- Cyfathrebu
- Dysgu a datblygu
Bydd y rhain yn troi'n grwpiau Gorchwyl a Gorffen wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
Ieithoedd amgen
Gallwch hefyd weld cynnwys mewn ieithoedd eraill drwy ddefnyddio cyfieithu awtomatig gan Google Translate.
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu i helpu defnyddwyr, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynnwys na chywirdeb gwefannau allanol.