Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn natganiad deddfwriaethol mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddau Fil i gefnogi twristiaeth a chymunedau lleol. Bydd un Bil yn rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr a bydd y llall yn rheoleiddio llety ymwelwyr. 

Heddiw, rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y Biliau hyn. 

Yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, bydd y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd ar 25 Tachwedd. 

Mae'r Bil hwn yn cynnig rhoi'r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr, a fydd yn dâl bach a delir gan bobl sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yr ardoll yn codi arian ychwanegol i awdurdodau lleol i gefnogi cynaliadwyedd hirdymor ein diwydiant twristiaeth. Bydd pob awdurdod lleol yn gallu penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, yn seiliedig ar amgylchiadau lleol. 

Un o egwyddorion treth Llywodraeth Cymru yw y dylid datblygu ein trethi trwy gydweithio a chyfranogiad. Trwy ymgynghori, ymgysylltu parhaus a'r gwaith darganfod a arweinir gan Awdurdod Cyllid Cymru, rydym wedi cael adborth cyson bod angen math o gofrestru ar waith i gefnogi'r ardoll. Mae hyn wedi llywio ein penderfyniad i gynnwys cofrestr genedlaethol o bawb sy'n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru o fewn y Bil. 

Rydym eisoes wedi ymgynghori ar gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru fel ffordd o helpu i sefydlu chwarae teg a sicrhau bod gan ymwelwyr hyder yn y safonau uchel sydd ar gael ledled Cymru. Y cynllun cofrestru a gynigir yn y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yw'r cam cyntaf tuag at y cynllun hwnnw.

Byddwn yn cyflwyno'r ail Fil i'n symud tuag at gynllun trwyddedu statudol a galluogi darparwyr llety ymwelwyr i ddangos sut mae eu llety yn bodloni amodau penodol. Byddwn yn parhau i drafod ac ymgysylltu â rhanddeiliaid twristiaeth, darparwyr llety ac awdurdodau lleol wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynigion hyn.