Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn gwneud ein polisi rhyddhad ardrethi o 100% yn rhywbeth parhaol i fusnesau bach gofal plant cofrestredig. Bydd hyn yn helpu i gefnogi'r sector ac yn peri i leoliadau gofal plant wneud arbedion o oddeutu £3.4m bob blwyddyn.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi lleoliadau gofal plant yng Nghymru a'n nod parhaus iddynt fod yn gynaliadwy yn ariannol, fel y nodir yn yr adolygiad a diweddariad o'r cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar. Mae'n cydnabod bod lleoliadau gofal plant yn cynnig amgylcheddau cadarnhaol a gofalgar i blant, gan gefnogi eu hawliau fel y'u corfforwyd yn y CCUHP i fod yn ddiogel, i chwarae, i gael addysg, i fod yn iach a bod yn hapus. Mae hefyd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae gofal plant yn ei chwarae yn ein heconomi gan helpu rhieni i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant.
Lansiwyd rhyddhad ardrethi o 100% i ddechrau ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig ym mis Ebrill 2019 am gyfnod o dair blynedd. Cafodd y cyfnod ei estyn am dair blynedd arall, tan 31 Mawrth 2025, yn dilyn adolygiad. Gwnaed ymrwymiad i werthuso'r cynllun am yr eildro yn ystod cyfnod yr estyniad hwn i asesu'r effaith ar y sector gofal plant a nodau polisi Llywodraeth Cymru.
Mae canfyddiadau ein hail adolygiad yn glir - mae'r sector dan bwysau sylweddol, ac mae angen cymorth parhaus arno i dalu am gostau cynyddol, bodloni gofynion rheoleiddio a chefnogi'r broses o ehangu'r gweithlu.
Bydd gwneud rhyddhad ardrethi o 100% i ddarparwyr gofal plant yn barhaol yn rhoi sefydlogrwydd i'r sector hwn, gan helpu darparwyr i fuddsoddi'r arbedion yn ôl yn eu busnes. Dyma'r peth iawn i'w wneud ar gyfer ein lleoliadau ar hyn o bryd ac i'r dyfodol.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn rhan o'n buddsoddiad gwerth mwy na £100m bob blwyddyn i ofal plant yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio er mwyn gwireddu ein huchelgais cyffredinol, sef cynnal a meithrin darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yng Nghymru.