Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Sefydlodd cyn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Grŵp Cynghori Gweinidogol i ystyried y strwythurau llywodraethiant presennol yn GIG Cymru. Roedd y grŵp o dan arweiniad Ann Lloyd, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn gynharach eleni, rhoddodd y grŵp gyngor ac argymhellion ynghylch y camau y mae eu hangen i gryfhau atebolrwydd.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r adroddiad ynghyd â'n hymateb cychwynnol i'w saith argymhelliad cyffredinol. Mae'r prif argymhellion yn cynnwys tua 30 o is-argymhellion ac awgrymiadau ar gyfer gwaith pellach. Gyda'i gilydd, mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar gryfhau ymhellach ein diwylliant o wella ac atebolrwydd ac ar leihau cymhlethdod. Mae rhai o'r rhain eisoes ar y gweill; caiff rhai eu rhoi ar waith ar unwaith; bydd angen ystyried ac ymchwilio ymhellach i eraill.
Yn ystod y 18 mis nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella perfformiad y GIG a chefnogi'r adferiad parhaus wedi'r pandemig. Mae gwaith ar y cyd i leihau'r arosiadau hiraf, gyda chymorth cyllid newydd, yn mynd rhagddo ac yn ddiweddar rwyf wedi penodi Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG, a fydd yn rhoi cyngor imi yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Hoffwn ei gwneud yn glir y byddwn yn blaenoriaethu'r argymhellion hynny sy'n helpu'r GIG i barhau â'i daith perfformiad, gwella mynediad amserol at driniaeth a gwella gofal cleifion.
Anfonwyd adroddiad ac argymhellion y grŵp at sefydliadau'r GIG a'r cyrff hynny a grybwyllir yn yr adroddiad, i gael eu barn am y sylwadau a'r argymhellion a wnaed. Rydym bellach wedi cael nifer o ymatebion a bydd y rhain yn cael eu defnyddio i lywio sut rydym yn gweithredu'r argymhellion.